Ciw-restr

Rhys Lewis

Llinellau gan Rhys (Cyfanswm: 161)

 
(1, 1) 79 Mam!—— {yn gweld y Sergeant, ac yn tewi mewn syndod}
 
(1, 2) 111 Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail.
 
(1, 2) 113 'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam.
 
(1, 2) 164 Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans.
 
(1, 2) 256 Cymer ofal, Wil.
 
(2, 2) 342 Dacw Wil Bryan yn dwad.
(2, 2) 343 Welodd o mona i.
(2, 2) 344 Mi drof yn f'ol.
(2, 2) 345 Na, fydde hynny ddim yn anrhydeddus at Wil, er fy mod wedi penderfynu peidio cymdeithasu âg ef mwyach.
(2, 2) 346 Mi ddeudaf wrtho mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da.
(2, 2) 347 Mi fydd yn siwr o fy ngwawdio, yn enwedig os deyda i wrtho mod i am fynd yn bregethwr.
(2, 2) 348 Dylaswn fod wedi deyd yn onest wrtho er's misoedd, paham yr wyf yn ei osgoi.
 
(2, 2) 357 Beth oedd yr helynt, Wil?
 
(2, 2) 397 Wil, wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen?
(2, 2) 398 Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew mod i wedi fy ail-eni, ond y mae fy meddwl wedi mynd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar.
(2, 2) 399 'Roeddwn i eisio cael deyd wrthat ti mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly, a does dim ar y ddaear a ddymunwn yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad.
(2, 2) 400 Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr i mi, ond neiff hi mo'r tro i fynd ymlaen fel y buom ni,—mae hi yn siwr o ddiweddu yn ddrwg.
(2, 2) 401 Fyddi di ddim yn meddwl am hynny weithie, Wil?
 
(2, 2) 403 Nid pregeth mo honi, Wil, ond ymgom gyfeillgar.
 
(2, 2) 406 Do siwr.
 
(2, 2) 455 F'ewythr, pe ysgydwn law â chwi, disgwyliwn iddi fraenu y foment honno.
(2, 2) 456 Yr wyf yn eich cashau â fy holl galon.
(2, 2) 457 Gadewch i mi basio.
 
(2, 2) 461 Pam, yn wir!
(2, 2) 462 Gwyddoch yn burion.
(2, 2) 463 Chi fu yr holl achos o'r holl drueni y bu fy mam ynddo.
(2, 2) 464 Chi ddysgodd fy nhad i boachio.
(2, 2) 465 Chi a'i dysgodd i segura.
(2, 2) 466 Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam y swllt ola i chi er mwyn cael gwared o honoch?
 
(2, 2) 468 I ble?
(2, 2) 469 I'r Merica?
 
(2, 2) 471 Siaradwch yn eglur.
(2, 2) 472 Lle mae o?
 
(2, 2) 475 Ydach chi'n deyd y gwir am unwaith?
 
(2, 3) 519 O'r gore, Tomos Bartley.
(2, 3) 520 Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld.
 
(2, 3) 522 Esgidie pwy yw y rhai yna?
 
(2, 3) 533 Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn.
 
(2, 3) 536 Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley.
 
(2, 3) 541 Ieithoedd, Tomos Bartley.
 
(2, 3) 543 Lladin a Groeg.
 
(2, 3) 546 Nag ydw.
 
(2, 3) 550 Lladin a Groeg.
 
(2, 3) 552 Nage.
 
(2, 3) 554 O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd.
 
(2, 3) 558 Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi,—maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt.
 
(2, 3) 563 Mathematics.
 
(2, 3) 567 Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly.
 
(2, 3) 570 Saesneg a Hanesiaeth.
 
(2, 3) 581 Nid ydynt yn profeidio i neb.
(2, 3) 582 Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun.
 
(2, 3) 585 Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno.
 
(2, 3) 594 Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi.
 
(2, 4) 617 Wel, mae yr amgylchiad oeddwn wedi ei hir ddisgwyl wedi pasio.
(2, 4) 618 Yr wyf yn awr wedi fy ngalw gan eglwys Bethel i bregethu, ond beth wnaf?—dyna y cwestiwn.
(2, 4) 619 Dydw i ddim ond bachgen tlawd, a rhaid cael arian i fynd i'r Coleg.
(2, 4) 620 Hwyrach y dylwn i aros adref i gadw y busnes ymlaen efo Miss Hughes.
(2, 4) 621 Mae hi wedi cynnyg cyflog dai mi; ond 'rwyf yn meddwl mai mynd i'r Coleg ddylwn er hynny, neu roi fling i'r pregethu yma am byth.
(2, 4) 622 Dywedodd fy hen feistr, Abel Hughes, wrthyf lawer gwaith na ddylai yr un dyn ieuanc feddwl am bregethu, heb ar yr un pryd benderfynu treulio rhai blynyddoedd yn y Coleg.
(2, 4) 623 Dywedodd Abel wrthyf na fuasai raid i mi fod eisiau dim tra yn y Coleg, ac y disgwyliai ef i mi wneyd Shop y Gornel yn gartref.
(2, 4) 624 Ond waeth tewi am hynny.
(2, 4) 625 Fuasai wiw i mi son wrth neb am hynny,—choelie nhw mona i.
(2, 4) 626 Beth wnai?
(2, 4) 627 Wn i ddim.
(2, 4) 628 Yr ydw i yn synnu ata fy hun mor ddi-adnoddau ydwyf.
(2, 4) 629 Hwyrach fy mod wedi arfer ymddiried mwy yn Abel Hughes nag mewn Rhagluniaeth.
(2, 4) 630 Ydi o ddim ond rhyfyg arnaf fynd i'r Coleg heb ddim o fy nghwmpas ond dillad ac ychydig lyfrau.
(2, 4) 631 Be ydw i'n siarad?
(2, 4) 632 Y cwestiwn ydyw, "Beth a wna i am arian?"
(2, 4) 633 'Does gen i fawr; dyma nhw—{yn tynnu allan ei bwrs, ac yn cyfrif ei arian,—un, dwy, etc.}—chwe phunt a deg swllt a chwe cheiniog!
(2, 4) 634 Erbyn byddaf wedi talu rhyw ychydig bethau, a phrynnu rhai ereill, fydd gen i ddim ond digon i dalu fy nhren i'r Bala. {yn dal ei arian yn ei law}
 
(2, 4) 637 Arhoswch funud.
(2, 4) 638 Mae gen i eisio siarad gair efo chwi.
(2, 4) 639 Heb ofyn eich caniatad, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i amgylchiadau eich diweddar frawd, ac yr wyf yn cael fod digon ar ol i chi fyw yn gysurus arno, ac i chi gael byw i fynd yn hen.
(2, 4) 640 Fy nghyngor i ydyw,—gellwch ei wrthod os dewiswch,—gwerthu yr ystoc a'r busnes.
(2, 4) 641 Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai yn dda ganddo gymeryd popeth oddiar eich llaw.
(2, 4) 642 Mae allan o'r cwestiwn i mi aros yma i edrych ar ol y busnes.
(2, 4) 643 Yr wyf yn benderfynol o fynd i'r Coleg.
(2, 4) 644 Ac yr wyf yn sicr, pe gallech ymgynghori â fy hen feistr, y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle.
 
(2, 4) 647 Gwnaf; 'ran hynny, ddigies i 'rioed wrthoch chi.
 
(2, 4) 651 Yr wyf yn sicr mai dyna y peth gore i chi, a mae yn dda gen i weld eich bod yn cydweld â mi.
 
(2, 4) 653 Wn i ddim yn wir.
 
(2, 4) 655 Dim.
(2, 4) 656 Yr oeddwn ers mis wedi codi fy nghyflog, hyd i ddydd Sadwrn diweddaf.
 
(2, 4) 667 Mi wyddwn, Wil, y cawn i'r hanes i gyd gennyt.
(2, 4) 668 Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyrru i allan?
 
(2, 4) 697 Clywed be, Wil?
(2, 4) 698 Dydw i ddim yn dy ddailt di.
 
(2, 4) 710 Wil, yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt!
(2, 4) 711 Sut y daeth pethau i hyn?
 
(2, 4) 720 'Rwyt ti wedi ngneyd i'n brudd, Wil.
(2, 4) 721 Wnei di dderbyn un cyngor?
 
(2, 4) 723 Treia newid dy ffordd o fyw.
 
(2, 4) 729 Wil bach——
 
(3, 1) 795 Reit iach, Tomos.
(3, 1) 796 Pwy yn y byd mawr fase yn disgwyl y'ch gweld chi yn y Bala?
 
(3, 1) 809 Trawsfynydd.
 
(3, 1) 812 Ië.
 
(3, 1) 832 Oes y mae, Tomos.
 
(3, 1) 841 Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos.
(3, 1) 842 Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi?
 
(3, 1) 847 Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos?
 
(3, 1) 857 Oes debyg.
(3, 1) 858 Mi ddanghosaf gymaint ag allaf.
(3, 1) 859 Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd.
 
(3, 1) 861 Well i mi 'molchi.
 
(3, 1) 866 Fydda i 'run dau funud. {Ymneillduo am funud.}
 
(3, 1) 869 Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd-y-fen.
 
(3, 1) 873 Na, ty tafarn ydi Rhyd-y-fen,—hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog.
 
(3, 1) 878 Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara.
 
(3, 1) 881 Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos.
 
(3, 1) 884 'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma.
 
(3, 1) 895 Fydde hynny ddim quite y peth.
(3, 1) 896 Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas.
(3, 1) 897 Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i.
(3, 1) 898 Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni.
 
(3, 1) 904 Gei di, wir!
(3, 1) 905 Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd.
 
(3, 1) 913 Paid a lolian, Williams.
(3, 1) 914 Edrych, beth ddyliet ti yw hwn?
(3, 1) 915 Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni.
 
(3, 1) 918 Beth ydi hwnnw, Williams?
 
(3, 1) 922 Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld.
 
(3, 2) 948 He is not here, sir.
 
(4, 1) 1019 Waeth i mi droi i edrych am lety.—{Clywed chwibiannu.}
(4, 1) 1020 Dyna'r hen "Gaersalem".
(4, 1) 1021 Wyddwn i ddim fod y Saeson yn ei harfer o'r blaen.
(4, 1) 1022 Mi gaf weld,—mae y chwibianwr yn dwad ffordd yma.
 
(4, 1) 1030 Na wn i.
 
(4, 2) 1067 Wel, mi ges lythyr fod 'ne rywun yn y Carchar yna wedi marw, ac yn gofyn am danaf cyn marw.
(4, 2) 1068 Dois yma ar unwaith, ac aethum i'r Carchar, a phwy oedd yno ond fy ewythr James Lewis wedi marw.
(4, 2) 1069 Prin y medrwn i gredu ei fod wedi marw o ddifrif; ond mai rhyw gynllun cyfrwysddrwg oedd ganddo i ddyfod allan o'r carchar.
(4, 2) 1070 Er mwyn bod yn sicr, teimlais ei ddwylaw a'i dalcen, ac yr oeddynt can oered a'r muriau llaith oedd o'n cwmpas.
(4, 2) 1071 Yr oedd cyn farwed a hoel, ac er ei fod yn ewythr i mi, frawd fy nhad, mae arnaf ofn na ddodwyd ond ychydig o'i waeth rhwng pedair ystyllen.
(4, 2) 1072 Fedra i ddim llai na theimlo yn falch, nad all ef fy mlino i mwy.
(4, 2) 1073 Mi ddois allan o'r Carchar, ac mi wyddost y gweddill.
 
(4, 2) 1078 Wel, Wil bach, wyt ti wedi dwad i hyn?
 
(4, 2) 1084 Te.
 
(4, 2) 1098 Wel, 'rwan, Wil bach, dywed dipyn o dy hanes i mi.
 
(4, 2) 1129 Yr oeddwn yn deall fod dy dad bron a thalu ei holl ddyled, ond bychan y gwyddwn i dy fod di yn 'i helpu o.
(4, 2) 1130 Yr wyt yn gwneyd yn dda iawn, ond fe wnaet yn well pe ddoit adref.
 
(4, 2) 1132 Be ddyliet, Wil, yr wyf fi wedi cael galwad i fod yn fugail yr hen eglwys y cawsom ein dau ein magu ynddi.
(4, 2) 1133 A fuasai ddim yn well gennyf, os atebaf yr alwad yn gadarnhaol, na dy gael di unwaith eto yn aelod ohoni.
 
(4, 2) 1140 'O na, mae'n debyg ei fod yn gweld nad oeddym yn gwneyd drwg, ac wedi ein rhoi i fyny.
 
(4, 2) 1145 'Does dim i'w wneyd ond deyd y gwir, a chymeryd y canlyniadau.
(4, 2) 1146 Ond mi fynnaf wybod pwy oedd ar y gwely yn y ty yna, dae raid i mi fynd i ben y ffenestr eto.
 
(4, 2) 1173 Nag ydw i'n wir.
 
(4, 2) 1185 Mi wn fod yr hen Niclas yno.
 
(4, 2) 1190 Na fuaswn!
(4, 2) 1191 Ond yr ydw i wedi gwneyd addewid.
(4, 2) 1192 Buaswn.
 
(4, 2) 1195 Wel, mi awn; ond aros di, Wil, 'does gen i ddim llawer o amser i ddal y tren, achos rhaid i mi fynd yn ol i'r Bala yn ddiymdroi, am fod yr Exam gennon ni drwy'r wythnos nesaf.
 
(4, 3) 1214 Wel, gyfeillion bach, sut yr ydach chi heddyw?
 
(4, 3) 1218 Wel, yr ydw i yn disgwyl y cawn ni gyfarfod Seth eto.
 
(4, 3) 1221 Mae'n ddrwg gen i nad ydi Barbara ddim gwell.
(4, 3) 1222 Mi ddowch |chi| i'r capel, Tomos?
 
(4, 3) 1231 Dowch i fewn.
 
(4, 3) 1249 Rhaid i chi ddim swilio'ch dau.
(4, 3) 1250 Ydi o'n wir?
 
(4, 3) 1255 O na, mi fydd yn bleser gen i roi fy hun at eich gwasanaeth a'ch cyfleustra chwi eich dau.
 
(4, 3) 1260 Ydw.