Ciw-restr

Y Tŷ ar y Rhos

Llinellau gan Athrawes (Cyfanswm: 55)

 
(1, 0) 86 Diolch.
(1, 0) 87 Peth braf yw gweld tân ar noswaith mor ofnadwy o oer.
 
(1, 0) 118 Samariad caredig yw eich meistr yn wir, yn gadael inni ddod yma a llanw ei dŷ fel hyn.
 
(1, 0) 146 Nonsens!
(1, 0) 147 Dyma ni, yn fwy lwcus nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl, yn glyd a chysurus─tân a golau, heb orfod ofni cael annwyd.
 
(1, 0) 151 Wel, dewch, dywedwch eich meddwl, da chi.
 
(1, 0) 166 Fachgen ifanc, 'dych chi'n credu dim yn y stori wallgof yma, gobeithio, beth bynnag yw hi.
(1, 0) 167 Rhaid i chwi gofio, mae pobl yn marw bob dydd wrth eu gwaith, yn yr awyr agored.
 
(1, 0) 230 Ydym, ydym.
(1, 0) 231 Ewch ymlaen.
 
(1, 0) 234 Sothach!
 
(1, 0) 244 Coel gwrach yw'r cwbl.
(1, 0) 245 Dewch, dewch!
(1, 0) 246 'Rŷm ni wedi tyfu allan o gredu pethau fel'na heddiw.
(1, 0) 247 Mae addysg wedi clirio o'r neilltu niwl tew anwybodaeth a choelion gwlad.
 
(1, 0) 250 Fel y dywedais i wrth annerch athrawon y sir yma heddiw, y mae gwyddoniaeth yn ein dysgu bod rheswm am bopeth, a'r ysgolion yn disgyblu ein greddfau ac yn ein hannog i resymu a defnyddio'r ymennydd a roddodd Duw inni.
(1, 0) 251 Yr ydym wedi gadael tywyllwch ansicrwydd o'n hôl ac yn dysgu gafael yn dynn mewn ffeithiau─|ffeithiau|, nad oes ynddynt le i dwyll hen gredoau sydd wedi eu sylfaenu ar ofn yr anwybodus a'r hanner-gwybodus.
 
(1, 0) 255 Ofn!
(1, 0) 256 Mae gwareiddiad wedi symud ymlaen yn rhy bell i neb deallus ofni ei gynffon mwyach.
(1, 0) 257 Mae addysg, gwybodaeth, rheswm, yn lladd ofn.
 
(1, 0) 282 Beth ddigwyddodd?
 
(1, 0) 294 Na, na, 'fydda' i byth yn cwrdd â'r stwff.
 
(1, 0) 296 O wel, mae hynny'n wahanol, wrth gwrs.
 
(1, 0) 311 "Hey, nonny, nonny.
(1, 0) 312 Hey, nonny, nonny."
 
(1, 0) 319 "The little window where the sun
(1, 0) 320 Came peeping in at morn."
 
(1, 0) 324 Yh?
 
(1, 0) 399 Rwy'n aros yma.
 
(1, 0) 402 Rwy'n aros yma─aros yma─aros yma.
 
(1, 0) 425 Mae hwn yn dda.
 
(1, 0) 427 Ha─ha─ha.
 
(1, 0) 473 Yn America?
(1, 0) 474 Ymh'le yno?
(1, 0) 475 Mae gen i chwaer yn New York.
 
(1, 0) 485 Ond mac gennych chi dystysgrif i brofi eich bod chi wedi pasio'n ddoctor, on'd oes?
 
(1, 0) 500 Wela' i ddim byd o le arno.
 
(1, 0) 539 Ysbrydion, wir!
 
(1, 0) 561 Fachgen ifanc, dyna ddigon o'r iaith yna.
(1, 0) 562 'Ddysgodd neb ichi roi cwlwm ar eich tafod yng nghwmni menywod?
 
(1, 0) 572 'Rych chi'r Comiwnistiaid yn rhy fyrbwyll─yn eich cario eich hunain ymlaen ar lanw eich huodledd, ac yn gorffen meddwl ar ôl y frawddeg neu ddwy gyntaf.
(1, 0) 573 Wedyn, 'does dim byd ond sŵn.
 
(1, 0) 576 A pheth arall, pobl arw iawn a di-chwaeth a fyddaf i'n weld yn ymuno â chi'r Comiwnistiaid.
 
(1, 0) 578 'Dwyf i ddim yn gweld bob pethau mor ddrwg yn y wlad yma 'nawr.
(1, 0) 579 Mae'n well byd ar y gweithiwr heddiw nag ydoedd ugain mlynedd nôl.
 
(1, 0) 613 Polîs!─
(1, 0) 614 B'le mae'r polîs agosa'?
 
(1, 0) 617 Eisiau riportio hyn ar unwaith.
 
(1, 0) 628 Mater i'r polîs.
 
(1, 0) 651 Mi fûm innau'n astudio seicoleg─seicoleg y plentyn.
(1, 0) 652 Ond welaf i ddim bod hynny'n rheswm dros ymosod ar bobl yn ddirybudd─I
 
(1, 0) 667 Rwyf innau'n fodlon, gan fod achos rhesymol gwyddonol am y perfformans, a chwithau'n ymddangos yn ŵr bonheddig.
 
(1, 0) 669 Ond, wir, 'rown i'n teimlo'n go ddig wrthych chi dro bach yn ôl...
 
(1, 0) 706 Nos da─a llawer o ddiolch ichwi.
(1, 0) 707 Mae hi |mor| ddrwg gen i am ddiffyg dealltwriaeth y ddwy chwaer─heb ymdeimlo â phethau |mawr| bywyd, wyddoch chi─