Ciw-restr

Y Tŷ ar y Rhos

Llinellau gan Comiwnist (Cyfanswm: 56)

 
(1, 0) 103 Mor gyfforddus, frawd, ag y gall neb fod yn y byd yma fel y mae.
 
(1, 0) 134 Hanner awr, man pellaf.
(1, 0) 135 Cwac
 
(1, 0) 137 Os daw e' heb gael sgìd, 'nghariad i.
 
(1, 0) 149 Beth ych chi'n feddwl?
 
(1, 0) 169 Bei'r sistem, frawd─bai'r gapitaliaeth ddiawledig sy'n tagu'r ddynoliaeth.
 
(1, 0) 188 Mae rhai ohonom ni'n ddigon lwcus i fod â rhy ychydig o amser sbâr i feddwl am bethau felly.
 
(1, 0) 202 Tipyn o granc.
(1, 0) 203 Dim ond un tant sydd ganddo i rygnu arno, gellid meddwl.
 
(1, 0) 208 Rych chi'ch dwy fel pâr o ffowls ar gols tân.
(1, 0) 209 Eisteddwch lawr.
(1, 0) 210 'Ddaw dim niwed i chi, peidiwch â becso.
(1, 0) 211 Mae yma dri dyn, un i bob un ohonoch chi, ac yn barod am bopeth a ddaw.
 
(1, 0) 233 Hyh!
 
(1, 0) 254 A does arnoch |chi| ddim ofn dim byd, sbo? [3]
 
(1, 0) 299 Gwell ichi orwedd lawr fanna am dipyn.
 
(1, 0) 303 Wel, chi'ch dwy, i fynd 'nôl at eich stori chi─beth am y trydydd corff?
 
(1, 0) 313 Hei!
 
(1, 0) 392 Arhoswch funud.
(1, 0) 393 Fydd mo'r bws yn hir 'nawr.
 
(1, 0) 436 Lot o sothach.
(1, 0) 437 Does dim byd o'i le ar y te.
 
(1, 0) 458 Ha─ha, go lew 'nawr, frawd.
 
(1, 0) 467 'Rych chi'n siarad fel doctor, ac eto rych chi'n ddieithr i mi.
 
(1, 0) 484 Gwaith sâl, frawd,─byw ar dwyllo pobl.
 
(1, 0) 486 Oes, gellwch fentro─ddwy neu dair!
(1, 0) 487 Fydd cwacs ddim yn poeni eu pennau i fynd ati i ddysgu eu crefft.
(1, 0) 488 Twyll.
(1, 0) 489 Dim byd ond twyll i gyd.
 
(1, 0) 509 Wir, mae'r hen olau yma yn pallu, yn siŵr i chi.
(1, 0) 510 Dewch, y doctor, rhowch ddropyn neu ddau o'ch "Pectoria" iddo fe, i gael gweld pa effaith gaiff hynny arno.
(1, 0) 511 Dyw hi ddim yn ddigon golau i weld print y papur.
 
(1, 0) 556 Mae e'n ddigon iach.
 
(1, 0) 558 Popeth yn iawn, frawd.
(1, 0) 559 Ofni'r oeddem ni eich bod chi, efallai, wedi─wel─eich bod chi─
 
(1, 0) 565 Rych chi'r menywod yn disgwyl braidd gormod o barch.
 
(1, 0) 567 Ac fe allech ei gael─parch pob gweithiwr gonest yn y wlad yma, petaech chi'n gwneud eich rhan, a sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr, gyda'ch gwŷr a'ch brodyr, gallem fynnu chwarae teg i bawb; chwarae teg i'n brawd fan yma.
 
(1, 0) 569 Gallem fynnu rhoddi i bob dyn yr hawl i fyw, a byw'n lân ac yn gysurus.
(1, 0) 570 Gallem hawlio llais yn llywodraeth ein gwlad.
 
(1, 0) 574 Peth hawdd i'w ddweud, wir, Miss.
(1, 0) 575 Ond a ydych chi erioed wedi gwrando'n ddigon hir i'w brofi?
 
(1, 0) 577 A beth feddyliwch chi sy'n gwneud i bobl fod felly?
 
(1, 0) 580 Yn well?
(1, 0) 581 'Ydych chi o ddifri' yn credu hynny?
(1, 0) 582 Gwrandewch.
(1, 0) 583 'Rydym ni'r gweithwyr yn hawlio gwell cyflog─miliynau ohonom ni yn ei hawlio am nad oes gan ein hanner ni y modd i fyw arno a magu teulu.
 
(1, 0) 587 Pwy yw llywodraethwyr ein gwlad ni heddiw?
(1, 0) 588 Y grŵp bach cyfoethog sy'n rheoli ein gweithiau a'n harian a'n masnach, y dynion sy'n benderfynol o feithrin Capitaliaeth a chadw llywodraeth y wlad yn eu crafangau nhw'u hunain.
(1, 0) 589 Mae polisi'r llywodraethwyr ymhob cylch yn ei gwneud yn amlwg mai da'r bobl gyfoethog yn unig sydd ganddynt mewn golwg.
(1, 0) 590 Rhaid rhoddi i lawr y fath lywodraethu unwaith ac am byth, a chael yn ei le lywodraeth fydd yn gofalu am ddaioni'r bobl.
 
(1, 0) 609 Hei, beth yw hyn?
(1, 0) 610 Beth ydych chi'n feddwl 'rych chi'n ei wneud?
 
(1, 0) 672 Wedi'r cwbwl, frawd, does dim drwg wedi'i wneud...
 
(1, 0) 709 Nos da, frawd...
(1, 0) 710 Ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr...
(1, 0) 711 Petaem ni'n cael y menywod o'n hochr...