Ciw-restr

Y Tŷ ar y Rhos

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 160)

(1, 0) 1 Gwelir yr Hen Ŵr yn darllen wrth ei ddesg, a llyfrau trymion o'i gwmpas.
(1, 0) 2 Y mae'n ffwdanu, ac yn aflonydd wrth ddarllen.
(1, 0) 3 Cyfyd.
(1, 0) 4 Ei Ysgrifenyddes yn eistedd mewn cadair yn agos i'r tân.
(1, 0) 5 Merch ifanc fywiog ydyw hi.
 
(1, 0) 10 Enter y Gwas o'r dde─yntau'n go hen, ac yn meddu ar ryw hynodrwydd yn ei ymddygiad a'i ymarweddiad a wna i bobl sylwi arno.
(1, 0) 11 Y mae ganddo'r teip hwnnw o wyneb a gysylltir â breuddwyd drwg; ac y mae ef mor beiriannol a llyfn ei ddull o fynd a dod ag yw bwtler da.
 
(1, 0) 18 Sŵn cloch y drws yn canu.
 
(1, 0) 21 Exit i'r dde.
(1, 0) 22 Yr Hen Ŵr yn troi'n ôl at ei ddarllen.
 
(1, 0) 30 Daw'r Gwas yn ôl.
 
(1, 0) 53 Exit y Gwas.
(1, 0) 54 Yr Hen Ŵr yn codi'r llyfr y bu'n ei ddarllen.
(1, 0) 55 Y mae'n gyffrous yn mynd ymlaen â darllen eto.
 
(1, 0) 63 Tra dywed ef y frawddeg olaf, clywir cynnwrf o'r tu allan i'r ystafell yn nesáu.
 
(1, 0) 73 Exeunt i'r chwith.
(1, 0) 74 Enter cwmni'r bws ar rewi, a'r Gwas yn eu harwain.
(1, 0) 75 Y mae golwg ofnus, ddrwgdybus ar y Ddwy Wraig.
(1, 0) 76 Ni wellheir pethau pan welant benglog ar ford fach sydd wrth eu cadeiriau.
 
(1, 0) 90 Aethai'r Dyn Di-waith yn syth at gadair freichiau pan ddaeth ef i mewn.
(1, 0) 91 Nesaodd y Ddwy Wraig at ei gilydd i ben arall yr ystafell gan edrych yn graff ar y lle; a thra bo'r gwas yn gweld bod y lleill yn setlo i lawr, ac yn cario o'r neilltu y benglog, etc., y mae'r ddwy yn ymgomio â'i gilydd.}
 
(1, 0) 107 Mae'r Dyn Di-waith yn bwyta cnau mwnci yn ddi-stop.
(1, 0) 108 Taflu'r plisg i gyfeiriad y tân 'nawr ac yn y man.
(1, 0) 109 Sieryd heb godi ei ben.
 
(1, 0) 116 Hymia'r gweddill.
 
(1, 0) 150 Y Ddwy Wraig yn edrych ar ei gilydd.
 
(1, 0) 163 Fel y gellid disgwyl, cafodd yr hanes gryn effaith ary Ddwy Wraig.
(1, 0) 164 Hobnobiant â'i gilydd, a'u dychryn yn eglur ar eu hwyneb, ac yn eu hystumiau.
(1, 0) 165 Gwrando'n barchus a wna'r lleill.
 
(1, 0) 172 Mae hi'n codi.
(1, 0) 173 Enter yr Hen Ŵr─yn sydyn ac yn ddistaw.
 
(1, 0) 175 Distawrwydd.
(1, 0) 176 Y dynion yn codi.
(1, 0) 177 "Nos da syr," etc.
 
(1, 0) 198 Edrych ar y Ddwy Wraig.
(1, 0) 199 Exit i'r dde.
 
(1, 0) 229 Cwac a'r Comiwnist yn amneidio.
 
(1, 0) 261 Pandemoniwm cyffredinol.
(1, 0) 262 "Dyma hi," "Nage," "Dyna hi dan y gadair," etc.
(1, 0) 263 Y Ddwy Wraig yn ceisio ei tharo â'u basgedi, y Comiwnist â'i gap, y Cwac â'i draed.
(1, 0) 264 Cododd y Di-waith ei goesau dros fraich y gadair, dyna i gyd.
(1, 0) 265 ~
(1, 0) 266 Yr Athrawes, cyn gynted ag y clywodd sôn am lygoden, yn gwichian.
(1, 0) 267 Neidio i ben eì chadair a thynnu ei dillad ati.
(1, 0) 268 Gwichian yn ddi-stop.
(1, 0) 269 Yna chwerthin.
(1, 0) 270 Tipyn o sterics.
(1, 0) 271 Hyn yn tynnu sylw'r lleill.
(1, 0) 272 Llewygu ym mraich y Cwac.
 
(1, 0) 275 Y Comiwnist yn ei helpu ef i'w chario, a'r Ddwy Wraig yn paratoi'r soffa.
(1, 0) 276 Rhoi'r Athrawes arni.
(1, 0) 277 Tynn y Cwac ei fflasg allan a rhoi dracht iddi, a'r Comiwnist yn chwifio hances goch o flaen ei hwyneb.
(1, 0) 278 Mae'r Ddwy Wraig yn hofran o'i chwmpas ganrwbio'i dwylo a cheisio gweinyddu arni.
(1, 0) 279 Ar ôl edrych ennyd ar y pandemoniwm, rhoes y Di-waith ei sylw i'r cwdyn cnau unwaith eto.
(1, 0) 280 Sŵn cyffredinol.
 
(1, 0) 301 Aeth y Ddwy Wraig 'nôl i'w lle, a buont yn clebran am y digwyddiad â'i gilydd.
(1, 0) 302 Mae'r Comïwmnst yn awr yn galw eu sylw.
 
(1, 0) 314 Mynd ymlaen â chanu'n hanner cwsg a wna'r athrawes.
 
(1, 0) 316 Canu o hyd.
(1, 0) 317 Â'r Comiwnist ymlaen ati a'i hysgwyd.
 
(1, 0) 326 Dechreua'r Athrawes chwerthin, a'r Cwac yntau gyda hi.
(1, 0) 327 Y Ddwy Wraig yn amneidio ar ei gilydd ei bod hi'n feddw.
(1, 0) 328 Mae'r Cwac yn symud i eistedd ar y soffa gyda hi.
(1, 0) 329 Y Comiwnist yn tynnu'r "Daily Worker" o'i boced, ac yn setlo lawr i'w ddarllen.}
 
(1, 0) 331 Enter yr Ysgrifenyddes o'r chwith, yn sgrifennu ar dabled ac yn edrych o'i hamgylch.
(1, 0) 332 Gesyd ei phensil y tu ôl i'w chlust.
(1, 0) 333 Dweud "t-t-t" yn anfoddog, a cherdded at y mur.
(1, 0) 334 Mynd drwy ystumiau rhoddi darlun i hongian yn gymwys, ond nid oes darlun yno.
(1, 0) 335 Cerdded i ffrynt y llwyfan.
(1, 0) 336 Baglu.
 
(1, 0) 338 Nid oes cath.
(1, 0) 339 Cwmni'r bws yn chwilio.
 
(1, 0) 342 Nid oes teliffon.
(1, 0) 343 Â at y ddesg fel petai i'w ddefnyddio, heibio i'r Ddwy Wraig.
 
(1, 0) 352 Y mae'n wylo erbyn hyn.
(1, 0) 353 Gesyd y "receiver" anweledig yn ôl, a symud oddi wrtho heb dynnu ei llygaid i ffwrdd.
(1, 0) 354 Anwybydda'n hollol y ffaith fod y lleill yn yr ystafell.
(1, 0) 355 Mae ei chefn at y drws yr aeth yr Hen Ŵr allan drwyddo, ac y mae hi eto'n ysgrifennu'n ddyfal ar y dabled, pan ddaw ef i mewn.
(1, 0) 356 Gwêl cwmni'r bws ef.
 
(1, 0) 366 Yr Ysgrifenyddes yn edrych oddi amgylch.
 
(1, 0) 380 Â tuag ati wrth siarad.
(1, 0) 381 Hithau'n rhoi sgrech ac yn rhuthro allan i'r chwith.
(1, 0) 382 Mae'r cwmni erbyn hyn ar eu traed, ac wedi delwi gan syfrdandod.
 
(1, 0) 384 Exit.
(1, 0) 385 Eiliad o ddistawrwydd, yna symud.
(1, 0) 386 Mae'r Ddwy Wraig yn casglu eu pethau at ei gilydd yn ffwdanus.
 
(1, 0) 404 Y ddwy'n martsio'n bendant at y drws i'r dde a'i agor.
(1, 0) 405 Y Gwas yn eu cwrdd yno wyneb yn wyncb yn cario hambwrdd a chwpanau te.
 
(1, 0) 408 Sefyll yn stond.
(1, 0) 409 Hwythaw'n cilio 'nôl, ac yn eistedd yn anesmwyth ar y cadeiriau lle'r oeddent o'r blaen. Mae'r Gwas yn mynd â'r te o gwmpas.
(1, 0) 410 Dechrau gyda'r Athrawes.
(1, 0) 411 "Diolch," etc., "Siwgr?", "Llaeth?"
(1, 0) 412 Y Cwac yn cymryd y cyfle i gael llwnc o'i fflasg, ac yna ei phasio i'r Comiwnist: "Diolch, frawd."}
 
(1, 0) 422 Exit.
 
(1, 0) 430 A'r Athrawes ymlaen â'i yfed.
 
(1, 0) 434 Cerdda at aspidistra wrth y mur, ac arllwys ei the.
(1, 0) 435 Yna mae Gwraig 2 yn gwneud yr un peth.
 
(1, 0) 438 Mae'r Di-waith wedi gorffen ei gwpanaid, ac yn rhoi ei gwpan ar y llawr, a'i setlo ei hunan yn ôl yn gysurus yn ei gadair.
 
(1, 0) 443 Mae golwg annifyr ac ansicr ar y Cwac.
(1, 0) 444 Â ymlaen at yr aspidistra─yn ddibwrpas hollol, gellid meddwl.
(1, 0) 445 Wedi cyrraedd ato, mae'n amlwg bod rhywbeth yn peri syndod iddo.
 
(1, 0) 452 Mae'r Cwac 'nawr yn arllwys ei gwpanaid, yn ddigywilydd ac yn agored.
(1, 0) 453 Y Comiwnist yn teimlo'n annifyr.
(1, 0) 454 Nid yw'r Di-waith yn symud o gwbl.
(1, 0) 455 Dechreua'r Athrawes chwerthin eto braidd yn "hysterical" ar y soffa.
(1, 0) 456 Mae teimlad o straen yn yr ystafell nes bod y Cwac yn ymroi i liniaru tipyn ar nerfau'r lleill.
 
(1, 0) 468 Mae'r Comiwnist yn setlo i lawr unwaith eto i ddarllen y "Daily Worker."
 
(1, 0) 483 Tynnu potel o'r "Pectoria" o'i boced.
 
(1, 0) 493 Y mae'n codi hwyl, ac o hyn ymlaen yn areithio fel y gwnâi yn y ffeiriau ar ei deithiau gwerthu moddion.
 
(1, 0) 518 Dechreuasai'r golau losgi'n wannach cyn y cyfeiriad cyntaf ato.
(1, 0) 519 Aeth yn raddol yn wannach wannach.
(1, 0) 520 Mae'r Cwac erbyn hyn yn gorfod cyfaddef wrtho'i hunan fod rhywbeth o le.
(1, 0) 521 Â ymlaen yn beiriannol iawn â'i areithio.
(1, 0) 522 Yna arafu a stopio.
 
(1, 0) 525 Rhydd Gwraig 2 sgrech cyn iddo orffen─
(1, 0) 526 Mae'r Hen Ŵr wedi ymddangos yn y drws.
 
(1, 0) 531 Daw'r golau'n gryfach.
 
(1, 0) 545 Exit i'r chwith.
(1, 0) 546 Distawrwydd.
(1, 0) 547 Gwel Gwraig 2 fod y Di-waith wedi mynd yn swp yn y gadair.
(1, 0) 548 Sgrech, a phwyntio.
(1, 0) 549 Rhuthra'r Cwac a'r Comiwnist ato, ar ôl edrych ar ei gilydd.
(1, 0) 550 Agor ei grafat; rhwbio'i ddwylo; slapio'i wyneb, etc.
(1, 0) 551 Yntau'n dihuno, ac yn ymladd ei ffordd o'r gadair.
 
(1, 0) 564 Mae'r Di-waith yn eistedd nôl yn ei gadair, ac yn paratoi am nap pellach.
 
(1, 0) 571 Y mae yn ei hwyliau erbyn hyn.
 
(1, 0) 591 Ac yntau yn ei hwyliau tua therfyn yr araith, y mae'r golau yn diffodd glec, a sgrech hir yr Ysgrifenyddes yn melltennu drwy'r tywyllwch.
(1, 0) 592 Distawrwydd hollol─yna hwb-wb yn yr ystafell.
(1, 0) 593 Daw'r golau nôl.
(1, 0) 594 Mae'r Hen Ŵr yn y drws.
(1, 0) 595 Pawb yn sefyll yn stond─ond bod y Di-waith yn dal i gysgu.
(1, 0) 596 Mae'r Hen Ŵr yn rhuthro í mewn, a'r Ysgrifenyddes gydag ef.
(1, 0) 597 Â ef o amgylch y Menywod, gan deimlo eu pyls, eu talcen, edrych eu llygaid; mae'r Cwac a'r Comiwnist yn ffyrnig ar ôl y syfrdandod cyntaf.
(1, 0) 598 Drwy'r adeg gwaedda'r Hen Ŵr ei gasgliadau, a'r Ysgrifenyddes yn eu copio ar ei thabled.)
 
(1, 0) 637 Bu'r Ysgrifenyddes yn sefyll yn ddistaw o'r neilltu, yn copio'n brysur drwy'r adeg, heb godi ei phen.
(1, 0) 638 Yn awr, edrych o amgylch, ac a'r ddwy fenyw yn ymosod arni mor fygythiol, y mae fel petai'n ansicr beth i'w wneud.
(1, 0) 639 Sieryd yr Hen Ŵr â hi.
 
(1, 0) 673 Bu'r Di-waith yn eistedd i fyny yn ei gadair wrth y tân yn bwyta cnau drwy'r adeg.
(1, 0) 674 Mae'r Ddwy Wraig mewn ymgom dawel, ddig â'i gilydd.
(1, 0) 675 Pan sieryd y Comiwnist, dyma eu dicter yn fflamio.
 
(1, 0) 678 Y ddwy 'nawr yn ymosod ar yr Hên Ŵr â'u basgedi a'u siolau.
 
(1, 0) 682 Teifl y siôl am ei ben.
(1, 0) 683 Mae'r ddwy'n baglu ar ei draws ac â'u pwysau wedi ei fwrw 'nôl yn erbyn y soffa, lle y lled-orwedd.
(1, 0) 684 Mae'r lleill yn edrych ar ei gilydd, heb wybod yn iawn sut i ymyrryd.
(1, 0) 685 Edrychodd y Di-waith ar yr ymosod, ac yna, mynd 'nôl at ei gnau.
(1, 0) 686 Enter y Gwas.
(1, 0) 687 Edrych yn syn.
 
(1, 0) 689 Y Ddwy Wraig yn dechrau casglu eu pethau ar unwaith.
 
(1, 0) 698 Exeunt, yn gadael yr Hen Ŵr yn llipa ar y soffa─llyfr Robert Burton dan ei gesail o hyd.
(1, 0) 699 Edrych y Gwas arno.
(1, 0) 700 Yna â allan yn fwtleraidd ar ôl y Ddwy Wraig.
(1, 0) 701 Ffwdan cyffredinol y lleill yn paratoi i ymadael.
 
(1, 0) 708 Exit, a'r Cwac yn mynd allan y tu cefn iddi.
 
(1, 0) 715 Sylweddola fod y llyfr dan ei gesail o hyd.
(1, 0) 716 Edrych arno.
(1, 0) 717 Dechrau ei agor.
(1, 0) 718 Ei daflu oddi wrtho i'r llawr.
 
(1, 0) 721 Enter y Gwas.
 
(1, 0) 723 Try'r Hen Ŵr ei ben yn araf ac edrych arno.
 
(1, 0) 728 LLEN.