Ciw-restr

Yr Wylan

Llinellau gan Shamraieff (Cyfanswm: 51)

 
(1, 0) 238 Rwy'n ei chofio hi'n actio yn fendigedig yn ffair fawr Poltafa yn 1873, digon o ryfeddod di-ha-fal!
(1, 0) 239 A fyddwch chi cystal â deud wrtha i ble mae'r comedian Tsiadin, Pafel Semionits Tsiadin y dyddiau hyn?
(1, 0) 240 'Doedd na neb tebyg iddo am actio Raspliwieff, 'roedd o'n well na'r gorau, yn well na Sadoffski ei hun.
(1, 0) 241 Ble mae o rwan, foneddiges fwyn?
 
(1, 0) 245 Pashca Tsiadin!
(1, 0) 246 Chewch chi neb fel y fo heddiw.
(1, 0) 247 Mae'r ddrama wedi cael codwm, Irina Nicolaiefna.
(1, 0) 248 'Roedd derw nerthol yn y dyddiau hynny, chewch chi ddim ond eu bonion nhw heddiw.
 
(1, 0) 250 Fedra i ddim cyd-weld â chi fan yna, ond o ran hynny, matter o chwaeth ydi'r cwbl; |de gustibus aut bene aut nihil|. [1]
 
(1, 0) 383 Iago, machgen i, tyn y cyrten na i fyny.
 
(1, 0) 395 Rhywbryd erstalwm yn yr opera yn Mosco, 'rwy'n cofio'n dda, canodd yr enwog Silfa y |do| uchaf, a'r noson honno, fel pe tae o bwrpas, roedd canwr bas o gôr ein plwy ni yn eistedd ar ymyl y galeri, ac ar drawiad, dyma lais o'r galeri gryn wythawd yn is: "Bravo Silfa' nes synnu'r holl dŷ.
 
(1, 0) 427 Madam!
 
(1, 0) 431 Thâl hynny ddim, mae arna i ofn i'r lladron fynd i'r sgubor a dwyn yr ŷd.
 
(1, 0) 433 Ie, gryn wythawd "Bravo, Silfa", nid cantwr, ond aelod distadl o'r côr.
 
(2, 0) 611 Dyma nhw.
(2, 0) 612 Bore da.
 
(2, 0) 614 Mae'n dda gin i eich gweld i gyd yn iach.
 
(2, 0) 616 Mae'r wraig acw yn deud eich bod chi'n meddwl mynd i'r dre gyda'ch gilydd, ydi hyna'n wir?
 
(2, 0) 618 H-m-m.
(2, 0) 619 Rhagorol iawn, ond sut yr ewch chi yno, foneddiges barchus?
(2, 0) 620 Mae nhw'n cario'r ŷd heddiw a'r gweision i gyd yn gweithio, a lle cewch chi geffylau, os ca i fod mor hy â gofyn?
 
(2, 0) 624 Ceffylau cerbyd, yn wir!
(2, 0) 625 Ond, ble ca i goleri iddyn nhw, ble ca i goleri, 'rwy'n gofyn ichi.
(2, 0) 626 Mae peth fel hyn yn an-ni-odd-ef-ol.
(2, 0) 627 'Rwy'n barod i fynd ar fy ngliniau gerbron eich talentau chi, foneddiges barchus; ac i aberthu deng mlynedd o mywyd er eich mwyn, ond fedra i ddim rhoi ceffylau ichi.
 
(2, 0) 629 Foneddiges barchus, wyddoch chi ddim am ofalon ffarmwr.
 
(2, 0) 635 Dyma fi'n mynd heddiw, chwiliwch am rywun arall yn stiward ichi.
 
(3, 0) 1159 Mae gennyf yr anrhydedd o hysbysu, gyda gofid, fod y cerbydau yn barod!
(3, 0) 1160 Mae'n bryd ichi gychwyn, foneddiges barchus; bydd y tren i mewn bum munud wedi dau.
(3, 0) 1161 A newch chi gymwynas â mi?
(3, 0) 1162 Peidiwch ag anghofio gadael inni wbod ble mae'r actor Swsdatseff.
(3, 0) 1163 Ydi o'n fyw ac iach?
(3, 0) 1164 Mi fyddem yn cael glasiad hefo'n gilydd ers talwm.
(3, 0) 1165 'Doedd na neb tebyg iddo am actio yn 'Rhaib y Post.' 'R wy'n cofio'r tragedian enwog Ismailoff yn actio gydag o yn Elisofetgrad.
(3, 0) 1166 'D oes dim brys, foneddiges barchus, mae gynnoch chi bum munud eto.
(3, 0) 1167 'Roedd y ddau yn cymyd rhan dau fradwr mewn melodrama rywbryd, a phan ddatguddiwyd y brad, dyma Ismailoff yn lle deud 'Dyma ni yn y ddalfa' yn deud 'Dyma ni yn yr helfa'.
 
(3, 0) 1169 'Yn yr helfa.'
 
(3, 0) 1199 Mi fyddai'n dda gynno ni gael pwt o lythyr.
(3, 0) 1200 Da y boch, Boris Alecsiefits!
 
(4, 0) 1420 'Rydym ni i gyd wedi heneiddio ar ôl y gwynt a'r glaw arnom; ond 'rydych chi'n fengach na rioed, foneddiges fwyn, jecad olau, sioncrwydd pert... a... a...
 
(4, 0) 1455 O, ie, 'ceffylau, mynd adre' unwaith eto.
 
(4, 0) 1457 Gellwch farnu eich hun, mae'n nhw newydd fod yn y stesion; 'does dim modd eu gyrru nhw allan eto heno.
 
(4, 0) 1473 Gadwch iddo gerdded, nid general ydi o.
 
(4, 0) 1501 Peidiwch bod ar gimint o frys.
 
(4, 0) 1509 Wel, dyna rywbeth yn wir.
 
(4, 0) 1515 Mae o'n ei chael hi'n arw yn y papurau newydd.
 
(4, 0) 1542 Mae'ch bethma chi yma'n ddigon diogel.
 
(4, 0) 1544 Wedi i Constantin Gafrilits saethu gwylan, mi ddaru'ch ofyn imi ei stwffio hi ichi.
 
(4, 0) 1559 Bravo!
 
(4, 0) 1732 Dyma'r beth-ma hwnnw o'n i'n sôn amdano.
 
(4, 0) 1734 Chi ofynnodd i mi.