Gadawer y llen i lawr, a throer y golau allan ar y llwyfan, gan adael y llwyfan yn weddol dywyll. Y Parch. Gwyn Evans a Simon Jones yn dod y tu flaen i'r llen, rhwng y llen a'r gynulleidfa. Y ddau wedi gwisgo eu cotiau mawrion, ac yn cario pobo ffon. Yn symud yn araf ac yn ymgomio. Gallant ddod allan yn un pen i'r llwyfan, yna cerdded ar y llwyfan, a mynd i mewn drwy y drws yn y pen draw. |
|
Gwyn |
Gwell i chwi gydio yn îy mraich i, Simon Jones. Y mae hi dipyn yn dywyll a'r ffordd yn dolciog, |
Simon |
Diolch, diolch. 'Dyw'r hen ffenestri yma ddim cyn gliried ag y buont, frawd bach. Mae pedwar ugain mlynedd wedi tywyllu cryn dipyn arnynt. |
Gwyn |
Posibl, posibl. 'Dyw oedran ddim yn dod wrtho ei hun. |
Simon |
Nad yw, nad yw. Dipyn yn hwp-di-hap yw hi arna i yn awr. Ond bu gen i lygaid unwaith fel llygaid cath. Pe byddai y nos cyn ddued a bola buwch ddu, fe ffeindiwn y ffordd i'r Ysgol Gân ac i'r Cwrdd Gweddi. |
Gwyn |
Wel, mae yna "Heading Caled," ys dywed y coliar, o'n blaen heno, Simon Jones. Mae rhyw derfysg rhyfedd ynglŷn â'r corau canu yma. |
Simon |
Pup, pup. Welais i erioed ffashwn beth: erioed ffashwn beth. Mae y cyfan yn fflwch-di-fflach, ac yn higgle-di-pigledi. Ydyw, gwir ddyn byw. Bawo sut beth! |
Gwyn |
Ydyw, mae yn dân o Dan i Beerseba. |
Simon |
Wn i ddim faint o gythreuliaid sydd yn rhydd ar y ddaear yma, ond rwy'n credu hyn, mai y gwaethaf o'r adar duon i gyd yw "Cythraul y Canu." Be wedwch chwi, syr? |
Gwyn |
Un garw yw e. Mae e a'i gorn neu'i big yn rhywle o hyd. |
Simon |
'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron. |
Gwyn |
Gwir, gwir, a daeth y côr a'r lle hwn i enwogrwydd. |
Simon |
Ac yr oedd y teiliwr yn arweinydd, syr. Hynny yw, os y gallech chwi ddygymod â'i ystumiau ef. Y gwir ag e, fe dynnai'r hen deiliwr ganu allan o byst llydiard, ac fe'i tyn ef eto. Mae gweled y teiliwr yn arwain côr yn hala rhywbeth trwyddo chwi fel pe tae chwi mewn mashin wynegon. |
Gwyn |
Ydi, Mae'n enaid i gyd. Dyna sydd eisiau mewn canu. |
Simon |
(Yn peswch.) Mae'r hen frest yma'n gyfyng, fachgen. Gadewch i ni gael anadl, a mygyn cyn myned i mewn. (Yn tanio'i bibell.) |
Gwyn |
Ie, mae'n gynnar i'r cyfarfod. |
Simon |
Ie, ie, a piti garw; fe ddaeth cythraul y canu i fewn i'r côr, ac fe aeth yn ffrwgwd yma fel y gwyddoch. Ac fe gododd y côr "split" yna o dan arweiniad Telorydd, a byth oddiar cychwyniad y côr "split" mae wedi bod yn "civil war" yma. Ydi, gwir ddyn byw. |
Gwyn |
Nid wyf yn gallu cysoni pethau. Mae arweinydd yr hên gôr ac arweinydd y cor newydd yn fechgyn rhagorol, a chyn belled ag y gwelaf fi, yn eithaf cyfeillgar â'i gilydd. |
Simon |
Am Shanko'r Tilwr, arweinydd yr hen gôr, bu dim o'i well ef mewn crys erioed. Am Telorydd, arweinydd y côr newydd, mae fel y dur, yn ben cerddor ac yn ben arweinydd cor. |
Gwyn |
Fy marn i yw y cytunai'r arweinyddion, onibai am y dynion sydd tu ôl iddynt. |
Simon |
Dynion! Pup, pup. Dywedwch 'menywod,' os daw cythraul y canu fewn i gôr, ellwch chwi fentro mai ymhlith y sopranos neu yr altos y dechreua â'i antics. |
Gwyn |
Y nhw yw'r llestri gwannaf. |
Simon |
Mae gennyf bob parch i fenyw, cofiwch chwi. Menyw oedd mam, a menyw oedd Nansi, fy ngwraig, ac ni fu erioed eu gwell, ond fe wnaeth menyw gawl o'r fusnes gyntaf hynny yn Eden, ac y mae'n gwneuthur cawl o bethau oddiar hynny. |
Gwyn |
Ha! Ha! Ac yn enwedig o gorau canu Simon Jones. |
Simon |
Yn corddi y cyfan, syr. |
Gwyn |
Wel, os oes côr i fynd oddiyma i'r Genedlaethol, mae'n rhaid cael trefn ar bethau'n well na hyn. |
Simon |
Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr. |
Gwyn |
Da iawn; gŵr da ydych chwi, Simon Jones, |
Simon |
Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr. |
Gwyn |
Ha! Ha! Caru'n wir! Choelia i ddim. A'r holl elyniaeth sydd gan y ddau deulu, y naill tuag at y llall. Chwi ddwedsoch hi nawr, Simon Jones. |
Simon |
Mae e mor wir â phader, syr. Mae'r hen Simon yn myned yn hen, ond dim yn rhy hen i sylwi ar y caru yma. Gwelais y ddau neithiwr ddiweddaf efo'i gilydd ar lwybr y Waun, ac yr oedd e yn ei chofleidio hi'n deidi. |
Gwyn |
Chredaf fi byth. Chredaf fi byth. Efallai mai trefnu ynghylch y gymdeithas ddiwylliadol yr oeddynt. |
Simon |
Pup, pup! Yn y fan yna 'rych chwì eto, y dyn! Pan welwch chwi fab a merch yn cerdded ym 'mreichiau ei gilydd, ac yn aros bob rhyw gan llath i gofleidio neu gusanu, mae yna rywbeth yn y gwynt heb law siarad am y Gymdeithas Ddiwylliadol. Chlywais i erioed sut beth. |
Gwyn |
Ydyw'r hen bobl yn gwybod am y garwriaeth? |
Simon |
Dim gwec. Cyn belled ag y gwn i, na neb yn y lle ychwaith. Maent yn gyfrwys ofnadwy efo'u caru. |
Gwyn |
Wel, efallai mai Marged Elen fydd yn offeryn i heddychu'r corau. Merch fach ragorol yw Marged Elen, onide? |
Simon |
Un o'r goreuon, fachgen; un o'r goreuon. Mae Marged Elen yn meddwl yn gyntaf ac yn siarad wedyn. Mae llawer o'r rhocesi heddiw yn siarad yn gyntaf ac yn meddwl wedyn. |
Gwyn |
Ydynt, ydynt, os yn meddwl o gwbl. |
Simon |
Rhaid i ni ymddibynnu ar Marged Elen, ynte. Rhaid i ni dynnu ar y llinyn yna, fachgen. Cariad ni chwymp ymaith." |
Gwyn |
Eithaf gwir. Cariad nid yw byth yn methu. "Love never faileth." |
Simon |
Ie, treiwn hi, treiwn hi. Pwy sy yna? Fe credais i mod i'n clywed swn. |
Gwyn |
Do, Wil bach. Efe yw ceidwad y porth heno. |
Simon |
O! Wil bach, ai ie fe? Gynneuaist ti y gole yn y festri? |
Wil |
Do. Dewch i mewn. |
Simon |
Wel, be sy gennyt ti i ddweud, Wil bach? Yr wyt yn ŵr da am glecs ynghylch y corau yma. |
Wil |
Ma hi i fod off yma heno. Ha! Ha! Off yma heno. |
Simon |
Be gest ti i feddwl hynny? Pup, pup. |
Wil |
Wel, mae Mari Isaac a Martha Jenkins wedi bod yn cerdded o un tŷ i'r llall drwy y dydd, a ma gwallt nhw yn sefyll ar wrych er ys amser. |
Simon |
Be ti'n whalu, bachan? Glywais i erioed sut beth! Pup, pup. |
Wil |
Mae Mari Isaac yn dweud os nad yw Telorydd yn cael arwain y Côr Cenedlaethol y bydd yma ddiain o row. |
Simon |
Pup, pup. Chlywais i erioed ffashwn beth. |
Wil |
Martha Jenkins yn dweud os nad yw Shanko yn cael arwain y côr, y bydd "fireworks" yn y cyfarfod heno, |
Simon |
Pup, pup. Chlywais i erioed ffashwn beth. Erioed ffashiwn beth. |
Wil bach yr agor y drws, a'r ddau yn myned y tu mewn i'r llen. Siencyn, Martha a Marged Elen yn dod y tu flaen i'r llen. |
|
Siencyn |
Mae dipyn yn dywyll, Martha. Gofalwch chwi nawr na chwympoch chwi. Deuwch yn fy mraich i. |
Martha |
Na, cer di, Siencyn bach. Deuaf fi ym mraich Marged Elen. |
Siencyn |
O'r gore. O'r gore. (Yn mwmian canu rhyw hen Alaw Gymraeg.) |
Martha |
Siencyn! |
Siencyn |
Wel! |
Martha |
Gofala di, nawr. Gwrando di beth yr wyf fi yn ddweud wrthot tì. Paid ti a gadael iddynt i gael eu ffordd yn y cyfarfod heno. Gormod o'u ffordd mae y tacle brwnt wedi ei gael. |
Siencyn |
O'r gore. O'r gore, Martha fach, gewch chwi siarad â hwynt. |
Martha |
Ie, a mi siarada i hefyd, gallant fentro. 'Does dim un côr i fyned oddiyma i Gaerdydd (gellir newid hwn drwy y gomedi am y lle y cynbelir yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf) os nad wyt ti'n cael arwain. Neu bydd yma 'randibw' i gael. |
Marged Elen |
Mam fach, pa eisiau cweryla yng nghylch yr hen gorau sydd. Gadewch lonydd i bethau. |
Martha |
Llonydd, yn wir! Be ti'n whalu groten? Dy dad wedi slafio fel hyn, a hynny cyn dy eni di, wrth yr hen ganu yma, a dyma'r parch y mae'n gael eto. Codi'r hen "split" yna a sbwylio côr dy dad. Cywilydd iddynt. |
Siencyn |
O'r gore. O'r gore, Martha fach. Tipyn yn gynhyrfus yw hi, ond efallai y bydd i'r cymylau glirio dipyn heno. Dyma ni wrth yr adeilad. |
Martha |
Ie, a gofala di na bo ti yn rhoi dy hunan yn glwtyn llestri yn eu llaw hwynt. Sych dy wyneb cyn myned i fewn. 'Does dim eisiau i bawb wybod mai bwdran gest ti i swper. Mentraf fi y bydd yr hen Delorydd bach yna yn ei 'guffs' a'i goler yn 'spic a span.' |
Siencyn |
Bydd, efallai'n wir. Mae e'n ifanc. |
Martha |
Ie, a'r hen groten Priscila yna. Mae'n gas gen i ei chlywed. Wedi bod am chwe mis yn Llundain yn gwerthn calico, ac wedi anghofio'i Chymraeg. Ych y fi! |
Y tri yn myned i fewn. Wil bach yn agor ac yn cau y llwyfan. Mari, Telorydd a Priscila yn dod i'r llwyfan y tu flaen i'r llen, ac yn cerdded yn araf, dan ymgomio i'r pen arall. |
|
Telorydd |
Dewch ymlaen. Yr ydym yn ddiweddar i'r cyfarfod. |
Mari |
Ydym. Gofala di nawr Telorydd i sefyll ar dy sawdl heno. Gwrando di beth y mae dy fam a dy chwaer yn ddweud wrthot ti. Os oes côr i fynd i Gaerdydd, y ti sydd i arwain. Dyna y long a'r short am dani. |
Telorydd |
Ie, ie, mam fach, ond piti enbyd yw'r cweryla yma. Mae hyn yn lladd gwir ysbryd canu. |
Mari |
(Yn bwysleisiol.) Lladd ysbryd canu neu beidio. Does dim eisiau iddynt hwy i gael eu ffordd. |
Priscila |
Nac oes, nac oes. Certainly not. |
Mari |
'Does gen i ddim yn erbyn Siencyn ei hun. Ond am y fenyw yna sydd ganddo, mae'r un peth gen i weld yr ysbryd drwg ei hun a'i gweld hi. Mae fel cath wyllt obeutu'r lle. |
Priscila |
Os i ni mynd a côr i Cenedlaethol, rhaid ini mynd 'in best of style.' Rhaid i ni gael 'Conductor' 'up-to-date,' ac yn gwisgo 'up to the mark' fel Telorydd ni. Ma Siencyn Tilwr yn 'very shabbily dressed.' |
Mari |
Ydi, ydi, a mae ef weithiau'n dod i'r Practice heb ymolch na shafio. |
Telorydd |
Wel, gobeithio y deuwn i ryw gyd-ddealltwriaeth. Ofer meddwl am fyned i Gaerdydd heb yr ysbryd priodol. |
Y tri yn myned y tu fewn i'r llen. |