'Mask' mawr hyll ar ei wyneb. Gellir cael y cyfryw mewn unrhyw dref am ychydig geiniogau. Gwisged glogyn mawr dros ei ben. (Gwna blanced neu 'sheet' gwely y tro). Gwneir ddau gorn mawr wrth y clogyn, y rhai hyn o liw gwahanol i'r clogyn neu y blanced. Gall hefyd addurno ei ben â phlufen neu ddwy, o gryn faintioli. Gydag ychydig ddeheurwydd, gellir gwneuthur yr oll i edrych yn bur effeithiol. Mynner hefyd gadwyn (gwna 'plough chain' y tro). Gosoder un pen o'r gadwyn am ei wddf neu ei ganol, gan adael i'r gadwyn i lusgo ar ei ôl ar y llwyfan.
Nid yw'r uchod ond awgrymiadau; gall y cyfarwyddwr ddefnyddio ei chwaeth ei hun ynglŷn â'r gwisgoedd.
Os bydd digon o le ar y llwyfan, gall rhyw ddwsin o rai heb fod yn perthyn i'r cwmni fynd i eistedd er mwyn creu brwdfrydedd a dangos bod cynhulliad lluosog yng nghyfarfod y Côr. Ni raid i'r rhai hyn wisgo'n wahanol i arfer. Bydded iddynt glapio a gwaeddi; rhai ohonynt i gefnogi un blaid, a'r gweddill y blaid arall. Gallant bleidleisio, a gallant ganu ar y diwedd, Disgwylir i bawb fo ar y llwyfan fod yn llawn bywyd a brwdfrydedd, a dangos diddordeb mawr ymhob symudiad.
Ni raid wrth lawer o gost na thrafferth i lwyfannu y Gomedi hon. Y mae wedi ei threfnu fel y gellir ei llwyfannu mewn ysgoldai bychain, os bydd galw. Mynner llwyfan gweddol lydan os yn bosibl. Hongier y llen fel y bo rhyw ddwy droedfedd rhyngddi a phen blaen y llwyfan. Mynner y llen i agor yn y ddau ben. Os bydd darlun-lenni at law, mynner ddarlun o ystryd, gyda phorth yn agor i ryw adeilad; neu, gwell fyth fyddai cael drws yn un pen i'r llen. Ar y llwyfan, nid oes angen ond ystafell foel fel festri capel, gyda bwrdd, ychydig gadeiriau a meinciau. Os ewyllysier gwneuthur y lle yn fwy atyniadol, gosoder blodau ar y bwrdd; mynner le tân, a hongier 'modulator' y Tonic Solffa ac ychydig ddarluniau ysgrythurol ar y muriau.