Golygfa: (O safle'r chwaraewyr.) Siop 'Sgidiau Hobson yn Chapel Streel, Salford. Mae'r ffenestri a'r drws i'r heol ar y chwith. Yn wynebu'r edrychwyr saif y cownter ac arno dryblith o 'sgidiau o bob math. Ar y pared y tu cefn iddo, y mae rhesi o silffoedd yn llawn o "boxes" 'sgydiau. O flaen y cownter saif tair neu bedair o gadeiriau gwiail (cane). I lawr y llwyfan ar y chwith y mae desc a chadair. Y mae'r drws a dau ris yn codi ato ar y dde yn arwain i'r tŷ. Yng nghanol y llwyfan y mae "trap-door" yn agor ar y seler—siop waith y cryddion. Syml a diaddurn yw popeth yn y siop. Mae'r fusnes yn llewyrchus. Eithr yn Salford yn 1880, nid oedd y gwychter a'r rhwysg a modwedda siopau y dydd heddiw yn anhepgor i lwyddiant masnachol. Arwenir cwsmer pwysig i ffitio 'sgidiau yn ystafell fyw Hobson. Eithr eistedd y cyffredin ar y cadeiriau gwiail sydd yn y siop dywyll ond addas ir fwsnes. Nŷ ddangosir ond ychydig o'r stoc yn y ffenestr a chlocsiau (clogs) sy'n fwyaf lluosog ac amlycaf yno. Trwy'r ffenestr tywynna goleuni llachar hanner dydd. Yn eistedd y tu cefn i'r cownter y mae dwy ferch ieuengaf Hobson, ALICE, ar y dde, 23 oed, a VICTORIA, ar y chwith, geneth brydferth iawn, 21 oed. Mae ALICE... a VICTORIA yn darllen. Maent wedi ymwisgo mewn du a chanddynt ffedogau duon. Egyr y drws ar y dde a daw MAGGIE i mewn. Merch hynaf Hobson ydyw hi, yn 30 oed. |
|
Alice |
O, y ti sydd 'na, Maggie. A minnau'n gobeithio mai nhad oedd ar ei ffordd allan. |
Maggie |
Camsyniad wnest ti. (Mae'n croesi'r llwyfan ac yn eistedd wrth y ddesc ar y chwith.) |
Alice |
Mae e'n hwyr y bore 'ma. |
Maggie |
'Roedd e'n hwyr yn codi. (Yn bryswr wrth y llyfr cyfrifon.) |
Vickey |
(Yn darllen.) Ydi e wedi cael brecwast, Maggie? |
Maggie |
Brecwast! Ar ol cinio'r Clwb neithiwr? |
Vickey |
Fe fydd arno eisiau rhywbeth i godi tipyn ar ei galon felly. |
Alice |
Fe garwn i pe bai'n mynd i'w mofyn ar unwaith. |
Vickey |
Wyt ti'n disgwyl rhywun yma, Alice? |
Alice |
Ydw; gwyddost hynny o'r gora. A byddaf yn ddiolchgar i chi eich dwy os gadewch y siop pan ddaw e. |
Vickey |
Fe wna' i hynny drosot ti, Alice, os bydd nhad wedi mynd allan; ond feiddia'i ddim gadael y siop cyn 'i fod e o'r golwg. |
Daw ALBERT PROSSER i mewn o'r stryd. Mae e'n 26 oed, ac wedi ymwisgo'n drwsiadus fel y gweddai i fab cyfreithiwr o safle. Cerdda ymlaen i'r dde, a chwyd ei het yn foesgar i gyfarch ALICE). |
|
Albert |
Bore da, Miss Alice. |
Alice |
Bore da, Mr. Prosser (Yn gyfrinachol gan blygu dros y cownter.) Nid yw nhad wedi mynd allan eto; mae e'n ddiweddar heddiw. |
Albert |
O! |
Try i fynd allan; y mae ar ei ffordd at y drws pan gwyd MAGGIE a dod i'r canol. |
|
Maggie |
Beth gawn ni ddangos i chi y bore 'ma, Mr. Prosser? |
Albert |
(Yn sefyll.) Wel, wir, alla'i ddim dweyd imi ddod yma gyda'r bwriad o brynu dim heddiw, Miss Hobson. |
Maggie |
Cadw siop yw'n busnes ni, wyddoch, ac felly allwn ni ddim gadael i bobl fynd a dod yma heb brynu dim. |
Albert |
O'r gora: dewch â phâr o gareiau imi, os gwelwch chi'n dda. (Yn symud i'r dde.) |
Maggie |
Beth yw "size" eich sgidiau chi? |
Albert |
"Eights." Troed fechan sydd genny'. (Yn gwenu, ond gwêl fod MAGGIE o ddifrif.) Ond wnaiff hynny ryw wahaniaeth i'r careiau? |
Maggie |
(Yn gosod mat o flaen cadair ar y dde.) Na; ond hynny sy'n penderfynnu "size" y sgidiau. (Yn ei wthio'n dawel i'r gadair.) Eisteddwch, Mr. Prosser. |
Albert |
(Yn eistedd.) O'r gora; ond─ (Y mae MAGGIE ar ei gliniau yn prysur ddatod es esgid.) |
Maggie |
Mae'n bryd i chi gael pâr o sgidiau newydd. Mae y rhain yn rhy hên a diolwg i ŵr o'ch safle chi. Estyn bâr o "eights" imi o'r silff yna, Vickey, os gweli di'n dda. ALICE (Yn dod ychydig ffordd tuag atynt.) Nid i brynu sgidiau y daeth Mr. Prosser yma, Maggie. |
Daw VICKEY â'r "box" sgidiau; egyr MAGGIE ef. |
|
Maggie |
'Sgwn i pam mae e'n dod i'r siop yma mor aml? |
(Â ALICE yn ôl tu cefn i'r cownter.) |
|
Albert |
Un ofnadwy wy' i am dorri careiau, Miss Maggie. |
Gesyd MAGGIE yr esgid newydd am droed ALBERT a'i chlymu. |
|
Maggie |
A ydych yn treulio pâr o gareiau bob dydd? Mae'n rhaid eich bod yn gryf ofnadwy. |
Albert |
'Rwy'n cadw stoc o honynt wrth law rhag ofn. Mae'n well bod yn barod i'r gwaetha'. |
Maggie |
A nawr bydd gennych sgidiau newydd i fynd gyda'r careiau, Mr. Prosser. Sut mae honna'n teimlo? |
Albert |
Yn gyfforddus iawn, wir. |
Maggie |
Treiwch chi ar eich sefyll. |
Albert |
(Yn cerdded ychydig gamau.) Ydi; mae hi'n ffitio i'r dim. |
Maggie |
Gadewch imi wisgo'r llall i chi. |
Albert |
O, na'n wir; does arna'i ddim eisiau pâr o sgidiau newydd ar hyn o bryd. |
Maggie |
(Yn ei wthio'n ôl i'r gadair.) Eisteddwch, Mr. Prosser. Allwch chi ddim mynd allan i'r stryd felna, un hên esgid sâl ac un esgid newydd, smart, am eich traed. |
Daw ALICE tuag atynt drachefn. |
|
Albert |
Wel, beth yw pris y rhain, ynte? |
Maggie |
Punt. |
Albert |
Punt! ond─ |
Maggie |
Ond mae nhw'n sgidiau da, Mr. Prosser. Ac ni bydd rhaid i chi dalu am gareiau heddiw. Fe gewch bâr o gareiau newydd yn y fargen, careiau rhawn, bid siwr. |
 VICKEY yn ôl tu cefn i'r cownter. |
|
Maggie |
Ond gan eich bod mor gryf ac yn torri cynifer, falle bydd yn well gennych gael careiau lledr. Gallwch eu cael, wrth gwrs, ond fe gostia rheiny ddwy geiniog yn rhagor i chi. |
Albert |
Fe wna—fe wna y rhain y tro, diolch. |
Maggie |
O'r gora; a gwell i chi adael yr hên bâr yma i'w cywiro. Danfonaf hwynt i'ch ty chi fory gyda'r bil. |
Erbyn hyn y mae MAGGIE wedi clymu'r esgid arall. Cwyd a cherdda yn ôl at y ddesc gan daflu'r "box" gwag at VICKEY. Dyry hithau sgrech wedi ei brawychu ar ganol darllen ei llyfr. |
|
Albert |
(Gydag ochenaid.) Pe buasai rhywun wedi dweyd wrthyf fy mod yn dod i mewn yma i wario punt buaswn wedi ei alw'n ffŵl. |
Maggie |
Nid ydych wedi gwastraffu punt, coeliwch fi. Fe bery'r sgidiau yna'n hir, cewch weld. Bore da, Mr. Prosser. (Daw ymlaen i agor y drws iddo.) |
Albert |
Bore da. (Sylla'n wirion ar ALICE ac â allan.) |
Alice |
Wel, Maggie, gwyddwn yn dda dy fod yn fenyw o fusnes, ond ar 'y ngair i─ |
Maggie |
(Yn dychwelyd i'r dde, yn codi'r hên sgidiau a'u gosod ar silff, ar y dde.) Dyna wers iddo gadw oddiyma am dipyn. Mae ganddo ormod o amser i'w wastraffu. |
Alice |
Fe wyddost pam mae e'n dod yma. |
Maggie |
Gwn y dylai dalu rhent am gael treulio cymaint o amser yma. Nid yw pris un pâr o gareiau yn hanner digon. Dod yma i syllu'n wirion arnat ti y mae e. Rwy'i wedi diflasu ar 'i weld e'. (Yn croesi o flaen y cownter i'r chwith.) |
Alice |
Mae o'r gora i hên ferch fel ti i siarad, ond gan fod nhad yn anfodlon inni fynd allan gyda bechgyn ifainc, ymhle arall y gall Albert a minnau gwrdd ond yn y siop pan fydd nhad ei hunan allan? |
Maggie |
Os yw e am dy briodi di, pam na wnaiff e hynny? |
Alice |
Rhaid caru cyn priodi. |
Maggie |
Does dim rhaid iddi fod felly. (Yn gafael mewn esgid ffasiynol sydd ar y ddesc.) Weli di'r bwcwl mawr gloyw ar yr esgid fach yma? Mae caru fel y bwcwl yma, merch i; rhywbeth gloyw ond hollol ddiangenrhaid. (Dyry'r esgid yn ôl ac eistedd wrth y ddesc.) |
Daw HENRY HORATIO HOBSON i mewn i'r tŷ. Mae yn 55 oed, yn hunan-ddigonol, yn wridgoch a graenus, ac yn engraifft byw o ben-teulu'r cyfnod. Mae ei het ar ei ben, het galed hanner y ffordd at fod yn het uchel. Addurnir ei wasgod a chadwyn aur drom a sêl fawr yn crogi wrthi. Dillad taclus a ddeil eu gwisgo sydd am dano. |
|
Hobson |
Maggie, rwy'n mynd allan am ryw chwarter awr. (Yn symud i gyfeiriad y drws ar y chwith.) |
Maggie |
O'r gora, nhad; ond peidiwch â bod yn ddiweddar i ginio. Afu sydd yma i ginio heddiw, |
Hobson |
Mae awr o amser cyn cinio. (Yn mynd.) |
Maggie |
Os arhoswch chi fwy nag awr yn Y Bedol, fe fyddwch yn ddiweddar. |
Hobson |
Y Bedol? Pwy ddwedodd—? (Yn troi.) |
Vickey |
Os bydd eich cinio wedi diflasu, arnoch chi y bydd y bai. |
Hobson |
Wel; wel, myn─ |
Alice |
Peidiwch â rhegi, nhad. HOBSON (Yn dodi ei het ar y cownter.) Na. Yn hytrach na rhegi fe eistedda'i i lawr. (Cymer y gadair fawr ychydig i'r dde o ganol y lwyfan.) Nawr, gwrandewch arna'i, chi'ch tair. Rwy'i wedi gwneud fy meddwl i fyny. Chymra'i ddim ordors gennych chi. Beth nesa', tybed? Mae digon o chwant arna'i roi eitha gwers ichi bob un. |
Maggie |
Rwy'n siwr fod Mr. Heeler yn aros am danoch yn Y Bedol, nhad. |
Hobson |
Gad iddo aros. Ar hyn o bryd rwy'i am gael gair â'r merched ffroen-uchel sydd yn fy nhŷ fy hun, a mae'n rhaid i chi wrando arna'i. Byth er pan fu'ch mam farw, rydych chi wedi ymroi i ennill y llaw ucha' arna'i. |
Vickey |
Nhad, cewch fwy o hamdden i siarad â ni wedi inni gau'r siop heno. (Mae hi'n awyddus i ddarllen.) |
Hobson |
Rwy'i'n siarad nawr, a chwithau'n gwrando. Fe drefnodd Rhagluniaeth i chi gael eich amddifadu o gyfarwydd eich mam yn yr adeg pan mae merched dibriod yn mynd yn ffroen-uchel ac yn mynnu cael rheoli rhywun. Ond cymrwch chi hyn genny', chewch chi ddim rheoli arna'i. |
Vickey |
Rwy'n siwr nad ydw'i ddim yn ffroen-uchel, nhad. |
Hobson |
Wyt, yr wyt ti. Rwyt yn ferch brydferth ond yr wyt yn ffroen-uchel, a mae merch ffroenuchel mor atgas imi a chyfreithiwr. |
Alice |
Os awn ni i'r drafferth o baratoi bwyd i chi nid arwydd ein bod yn ffroen-uchel yw gofyn i chi beidio â bod yn ddiweddar i ginio. |
Vickey |
Rhoi a chymryd yw hanes pawb, nhad. |
Hobson |
Ond y fi sy'n rhoi a chwithau'n cymryd, a rhaid cael pen ar hynny. |
Maggie |
Faint o gyflog ydych chi'n roi inni? |
Hobson |
Does a wnelo hynny ddim â'r mater (Yn codi ac yn symud at y drws.) Merched ffroen-uchel yw'r pwnc o dan sylw ar hyn o bryd, a rwy'n eich rhybuddio bod yn rhaid i chi newid yn hollol yn eich ymddygiad tuag at eich tad. (Yn troi at y cownter.) Ac nid dim ond hynny yn unig. Peth o fewn cylch y teulu yw hynny. Rwy'i am son nawr am rywbeth arall, eich ymddygiad yn y cyhoedd. Rwy'i wedi sylwi ar 'mhlant yn cerdded y strydoedd ac wedi gwrido o gywilydd. Mae enw da Hobson wedi ei lychwino gan aelodau o deulu Hobson ei hun, a balchder ffroen-uchel yw'r achos o hynny. |
Vickey |
Wn i yn y byd beth ydych chi'n feddwl. |
Hobson |
Rwyt yn dlos, Vickey, ond fe alli dithau ddweyd celwydd fel "gas-meter." Pwy oedd yn gwisgo dillad newydd yr wythnos ddiwetha? |
Alice |
Rydych yn cyfeirio at Vickey a mi, debig. |
Hobson |
Ydw. |
Vickey |
Fe wisgwn ni fel y mynnom, nhad, waeth i chi heb wastraffu'ch anadl. |
Hobson |
Dwy'i ddim wedi aros i mewn y bore yma ac esgeuluso "business appointments" er mwyn arbed fy anadl. |
Vickey |
Ond rydych yn hoffi 'ngweld i wedi gwisgo'n neis. |
Hobson |
Ydw: rwy'n hoffi gweld fy merched wedi eu gwisgo'n neis. (Yn croesi i'r dde.) Dyna pam rwy'n talu deg punt ar hugain bob blwyddyn ì Mr. Tudsbury, y Draper, i'ch dilladu chi'n weddus. Mae hynny'n llonder i'r llygad ac yn fantais i fasnach. Ond deallwch hyn, pe gallasai rhai merched weld eu hunain fel mae dynion yn eu gweld, buasent yn cael "shock" ofnadwy. Ac fe fynna'i air â Tudsbury am adael i chi ddewis gwisgoedd fel bwganod. (Yn symud i'r chwith.) Fe'th welais di ac Alice drwy ffenestr parlwr Y Bedol nos Iau, a dyna 'nghyfaill Sam Minns─ |
Alice |
Tafarnwr! |
Hobson |
(Yn troi.) Ie, tafarnwr. Ond dyn cywir, cofia, mor gywir a gonest ag undyn â godwyd gan Ragluniaeth i gadw tafarn, merch i. Dyna 'nghyfaill, Sam Minns yn gofyn imi pwy yn y byd oeddech chi. Pa ryfedd! Roeddech yn cerdded i lawr Chapel Street a chlap mawr na luniwyd erioed gan natur ar waelod eich cefn. |
Alice |
(Yn protestio.) Nhad! |
Hobson |
Ac roedd y clap yn siglo wrth i chi gerdded a chwithau'n sangu ar y ddaear fel pe buasai llosg-eira ar eich traed, ie, eich penliniau yn gwegian o'tanoch chi, ond a'ch pennau yn y gwynt yn warsyth a ffroen-uchel. Digywilydd-dra noeth! |
Alice |
Na, nid digywilydd-dra, nhad; ond dyna'r ffasiwn—i wisgo "bustles." |
Hobson |
Ffasiwn y diawl, ddweda'i. |
Maggie |
Nhad, nid yn Y Bedol rydych chi 'nawr. |
Vickey |
Fe ddylech sylwi sut y mae boneddigesau eraill yn gwisgo. (Yn codi.) |
Hobson |
Os ydyn' nhw rhywbeth yn debig ichi gwell genny' beidio. Rwy'i'n ddyn bucheddol. Hobson yw fy enw, aelod o'r dosbarth canol, asgwrn cefn ac addurn Teyrnas Loegr. Rwy'i'n sefyll dros synnwyr cyffredin a gonestrwydd barn. Rydych chi'n fursennaidd, a dyw hynny na synnwyr cyffredin na gonestrwydd. Rydych chi wedi peidio â gwisgo yn addas ac yn ceisio bod yn smart—(mae VICKEY yn eistedd)─nodweddion ffyliaid a phobl ddisens. Rydych chi'n anghofio urddas masnach a rhagoriaethau y Wladwriaeth Brydeinig, pethau sy'n dibynnu ar sefydlogrwydd meddwl y dosbarth canol, ynghyd â diwydrwydd y dosbarth gweithiol. Ond am danoch chi, rydych chi'n gwyro mewn barn; rydych chi'n gosod pethau diwerth o flaen pethau hanfodol. Os ydych am lanw eich lle ym mywyd Lancashire, os er am gadw eich lle yn nhy Hobson, rhaid ichi ddangos synnwyr cyffredin. |
Vickey |
Ydych am inni wisgo fel merched y ffatris? |
Hobson |
Na, na fel merched Ffrainc chwaith. Dyw hynny ddim yn weddus yn y wlad hon. |
Alice |
Fe ddaliwn ni i wisgo yn ol y ffasiwn, nhad. |
Hobson |
O'r gora. Dyma fi yn rhoi eich dewis i chi'ch dwy, ti Vickey ac Alice. Rhaid i chi ddangos synnwyr cyffredin os ydych i aros yn y tŷ hwn; dim rhagor o'r balchder ffôl yna sydd wedi gafael ynoch chi. Os nad ydych yn fodlon ar hynny cewch fynd oddiyma, a cheisio rhywun arall i ddiodde'ch ffolineb chi. Dych chi ddim yn sylweddoli byd mor dda sydd arnoch chi; ond fe ddowch i wybod fydda'i wedi gorffen â chi. Fe ddewisa'i bob o ŵr i chi, dyna beth wna'i. |
Alice |
Allwn ni ddim dewis gwŷr inni ein hunain? |
Hobson |
A minnau wedi bod am y pum munud diwetha 'ma yn dweyd wrthych nad ydych yn ffit i ddewis hyd yn oed eich dillad eich hunain! |
Maggie |
Mae gennych lawer i'w ddweyd wrth Vickey ac Alice, nhad. Beth am dana' i? |
Hobson |
Y ti? (Yn troi i edrych arni mewn syndod.) |
Maggie |
Os ydych yn dewis gwŷr iddyn' nhw, oes gennych un mewn golwg imi? |