| |
---|
|
RHAG-OLYGFA (Prologue) Yr olygfa: Llwybr yn y coed neu Heol yn y wlad. (Tybir fod y Rhag-olygfa hon yn cymeryd lle ddwy flynedd cyn y streic).
|
Mavis
|
(yn cerdded yn hamddenol o'r Aswy (A) i'r Dde (D)) Mae'n dda gan fy nu fod William wn cael lle fel clerc o dan Mr Davies! Does gen i gynnyg i'r hen Symonds yna, ys wedi dod yn fanager gwaith Mr Wynn. Rwy'n siwr mai hen greadur twyllodrus yw e, ac mai hen un cas yw e hefyd! Fuaswn i byth yn esmwyth fy meddwt tae William dano fe. Y lwc fwya yn y byd oedd i William gael cynnyg ar y lle yna yn offis Mr Davies. Fe fydda i'n esmwyth fy meddwl nawr am William, ta beth! A does dim ond mis eto cyn bydd William a finnau wedi priodi! Dim ond mis! Rwy'n ofni bydd rhaid i fi roi'r canu heibio wed'yn. Rwy'n gwybod nad yw William yn leicio mod i'n mynd ar gerdded cymaint i ganu. A leiciwn i ddim er y byd i wneud dim i siomi William. Ond fe gaf ganu gartref, a digon o achos canu rwy'n siwr. (Yn canu.) Canu, canu, canu, Y mae'r aderyn pur: Canu, canu, canu, Y mae fy nghalon wir. Canu mae'r aderyn, Wrth gofio'i gydmar cu; Canu mae fy nghalon, Wrth gofio'th gusan di!
|
|
Tra mae hi yn canu daw Mr Symonds i mewn yn ddistaw tu ol iddi. Gyda'i bod hî yn gorphen canu mae Symonds yn ymaflyd am dani ac yn rhoi cusan iddi.
|
Mavis
|
(yn ysgrechian) Oh! William anwyl!
|
Symonds
|
Ti gofi nghusan i ynte!
|
|
Yn ceisio rhoi cusan arall iddi. Hithau yn ei wthio ymaith ac yn ymryddhau o'i afael.
|
Mavis
|
Chi, Mr Symonds, sydd yna! Rwy'n synnu atoch!
|
Symonds
|
Pe gallasech wel'd eich hun y funud yma, a deall mor dlos ydych, f'anwylyd brydferth, fysech chi'n synnu dim!
|
Mavis
|
A ry chi'n galwch hunan yn foneddwr! Does dim gweithiwr yn Nghymru na fuase'n teimlo'i hunan yn ormod o wr bonheddig i insulto merch dd'amddiffyn!
|
Symonds
|
Does yma neb gwerth ei alw yn weithiwr ymhlith y Cymry! Yr unig beth da welais i yn Nghymru yw'r merched; a chi, merch anwyl i, yw'r oreu welais i eto.
|
|
Yn ceisio ymaflyd yn ei llaw. Hithau yn cilio yn ol, ac yn tì rwystro.
|
Mavis
|
A dyma beth yw gyniad Sais am fod yn foneddwr! Insulto merched ifanc ar yr heol.
|
Symonds
|
Insulto! Na! Na talu compliment uchel i chi ow'n i, nghariad i.
|
|
Ceisia ymaflyd ynddi wed'yn. Hithau'n cilio drachefn.
|
Mavis
|
Ry chi'n lwcus nad oes un o'r gweithwyr yr ydych chi'n edrych lawr arnyn' nhw yma nawr, neu fe gawsech wel'd!
|
Symonds
|
Twt! Merch fach i, peidiwch bod mor ddwl! Fe ddwgais i un cusan oddiarnoch chi. Rw i am fod yn onest, ac am ei roi yn ol i chi nawr.
|
|
Yn ymaflyd ynddi a cheisio ei chusanu drachefn. Hithau yn ymdrechu ei rwystro.
|
Mavis
|
(yn gwaeddi) Help! Help!
|
|
Gruffydd Elias yn dod i mewn tu ol iddynt. Yn ymaflyd yn ngholer Symonds, ac yn ei hyrddio i'r llawr.
|
Gruffydd
|
Yr adyn anheilwng!
|
Mavis
|
(yn taflu ei breichiau am wddf Gruffydd Elias) Oh! Gruffydd Elias anwyl!
|
Symonds
|
(yn codi, ac yn ysgwyd ei ddwrn ar Gruffydd Elias) Y ti, aie! Y creadur impudent! Pwy fusnes sy' gen ti i ymyryd a mi!
|
Gruffydd
|
Mae yn fusnes pob dyn teilwng o'r enw i amddiffyn y gwan rhag cael cam!
|
Symonds
|
Ti gei weld! Mi ro i'r sac iti ddydd Sadwrn, was i!
|
Gruffydd
|
O'r goreu. Pan gaf fi'r sac, fe a i at Mr Wynn, a fe ofynnaf iddo os yw e'n rhoi'r sac i'w weithwyr am amddiffyn merched rhag cael eu insulto ar yr heol.
|
Symonds
|
(yn troi o'r neilldu ac yn siarad wrtho'i hunan) Feddyliais i ddim am hyny! Wnaiff hi byth o'r tro i Mr Wynn gael gwybod, neu fe gawswn y sac fy hunan! Rhaid i fi geisio taflu llwch i'w llygaid hwynt! (Yn troi 'nol at Gruffydd Elias a Mavis.) Twt! twt! Peidiwch gadael ini gwympo maes! Chi wyddoch galla i fel manager wneud llawer o ddrwg i chi fel gweithiwr.
|
Gruffydd
|
Gwnewch eich gwaethaf, tra bydd gen i gydwybod Ian.
|
Symonds
|
Ie, ie! Ond 'dw i ddim am wneud niwed i chi'r dyn! Dyma hanner sofren i chi. Dow'n i'n meddwl dim drwg i'r ferch—a fe bryna i brooch beautiful yn bresent iddi yn Abertawe dydd Sadwrn fel iawn am yr hyn a wnaethum.
|
Gruffydd
|
Nid wyf fi yn mofyn arian heb eu hennill, nac yn derbyn llwgrwobrwy chwaith. A dyw Mavis ddim yn debyg o dderbyn dim oddiar eich llaw chwi, rwy'n credu.
|
Mavis
|
Fe allswn feddwl hynny, wir!
|
Gruffydd
|
Ond dw i ddim am wneud drwg i neb, a thra gadewch chi lonydd i Mavis fe adawaf finnau lonydd i chwithau—a dim pellach. Dewch Mavis fach.
|
|
Mavis a Gruffydd Elias yn mynd allan gyda'u gilydd tua'r D.
|
Symonds
|
(yn ysgwyd ei ddwrn ar eu hol) Chi sydd wedi cael y goreu ohoni heddyw! Ond fel mai byw fy enaid, chi gewch 'difaru eich dau gynifer gwelltyn sy ar eich pen! Fe gadwa i lygad arnat ti Gruffydd Elias yn y gwaith, was i! Ac am danat ti, Mavis, fe wna i ti fynd ar dy liniau o'm mlaen i eto am hyn, tae hi'n cymeryd dwy flynedd o amser i fi wneud hynny.
|
|
Yn mynd allan A. Llen yn syrthio. ACT I. — Golygfa 1. Yr olygfa: Ystafell yn nghartref Mavis. (Dwy flynedd ar ol y Rhag-olygfa.)
|
Mavis
|
(yn eistedd wrthi ei hun) A dwy flynedd i heddyw priodson ni! A nawr dyma'r streic wedi bod am chwech wythnos yn ngwaith Mr Wynn! Diolch byth na arhosodd William yn yr offis yno o dan Symonds! Mae lle William yn saff o dan Mr Davies yn ngwaith y Glyn, neu wn i ddm beth wnelawn i! Oh! hen greadur cas yw'r hen Symonds yna! Mae nhw'n dweyd mai fe yw achos y drwg i gyd yn nglŷn a'r streic yma. Rwy'n methu deall shwd mae Mr Wynn, ac yntau'n gystal gwr bonheddig ei hunan, yn rhoi cymaint o'i ffordd i greadur fel yr hen Symonds yna.
|
|
Swn plentyn i'w glywed yn crio.
|
Mavis
|
(yn neidio ar eí thraed) Oh'r anwyl! Dyco'r babi'n llefain! Dyw e ddim hanner 8 iach, yr un bach at wyl ag e! (Yn mynd allan drwy ddrws A.)
|
|
Mari William Huw yn dod î mewn drwy ddyws D.
|
Mari
|
Halo! Mavis! Ble ry chi os!
|
Mavis
|
(yn dod yn ol drwy ddrws A a'r babi yn ei chol) Oh, Mari fach! Mae'n dda gen i eich gwel'd chi, fenyw!
|
Mari
|
P'am! Beth sy'n bod?
|
Mavis
|
Dyw'r babi ddim hanner iach gen i. Dyna! dyna! Paid ti llefain y nghariad bach i. Dyma mami'n canu i ti. (Yn canu) Myfi sy'n magu'r baban, Myfi sydd yn siglo'r cryd, Myfi sy'n hwian hwian, Ac yn hwian hwy o hyd. Bu'n crio bore heddyw O hanner y nos tan dri, Ond fi sy'n colli'm cysgu, Mae'r gofal i gyd arnaf fi.
|
Mari
|
Dir! Gwelwch fel mae'r babi yn enjoyo'ch clywed chi'n canu, Mavis! Mae e'n edrych fel pe licse fe ganu gyda chi, yr un bach anwyl, shwd ag yw e! Ond does dim shwd gantwraig a chi, Mavis, yn y wlad yma.
|
Mavis
|
(yn chwerthin) Cerwch ona chi, Mari, yn fflatro hen wraig fel fi fel 'na!
|
Mari
|
Hen wraig wir! Dy chi ddim ond croten, ond croten yn canu yn gwmws fel angel.
|
Mavis
|
Hush! Beth sy'na, gwedwch?
|
|
Swn cerddediad trwm nifer o ddynion yn mavtshio heibio.
|
Mari
|
(yn rhedeg i'r ffenestr) Oh! Mavis bach! Hanner cant o blismen dierth!
|
Mavis
|
Plismen dierth! Hawyr bach! Beth mae nhw'n wneud a phlismen yma!
|
Mari
|
Glywsoch chi ddim! O achos y streic!
|
Mavis
|
Ond beth mae plismen yn wneud a'r streic! Does yma ddim rows!
|
Mari
|
Nag oes, eitha gwir! Ond mae nhw'n gweyd fod Symonds, y manager, wedi persuado Mr Wynn i hala i mo'yn lot o blismen a gwyr ceffylau rhag ofn i'r bechgyn ar streic wneud niwed i'r gwaith
|
Mavis
|
Dyna gywilydd, ontefe!
|
Mari
|
Fe allawn feddwl hynny wir! Fe wnaiff Gruffydd Elias fwy ei hunan i gadw'r bechgyn yn dawel nag a wnaiff cant o blismen Bendith ar ei ben e!
|
Mavis
|
Ry chi'n hanner addoli Gruffydd Elias, rwy'n credu!
|
Mari
|
Tae chi'n ei nabod e fel fi fe fysech chithau'n ei addoli e hefyd. Rwy'n meddwl weithiau mai rhyw un tebyg i Gruffydd Elias oedd Iesu Grist!
|
Mavis
|
Mari! Mari! Ody chi'n ystyried beth ry chi'n ddweyd! Ymswynwch!
|
Mari
|
Na gwrandewch chi arna'i Mavis fach! Ry chi'n cofio i fì gladdu'r gwr, William Huw, yr haf diweddaf. Doedd gen i neb i ennill tamaid o fara i'r plant bach yco, ond William bach, a doedd ei gyflog e, fel gwyddoch chi, ddim yn fawr. Ond fe ymdopson nes i'r streic yma ddod. Dim ond shar crwt oedd William bach yn gael o arian y streic, wrth gwrs—a doedd hynny ddim digon i gadw bara yn y ty chwaethach dim rhagor.
|
Mavis
|
(yn sychu ei llygaid) Oh! Mari! Pa'm ne fuasech yo dod yma ata i! Fe gesech dorth bryd mynsech chi, a'ch greso!
|
Mari
|
Fe wn hynny, merch fach i! Ond fues i erioed yn cardota, a alla i ddim dechreu 'nawr. Ond ta beth, fe ethon i'r gwely un noswaith, y plant a finnau, heb ddim tamaid o ddim byd oddiar amser cinio. Wel fe weddiais i'r noswaith honno fel nw weddiais i erioed o'r blaen! Wyddoch chi ddim, Mavis fach, beth yw teimlad mam yn gwel'd ei phlant bach yn dioddef eisieu bwyd! Ond ar ol gweddio, fe dawelodd fy nghalon, a fe es i'r gwely a fe gysgais drwy'r nos. Bore tranoeth roedd Mari fach yn chwilio am rywbeth ar ffenest y gegin, a dyma hi'n gwaeddi: "Mam fach! dyma bapur ar y ffenest a'i lond e o arian!" Ac erbyn edrych dyna beth oedd e hefyd. 'Roedd yno dwll bach yn nghornel y ffenest, a rhyw un wedi saco papur a chwpl o sylltau ynddo fe mewn yn y nos.
|
Mavis
|
Oh! Mari! Rhyw un caredig oedd e!
|
Mari
|
Wel, rown i'n meddwl am y gigfran yn porthi Elias, ac fe ddwedais wrth y plant mai Duw oedd wedi danfon ei angel i'n porthi ninnau pan ar newynu! Ond fe dd'gwyddws yr un peth wed'yn y pythefnos diweddaf yma, a hynny bob tro pan bysen ni wedi mynd heb ddim tamaid o fara yn y ty. A rown i'n meddwl am y wraig weddw a'r phiol olew a'r blawd yn y celwrn, ac yn ceisio meddwl pwy oedd y prophwyd santaidd oedd yn bendithio ffenest y gegin i fi a'r plant bach. A rown i a'r plant yn siarad yn aml licsen ni wel'd angel yr Arglwydd oedd mor garedig ini.
|
Mavis
|
(yn sychu ei llygaid) Te wir, Mari fach!
|
Mari
|
Wel, neithiwr ddiwetha, doedd dim o Sioned fach yn dda iawn, ac fe godais wedi canol nos rywbryd i fynd lawr i'r gegin i mo'yn cwpaned o ddwr iddi. Fe etho heb un ganwyll, waeth fe wyddwn ble i roi fy llaw ar y cwpan a'r dwr. A chyda mod i'n cyrraedd godre'r stair, gwelwn law rhywun yn gwthio papur mewn drwy'r twll yn y ffenest. "Dyna'r angel does dim dowt!" myntwn i wrthyf fy hun. 'Roedd hi'n oleu leuad fel y dydd, ac fe welais ar unwaith nag oedd dim adenydd gan yr angel, ta beth. A mlaen a fi'n ddistaw bach i edrych drwy'r ffenest ar yr angel yn mynd ar hyd y llwybr, a phan gyrhaeddodd e gat fach yr ardd, fe drows eì wyneb nes oedd goleuni'r lleuad yn taro arno fe, a fe welais oleuni'r nefoedd, a thrugaredd, a Duw yn llewyrchu ar ei wyneb gwyn e—a phwy oedd e ond Gruffydd Elias!
|
Mavis
|
(yn gosod ei llaw allan ac yn cydio yn llaw Mari) Oh! Mari fach! A fe oedd e!
|
Mari
|
Ie. Fe oedd e. Yn rhanu ei damaid bach ei hunan rhwng y weddw a'r amddifad! A bore heddy gwnes ryw esgus i fynd draw at Shani, lle mae e'n lodjo, a fe ddwedodd Shani wrthyf ei bod hi'n siwr fod Gruffydd Elias yn hanner starvo ei hunan, nag oes gydag e ddim hanner digon o fwyd i gynnal dyn yn reit. A rhoi ei fwyd mae e, welwch chi, i fi a rhai fel fi, sydd heb ddim i'w gael, ac yn gwneyd hynny'n ddistaw bach, heb neb yn cael gwybod gydag ef.
|
|
Y ddwy yn wylo yn ddistaw am ennyd.
|
Mari
|
Ry chi'n gwel'd nawr pa'm rw i'n dweyd mod i'n meddwl fod Iesu Grist yn debyg i beth oedd gwyneb Gruffydd Elias neithwr.
|
Mavis
|
Odw! odw! Rwy'n deall! Duw a'i fendithio!
|
Mari
|
A dyna'r dyn mae'n rhaid cael hanner cant o blismen i'w gadw e rhag gwneud drwg!
|
Mavis
|
Ie! Onid yw e'n gywilydd! Ond gwaith yr hen Symonds y felldith yna yw'r cwbwl! Ond mae Duw yn siwr o ddial arno cyn hir.
|
Mari
|
Ody! ody! Dyna'r hen air: "Hir yr erys Duw cyn taro, Llwyr y dial pan y delo!" Ond peidwch a becso am y babi. Gwaith dannedd sy' arno fe'r un bach. 'Rwy'n mynd nawr i gael clywed yr hanes. 'Roedd Gruffydd Elias a rhai o'r dynion i gael siarad a Mr Wynn a Symonds heddy i gael treio setlo. Fe ddo i nol maes law.
|
|
Yn mynd allan D. Llen yn dod lawr.
|