GOLYGFA III Ar y rhos. Taranau. Y Tair Dewines yn dyfod. |
|
Y Ddewines Gyntaf |
Palo y buost ti, chwaer? |
Yr Ail Ddewines |
Yn lladd moch. |
Y Drydedd Ddewines |
A thithau, chwaer? |
Y Ddewines Gyntaf |
Gwraig morwr oedd a'i glin yn llawn o gnau, A hithau'n cnoi a chnoi, gofynnais "dyro beth;" "Dos ymaith, wrâch," medd hithau'r faeden lwth. I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr; Ond yno hwyliaf gyda hoel, Ac wedyn, fel llygoden foel, Mi wnâf, mi wnâf ac mi wnâf. |
Yr Ail Ddewines |
Codaf iti chwa. |
Y Ddewines Gyntaf |
Dyna dda! |
Y Drydedd Ddewines |
Ac i minnau un. |
Y Ddewines Gyntaf |
Gennyf i mae'r llall fy hun, Chwythant ar y pyrth i gyd Gwyddant bob rhyw borth o'r byd Ar ei gwmpas oll y sydd. Bydd ef mor grin â'r gweiryn rhos, Ni ddaw cwsg na dydd na nos Ar ei amrant i roi saib, Dyn a roed fydd dan ei raib; Blin wythnosau, naw gwaith naw, Nychu bydd yn brudd mewn braw; Er nad eith ei long i lawr, Hyrddir gan y dymestl fawr, Gwelwch beth sy gennyf i. |
Yr Ail Ddewines |
Dangos, dangos di! |
Y Ddewines Gyntaf |
Bawd y gŵr y boddwyd ef Wrth ddychwelyd tua thref. |
Sŵn tabyrddu oddimewn. |
|
Y Drydedd Ddewines |
Tabwrdd, tabwrdd draw! Macbeth a ddaw. |
Y Tair |
Chwith chwiorydd, law yn llaw , Gwibiaid môr a mynydd draw, Felly'n rhodio, rhodio sy; I ti a mi dair gwaith y daw A theirgwaith eto, dyna naw. Ust! mae'r swyn yn ddigon cry'! |
Macbeth a Banguo yn dyfod. |
|
Macbeth |
Ni welais i erioed ddydd mor arw ac mor deg. |
Banquo |
Pa faint o ffordd y sydd oddiyma i Fforres? Pa bethau yw'r rhai hyn, mor wyw a gwyllt eu golwg? Nid tebyg monynt i drigolion daear, ac eto, maent a'u traed arni. Ai byw chwi? Neu a ydych yn unpeth y gall dyn ei holi? Mi dybygwn eich bod yn fy neall, gan fod y naill a'r llall ohonoch yn dodi ei bys migyrnog ar ei gwefus denau. Merched a ddylech fod, wrth eich golwg, ac eto, y mae eich barfau'n gwahardd i mi ddeongli mai dyna ydych. |
Macbeth |
Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi? |
Y Ddewines Gyntaf |
Henffych, Macbeth! Henffych, Bendefig Glamis! |
Yr Ail Ddewines |
Henffych, Macbeth! Henffych, Bendefig Cawdor! |
Y Drydedd Ddewines |
Henffych, Macbeth, a fyddi frenin wedi hyn! |
Banquo |
(Wrth Macbeth.) Ha, ŵr da, pam yr ydych yn cyffroi cymaint, ac yn edrych fel pe bai arnoch ofn pethau â sŵn mor hyfryd ynddynt? (Wrth y Dewinesau.) A chwithau, yn enw'r gwir, ai drychiolaethau ydych, ai'r hyn, yn wir, y mae ei lun tu allan arnoch? Yr ydych yn cyfarch fy nghydymaith bonheddig yn rasol yn awr, ac â darogan gwych am feddiant urddasol a brenhinol obaith nes bod y cwbl fel cyfaredd arno; wrthyf i, ni leferwch ddim. Os gellwch chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un ni thyf, lleferwch wrthyf innau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas. |
Y Ddewines Gyntaf |
Henffych! |
Yr Ail Ddewines |
Henffych! |
Y Drydedd Ddewines |
Henffych! |
Y Ddewines Gyntaf |
Llai na Macbeth, a mwy. |
Yr Ail Ddewines |
Nid mor hapus, eto llawer hapusach. |
Y Drydedd Ddewines |
Fe genhedli di frenhinoedd, er ne bych frenin dy hun; felly, hanffoch well, Macbeth a Banquo. |
Y Ddewines Gyntaf |
Banquo a Macbeth, hanffoch well! |
Macbeth |
Arhoswch, â'ch geiriau dyrys. Dywedwch i mi ragor. Drwy farw Sinel, mi wn fy mod yn Arglwydd Glamis. Ond Arglwydd Cawdor? Y mae Pendefig Cawdor eto'n fyw, yn wrda ffyniannus; a bod yn frenin, ni saif hynny ddim y tu mewn i gylch pethau credadwy, mwy nag y saif fy nyfod i yn Arglwydd Cawdor. Dywedwch o ba le y mae'r wybodaeth ryfedd hon i chwi, neu baham, er y rhos melltigaid hwn, yr ydych yn ein hatal ar ein hynt â'r fath air darogan? Yr wyf yn eich tynghedu, lleferwch! |
Diflanna'r Dewinesau. |
|
Banquo |
Y mae byrlymau ar dir fel ar ddŵr, a dyma rai ohonynt. I ba le y diflanasant? |
Macbeth |
I'r awyr, y mae'r hyn oedd megis sylwedd wedi toddi i'r gwynt. Drwg na baent wedi aros! |
Banquo |
A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn sôn amdanynt, ynteu a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n cymryd y rheswm yn garcharor? |
Macbeth |
Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd. |
Banquo |
Byddwch chwithau eich hun yn frenin. |
Macbeth |
Ac yn Bendefig Cawdor hefyd, onidê? |
Banquo |
Ie, dyna'r gair yn union. Ond, pwy sydd yma? |
Ross ac Angus yn dyfod. |
|
Ross |
Macbeth, derbyniodd y Brenin y newyddion am dy lwyddiant; a phan yw ef yn darllen dy antur di ym mrwydr y gelynion, y mae ei syndod a'i ganmoliaeth yn ymryson â'i gilydd pa un a ddylai fod yn eiddot ti neu eiddo ef. Wedi tewi am hynny, wrth fwrw golwg ar weddill yr un dydd, y mae ef yn dy gael di yn rhengau'r Norwyaid dewr, heb ofn yn y byd rhag y pethau y rhoddaist ti dy hun arnynt ryfedd lun marwolaeth. Yn chwyrn, dôi'r naill gennad ar ôl y llall, a phob un yn dwyn i'w ganlyn dy glod fel amddiffynnwr mawr ei deyrnas, ac yn eu tywallt ger ei fron. |
Angus |
Danfonwyd ni i ddwyn i ti ddiolch oddiwrth ein meistr brenhinol, dim ond i'th ddwyn dy hun i'w ŵydd, ac nid i dalu i ti. |
Ross |
Ac fel ernes o anrhydedd mwy, fo barodd i mi ar ei ran ef d'alw di yn Arglwydd Cawdor; ac ar yr urddas hwnnw, henffych, deilwng Arglwydd, canys eiddot yw. |
Banquo |
Pa beth! A ddichon y diawl ddywedyd y gwir? |
Macbeth |
Y mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg? |
Angus |
Y sawl oedd Arglwydd, yn fyw eto, ond tan farn drom y mae ganddo'r bywyd y mae'n haeddu ei golli. A oedd ef gyda'r gwŷr o Norwy, ai cyfnerthu'r gelyn â help a mantais gudd a wnaeth ef, ai llafurio yn y naill fodd a'r llall, er dinistr ei wlad, nis gwn i; ond y mae'r brad pennaf, a gyffeswyd ac a brofwyd, wedi ei ddymchwel ef. |
Macbeth |
(Wrtho'i hun.) Glamis ac Arglwydd Cawdor! Y mae'r peth mwyaf eto'n ôl. (Wrth Ross ac Angus.) Diolch i chwi am eich trafferth. (Wrth Banquo.) Onid ydych chwithau'n gobeithio y bydd eich plant yn frenhinoedd, am nad oedd y rhai a addawodd imi arglwyddiaeth Cawdor yn addo llai iddynt hwythau? |
Banquo |
Fe ddichon hynny, o'i gredu'n llwyr, eich ennyn chwithau eto hyd at y goron, heblaw Arglwyddiaeth Cawdor. Ond rhyfedd yw, er mwyn ein hennill ni i'n niwed ein hunain, bydd cyfryngau'r tywyllwch yn fynych yn dwedyd y gwir wrthym, yn ein hennill â rhyw fân bethau gonest i'n bradychu i bethau o'r pwys mwyaf. Atolwg, geraint, un gair |
Macbeth |
(Wrtho'i hun.) Dyma ddywedyd y gair ddwywaith, fel rhyw rag-chwarae dymunol i chwarae mawr mater y frenhiniaeth. (Wrth y lleill.} Diolch i chwi, foneddigion. (Wrtho'i hun.) Ni ddichon y gwahoddiad goruchnaturiol hwn fod yn ddrwg nac yn dda; os drwg, paham y rhoes i mi ernes o lwyddiant, yn dechrau gyda'r gwir? Dyma fi yn Arglwydd Cawdor. Os da, paham yr wyf yn ildio i'r awgrym y mae ei lun erchyll yn codi gwallt fy mhen, ac yn peri i'm calon guro yn erbyn f'asennau, yn groes i arfer natur? Y mae ofnau presennol yn llai o beth na'r dychmygion arswydus y mae fy meddyliau innau, nad yw'r mwrdwr sydd ynddynt eto'n ddim ond rhyw ledrith, yn f'ysgwyd gymaint ynof fy hun fel dyn nes bod ofer dyb yn mygu gallu gweithred, a dim nid oes onid peth nad yw. |
Banquo |
Gwelwch y synfyfyrdod y mae'n cydymaith ynddo! |
Macbeth |
(Wrtho'i hun.) Os myn siawns fy ngwneuthur i'n frenin, wela, coroned siawns fi heb i mi mo'r symud. |
Banquo |
Nid yw ei urddas newydd, mwy na'n dilladau dieithr, yn gorwedd yn wastad ar y peth fo tanynt, onid trwy gymorth arfer. |
Macbeth |
(Wrtho'i hun.) Doed a ddêl. Bydd yr amser a'r awr yn rhedeg ar hyd y dydd garwaf. |
Banquo |
Deilwng Arglwydd, yr ydym at eich galwad pan fynnoch. |
Macbeth |
Maddeuwch i mi, yr oedd pethau anghofiedig, yn moedro f'ymennydd dwl! Garedig foneddigion, y mae eich poenau ar fy rhan i lawr lle bynnag y trof y ddalen beunydd i'w darllen. Awn tuag at y Brenin. Meddyliwch am y peth a ddigwyddodd, a phan gaffom amgen hamdden, gadawer i ni ymddiddan y naill a'r llall yn galon rydd. |
Banquo |
Yn llawen iawn. |
Macbeth |
Digoned hyn hyd hynny. Dowch, gyfeillion. |
Ant ymaith. |