a1, g1a1, g2a1, g3

Macbeth (1942)

William Shakespeare
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1942 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 2


GOLYGFA II

Gwersyll, gerllaw Fforres. Alarwm oddi mewn. Daw Duncan, Malcolm, Donalbain a Lennox yno, gyda chanlynwyr, gan gyfarfod â Rhingyll wedi ei glwyfo.

Duncan

Pwy yw hwn sydd yn ei waed? A barnu wrth ei lun, gallai ef roi gwybod i ni beth fu tro olaf y frwydr.

Malcolm

Y Rhingyll ydyw, a fu fel milwr da, yn ymladd rhag fy nghaethiwo i. Hwde, gyfaill dewr, dyro wybod i'r Brenin sut olwg oedd ar yr ymryson pan ddois ti oddi yno.

Y Rhingyll

Mor amheus â dau nofiwr blin wedi ymaflyd y naill yn y llall ac o'r herwydd yn tagu eu medr. Y mae Macdonald ddidrugaredd, cymwys i fod yn wrthryfelwr fyth, am fod holl ddrygau natur arno'n heidio, yn cael digonedd o wŷr arfog o bob math o ynysoedd y Gorllewin, a Ffawd, gan wenu ar eì felltigedig waith, yn edrych hithau fel cyffoden bradwr. Ond rhy wan yw'r cwbl. Dyma Macbeth ddewr—a gwych yr haeddai ef yr enw hwnnw—yn herio Ffawd, ac â'i gleddyf, a hwnnw'n mygu gan waed, fel ffefryn dewrder ei hun, yn naddu ei lwybr trwodd a dyfod wyneb yn wyneb â'r cnaf. Ac ni roes iddo nawdd na'i adael ychwaith, cyn ei agor o geg i geudod, a dodi ei ben ar frig ein muriau ni.

Duncan

O, gâr dewr a gwrda teilwng!

Y Rhingyll

Ond, fel y bydd ystormydd dinistriol a tharanau arswydus yn torri o'r lle bo'r haul yn dechrau tywynnu, felly, o'r fan lle'r oedd cysur fel pe'n dyfod, dyna anghysur yn ymchŵyddo eto. Dal di, Frenin Alban, dal ar hyn: Nid cynt y gorfu cyfiawnder ac arfau dewrder i'r cnafon hyn ymddiried yn eu sodlau nad dyma'r Arglwydd o Norwy, o weld y cyfle, yn dechrau rhuthr newydd ag arfau gloywon a rhagor o ddynion.

Duncan

Oni pharodd hynny ddigalonni'n Capteiniaid Macbeth a Banguo?

Y Rhingyll

Do, fel y bydd adar to yn digalonni eryrod, neu ysgyfarnog yn digalonni llew. A dywedyd y gwir, rhaid cydnabod eu bod fel magnelau wedi eu gorlwytho ag ergydion dwbl. Felly, yr oeddynt yn dwbl ddyblu eu hergydion ar y gelyn; naill ai bod eu bryd ar ymdrochi mewn gwaed, neu ynteu beri cofio Golgotha arall—ni fedraf adrodd—'rwy'n gwanhau a'm clwyfau'n llefain am gynhorthwy.

Duncan

Cystal y gwedd d'eiriau arnat ag y gwedd dy glwyfau; y mae anrhydedd yn y naill a'r lleill. Ewch, cyrcher meddyg ato.



Y Rhingyll yn myned ymaith gyda'r gweinidogion.

Duncan

Pwy yw hwnacw?



Ross yn dyfod.

Malcolm

Teilwng Bendefig Ross.

Lennox

Y brys sy'n tremio drwy ei lygad! Felly yr edrychai rhywun â chanddo bethau rhyfedd i'w hadrodd.

Ross

Duw a'th gadwo, Frenin!

Duncan

O ba le y daethost, deilwng bendefig?

Ross

O Ffiff, Arglwydd, lle y mae banerau Norwy yn herio'r wybren ac yn gwyntyllio'n pobl yn oerion. Dechreuodd Brenin Norwy gyda hylltod o wŷr, a'r bradwr anffyddlonaf hwnnw, pendefig Cawdor, yn gefn iddo, ar ymgyrch ffyrnig, hyd nes mynd Macbeth i'w wynebu'n gyfartal ag yntau, gan ddofi ei ysbryd gwyllt, ac o'r diwedd, syrthiodd y fuddugoliaeth i ni.

Duncan

Llawenydd mawr!

Ross

Felly bellach y mae Brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau, ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin.

Duncan

Ni chaiff Pendefig Cawdor fyth mwy ein twyllo am ein lles, ewch ac erchwch ei ladd rhag blaen, ac â'r teitl a ddygai ef gynt, cyferchwch Macbeth.

Ross

Gofalaf am hynny.

Duncan

Y peth a gollodd ef, fe'i henillodd Macbeth urddasol.



Ant ymaith.

a1, g1a1, g2a1, g3