a1, g1a1, g2a1, g3

Macbeth (1942)

William Shakespeare
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1942 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 3


GOLYGFA III

Ar y rhos. Taranau. Y Tair Dewines yn dyfod.

Y Ddewines Gyntaf
Palo y buost ti, chwaer?

Yr Ail Ddewines
Yn lladd moch.

Y Drydedd Ddewines
A thithau, chwaer?

Y Ddewines Gyntaf
Gwraig morwr oedd a'i glin yn llawn o gnau,
A hithau'n cnoi a chnoi, gofynnais "dyro beth;"
"Dos ymaith, wrâch," medd hithau'r faeden lwth.
I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr;
Ond yno hwyliaf gyda hoel,
Ac wedyn, fel llygoden foel,
Mi wnâf, mi wnâf ac mi wnâf.

Yr Ail Ddewines
Codaf iti chwa.

Y Ddewines Gyntaf
Dyna dda!

Y Drydedd Ddewines
Ac i minnau un.

Y Ddewines Gyntaf
Gennyf i mae'r llall fy hun,
Chwythant ar y pyrth i gyd
Gwyddant bob rhyw borth o'r byd
Ar ei gwmpas oll y sydd.
Bydd ef mor grin â'r gweiryn rhos,
Ni ddaw cwsg na dydd na nos
Ar ei amrant i roi saib,
Dyn a roed fydd dan ei raib;
Blin wythnosau, naw gwaith naw,
Nychu bydd yn brudd mewn braw;
Er nad eith ei long i lawr,
Hyrddir gan y dymestl fawr,
Gwelwch beth sy gennyf i.

Yr Ail Ddewines
Dangos, dangos di!

Y Ddewines Gyntaf
Bawd y gŵr y boddwyd ef
Wrth ddychwelyd tua thref.


Sŵn tabyrddu oddimewn.

Y Drydedd Ddewines
Tabwrdd, tabwrdd draw!
Macbeth a ddaw.

Y Tair
Chwith chwiorydd, law yn llaw ,
Gwibiaid môr a mynydd draw,
Felly'n rhodio, rhodio sy;
I ti a mi dair gwaith y daw
A theirgwaith eto, dyna naw.
Ust! mae'r swyn yn ddigon cry'!



Macbeth a Banguo yn dyfod.

Macbeth

Ni welais i erioed ddydd mor arw ac mor deg.

Banquo

Pa faint o ffordd y sydd oddiyma i Fforres? Pa bethau yw'r rhai hyn, mor wyw a gwyllt eu golwg? Nid tebyg monynt i drigolion daear, ac eto, maent a'u traed arni. Ai byw chwi? Neu a ydych yn unpeth y gall dyn ei holi? Mi dybygwn eich bod yn fy neall, gan fod y naill a'r llall ohonoch yn dodi ei bys migyrnog ar ei gwefus denau. Merched a ddylech fod, wrth eich golwg, ac eto, y mae eich barfau'n gwahardd i mi ddeongli mai dyna ydych.

Macbeth

Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi?

Y Ddewines Gyntaf

Henffych, Macbeth! Henffych, Bendefig Glamis!

Yr Ail Ddewines

Henffych, Macbeth! Henffych, Bendefig Cawdor!

Y Drydedd Ddewines

Henffych, Macbeth, a fyddi frenin wedi hyn!

Banquo

(Wrth Macbeth.) Ha, ŵr da, pam yr ydych yn cyffroi cymaint, ac yn edrych fel pe bai arnoch ofn pethau â sŵn mor hyfryd ynddynt? (Wrth y Dewinesau.) A chwithau, yn enw'r gwir, ai drychiolaethau ydych, ai'r hyn, yn wir, y mae ei lun tu allan arnoch? Yr ydych yn cyfarch fy nghydymaith bonheddig yn rasol yn awr, ac â darogan gwych am feddiant urddasol a brenhinol obaith nes bod y cwbl fel cyfaredd arno; wrthyf i, ni leferwch ddim. Os gellwch chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un ni thyf, lleferwch wrthyf innau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas.

Y Ddewines Gyntaf

Henffych!

Yr Ail Ddewines

Henffych!

Y Drydedd Ddewines

Henffych!

Y Ddewines Gyntaf

Llai na Macbeth, a mwy.

Yr Ail Ddewines

Nid mor hapus, eto llawer hapusach.

Y Drydedd Ddewines

Fe genhedli di frenhinoedd, er ne bych frenin dy hun; felly, hanffoch well, Macbeth a Banquo.

Y Ddewines Gyntaf

Banquo a Macbeth, hanffoch well!

Macbeth

Arhoswch, â'ch geiriau dyrys. Dywedwch i mi ragor. Drwy farw Sinel, mi wn fy mod yn Arglwydd Glamis. Ond Arglwydd Cawdor? Y mae Pendefig Cawdor eto'n fyw, yn wrda ffyniannus; a bod yn frenin, ni saif hynny ddim y tu mewn i gylch pethau credadwy, mwy nag y saif fy nyfod i yn Arglwydd Cawdor. Dywedwch o ba le y mae'r wybodaeth ryfedd hon i chwi, neu baham, er y rhos melltigaid hwn, yr ydych yn ein hatal ar ein hynt â'r fath air darogan? Yr wyf yn eich tynghedu, lleferwch!



Diflanna'r Dewinesau.

Banquo

Y mae byrlymau ar dir fel ar ddŵr, a dyma rai ohonynt. I ba le y diflanasant?

Macbeth

I'r awyr, y mae'r hyn oedd megis sylwedd wedi toddi i'r gwynt. Drwg na baent wedi aros!

Banquo

A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn sôn amdanynt, ynteu a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n cymryd y rheswm yn garcharor?

Macbeth

Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd.

Banquo

Byddwch chwithau eich hun yn frenin.

Macbeth

Ac yn Bendefig Cawdor hefyd, onidê?

Banquo

Ie, dyna'r gair yn union. Ond, pwy sydd yma?



Ross ac Angus yn dyfod.

Ross

Macbeth, derbyniodd y Brenin y newyddion am dy lwyddiant; a phan yw ef yn darllen dy antur di ym mrwydr y gelynion, y mae ei syndod a'i ganmoliaeth yn ymryson â'i gilydd pa un a ddylai fod yn eiddot ti neu eiddo ef. Wedi tewi am hynny, wrth fwrw golwg ar weddill yr un dydd, y mae ef yn dy gael di yn rhengau'r Norwyaid dewr, heb ofn yn y byd rhag y pethau y rhoddaist ti dy hun arnynt ryfedd lun marwolaeth. Yn chwyrn, dôi'r naill gennad ar ôl y llall, a phob un yn dwyn i'w ganlyn dy glod fel amddiffynnwr mawr ei deyrnas, ac yn eu tywallt ger ei fron.

Angus

Danfonwyd ni i ddwyn i ti ddiolch oddiwrth ein meistr brenhinol, dim ond i'th ddwyn dy hun i'w ŵydd, ac nid i dalu i ti.

Ross

Ac fel ernes o anrhydedd mwy, fo barodd i mi ar ei ran ef d'alw di yn Arglwydd Cawdor; ac ar yr urddas hwnnw, henffych, deilwng Arglwydd, canys eiddot yw.

Banquo

Pa beth! A ddichon y diawl ddywedyd y gwir?

Macbeth

Y mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg?

Angus

Y sawl oedd Arglwydd, yn fyw eto, ond tan farn drom y mae ganddo'r bywyd y mae'n haeddu ei golli. A oedd ef gyda'r gwŷr o Norwy, ai cyfnerthu'r gelyn â help a mantais gudd a wnaeth ef, ai llafurio yn y naill fodd a'r llall, er dinistr ei wlad, nis gwn i; ond y mae'r brad pennaf, a gyffeswyd ac a brofwyd, wedi ei ddymchwel ef.

Macbeth

(Wrtho'i hun.) Glamis ac Arglwydd Cawdor! Y mae'r peth mwyaf eto'n ôl. (Wrth Ross ac Angus.) Diolch i chwi am eich trafferth. (Wrth Banquo.) Onid ydych chwithau'n gobeithio y bydd eich plant yn frenhinoedd, am nad oedd y rhai a addawodd imi arglwyddiaeth Cawdor yn addo llai iddynt hwythau?

Banquo

Fe ddichon hynny, o'i gredu'n llwyr, eich ennyn chwithau eto hyd at y goron, heblaw Arglwyddiaeth Cawdor. Ond rhyfedd yw, er mwyn ein hennill ni i'n niwed ein hunain, bydd cyfryngau'r tywyllwch yn fynych yn dwedyd y gwir wrthym, yn ein hennill â rhyw fân bethau gonest i'n bradychu i bethau o'r pwys mwyaf. Atolwg, geraint, un gair

Macbeth

(Wrtho'i hun.) Dyma ddywedyd y gair ddwywaith, fel rhyw rag-chwarae dymunol i chwarae mawr mater y frenhiniaeth. (Wrth y lleill.} Diolch i chwi, foneddigion. (Wrtho'i hun.) Ni ddichon y gwahoddiad goruchnaturiol hwn fod yn ddrwg nac yn dda; os drwg, paham y rhoes i mi ernes o lwyddiant, yn dechrau gyda'r gwir? Dyma fi yn Arglwydd Cawdor. Os da, paham yr wyf yn ildio i'r awgrym y mae ei lun erchyll yn codi gwallt fy mhen, ac yn peri i'm calon guro yn erbyn f'asennau, yn groes i arfer natur? Y mae ofnau presennol yn llai o beth na'r dychmygion arswydus y mae fy meddyliau innau, nad yw'r mwrdwr sydd ynddynt eto'n ddim ond rhyw ledrith, yn f'ysgwyd gymaint ynof fy hun fel dyn nes bod ofer dyb yn mygu gallu gweithred, a dim nid oes onid peth nad yw.

Banquo

Gwelwch y synfyfyrdod y mae'n cydymaith ynddo!

Macbeth

(Wrtho'i hun.) Os myn siawns fy ngwneuthur i'n frenin, wela, coroned siawns fi heb i mi mo'r symud.

Banquo

Nid yw ei urddas newydd, mwy na'n dilladau dieithr, yn gorwedd yn wastad ar y peth fo tanynt, onid trwy gymorth arfer.

Macbeth

(Wrtho'i hun.) Doed a ddêl. Bydd yr amser a'r awr yn rhedeg ar hyd y dydd garwaf.

Banquo

Deilwng Arglwydd, yr ydym at eich galwad pan fynnoch.

Macbeth

Maddeuwch i mi, yr oedd pethau anghofiedig, yn moedro f'ymennydd dwl! Garedig foneddigion, y mae eich poenau ar fy rhan i lawr lle bynnag y trof y ddalen beunydd i'w darllen. Awn tuag at y Brenin. Meddyliwch am y peth a ddigwyddodd, a phan gaffom amgen hamdden, gadawer i ni ymddiddan y naill a'r llall yn galon rydd.

Banquo

Yn llawen iawn.

Macbeth

Digoned hyn hyd hynny. Dowch, gyfeillion.



Ant ymaith.

a1, g1a1, g2a1, g3