Y mae deugain mlynedd o amser rhwng Act 1 ag Act 2. Llyfrgell yn nhy Ifan Morris yng ngorllewin Llundain, tua naw o'r gloch y nos. Ffenestr Ffrengig yng nghefn yr ystafell, a llenni trymion arni; ar y dde i'r ffenestr, cwpwrdd yn llawn o lyfrau. Drws ar yr ochr chwith, a rhyngddo a'r ffenestr yr hen gloc a welsom yn nhy John Morris. Tân ar y llaw dde. Bwrdd mawr derw yn y canol, a phentwr o lyfrau gleision, papurau, etc., arno. Ar soffa wrth y tân y mae Mrs. Morris yn eistedd yn darllen. Ifan Morris yn dyfod i mewn; y mae ef a'i wraig mewn evening dress, gan eu bod newydd orffen eu cinio. Y mae'n debig iawn i'w dad, ond ei fod ychydig yn dalach ac yn sythach ei gerdded, ond y mae ei wallt yn wynnach nag oedd gwallt ei dad, pan welsom ef. Y mae ei wyneb yn feinach, ac yn dangos mwy o graffter, er nad oes dim mwy o ôl diwylliant arno. |
|
Ifan |
Wel, dydw i ddim am fynd allan eto, beth bynnag, waeth gen i beth fo'n galw arna i. Rydw i am eistedd. |
Mrs. Morris |
(Yn codi ei golwg arno.) le wir, cymrwch dipyn o orffwys heno. (Yn codi ac yn mynd i gadair.) Eisteddwch ar y soffa yna, y mae hi'n esmwythach na'r cadeiria. |
Ifan |
Diolch. (Yn cymryd sigar o focs ar y bwrdd ac yn ei goleu.) Welsoch chi'r Genedl hyd y fan yma'n rhywle, deudwch? |
Mrs. Morris |
Pa Genedl? Ydi un yr wythnos yma wedi dwad? |
Ifan |
Ydi, debig: does dim perig i mam anghofio'i gyrru hi. Bobol annwyl, dasa ddigwydd iddi hi anghofio, mi ddoe yma'i hunan bob cam o Gymru a'r papur yn i llaw─neu hwyrach y basa hi'n gyrru Tomos. (Yn chwilio) Wel, lle ar y ddaear y mae hi? |
Yn chwilio eto a'i gefn at ei wraig; hithau'n araf yn cymryd papur newydd odditan un o'r llyfrau ar y bwrdd, ac yn ei guddio'n llechwraidd o dan glustog y soffa. |
|
Mrs. Morris |
Hwyrach bod Jane wedi ei llosgi hi heb wybod. Ond peidiwch a gofalu yn i chylch hi─rydw i'n siwr oes dim ynddi ond hanes Cyfarfod Llenyddol Llanbaffo a Chyfarfod Misol Gilead, a Dosbarth Deml rhwy Lan neu bentref; neu hanes yn dweud fod ein cyd-drefwr parchus Mr. Eleazar Jones wedi rhedeg dros gyw iar hefo'i drol laeth, ac felly yn y blaen. Steddwch i lawr, wir. |
Ifan |
(Yn dal i chwilio) Rhaid imi chael hi─dyna'r unig gyfle sy genni i wybod beth sy'n digwydd yn yr hen wlad. Mae'n ddigon hawdd i chi chwerthin, ond wyddoch chi beth? Mi fuasa'n well genni golli hanes holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant, na methu gwybod pwy gafodd i ffeinio'r Sadwrn yn Nghaernarfon am feddwi, neu pa hogyn o'r dre sy wedi cael ei godi ar y Cyngor Plwy yn Timbuctoo─"dyrchafiad arall i Gymro!"... Wel, fedra i ddim cael hyd iddi hi. (Yn eistedd i lawr ar y soffa.) |
Mrs. Morris |
Rydw i'n methu'ch deall chi, Ifan. Mi fyddwch bob amser o'ch co hefo "ffyliaid y papura newydd" chwedl chitha, a dydw i'n synnu dim,─ond dyma sy'n ddigri,─fedrwch chi yn ych byw beidio a'u darllen nhw. Pam na fedrwch chi fod fel Mr. Balfour, os ydech chi'n teimlo mor superior─peidio edrych ar bapur newydd ddydd mewn blwyddyn? |
Ifan |
le, dyna hi, ngeneth i, dyna hi, dydi dyn rhesymol byth yn gyson a fo'i hunan. Mi fydd rhai o bobol fawr y Senedd yn chwerthin am ben bychander bywyd Cymru,─ond waeth am danyn nhw, pobol felna yden ni. Ryden ni heb ddysgu eto y gelfyddyd fawr Seisnig o edrych galla pan fyddwn ni fwya o ffyliaid. Pan fyddwn ni'n gneud petha fasa'n ddigon i yrru Sais ar ei ben i Colney Hatch, dyna'r pryd y byddwn ni galla, fel rheol. Ac heblaw hynny, faint gwaeth ydi mynnu gwybod pwy enillodd y râs redig yn Llandinadman nag ymdrabaeddu yn y papura Saesneg i wybod pa sut gostume newydd sy gan y frenhines, neu pa ŵr newydd sy gan rhyw dipyn o actress?... Beth ydech chi'n ddarllen? |
Mrs. Morris |
Ceiriog. |
Ifan |
Ceiriog! Dyna lle'r ydech chi o hyd? Rydw i wedi diflasu arno fo ers blynyddoedd─fedra i mo'i ddarllen o─yr hen greadur meddal iddo fo, hefo'i sentiment, a'i ddagrau a'i garu, a'i gusanu. |
Mrs. Morris |
Wel ie, ond rydw i'n hen ffasiwn iawn, welwch chi, a fedra i ddim cael fawr yn y beirdd diweddar yma─mae Ceiriog yn fy siwtio ì,─un sentimental ydw i, lfan bach, fel y gwyddoch chi. |
Ifan |
Mewn geiriau ereill, rydech chi am droi dagrau Ceiriog at ych melin ych hun. Wel, mae hynny'n eitha tra bo digon o ddŵr ynddyn nhw i throi hi. Mae fy melin i yn rhy drom, dyna'r gwir,─neu mae ar y treulia eisio'i hiro. |
Mrs. Morris |
Fasa tipyn bach o sentiment yn gneud fawr o ddrwg i chitha,─rydech chi wedi caledu llawer er pan ydech chi yn Llundain. |
Ifan |
Mae'r hen soffa yma wedi cledu hefyd er pan mae yma. (Yn ysgwyd y glustog.) Neno'r tad, fedrai yn fy myw osod fy hun yn esmwyth. (Yn codi'r glustog.) Hylo! bedi hwn? (Yn tynnu'r Genedl allan.) Wel, dyma hi'r Genedl. Doedd ryfedd fod y soffa'n bigog─ond doeddwn i'n eistedd ar holl gyfarfodydd misol Gogledd Cymru─heb sôn am wit y Cwrt bach. Rwan am dipyn o adloniant. |
Yn ail oleu ei sigar ac yn codi ei goesau ar y soffa. Distawrwydd mawr.─ Mrs.Morris yn edrych yn bryderus arno.─ Yntau 'n dal i ddarllen. Yn codi'n sydyn. |
|
Ifan |
Wel! Wel! (Yn taflu'r papur i'r gornel.) |
Mrs. Morris |
Beth ydi'r mater rwan? |
Ifan |
Dim. (Yn cerdded o gwmpas ac o'r diwedd yn ail godi'r Genedl.) Os oes arnoch chi eisio tipyn o syniad y Genedl am ych gŵr, dyma fo i chi yn blwmp ac yn blaen. Ga i ddarllen o i chi? |
Mrs. Morris |
Os leiciwch chi. |
Ifan |
Gwrandewch. Dyma ran o'r brif erthygl:- "Fel y gŵyr pawb o'n darllenwyr, fe ddaeth Mr. Morris â bil o flaen y Senedd i godi safon cyflog y chwarelwyr,─y bobl o bob dosbarth o weithwyr sy'n cael eu talu salaf, ac nid oedd gan neb yr amheuaeth leiaf nad âi'r bil yn llwyddiannus drwy'r Ty. Cynheswyd llawer aelwyd, a llonnwyd aml galon drist wrth feddwl bod yr hen bryder a'r hen ofal o'r diwedd i orffen am byth; bod siawns i'r plant gael digon o fwyd eto, ac i'r gruddiau gwelwon adennill gwaed. Ond fel y digwyddodd yn rhy aml yng Nghymru cyn heddiw, llin yn mygu oedd ein gobeithion, a chorsen ysig oedd yr un y pwysem arno. Os ydyw'r sibrydion yn wir bod Mr. Morris yn bwriadu cefnu ar y bil, rhaid inni ddywedyd yn ddifloesgni fod Mr. Morris wedi bradychu y bobl a'i gyrrodd i'r Senedd. Pa faint fydd y wobr a gaiff Judas y tro yma, nis gwyddom, ond byddwn yn gwylio'r penodiadau nesaf i'r Cabinet yn bryderus. Fe fu amser pan feddyliem fod Cymru o'r diwedd wedi cael yn Mr. Morris ddyn oedd yn gosod y wlad a'r werin y cododd ohoni o flaen manteision personol ac elw, ond gwelwn erbyn hyn yn amlwg nad yw yntau, er disgleiried ei allu, yn amgen na'r rhelyw o'r aelodau Cymreig. Diwedd y gân ydyw'r geiniog." (Yn rhoi'r papur i lawr.) ... Wel, dyna i chi beth ydi gwenwyn golygyddol. Mi leiciwn i gael o o flaen y nhroed am funud! |
Mrs. Morris |
le, mae o'n gas... ond Ifan? |
Ifan |
Beth? Ydech chi am ail ddechra eto? |
Mrs. Morris |
Ydw wir. Ail ystyriwch am funud, ydech chi'n meddwl ych bod chi'n gneud yn iawn? Ydech chi'n dawel ych cydwybod? (Yn codi ac yn cerdded ato). Cymrwch bwyll─a chofiwch y graig yr ydych chi wedi'ch naddu ohoni. |
Ifan |
Twt, twt. Pa iws ydi ail-ddechra'r hen ymdderu yma eto? Dyma hi'n naw o'r gloch ac mi addewis y cai'r Prif-weinidog fy atebiad i cyn hanner awr wedi naw. Rydw i yn i ddisgwyl o yma bob munud rwan. Rydw i'n ddigon tawel fy nghydwybod. |
Mrs. Morris |
Ydech chi wedi meddwl beth feddylia pobl Cymru ohonoch chi? |
Ifan |
Dydi o ddim gwahaniaeth genni o gwbl beth mae nhw'n feddwl, tra byddan nhw'n meddwl mor niwlog ag y mae nhw. Pan ddysg yr arweinwyr─y pregethwyr a'u ffryndiau─wneud tipyn o aberth eu hunain, mi fydd ganddyn nhw le i ofyn aberth gan rai fel finna... Welsoch chi bregethwr erioed wrthododd adael i bwlpud er mwyn tipyn rhagor o arian yn rhywle arall? |
Mrs. Morris |
Fedrai ddim deud─dydw i na chitha ddim yn gwybod am y rhai sy wedi gneud yr aberth─fydd hanes y rheiny ddim yn mynd i'r papura. |
Ifan |
Na fydd, rydech chi yn ych lle. Ond pan wela i yn y Genedl Gymreig a'r papura ereill o dan y pennawd "Dyrchafiad arall i Gymro" fod rhywun wedi gwrthod mwy o arian er mwyn i egwyddor, mi ddechreua inna aberthu wedyn. |
Mrs. Morris |
Felly, does dim symud arnoch chi? |
Ifan |
Rydw i fel y graig. Rhaid imi feddwl am y dyfodol... ac yn y Cabinet, mi gai siawns i wneud rhywbeth dros yr hen wlad. |
Cynnwrf wrth y drws. Llais. |
|
Llais. |
Waeth iti beidio ddim, ngeneth i. Fedri di na neb o dy deulu mo fy rhwystro i rhag mynd i fewn. Symud o fy ffordd i. |
Mrs. Morris |
Beth sy na? |
Ifan Morris yn neidio i fyny ac yn rhedeg at y drws, ond cyn iddo ei gyrraedd, y mae'r drws yn agoryd, a Tomos yn dyfod i fewn. Mae ei wisg yn od o wladaidd, a bag mawr ganddo yn un llaw, a het ac umbrela yn y llall. Mae erbyn hyn yn hen ddyn, a gwaith caled y chwarel wedi ei grymu. Hawdd gweled er hynny ar ei wyneb nad yn ofer y bu yn ysgol bywyd. |
|
Ifan |
F'ewyrth Tomos! |
Mrs. Morris |
O ble yn y byd y daethoch chi'r adeg yma o'r nos, f'ewyrth? |
Tomos |
Rydw i'n gofyn ych pardwn chi'ch dau am ych styrbio chi fel hyn gefn trymedd y nos. Ond mi ddois i bob cam o gartre heddiw, a mi fuom yn crwydro am oria yn chwilio am y ty yma. Wedi imi ddeud fy neges, mi a i i'r stesion eto i aros am y trên nesa i fynd yn ol. |
Mrs. Morris |
Mynd i'r stesion! Beth ydi'r mater arnoch chi? Rhaid i chi aros yma bellach cyd ag y mynnoch chi. Rhowch y bag yma i lawr, a steddwch. Mi gewch damaid o swper mewn munud. |
Ifan |
Sut mae pawb yng Nghymru? |
Tomos |
Mae dy fam a finna'n ddigon iach, ond mae pawb acw cyn dloted ag y mae posib iddyn nhw fod. Mae'r hen le acw, yn bentra, ac yn ysgol, ac yn gapal, yn marw dan yn dwylo ni,─mi ddarun y nanfon i yma i siarad hefo ti, Ifan. |
Ifan |
Wel wir, mae'n rhaid fod gynnoch chi rywbeth pwysig iawn i ddeud. Does na ddim ffortiwn, debig gen i, wedi dwad i'r un o'n teulu ni? |
Tomos |
(Yn eistedd ar ymyl cadair.) Nag oes, machgen i, nid teulu i gael ffortiwn yden ni. Ond rydw i'n dwad yma i gynnig ffortiwn arall i ti─ffortiwn nad oes ond ychydig iawn yn medru i hel hi weldi, ond roedd Iesu Grist yn i plith nhw, a dy dad titha... |
Ifan |
Dydw i ddim yn deall damhegion, f'ewyrth, rwan. Mae pawb yn y senedd, wyddoch chi, yn siarad mor blaen. Seiat Bethlehem acw sy wedi'ch gyrru chi yma i chwilio i gyflwr y nghrefydd i? |
Tomos |
(Yn hamddenol.) Nage, machgen i. Does arna i na neb arall eisio bysnesu hefo dy grefydd di─os oes gan aelodau seneddol grefydd pan fyddan nhw'n byw yn Llundan. Mi ddyla fod, o ran hynny, mae yna ddigon o bregethwyr yn i mysg nhw... Ond dyma'r ffortiwn oedd genni i gynnig iti─aberth. |
Ifan |
le, reit siwr─ Aberth hefo A fawr yntê? Rydw i wedi sylwi, f'ewyrth, fod mwy o gynnig nag o dderbyn ar y ffortiwn honno. |
Tomos |
(Yn fwy hamddenol byth.) Mi wyddost, beth rydw i'n geisio ddeud wrthyt ti, ond mod i'n flêr, yn bystachu fel hen gaseg mewn cors, wrth geisio'i ddeud o. Mae arnon ni eisio iti fynd ymlaen hefo bil y cyflog. |
Ifan |
Rydech chi'n rhy hwyr, yn rhy hwyr o dipyn. Rydw i'n disgwyl y Prif-weinidog yma bob munud i ddwedyd wrtho fo y mod i yn mynd i dynnu'r bil yn ol. |
Tomos |
(Yn codi'n araf, ac yn pwyntio at Ifan gyda'i umbrela.) Gwrando arna i, machgen i. Dwyt ti ddim wedi ystyried y mater, neu ynte fuasa mab John Morris ddim yn gwrthod y cyfle i dalu tipyn bach yn ol o'r hen ddlêd. Mi laddwyd dy dad, er iddo fo gael i rybuddio gan freuddwyd rhag mynd i'r chwarel; yr oedd dy dad yn ffit arwr i sefyll gyda'r seintia mwya... |
Ifan |
Tewch, tewch, fedrai mo'ch gwrando chi; rydw i wedi gneud y meddwl i fyny. |
Tomos |
Do, mi fu farw ym mloda 'i ddyddia─rydw i'n cofio mynd i nol o, a dwad a fo i lawr ar elor o'r chwarel, a thitha'n hogyn bach yn rhythu ar ben y drws ac yn methu sylweddoli beth oedd yn bod. Wyt ti wedi sylweddoli erbyn hyn? |
Ifan |
(Yn cerdded o gwmpas.) Fewyrth, tasech chitha'n deall ac yn sylweddoli'r cwbwl, fasech chi ddim mor greulon wrtha i─wyddoch chi ddim y mod i'n gorfod crafu a chynilo, ac ymwadu oddiwrth bopeth i dreio byw yn Llundain yma yn agos i fy safle─a dyna'r plant i'w haddysgu. |
Tomos |
Ie, dyna'r plant─dyna ddeudodd dy dad y bora hwnnw pan aeth o i'r Chwarel. Dyden ni wedi sôn fawr am y peth hyd yn hyn rhag dy boeni.─ Ond wyddost ti pam yr aeth o i'r Chwarel y bore hwnnw? |
Ifan |
Wel, gwn. |
Tomos |
Ie, roedden ni yn dau wedi penderfynu peidio mynd. Roeddet ti'n hogyn bach yn y siambar yn yr hen dy,─yn pesychu yn dy wely─ac mi glywodd dy dad ti. |
Ifan |
F'ewyrth─rydw i'n deud wrthoch chi fod y peth wedi ei wneud─does dim dadwneud arno fo. (Yn taro'r bwrdd.) Dyna'r gair ola, ac os ydech chi yn mynd i siarad ymhellach rydw i'n mynd allan. |
Yn symud at y drws. Drws yn agor a llais y forwyn yn galw enw Sir Henry Fawcett-Edwards. Y Prif-weinidog yn dyfod i mewn. Dyn tâl main, a wyneb ganddo na allai'r un dewin yn y byd ei ddarllen. Ond gallai dyn craff ddyfalu llawer─er engraifft, ei fod wedi gweled gormod, ac wedi deall rhy ychydig─a'i fod wedi blino ar yr unig beth yr oedd yn ei ddeall, sef y byd. |
|
Ifan |
(Wrth Tomos). Y prif-weinidog! (Tomos yn rhuthro i afael yn ei fag a'i het ac yn rhedeg drwy'r drws.) |
Syr Henry |
Sut yr ydech chi, Mrs. Morris? Wel, Morris? |
Mrs. Morris |
Eisteddwch i lawr, Sir Henry. |
Syr Henry |
Mae arna i ofn fy mod i wedi torri ar eich cyngor yma─dau funud fydda i─dim ond i glywed ych ateb chi. |
Ifan |
Wel, rydw i wedi cael f'ysgwyd, dipyn. Roeddwn i'r bore yma wedi penderfynu rhoi'r bil ì fyny, a derbyn ych cynnig, ond heno,─wel, wn i ddim wir. |
Syr Henry |
Wel, wrth gwrs, does gen i ddim amser i grefu. Chewch chi ddim siawns eto i ddyfod i'r Cabinet, mi ellwch gymryd fy ngair i yn derfynol ar hynny. |
Ifan |
(Yn codi.) Wel, syr, y mae un atgo bach yn y nghadw i rhag addo ar unwaith, a phe basa 'r hen ŵr yna sy newydd fynd allan wedi aros munud yn hwy i orffen i stori, hwyrach mai yn ych gwrthod chi y buaswn i. Ond... (yn eistedd yn sydyn yn ei gadair)... rydw i'n derbyn ych cynnig chi. |
Syr Henry |
Da iawn. Rydech chi'n gwneuthur yn gall. Wrth gwrs, wn i ddim pa reswm sentimental oedd yn ych atal chi,─ond coeliwch chi fi, os ydech chi am lwyddo mewn gwleidyddiaeth, rhaid i chi ddysgu gwneuthur heb lawer o luxuries,─atgofion mebyd a phethau felly. |
Mrs. Morris |
Rhaid, mae'n amlwg. |
Syr Henry |
Wel, esgusodwch fi, rydw i'n brysur iawn heno. Gadewch imi 'ch llongyfarch chi, Morris, ar ych penodiad i'r Cabinet─ "Dyrchafiad arall i Gymro!" yntê? Ac yn awr, rydw i'n ddigon parod i gyfadde wrthoch chi y base'ch bil chi wedi rhwygo'r blaid yn ddeuddarn pe buasech chi wedi para i wthio fo. Nos da, Mrs. Morris. |
Yn troi at y drws. Llais y forwyn. Mrs. Morris yn mynd at y drws, ac yn dyfod yn ol a pharsel yn ei llaw. |
|
Mrs. Morris |
Mae'ch ewyrth, Ifan, wedi mynd i rywle a'i bethau hefog o─ond wedi gadael hwn i Jane, ac yn gofyn i chi agor o cyn i Syr Henry fynd. |
Syr Henry |
O, dyddorol iawn! Bomb, tybed? Ynte atgofion mebyd wedi eu pacio yn hwylus er mwyn cael gwared o honyn nhw ar drothwy'r bywyd newydd? |
Ifan mewn distawrwydd yn agor y papur ac yn codi i fyny bâr o esgidiau plentyn, ac hosanau─ei esgidiau a'i hosanu ei hunan─a welsom yn Act I. |
|
Ifan |
(Yn rhoi'i law ar ei wyneb ac yn wylo'n chwerw.) Syr Henry, rydech chi'n iawn─mae fy mebyd i wedi dyfod yn ol, ond bu bron iddo ddyfod yn rhy hwyr. Welwch chi'r esgidiau a'r hosanau yma? Mae rhain wedi eu prynu a gwaed, a fedrai i mo'u gwerthu nhw er mwyn lle yn y Cabinet. (Yn agor y drws.) Nos da, Syr Henry─Y mae'r bil i fynd ymlaen, pa bawn i'n rhwygo'ch pleidiau pydron chi bob un, a phob Cabinet yn Ewrop yn mynd i golledigaeth. (Yn cau y drws. Wrth Mrs. Morris.) Dyna "Ddyrchafiad arall i Gymro," yntê? |
LLEN |