a1, g1
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 1

GWEITHRED I
SWLL I
UFFERN:—Beelzebub yn eistedd ar orsedd malais, a'i brif gynghorwyr—Dialedd, Cenfigen, Cabledd, Dichell, Celwydd, Rhagrith, Haerllugrwydd, Siomedigaeth, a llu o rai eraill, yn ei amgylchynu.

Beelzebub
Tân brwmstan gwyllt, darperwch fflamllyd Gethern,
Mwyhewch ei wrês â holl feginau uffern,
I drochi'r CYMRY yn ei fflamau gwyrddion;
I'w poeni—tyngaf fil-fyrdd o ellyllon!
Pob un a ddaw o'r genedl atgas yma
Eu hyrddio wnaf i lawr i'r dyfnder eitha',
I gael eu rhwygo gan bicellau gwynias,
A seirph a dreigiau tanllyd yn gymdeithas:
Mae enw'r CYMRY bron mor anyoddefol
Gan lîd fy mron, ag enw'r Duw tragwyddol;
Och fi! nad allwn wneud y ddau yn wag-nod,
A threisio llwybr i orsedd fawr y Duwdod:
Ond yn lle hyny, rhwym wrth danllyd gadwen,
Dan gosb yr wyf, yn glythu ar genfigen;
A llygaid byw fy ngelyn Hollalluog
Yn gwylied arnaf gyda thremiant llidiog;
A phob edrychiad sydd yn âeth tragwyddol
Yn creu pangfeydd ar ol pangfeydd dirdynol:
Ond er y cwbl, mi chwarddaf yn ei wyneb,
A meddwaf ar gynddaredd a chasineb;
A holl alluoedd y tywyllwch ŷraf
I frwydro'r CYMRY câs, ei bobl anwylaf,

Siomedigaeth
Ein penaeth uchel! cyfiawn yw dy gwynfan:
Yr ydym bron â cholli cenedl gyfan!
Nid oes ar wyneb daear bobl mor fradus
A'r CYMRY hyn, na neb mor elyniaethus
I dy lywodraeth di; enciliant wrth y miloedd
O'n byddin fawr, i fyddin fach y nefoedd!
A'u heirf newyddion lawiant mor ddeheuig
Ag engyl bron,—nid oes trwy'r byd eu tebyg:
Nid oes un cythraul trwy holl uffern dywyll
Am eiliad allai yn eu gwyneb sefyll,

Rhagrith
Yn wir, cyffelyb yw fy meddwl inau,—
Fy nghynrychiolwyr yn eu mysg y'nt denau;
Nid gwisgo mwgwd maent i dwyllo'r gwirion
A chario brâd i wersyll ein gelynion;
Ond trôant hwy o galon yn ein herbyn,
Ac amddiffyniad Duw sydd yn eu dilyn.
Gwir yw, fod eto nifer o bersoniaid—
Rhai ffyddlon hefyd y'nt yr holl Biwseaid,
A'n ymegnio dros ein teyrnas beunydd
Yn nghanol gwersyll Duw mewn rhith o grefydd:
Fe wnant eu gorau er gorchfygu rhinwedd,
Trwy feithrin anwybodaeth ao ofergoeledd,—
Mewn ffyrdd amrywiol, fel y bydd angenrhaid,
Trwy siamplau teilwng o gymeriad diafliaid:
Fel hyn y gwnant,—arweiniant eu gwrandawyr,
Gan ocheneidio megis gwraig mewn gwewyr,
Oddiwrth y sylwedd at y dyddim gysgod,—
Oddiwrth yr ysbryd at y farwaidd ddefod!
Gan luchio llaid a llwch i'w llygaid gweiniaid,
Rhag i'r goleuni dreiddio idd eu henaid;
A llanwant eu meddyliau gyda rhagfarn
Yn erbyn geiriau y gwirionedd cadarn;
A phorthant hwy â gwynt a drydd yn gorwynt
Pan yrir angau i ymosod arnynt;
Difyrant hwy â swn teganau gweigion
Rhag iddynt flysio y trysorau mawrion
A geir heb rif mewn crefydd ymarferol,—
Sancteiddrwydd moes, ac ysbryd rhydd brawdgarol;
A gellid meddwl wrth eu gwedd ddifrifol
Fod swm eu truth yn genhadwri ddwyfol;
Nes enill rhai i roddi pwy? eu henaid
Ar sylfaen ffugiol o ddychymyg ffyliaid,
Yr hon a'u gollwng, pan fydd raid am dani,
Dros geulan dinystr atom i'r trueni!
Ond hyn sydd dôst,—mae ambell berson eglwys
Y dyddiau hyn, fel angel o Baradwys,
Yn traethu y gwirionedd yn ei burdeb,
Heb ofni'r gosb am dori y cytundeb
A ni a'r esgob yn eu hurddiad wnaethant;
Yn lle yr eglwys, Iesu Grist bregethant,
Ac ymegniant gyda'r Ymneillduwyr,
Ein hen elynion—melldigedig fradwyr,
I ddwyn y byd o dan lywodraeth Iesu,
Ac nid oes Pâb na Phiwsi all eu llethu;
Mae hyn yn erchyll! troi yr eglwys wladol
Yn erbyn uffern,—eglwys wnaeth y diafol,
I gadw'r byd trwy grefydd yn ei feddiant,
Ac hyd yn hyn rhyfeddol fu eì llwyddiant!
Ond nid oes mwyach fawr ymddiried iddi
Tra bydd y dynion hyn o'i mewn yn gweini;
Ac heblaw hyny, nid ynt y Piwseaid
Yn gallu twyllo ond ychydig ffyliaid,
Pa rai nad ydyw nemawr o wahaniaeth
I bwy y rhoddant eu diles wasanaeth;
Rywfodd, fe ŵyr y Cymry eu cymeriad—
Canfyddant hwy y blaidd yn nghroen y ddafad;
A rhoddant rybudd trwy eu hudgyrn allan
Fod blaidd rhithiedig wedi d'od i'r gorlan;
A'r wŷn a'r defaid ffoant oddiwrtho
Heb adael dim ond muriau moelion iddo;
Ac wedi hyn bydd pawb a'u llygaid arno,
A'r holl fugeiliaid ffoniog yn ei wylio,
Ac nid all symud, druan bach o hono,
Na rêd rhyw gòryn yn y fan i'w guro;
Ac er gwastraffu'i ddawn, ni fedr ddarbwyllo
Ond ambell hurtyn i ymddiried ynddo;
Yn wir, gresynus ydyw gwedd y truan,
(Caethiwed tôst i flaidd yw byw mewn corlan,)
Yn edrych ar yr wŷn o'i gylch yn flysiog,
A'r dwr yn rhedeg rhwng ei ddanedd miniog
Wrth flysio'u cnawd yn wledd i'w gylla gwangcus,
Ac yntau'n methu cael y tamaid blasus:
Ond heb lefaru mwy yn gymhariaethol
Pe allaf ddweud, heb arfer iaith ormodol,
Y gwel y Cymry ar eu prês dalcenau
Sicr nôd y bwystfil, er yr holl ystrywiau
Yn ddoeth arferant i'w ddirgelu rhagddynt,
Mewn haner munud, fel pe byddai ganddynt
Olygon Duw i ganfod pob dirgelwch,—
Neu fel pe b'ai y nôd mewn du dywyllwch
Yn argraffedig gyda heuliau mawrion:
Nid wn am neb mor graff yn mysg marwolion,
Fe sawriant uffern ar eu gwisg yn union;
Ac onid allwn gael rhyw ddyfais newydd
Y Dalaeth hon a gollwn yn dragywydd.

Cenfigen
I'r pen nid aethost, ellyll aml-wynebog,
Nid oedd dy araeth ddim ond truth hanerog;
Paham na ddywedasit am y driniaeth
A roddir iddynt trwy y dywysogaeth?
Gwnaf hyny yn dy le, o gariad atat,
Dangosaf y gwaradwydd deflir arnat:
Mae person eglwys, Piwsi yn enwedig,
Trwy Gymru oll yn berson gwrthodedig!
Y bobl nid ânt, er aur na dim, i'w wrando,
Oblegid hyn, mae yntau bron yn wallgo'!
Mae yn watwargerdd yn ngeneuau plantos,
Fel cî cynddeiriog mae yn cael ei anos;
Trwy ryw gamsyniad mawr ac anfaddeuol,
Mae wedi myned yn ddiareb hollol:—
"Mor ddwl â pherson," —"cynddrwg ag offeiriad,"
A glywir beunydd yn y tŷ a'r farchnad!
Hên wragedd tlodion, er mor fawr eu hangen,
A fetha hudo gyda pheisiau gwlanen;
Hên wyr methedig, gwan, a'u cylla'n weigion,
Ni fedr ddarbwyllo 'chwaith â'i dorthau gwynion;
A'r plantos carpiog, gyda dillad newydd,
A fetha ddenu, er mor gryf ei awydd;
Yr unig foddion sydd yn llwyddo dipyn
Yw cinio blasus unwaith yn y flwyddyn;
A swper weithiau, fel mae rhaid yn galw,
Pan gyffry'r gwirod yn y gwydrau gloew!
Mae hyn yn denu rhai, ond rhai anghymwys
I feithrin rhagrith yn y byd na'r eglwys;
Ond ni waeth tewi,—nid all doniau ellyll
Ddarlunio gwarth mor fawr yn ddigon erchyll!

Beelzebub
Melldithion uffern, gwlawiwch yn echrydus
Gawodydd eirias ar y Cymry bradus!
Gwarth, ing, a dinystr, yn eu mysg ymdaenwch,
Phïolau gwae ar ben pob un tywalltwch!
Nid oes un genedl yn y byd daearol
Mor wrthryfelgar ì lywodraeth diafol!
Er's llawer canrif ofn sibrydai wrthyf
Y rhoddent i mi archoll gwaeth na chleddyf,
Ryw ddydd i dd'od, nes teimlai uffern drwyddi,
Ac Och! mae'r archoll wedi cael ei roddi,
Nes mae fy mron, gan loesion, yn gynddeiriog,
A'm llid yn arllwys allan fflamau fforchog:
Mae genyf ddigon o gynddaredd meddw
Y munud hwn, i wneud y byd yn ulw,—
I ddamnio enaid pob Cymraes a Chymro,
A chreu ellyllon fil-fyrdd i'w poenydio:
O! fel y dawnsiwn ar eu penau celyd—
Dyrchafwn grechwen hyd at borth y gwynfyd,
Ac arddangoswn hwynt yn ngwydd y Duwdod
Yn arwydd-nôd o fuddugoliaeth pechod!
A gwnawn i uffern ganu cân cynddaredd,
Wylofain, gruddfan, och, a rhingcian danedd;
Ond hyn nid allaf, —Duw sydd yn fy ngwylio,
A'i olwg beunydd trwy fy mron yn treiddio;
Yr eiliad hwn, fe wêl fy nrwg amcanion—
Fe glyw fy iaith, ac enfyn ei angylion
I sefyll ar fy ffordd fel cedyrn dduwiau,
Heb neb a'u beiddia trwy fy holl daleithiau:
Pe suddo wnawn i'r dwfn anfesuradwy
Ac uwch fy mhen dywyllwch anhreiddiadwy,
Fe fyddwn yno hefyd yn ei wyddfod,
A'i bresenoldeb rüai fy nghydwybod;
Pe na b'ai gair o'm genau yn diferu,
Fy meddwl distaw glywai yn llefaru
Yn gwbl mor eglur â fy mron fy hunan—
Fel pe llefarwn â tharanau allan;
Ac felly darganfyddai fy nghynlluniau
A gwnai yn llawer tynach fy nghadwynau
Er hyn i gyd, mi weithiaf yn ei erbyn—
Cynlluniau dynaf gyda bron ddiddychryn:
Dichellion fyrdd grynhöant yn fy meddwl—
Rhaid i mi ddechrau..


Adsain ysgrechfeydd a chyffro.

Beelzebub
Ust! glywch chwi y gwaeddi?
Mae talaeth Rhagrith mewn cyffröad trwyddi!
Dialedd Chwim, fy hên negesydd ffyddlon,
Yn gynt na mellten disgyn i'r gwaelodion
O gylch i gylch, trwy ganol fflamau myglyd,
A myn y rheswm am y twrf disyfyd.


Dialedd yn melltenu ymaith.

Beelzebub
Yn uwch, ac uwch, fe gyfyd eu 'sgrechiadau,
O hyd fe adymdorant íel taranau,
Nes yw holl uffern gan y twrf yn crynu,
A phawb o'i mewn gan ofnau yn gruddfanu;
Yr wyf yn methu yn fy myw a dirnad
Beth allai fod yr achos o'r cyffrôad;
Feallai mai gwrthryfel newydd ydyw,
I wneud gwerinaeth o unbenaeth distryw;
Ond dichon nad yw ddim ond ffrwyth anghydfod
Rhwng y penaethiaid a'u dilynwyr parod,—
Neu ynte frwydr gynddeiriog rhwng ellyllon
Y dalaeth isel hon a'r damnedigion!
Ond dacw'm cenad ar ei edyn pygddu
Fel mellten drwy y caddug yn dynesu,
A'r hanes oll yn drefnus ar eì dafod—

Dialedd
Dialedd yn dyfod i mewn.

Beelzebub
Ha! dyma fe o flaen ei feistr yn barod:
Dialedd, adrodd—adrodd mewn amrantiad
Yr achos, maint, a natur y cyffröad!

Dialedd
Ha, ha, ha! mae chwerthin bron fy hollti,
Erioed o'r blaen ni welais fath drueni:
Wrth i mi nesu tua maes y cyffro,
Ac ysgrechfeydd taranllyd bron fy moedro,
Mi sefais eiliad wedi haner ofni,
Gan dybied ddarfod i mi gyfeiliorni
A chroesi'r terfyn yn fy anwybodaeth
I ryw fyd arall, gwaeth uwchlaw cymhariaeth.
Na'r dalaeth waethaf yn dy ymerodraeth;
Mi welwn o fy mlaen fil-fyrdd o ffurfiau
Hagr, erch, ofnadwy, o bob math o liwiau—
Yn gwau yn wylltiog trwy a thraws eu gilydd,
A chynddeiriogrwydd oedd yn eu lleferydd!
Eirth hagr a llewod yn eu plith mi welwn,.
Seirph a gwiberod hefyd ddarganfyddwn,
Ac angenfilod anferth, filoedd lawer,
Nad oes un enw ddengys eu herchyllder;
A chreaduriaid, tebyg iawn i ddynion,
A'u danedd miniog dynent yn ysgyrion
Sarph danllyd fawr, ac iddi gant o benau,
A'i chorph i gyd yn orlawn o golynau;
O gylch un welwn wedi tỳn ymdorchi,
Ac wrth ei bodd edrychai yn ei boeni;
Ei phenau erch ysgydwai yn ei wyneb,
A'i llygaid aml yn gochion greulondeb;
Ac wedi edrych yn fygythiol arno,
A'r truan caeth yn wae a dychryn trwyddo,
Ei frathu wnai â'i danedd oll ar unwaith,
Nes gwaeddai allan gan bangfeydd anobaith;
Ac felly gwnai dro ar ol tro ei boeni,
Nes ydoedd ar eì loesion wedi meddwi;
Yn ymyl hwn, mi welwn adyn arall
Yn cael ei boeni am ei fywyd angall,—
Ellyllon lu a'i gwanent â'u bidogau,
Ac ar ei fynwes dawnsient i'w ruddfanau;
Ei daflu wnaent â'u gwaewffyn i fynu,
A dalient ef â'u blaenau wedi hyny;
I'w enau bwrient gorn o hylif eirias,
A lluchient ef drachefn i ffwrnes wynias;
Nes oedd ei waedd, a gwaedd llu mawr ychwaneg,
I'w clywed fel taranau fyrdd ar osteg;
Annhrefn eisteddai ar eì orsedd sitrach
A gwnai bob dim o'i gylch yn strim-stram-strellach;
Ellyllon, angenfilod, damnedigion,
Mwg taglyd poeth, a storm o danllyd wreichion,
Cleddyfau miniog, bolltau a bwledi,
A llawer mwy o offerynau cyni
Yn mhob cyfeiriad welwn yn chwyrnellu,
Ac aflywodraeth yn eu llywodraethu;
Nes haner meddwl, fel y d'wedais eisioes,
Fy mod mewn byd na welswn yn fy einioes:
Ond wedi craffu yn fwy manwl arnynt,
Fe adnabuais ambell un o honynt;
Ac yn eu canol safwn mewn amrantiad:

Beelzebub
Yr achos, maint, a natur y cyffröad,
Ac nid dy daith, a geisiais genyt adrodd,—
Gad wybod pwy o'm deiliaid a'i hachosodd?

Dialedd
Neb yn neillduol: Piwsi bach o Gymro
Oedd newydd ddyfod dan ruddfanu yno,
A'r holl gythreuliaid yn y fan gyffröent
Ac ar yr adyn truan ymosodent:
O! fel y rhuthrent ar eu rhwym ysglyfaeth;
O! fel y gwaeddai yntau dan ei driniaeth;
Arteithient ef yn mhob rhyw ddull a allent,
Gan dyngu i dy enw na orphwysent
Nes iddo brofi eithaf eu cynddaredd
Ac yfed gwaddod cwpan ei ddialedd.

Beelzebub
Rhagorol iawn.

Pawb
Rhagorol iawn.

Beelzebub
Ardderchog!
Yn wir teilyngant fy nghanmòliaeth wresog:
Ac er mwyn talu iddo gyflog ddigon,
Ewch chwithau, hefyd, iy nghynghorwyr ffyddlon,
I lawr yn union a mwyhewch y cyffro,
A rhoddwch groesaw heb ei ail i'r Cymro!

Pawb
Awn, awn.


Melltenant ymaith dan ganu.

Pawb
Poenau dirdynol,
Gwaeau tragwyddol,
Brysiwch, dilynwch ni!
Melldith a dychryn
Clywch ein gorchymyn
Trefnwch beirianau cri.

Llîd a chynddaredd,
Gwarth a dialedd,
Gwenwyn a chwerwedd chwith;
Gwyniau a chynen,
Dinystr anorphen,
Deuwch, brysiwn i'w plith.

Stormydd ysgythrol,
Tân aniffoddol,
Gwylltiwn, rhoddwn yn rhydd:
Awn vw gynddeiriog,
Poenwn yr euog
Gyda phob arf y sydd.

Beelzebub
(Wrtho ei hun.)
Daeth i fy meddwl rhyw feddylddrych gynau
A allai fod yn ddedwydd ei effeithiau;
Pe byddai modd ei roddi mewn gweithrediad
Nid oes fawr os beth fyddai ei ganlyniad:
Ond rhwystrau fyrdd sydd i gwblhau fy amcan,
Mae deddfau Duw mor sicr âg ef ei hunan:
Pob deddf o'i eiddo sydd yn hollalluog
Ac uffern oll ni ddichon byth eu hysgog;
Fe fyddai ceisio myned yn eu herbyn,
A thori trwyddynt, i gwblhau fy nghynllun,
Mor anobeithiol â'r gwrthryfel cyntaf
I dreisio gorsedd gadarn y Goruchaf;
Ei holl ewyllys a'i fwriadau dwyfol
Fel Crewr pawb a Llywydd pen-arglwyddol
A fỳn gwblhau, er gwaethaf fy ngelyniaeth,
Cadarnach y'nt na seiliau'r greadigaeth!
A'r neb mewn rhyfyg ar eu ffordd a safant
A fethrir byth dan draed anfeidrol soriant,
Fe allwn ddwyn byd newydd i fodolaeth
A dim ond gair; dileu y greadigaeth
A Duw ei hun, mor hawdd ag atal iota
O arfaeth ben-arglwyddol y Jehofa:
Ond er nad allaf drwy fy ngallu lwyddo,
Trwy ddichell cyfrwys mynaf ei effeithio;
Cyflawnais fwy na hyn dan anfanteision
Nad oes eu tebyg ar fy ffordd yr awrhon:
Pan ydoedd dyn mor lân âg engyl gwynion,
Heb duedd ddrwg na llygredd yn ei galon,
A Duw ag ef yn cyfeillachu beunydd—
Gan daflu drosto gysgod ei adenydd,
Mi weithiais ffordd i'w galon yn llwyddianus
A gwnaethum ef yn adyn pechadurus,—
Yn elyn Duw—yn fradwr fel fy hunan,
A ffurfiais ef yn ol fy nelw aflan;
Mi dynais ddagrau, do, o lygaid engyl,
Fath lwyddiant mawr nid oeddwn byth yn dysgwyl;
Fe ddysgais i'r Cerubiaid ocheneidio
Ac i'r Seraphiaid uwch fy mrâd i wylo;
Mi deflais brudd-der dros drigfanau gwynfyd
A dwysder sỳn ar wyneb y cyfanfyd!
Ac er i'r dyn, trwy allu mawr trugaredd,
Gael ei ryddhau o rwymau ei anwiredd,
Mi gefais fuddugoliaeth gwerth ei chofio
A'i chanlyniadau sydd yn aros eto.

Rhaid i mi gyfaddasu fy nghynlluniau
I ateb natur dyn a'i amgylchiadau;
Oblegid nid yw Duw yn llywodraethu
Y teulu dynol gyda deddfau gallu;
Pe felly gwnai, nid allwn yn oes oesoedd
Gwblhau fy amcan, mwy na chloi y Nefoedd;
Ond gyda deddfau cariad, —deddfau denu,
Mae'n dirio'r byd —a'r dyn yn ymresymu;
Mae yn ei lwytho â daioni beunydd
Gan daflu drosto gysgod ei adenydd,—
Gan ddangos ar un llaw y gwynfyd bythol
Ac ar y llall, echryslawn wae tragwyddol!
Gan adael iddo ddewis, ynte gwrthod,
Anfeidrol olud cariad rhâd y Duwdod:
Yn awr, mae yma le i minau weithio,
A mantais fawr sydd genyf hefyd arno;
Ei galon ddrwg sydd wrthyf yn ymlynu
Ac yn fy llwybrau mae yn ymyfrydu;
I mi mae pawb yn ddeiliaid wrth naturiaeth,
Trwy feiau fyrdd arddelant fy llywodraeth;
Ac oni b'ai fod Duw â'i ras yn tynu,
Ni welid un o honynt yn fy ngwadu;
Ond pwy a ŵyr na lwyddaf finau eto
I ddwyn rhyw luoedd lawer oddi arno?

Ond och! och fi! mae llygad yr Anfeidrol
Yn tremio arnaf nes mae poen dirdynol
Yn cynddeiriogi gwae fy holl deimladau,
Ac yn lle pleser, ing ddaw o'm cynlluniau:
Rhaid i mi fyned, gan fy mhoen, am enyd
I lawr i orphwys ar fy ngwely tanllyd.
(Diflana.)

a1, g1