a1

Y Ddraenen Wen (1922)

Robert Griffith Berry

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1


Ystafell gysurus mewn Hotel â French window yn wynebu'r edrychwyr yn agor i'r balconi, a drws ar y dde. SYR TOMOS ar y balconi yn weledig i'r edrychwyry mae'n annerch yr etholwyr y tuallan ac yn diolch iddynt am ethol HARRI MEREDITH. Y SYR yw'r hen aelod a fu dros y rhanbarth am chwarter canrif, ond sydd erbyn hyn wedi ymddiswyddo. Y mae bywyd wedi ei galedu, ond edrychir ar MEREDITH fel un â digon o dalent ganddo i adael ei farc ar y wlad ond iddo chware ei gardiau'n ddeheuig. Yn gwrando wrth y ffenestr y mae OLIFER, aelod Seneddol Cymreig sy'n ffefryn mewn cylchoedd politicaidd, a'i wraig KITTY; NAN, gwraig MEREDITH, yn llawn uchelgais. Hefyd MR JONES-ROBERTS, gŵr mawr yn yr etholaeth, ond, fel y greadigaeth faterol (os gwir y dybiaeth), wedi codi o ddim; a MRS JONES-ROBERTS, ei wraig, o'r un dim. Y mae'r ddau wedi anghofio'r shop y gwnaethant eu harian ynddi, o leiaf nid yw ond atgof poenus, ond erys y shop o hyd yng nghof eu gelynion, ac nid yw eu cyfeillion chwaith yn anghofus ohoni. Wrth odre'r cwmni gwelir MABLI (oddeutu pymtheg oed), a MYRDDIN HUWS yn ysgrifennu wrth fwrdd ar ochr chwith yr ystafell─gŵr sydd â'i law a'i ddylanwad yn drwm ar y Wasg a'r blaid y perthyn iddi.

Syr Tomos

Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? Am y tro diweddaf, three cheers iddo ac hir oes i wasnaethu 'i genedl.



Ar ôl y banllefain y tuallan a'r tufewn daw'r cwmni i'r ystafell. Eistedd OLIFER wrth yr un bwrdd a MYRDDIN a deil y ddau i ysgrifennu, ac â NAN a MABLI a KITTY allan.

Mr Jones-Roberts

(Staccato yn ei ddull o siarad a defnydd mynych o'r spectol aur i gyfleu ei feddwl.) Dyma goncwest nad anghofia'r blaid mohoni'n hir, Mr. Meredith─yn─hir; ac os ca i ddweyd─a'i ddweyd yn ostyngedig,─rwy'n cymryd tipyn o'r clod am dani.

Mrs Jones-Roberts

Nid yw wedi cysgu─noson o gysgu, wyddoch─ers tair wsnos.

Syr Tomos

(Wrth weld Harri'n araf yn cyrchu'r sebon meddal.) Harri!─ {Yn gwrtais wrth MR. a #Mrs Jones-Roberts .} Mi faddeuwch i mi 'ch dau, ond Harri fydda i'n ei alw er yn hogyn.

Mrs Jones-Roberts

(Yn rasol.) Wrth gwrs, fe allwn fforddio bod yn fwy homely mewn cwmpeini bach fel hyn nag ymysg dieithriaid.

Syr Tomos

(Ei glust yn merwino ond ei dafod yn llyfn.) Harri, bu Mr. a Mrs. Jones-Roberts yn gefn i mi ac i'r blaid drwy'r blynyddoedd, a syn i mi (fel cadno cyfrwys) na fasa enw Mr. Jones-Roberts ar yr Honours-list ers llawer dydd.

Mrs Jones-Roberts

(Yn ostyngedig.) Nid stalwarts y blaid, Mr. Meredith, sy'n cael eu cydnabod bob amser.

Harri

(Yn drwsgl.) Wel, wir, fûm i 'rioed yn meddwl dim o'r honours yma.

Mrs Jones-Roberts

Oh, you musn't say that, Mr. Meredith; "teilwng i'r gweithiwr"─rych yn cofio'r adnod.

Syr Tomos

(Yn ddifrif.) Dyna adnod i glensio'r ddadl.

Mr Jones-Roberts

Fel un y mae llwyddiant y blaid yn agos at ei galon─agos iawn os ca i ddweyd─(dan ysgwyd ei ben) wn i ddim a yw'r arweinwyr yn Llundain yn cofio hynny─ond mi fydda i wrth eich cefn tan y diwedd, Mr. Meredith. A phwy a ŵyr (fel un yn disgwyl y fendith)─ Wel, dyna fo, yntê?

Mrs Jones-Roberts

Rwan, Mrs. Meredith─ (Yn edrych o'i chylch a methu a'i gweld.) Petasa Mrs. Meredith yma, mi faswn yn dweyd wrthi─rwy'n un o'r Veterans bellach─

Syr Tomos

(Yn rhagrithiol.) Veteran! mewn dysg a profiad efallai, ond rydych yn edrych yn iengach heddiw─

Mrs Jones-Roberts

(Yn llyncu'r cwbl.) O you flatterer─ie, mi faswn yn dweyd wrth Mrs. Meredith, Make it your duty to get Mr. Meredith to attend all the functions of the party in this Constituency. (Yn ddifrifol.) O, mae hynny'n bwysig.

Mr Jones-Roberts

Mae Mrs. Jones-Roberts─os gweddus i ddyn siarad am ei wraig─

Syr Tomos

(Yn wlithog.) Pwy ond y gŵr all siarad am wraig ei fynwes?

Mr Jones-Roberts

(Y spectol yn gweithio.) Exactly: mae Mrs. Jones-Roberts yn deall y ropes. Mae'n bwysig i aelod seneddol atendio'r functions. Keep in the eye of the public, achos mae etholwyr weithiau'n anghofio hyd yn oed enw'r aelod.

Syr Tomos

(Yn neidio i'r adwy wrth weld Harri mor fud gyda chelwydd noeth.) Os dwedodd Harri unwaith y tair wsnos diweddaf mi ddwedodd ganwaith am yr help fuoch chwi'ch dau iddo. "Mae tact Mrs. Jones-Roberts," medde fo ddoe, "yn amhrisiadwy".

Harri

(Yn dwp.) Hold on, Syr Tomos, ddwedais i mo'r fath beth.

Syr Tomos

(Yn ddigon dig i'w ladd yn y fan, ond yn gwenu.) Harri, tasa gen i ddarn o gortyn yn spâr mi faswn yn gofyn iti fel ffafr bersonol i grogi dy hun rhag blaen. (Yn troi at MYRDDIN.) Myrddin mi glywsoch chi─

Myrddin

(Yn rhoi help llaw i'r celwydd.) Do, nen tad: coeliwch fi, Mrs. Jones-Roberts, mae parch Mr. Meredith at ŵr a gwraig yr Hazels yn ddi-ben-draw ond na fyn o mo'i ganmol yn ei wyneb.

Mrs Jones-Roberts

(Yn frenhinol.) Rwan, Mr. Meredith─pan yn galw y yn Sir─a gobeithio y bydd hynny'n aml─for the good old flag─cofiwch fod ty agored yn yr Hazels, a chofiwch ddod ag M.P. neu ddau hefo chwi─(gyda gwên) yn enwedig y stars, yntê?

Harri

(Yn anesmwyth.) Mi gadwa hynny mewn cof. (Daw MABLI a cherdyn iddo a gwêl yntau ddihangfa.) Gwelaf fod f'eisiau islaw.

Mrs Jones-Roberts

Good-bye, a chofiwch fod yr Hazels yn agored bob amser. (Y ddau'n siglo llaw ag ef.)

Mr Jones-Roberts

(Yn edrych o'i gylch yn bryderus.) Fe allwn drystio'n gilydd yma─ond─ydach chi ddim yn teimlo, Syr Tomos, fod rhywbeth yn ein haelod newydd─rhywbeth─ (Y spectol yn awgrymu'r gweddill.)

Mrs Jones-Roberts

Ymhle y buo fo yn y coleg─Oxford neu Cambridge?

Syr Tomos

Prifysgol Cymru.

Mrs Jones-Roberts

(Wrth y gŵr.) I told you so.

Mr Jones-Roberts

(Yn ysgwyd ei ben mewn edmygedd.) Mae hi'n graff─craff, Syr Tomos─

Mrs Jones-Roberts

Mi wyddwn y tro cyntaf i mi siarad â Mr. Meredith fod rhywbeth─yn eisiau.

Mr Jones-Roberts

Do, mi ddwedodd y tro cyntaf fod rhywbeth─ (Yn troi'r spectol ac wedyn yn gyfrinachol.) Dim o touch Oxford a Cambridge.

Mrs Jones-Roberts

Wedi'r cwbl, Syr Tomos, 'dyw Prifysgol Cymru ddim yn rhoi─it doesn't give that something, you know.

Mr Jones-Roberts

Atmosphere, Syr Tomos, atmosphere. Dyna pam rym ni sy'n medru fforddio, wyddoch, yn gyrru'n bechgyn i Loegr─atmosphere.

Syr Tomos

(Diniwed fel y sarff.) Ie, prifysgol i blant y werin─

Mrs Jones-Roberts

Cofiwch nid ym yn dweyd dim am y werin.

Syr Tomos

(Yn ddramatig.) Na, na wrth gwrs─mae'u fôts nhw─

Mr Jones-Roberts

(Staccato.) Dyna'r point. Wel, good-bye, Syr Tomos─cymerwch Mr. Meredith mewn llaw a rhowch beth o'r── (Tro i'r spectol.)

Syr Tomos

(Yn ddifrifol.) Peth o'r atmosphere.

Mr Jones-Roberts

Perswadiwch o i sôn llai am yr hobis yma sydd ganddo─international fellowshippolitical morality, a mwy am motos y blaid─

Syr Tomos

(Yn ffug-frwdfrydig.) Sydd wedi'u cerfio ar ein calon.

Mr Jones-Roberts

Mwy o chware hefyd ar y tant cenedlaethol.

Syr Tomos

(Yn ffug-gyffrous.) Ie, oes y byd i'r iaith Gymraeg!

Mrs Jones-Roberts

Good-bye, Syr Tomos. Mi'ch gwelwn chi'ch dau heno.

Myrddin

Mi gofiwn; mae Olifer a finnau fel arfer yn gwadnu a sodlu sgidiau'r blaid.

Mrs Jones-Roberts

Peidiwch ag anghofio'r Hazelsnot later than ten!



Y ddau yn mynd, a'r SYR yn curo'r awyr â'i gadach poced yn enbyd.}

Myrddin

Be sy'n bod?

Syr Tomos

Atmosphereatmosphere. (Dal i guro'r awyr.) Rhaid cael gwared o'r ddau atmosphere yna.

Olifer

Mae Myrddin a finnau'n gorfod cysgu yno heno.

Syr Tomos

Fasa waeth gen i gysgu ar lwyn o gelyn, ond myn brain! 'does dim tact yn Harri.

Olifer

Fasa fo byth ar ben y pôl onibae am danom ni'n tri.

Myrddin

Wneiff o ddim ohoni yn y senedd efo'i lol am frawdoliaeth y cenhedloedd─political morality fy nain: chwi sy'n gyfrifol am i ni ei ddewis.

Syr Tomos

Hogyn braf ydyw er hynny─thyfith o byth yn ddyn call fel ni'n tri.

Harri

(Yn dod i mewn.) A yw'r ddau yna wedi mynd?

Syr Tomos

(Yn deimladwy.) Roeddwn yn gobeithio dy fod wedi crogi dy hun.

Myrddin

Mi faddeuwch i ni fel hen ymladdwyr politicaidd, ond rhaid i chwi ddysgu; dioddef ffyliaid, Meredith. Rhai fel y ddau yna sydd wrth yr ugeiniau ymhob plaid.

Harri

(Yn danllyd.) Mae snobs Cymru yma'n ddiweddar yn annioddefol─rhyw daclau o dwll tan y grât yn dynwared stumiau snobs o Saeson.

Syr Tomos

(Yn dringar.) Sebon, Harri, rhaid cael sebon ymhob cylch.

Harri

Rwy'n ceisio bod o ddifri efo pawb.

Syr Tomos

Nid bod o ddifri sy'n bwysig ond rhoi'r argraff dy fod o ddifri. Rwyf fi, er enghraifft, wedi palu celwyddau am chwarter canrif, ond rwy'n ddiolchgar na ches i rioed mo 'nal.

Myrddin

(Fel clochydd.) "Yn awr y gollyngi dy was."

Harri

Welwch chi, Syr Tomos, fe welodd rhywrai drwy'ch sebon a'ch── (Yn petruso.)

Syr Tomos

(Yn gynorthwyol.) A'ch celwyddau. Do, efallai; ond mi lwyddais i gamarwain y mwyafrif─drwy help Myrddin a'r Wasg, a diolch am y Wasg!─hen sefydliad bendigedig yw'r Wasg i amddiffyn celwydd bach gwan amddifad. (Neb yn ateb.) A dyweded yr holl newyddiadurwyr "Amen."

Myrddin

(Yn casglu'i bapurau.) Mi ddyffeia i Harri Meredith na neb arall i ddweyd y gwir i gyd; fe âi'r senedd a phopeth yn dipiau mewn mis.

Harri

(Yn wresog.) Mi fydd yn anodd iawn f'argyhoeddi i fod yn rhaid dweyd anwiredd i helpu'r gwir hyd yn oed mewn politics.

Syr Tomos

(Yn ffug-bryderus.) Harri, Harri, does dim shâp politisian ar eiriau fel yna. Cymer gyngor gan wŷr o brofiad fel ni. Rhyw fath o lastig yw gwirionedd mewn politics─mi elli ei stretsio, wyddost. (Yn dynwared yr oruchwyliaeth.)

Mrs Oliver

(Yn edrych drwy'r drws.) Olifer, rwy'n mynd i'r stesion efo Nan i gyfarfod â mam Meredith,

Syr Tomos

Mi fydd yn drêt i'r hen dre fach hyll yma weld dwy mor hardd.

Mrs Oliver

Nid bob dydd mae hi'n gweld dwy wraig i M.P.

Syr Tomos

Steady on! dwy wraig i ddau M.P.─chaiff M.P. ddim ond un wraig ar unwaith, er gofid i rai o'r cnafon.

Mrs Oliver

Chawsoch chi'r un.

Syr Tomos

Wrong eto, chymerais i'r un, roedd digon i'w cael.



MRS. OLIFER yn mynd.

Myrddin

Rwan Meredith─sylwn ni ddim ar goegni Syr Tomos, ond yn sicr i chi y mae llawer gwir yn well o'i gelu ac mi welwch hynny'n fuan ym myd politics.

Harri

(Yn watwarus braidd.) Felly wir.

Myrddin

Yng nghanol berw politics y mae pob diwygiwr penboeth naill ai'n cael ei rewi allan o'r blaid neu ynteu'n troi'n bolitisian doeth.

Harri

(Yn watwarus.) "Call" yw'r gair goreu─politisian call.

Olifer

(Yn gorffen wrth y bwrdd a dod ymlaen.) Beth yw'r gwahaniaeth?

Harri

(Yn egniol.) Rôg cyfrwys, politisian call, diwygiwr doeth: cyfrwys i uffern, call i'ch oes, a doeth i'r oesoedd.

Olifer

Call neu ddoeth, 'dall neb roi'r un cam ymlaen mewn busnes na pholitics heb gompromeisio rhyw gymaint.

Harri

(Yn danllyd.) Compromeisio─compromeisio, beth yn syml yw hynny?

Syr Tomos

Yn syml dyna yw compromeisio─titotal sy'n cashau ginger-beer ond â blys cwrw arno yn torri'r ddadl drwy gymysgu'r ddau a gwneud yr hyn elwir yn shandigaff, a shandigaff o gelwydd a gwir yn gymysg yw busnes a pholitics y byd a'r oesoedd, a dyna fydd hi byth.'

Mabli

(O'r drws.) Nhad, dowch yma am funud.

Harri

(Yn codi i fynd.) Pan oeddwn i'n hogyn yn y ffair mi wariais lawer ceiniog ar rywbeth elwid yn "Try your strength." Roedd rhyw baladr o ddyn pren at faint Syr Tomos yma, a'r pwynt oedd ei daro yn rhywle yn ei ganol (gan ddangos y smotyn ar gorff y SYR) ac wedyn roedd yna fath o gloc yn uwch i fyny ar frest y dyn pren fan yma (ar gorff y SYR o hyd) yn mesur nerth yr ergyd: thrawais i rioed rownd y cloc ond choelia í byth na fedrwn i heddiw. (Exit a'r tri am ennyd yn ddistaw..)

Myrddin

(Dan chwerthin yn goeglyd.) Dyna'r Hercules sy'n mynd i garthu stablau busnes a pholitics─Samson Cristnogol yr ugeinfed ganrif.

Syr Tomos

(Yn ddiniwed iawn.) Ryda ni i gyd yn Gristnogion, ond y drwg ydi fod Harri o ddifri gyda hi.

Myrddin

Gwawdiwch ymlaen, ond beth yw Meredith well o fyw bywyd yr Apostolion yn yr ugeinfed ganrif?

Syr Tomos

Dim o gwbl, ond myn einioes Pharo, mae'n drêt gweld rhywun yn ddigon o ffŵl i wneud y cynnig pan mae pawb ar ôl y torthau a'r pysgod ac yn barod i werthu eu nain am daid rhywun arall.

Myrddin

Hylo, a yw Syr Tomos o fewn ychydig─

Syr Tomos

(Yn esmwyth iawn.) Na, na, Cristion o deip yr ugeinfed ganrif wyf fi, achos mae rhaff go hir i rai felly. Wir ddyn byw, fe all paganiaid fel ni'n tri fod yn Gristnogion heddiw drwy drugaredd, ond fod rhyw hurtyn o ddyn fel Harri yn anesmwytho tipyn ar ddaliadau cyfforddus dynion diwiol fel ni.

Olifer

(Yn ddig.) Yr ydach chi'n cymryd yn ganiataol fod yn rhaid i ddyn werthu'i gydwybod os am lwyddo fel masnachwr neu bolitisian.

Syr Tomos

Sut yr oedd yr hen chware gynt? "Fedri di fynd i'r ffair i werthu wya heb ddweyd ïe?"" "Medra." "Dros y bont neu drwy'r caea," ac ymlaen fel yna, a'r gamp oedd peidio dweyd ïe, ond dweyd ïe yr oeddym bob cynnig mewn ffordd rownd-abowt.

Olifer

Wel?

Syr Tomos

Chwarter canrif yn ôl euthum i'r Senedd yn benderfynol o beidio dweyd ïe wrth gelwydd a thwyll, ond cyn hir gwelais fod yn rhaid í mi ddweyd celwydd diplomatig, a chan mai brawd tagu yw mygu mi euthum ymlaen o'r celwydd diplomatig at y celwydd noeth─does dim trwch papur sidan rhyngddynt.

Myrddin

Rhywbeth tebyg fydd profiad Meredith, ond mi ymgynghorwn â'r oracl. (Yn tynnu darn arian allan.) Ôs daw hwn i lawr yn King ddwywaith, mae Meredith ar ei ffordd i fyny; os na, i lawr y daw o. (Yn tosio'r darn deirgwaith gan ddweyd ─"King─Brits─Brits.") Dyna'i ddyfodol o wedi'i setlo─i lawr y daw o.

Syr Tomos

(Yn ffug-bryderus.) Be wyddo ni, dri dyn diwiol, nad oes gan Harri ryw syniad mai mynd i fyny yw dod i lawr?

Myrddin

(Yn frawdol.) Mae'r gwres wedi codi i'ch pen, Syr Tomos: rhowch eich traed mewn dŵr poeth a mwstard cyn mynd i'r gwely a dôs dda o chwŷs. Wel rwan, Olifer, mi awn. (Y ddau'n codi i fynd, a HARRI yn dod i mewn..)

Harri

Ydach chi'n mynd?

Myrddin

Rhaid mynd rwan. Lwc dda i chi, a chyn belled ag y mae a fynno fi â'r Wasg fe ellwch ddibynnu arnaf ond (rhwng difrif a chware ond mwy o'r difrif) i chwi fodloni gweithio yn yr un tresi a'r blaid. Bûm yn ffrind go lew i'ch rhagflaenydd (gan nodio'i ben ar y SYR).

Syr Tomos

(Yn ffug-frwdfrydig.) Ffrind! Do. Rargian fawr, fasa f'enw i ddim yn perarogli fel y mae drwy Gymru onibae i chi drwsio f'areithiau a rhoi ambell baragraff bach diwiol fel hyn drwy Wasg Cymru: "Y Saboth diweddaf yr oedd Syr Tomos Owen yn bresennol ddwywaith yng nghapel Llwynyblawd. Mor ddymunol yw gweld ein Seneddwyr yn cadw at yr hen ddefodau sy wedi gwneud Cymru y wlad fwyaf crefyddol dan haul." (A'i law ar ei enau yn ffug-ofnus.) Dim gair, cofiwch, am y gêm o golff y Sul diweddaf neu chawn ni byth eto fynd i brif wyliau'r Ymneilltuwyr. (Siglo llaw â'r ddau.) Ffarwel i chwi'ch dau─Latimer a Ridley Cymru, mi losgwch fel dwy gannwyll wêr.

Harri

Ffarwel, Olifer. Diolch i chithau, Myrddin, am bob help yn yr etholiad, ond cofiwch nad wy'n rhwymo fy hun wrth neb─Syr Tomos na'r Wasg na'r Weinyddiaeth.



Exit y ddau.

Syr Tomos

Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd.

Harri

Beth sydd o'i le arnyn' nhw?

Syr Tomos

Y gwir plaen, rhyw hogyn mawr o freuddwydiwr wyt ti─byrbwyll, penstiff; a fi yw spesialist Ysbryd yr Oes i agor dy lygaid.

Harri

(Yn twymo.) Rwy'n gweld pobl gyffredin yr ydych chwi ac eraill wrth droi mewn cylchoedd artifisial cyfoeth a dysg wedi colli golwg arnynt ers talwm.

Syr Tomos

(Wedi digio.) Ti a dy bobol gyffredin─nhw sydd wedi lladd pob un fu'n ddigon hurt i geisio gweini arnynt─mi lladdan' dithau at y rest─nhw yw'r set fwya anniolchgar tan haul. Mae awyr y balconi yna'n well na lol fel hyn.



A allan i'r balconi a daw MABLI i mewn gyda choronbleth o flodeu.

Mabli

Rwyf wedi plethu coron o flodeu i roi ar eich pen.

Harri

Dy ben di yw'r clysa o bawb.

Mabli

I chi mae rhein.

Harri

Wel, rwan am dani.

Mabli

Rhaid i chi fynd ar eich gliniau.

Harri

Pam?

Mabli

Ar eu gliniau y mae pawb yn derbyn coron.

Harri

(Yn penlinio.) Fel hyn?

Mabli

Ie. (Yn êi goroni.) Coron wen ar ei ben: ond fe ddylech gael clôg o'ch cylch.

Harri

Beth am y llian sydd ar y bwrdd?

Mabli

I'r dim. (Yn ei gyrchu a'i ddodi dros ei ysgwydd.) Dyna rywbeth tebyg i frenin rwan: fe ellwch eistedd.

Harri

(Yn ufuddhau.) Ydw i'n debyg i frenin?

Mabli

Neisiach na dim brenin fu erioed. (Ar ei gliniau o'i flaen.)

Syr Tomos

(O'r ffenestr gyda ffug beswch.) Rwy'n pesychu, Mabli, i ti wybod mod i yma.

Mabli

Dim ods o gwbl; rwyf newydd goroni nhad yn frenin.

Syr Tomos

Brenin ar bwy?

Mabli

Ar Mabli.

Syr Tomos

Beth yw ei deitl?

Mabli

Y Brenin Harri.

Syr Tomos

Beth yw ei nymbar─Harri'r Nawfed?

Mabli

Nage─Harri heb ei ail.

Syr Tomos

Rwyt ti'n smart o d'oed: beth yw d'oed?

Mabli

Bron yn bymtheg: beth yw'ch oed chi?

Syr Tomos

Pymtheg─ers plwc bellach.

Harri

Hen lanc ydi o, Mabli, ac mae o'n drigain a phump os yn ddiwrnod.

Mabli

Faint sy rhwng pymtheg a thrigain a phump?

Syr Tomos

Yr un faint ag sy rhwng afal coch ar y pren ganol haf ac hen afal melyn yng ngwaelod y sach ddiwedd y flwyddyn. Rwy'n gweld o'r balconi dy fam a dy nain yn dod.

Mabli

Tynnwch y llian yna oddiam danoch. (Exit, ac HARRI yn rhoi'r lliain a'r blodeu ar y bwrdd.)

Syr Tomos

(O'r ffenestr.) Harri, fe anghofiais y rhan bwysicaf o f'araith gynneu wrth ganu ffarwel am byth i fy hen etholwyr: wnei di wrando arni?

Harri

(Dan chwerthin.) Wel rwan am dani.

Syr Tomos

(Mewn ystum areithyddol o'r ffenestr.) Annwyl gyd-wladwyr, dyma'r hen Gyrnol yn cadw noswyl, ond ar f'engoch i, nid cyn gwneud diwrnod go lew o waith. Buoch yn godro fy manc-book am chwarter canrif nes mae bron yn sych gorn; agorais basars a sales-of-work a jumble-sales wrth yr ugeiniau; mae f'enw, er cynddrwg ydwyf, ar gerrig sylfaen y pedwar enwad; cefais jobs i gannoedd o'ch perthnasau; tanysgrifiais at bob tysteb o fewn y deuddeg sir; nid unwaith na dwy y buoch ar fy ngofyn am bres i brynu dannedd gosod a throliau a mulod i etholwyr tlawd. A dyma'r corn bwyd olaf wedi canu ar yr hen Gyrnol, a'r tipyn enaid oedd ganddo chwarter canrif yn ôl wedi diflannu wrth weini arnoch.

Nan

(Yn brysio i mewn â theligram yn ei llaw.) Harri! oddiwrth y Prifweinidog; rwyf wedi ei agor. (Yn ei estyn yn llawen.)

Harri

(Yn ei ddarllen yn ddigynnwrf a'i estyn i'r SYR.) Ydi mam wedi dod?

Nan

(Yn ddig.) Mi fasa dyn yn meddwl oddiwrth eich dull mai teligram oddiwrth ysgubwr simneu yw hwn.

Syr Tomos

Fachgen, fachgen! Y Prifweinidog yn dy longyfarch!

Nan

(Yn fywiog a serchog.) Harri, dyma'ch siawns ar ddechreu.

Harri

Siawns i beth, Nan fach?

Nan

(Yn ddreng.) Siawns i ddod ymlaen, bid siwr. Pan fo pawb yng Nghymru yn crafangu am swyddau, mae'n deg i un sydd wedi gwneud cymaint o waith tawel a chi gael ei gydnabod.

Syr Tomos

Wel di, Harri, mae hwn (yn dal y teligram) naill ai'n em yn dy goron neu'n hoelen yn dy arch.

Harri

(Yn anesmwyth.) Mae mam yn o hir yn dod.

Nan

(Wrth y SYR yn wawdus.) Ei fam, ei fam yw popeth.

Syr Tomos

Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai.



Daw JANET MEREDITH i mewn â golwg wladaidd arni, tua thrigain a phump oed ond yn gadarn.

Janet

Wel, Harri, mi gest d'ethol yn anrhydeddus. Hir oes i ti i wneud dy waith heb fegio gwên nac ofni gwg neb. (Wrth y SYR.) Dyma'r gwas newydd, yntê, wedi dod i sgidiau'r hen was?

Syr Tomos

Mae o'n gwisgo sgidiau cryfach na fi─size mwy a lledar gwahanol.

Janet

Fe ddylai Aelod Seneddol heddiw wisgo esgid go drom.

Syr Tomos

Efallai; ond mae cyrn tyner iawn ar draed yr oes yma.

Janet

Paid ag ofni rhoi dy draed i lawr, Harri: mi leiciwn dy weld yn gefn i rywbeth gwerth byw a marw er ei fwyn, a phaid a bod yn chwitchwat: fuost ti erioed a fyddi di ddim, greda i.

Nan

(Yn oeraidd.) Raid i chwi ddim ofni hynny, a gwell cyngor iddo heddiw fasa'i annog i gyd-dynnu yn yr un harnis ag eraill.



Daw MABLI i mewn a chwery gyda'r blodeu.

Harri

(Yn dda ei dymer.) Gormod o bwdin dagith gi. Am awr gyfa y mae pawb wedi bod wrthi yn stwffio cynghorion i lawr fy ngwddw─rhowch chware teg i greadur gwael.



MABLI o'r tu ôl iddo'n gosod y goronbleth eto ar ei ben.}

Harri

Mabli, rwyt ti'n werth Ty'r Arglwyddi a Thy'r Cyffredin gyda'i gilydd.

Nan

(Yn neidio ymlaen ac yn tynnu'r blodeu oddiar ei ben.) Mabli, peth anlwcus iawn yw drain gwynion mewn ty.

Mabli

(Wedi dychryn braidd.) Wyddwn i ddim. Rhoi coron o flodeu ar ben nhad oeddwn i.

Harri

Wel ar fy ngair, wyddwn i ddim eich bod mor ofergoelus.

Janet

Harri bach, y gwir yw nid wyf innau yn leicio gweld drain gwynion mewn ty.

Harri

(Yn chwerthin.) Grym annwyl, beth yw'r gwahaniaeth rhwng draenen wen a rhosyn coch: mae'r naill a'r llall yn pigo? (Yn gweld NAN yn edrych ar ei llaw; yn codi a mynd at ei hymyl.) Beth yw'r mater?

Nan

Dim ond fod y ddraenen wedi rhoi pigiad imi. (HARRI yn edrych ar ei llaw a'r llen yn dod i lawr.)

a1