g1g2g3

Faust (1922)

Johann-Wolfgang von Goethe
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1922 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2

PROLOG YN Y NEF
Yr ARGLWYDD, y lluoedd nefol, yna MEPHISTOPHELES.
Daw'r tri archangel ymlaen.

Raffael
Ymryson gerdd yr Haul a glywir,
Fel cynt, â'i frodyr fydoedd gwrdd,
A'i rag-drefnedig daith yn gywir
A geidw ef â tharan dwrdd;
I'r engyl, rhydd ei wedd ddigonedd,
Er nas amgyffred un o'r llu;
A'r gwaith goruchel mewn gogonedd
Megys y diwrnod cyntaf fu.

Gabriel
Buan ac annirnadwy fuan
Yr amchwyrnella rhwysg y byd;
Newidir claer oleuni huan
A chaddug oer y nos o hyd;
Ewynna'r môr yn faith afonydd
Hyd ddwfn banylau'r creigiau serth,
A throellir bryniau ac eigionydd
Yn hedlam rhod y bydoedd certh.

Michael
Ystormydd, yn y gamp cyflymant,
O don i dir, o dir i don,
A chadwyn yn eu bâr a glymant
O'r dyfnaf rym i rwymo hon;
Goleua'r fellten, ffrom ddifrodiad,
I'r daran groch ei gyrfa hi;
Er hynny, Arglwydd, mwyn ddyfodiad
Dy ddydd a beirch dy weision Di.

Y Tri
I'r engyl, rhydd y wyrth ddigonedd,
Er na'th amgyffred un o'r llu,
A gwaith dy law sy lawn gogonedd,
Megys y diwrnod cyntaf fu.

Mephistopheles
A thithau, Arglwydd, eto'n agoshau,
A'n holi ni sut hwyl sydd ar yr yrfa,
A chan y byddi'n rhwydd yn caniatâu,
Fe'm gweli yma, finnau, gyda'r dyrfa;
Maddeu, ni allaf innau ddim gwenhieithio,
A phawb o'th osgordd i'm dirmygu i,—
Fe chwerddit, ped amcanwn ddwys areithio,
Pe na bai chwithig chwerthin gennyt Ti;
Am haul na byd, 'does gennyf ddim i'w haeru,
Ni welaf ddim ond dynion yn ymdaeru!
Duw bach y ddaear, tebyg yw o hyd,
Rhyfedded yw â'r diwrnod cynta i gyd;
Buasai beth yn well ei fuchedd ef
Ond it ei wisgo â gwawr goleuni'r nef!
Rheswm y geilw'r peth, a'i droi a fynn
I fyw yn waeth na'r bwystfil gwyllt, er hyn!
Tra thebyg yw—os rhoddi gennad tirion—
I'r ceiliog rhedyn bach, a'i heglau hirion,
Yn hedeg ac yn neidio bob yn ail,
A'i drydar hen yn debyg rhwng y dail;
A drwg nad yn y dail o hyd yr ery!—
Ei drwyn ynghanol pob rhyw dail a dery.

Yr Arglwydd
Ai dyna'r cwbl oedd gennyt i'w lefaru?
A ddôi di fyth i achwyn a galaru?
A oes ar wyneb daear ddim yn iawn?

Mephistopheles
Na, Arglwydd, drwg digymysg yno a gawn.
Druaned gennyf ddyn yn nydd trallodion
Na allaf boeni mo'r creaduriaid tlodion!

Yr Arglwydd
Ai hysbys iti Faust?

Mephistopheles
Y Doethur?

Yr Arglwydd
Ie, fy ngwas!

Mephistopheles
Diau! Fe'th wasanaetha'n anghymharol—
Ym mwyd a llyn y ffŵl, 'does dim daearol!
Gyrr ei ddychmygion hyd y maith bellterau,
Mae'n hanner ameu ei ffolineb mawr;
Mynnai'r disgleiriaf sêr o'r uchelderau,
A holl fwyniannau pennaf daear lawr;
A phell ac agos, waeth pa un a fyddant,
Ei wyllt anesmwyth galon, nis llonyddant.

Yr Arglwydd
Os croes yw ei wasanaeth ef a'i ffyrdd,
Cyn hir fe'i dygaf i'r goleuni drwyddyn;
Fe ŵyr y garddwr, pan fo'r pren yn wyrdd,
Y daw y ffrwyth yn dâl am lafur blwyddyn.

Mephistopheles
Pa faint a ddeli? Colli wnei er hynny!—
O rhoddi dithau gennad, fel y bo
I minnau'n dawel fach i'm ffordd ei dynnu—

Yr Arglwydd
Cyd ag y byddo fyw'n y byd efô,
Cyhyd ni byddi dithau waharddedig.
Tra brwydro dyn, fe dripia ambell dro.

Mephistopheles
Diolchaf iti! Am y rhai trengedig,
Ni cheisiais i yn rhwydd erioed eu denu—
Gwell gennyf wyneb crwn a hwnnw'n gwenu;
Am gelain oer, nid mawr y prisiaf hi—
Fel cath ar ôl llygoden, dyna fi!

Yr Arglwydd
O'r goreu! bydded iddo fel y mynni!
Dwg di yr ysbryd hwn o'i darddell gynt,
Ac arwain yntau gyda thi, os ffynni,
I rodio ymaith ar dy ddewis hynt,
 gwêl, gan gywilyddio, yn dy dro,
Fod pob dyn da'n adnabod ffordd uniondeb,
Er brithed fydd ei dueddiadau fo.

Mephistopheles
Da iawn! Nid hir y pery ei ffyddlondeb,
Ac am a wystlais innau, ni phetrusaf.
Os caf fy nod, bydd dithau o'r hwylusaf
I roddi imi'r fuddugoliaeth lawn;
Caiff yntau fwyta pridd, yn awchus iawn,
Megys y sarff, fy modryb glodforusaf!

Yr Arglwydd
Bydd rydd it ddyfod yma ac ymado,
Cans ni chasëais i mo'th debyg di;
O'r holl ysbrydion hynny ar a wado,
Y castiog ydyw'r lleia'i bwys i mi.
Bydd galiu dyn yn fuan yn dihoeni,
Câr lwyr ddiogi, ac am hyn y bu
Roi iddo ef gydymaith fyth y sy
Yn synnu a swyno, ac, megys diawl, yn poeni.
Ond llawen fyddoch chwi, wir feibion Duw,
Ynghanol y prydferthwch uchel ryw!
Y grym, sy'n gweithio ac yn byw'n ddi baid,
Yn nedwydd rwymyn cariad a'ch llehäo,
Â'r peth a rithlyd wibio ar ei naid,
Gosodwch mewn meddyliau a barhäo!


Cau o'r nefoedd, ac ymwahanu o'r archangylion.

Mephistopheles
O bryd i bryd, da gweld hen arglwydd nef,
A rhaid yw gwylio rhag ei droi'n elynol;
Bu'n dirion iawn, o un mor fawr ag ef,
Ymddiddan gyda'r diawl ei hun mor ddynol!

g1g2g3