Heol ger Castell Llewelyn Griffith ap Gwenwynwyn yn rhodio. |
|
Griffith |
Mae wedi myn'd yn amser rhyfedd iawn yn Nghymru pan droir ffwrdd fel cwn benaethiaid uchaf fedd y wlad o ddrws yr hwn a eilw'i hun yn Dywysog! Pa beth, ysywaeth, ydyw Llewelyn y rhaid iddo ddiystyru ei gydradd fel hyn? Ei gydradd? le, ei well yn wir! Mae llinach Griffith ap Gwenwynwyn yn bur heb yr un croes, tra nas gall y Llewelyn hwn fyned ddwy âch yn ol heb doriad anghyfreithlawn. Os gallaf fi caiff eto edifaru am wrthod derbyniad i un o brif benaethiad Cymru. Os gwrthyd ef, fe dderbyn Brenin LLoegr. Ust! Pwy yw hwn? Ai Dafydd ydyw? Nid yw'n bosibl! Eto efe ydyw. |
Dafydd yn dynesu, a'i ben tua'r llawr. |
|
Griffith |
Holo! Y Tywysog Dafydd! Boreu da. Maen llon genyf eich cyfarfod a'ch llongyfarch ar eich rhyddhad o'r carchar. |
Dafydd |
Griffith ap Gwenwynwyn, onite? Maddeuwch os wyf yn camsynied, ond nid yw tywyllwch carchardy yn lle da i gyfaddasu llygaid dyn i adwaen hen gyfeillion yn y goleu. |
Griffith |
Ie. Griffith ydwyf. Da genyf weled fod y rhwyg rhyngoch a'r Tywysog wedi ei chyfanu. Cymerodd chwi i'w fynwes yn gynes fel brawd yn ddiamheu. |
Dafydd |
Naddo. Pe bawn yr estron pellaf nis gallai ymddwyn yn oerach tuag ataf. |
Griffith |
A yw yn bosibl? |
Dafydd |
Aethum ato gan benderfynu syrthio wrth ei draed am faddeuant, a chynyg fy mywyd i'w wasanaethu. Ond gyda'r gair cyntaf rhwystrodd fi, edliwiodd im' fy ffolineb gynt, a dangosodd im' nad oedd genyf hawl i'm galw'n Gymro chwaethach brawd! |
Griffith |
Mae'n anhawdd genyf gredu! A chwithau'n Dywysog nesaf ato ef ei hun mewn hawl, ac uwch nag ef yn serch y wlad! Mae hyn yn sarhad ar Gymru a'i phenaethiaid! |
Dafydd |
Nis gwn pa beth a wnaf. Mae cywilydd arnaf ddangos fy ngwyneb. |
Griffith |
Am ba achos tybed? Cywilydd! Iti y dewraf o feibion Cymru! Tyred gyda mi. Dyfeisiwn ffordd i ddial arno am y sarhad yma. |
Dafydd |
Na, na! fy mrawd yw ef— |
Griffith |
Brawd yn wir! Gelyn yn hytrach. Tebygol nad yw ond am gael cyfle i'th osod o'r neilldu yn ddirgel. Nis beiddiai dy ladd yn y carchar; daethai'r byd i wybod. Ond yn awr esgusa dy ryddhau, fel gallo o bosibl dy lofruddio yn ddirgel. Mae dy fywyd mewn perygl! Tyred gyda mi. |
Ant allan. |