a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 4


Ystafell yn Nghastell yr Iarll.

Gwen Rhydderch ym eistedd yno. Elen Montford yn dyfod fewn yn dal llythyr yn ei llaw. Tuallan gêr y ffenestr, heb. eu canfod gan y boneddesau, saif Llewelyn a Meredith.

Elen

O Gwen fach! Dyma newydd drwg.

Gwen

Beth sydd yn bod, fy arglwyddes î

Elen

Yr wyf newydd gael llythyr oddiwrth fy nhad, yn yr hwn y dywed fod pethau yn tywyllu eto yn Nghymru. Mae Dafydd, brawd y Tywysog, a phenaeth dylanwadol o'r enw Griffith ap Gwenwynwyn, wedi myned i lys brenin Lloegr, a bydd byddin gref o Saeson yn cychwyn yn fuan i'w cynorthwyo i ymosod ar y Tywysog.

Gwen

A'r gelyn oddiallan, a bradwriaeth oddifewn, Duw a helpo Cymru! Ond mae Llewelyn yn gryf yn y Gogledd, a'i gyfaill ffyddlonaf, Meredith ap Owen, yn cadw'r Deheudir iddo.

Elen

Ond mae Meredith ap Owen wedi marw, ac ofna fy nhad y try penaethiaid y Deheudir yn erbyn y Tywysog bellach.

Llewelyn

(O'r neilldu wrth Meredith.) Nid yw yn gwybod dim am y newyddion diweddaf, fy mod wedi arwyddo cytundeb heddwch a Harri brenin Lloegr, trwy yr hwn y mae ef yn ymrwymo fy nghydnabod dros ei oes yn Dywysog Cymru; ac am ymyriad caredig Obollonus a rwymodd y Saeson i heddwch hollol a'r Cymry dros deyrnasiad Harri.

Meredith

Na ŵyr, debyg iawn. Ond gad i ni weled sut y deil hi newydd drwg.

Gwen

Druan o Llewelyn! Onid ydych yn gofidio bellach na dderbyniasoch gynyg Iarll Northumberland am eich llaw?

Elen

Taw! Tydi yn Gymraes yn son am i mi fod yn anffyddlawn i Llewelyn!

Llewelyn

(O'r neilldu.) Dyna i ti, Meredith!

Meredith

Ust!

Gwen

Ond, fy arglwyddes, yr oeddech yn dysgwyl Llewelyn yma cyn hyn. Beth os yw ef wedi gweled rhyw feinwen arall i ddenu ei galon oddiwrthych? Neu ystyriwch y peryglon y mae ynddynt oddiwrth y Saeson.

Elen

(Yn wylo.) Pe credwn ei fod ef yn anffyddlon, torai fy nghalon! Ond na! Chredaf fi byth y fath beth am dano—y ffyddlonaf, y dewraf o ddynion! Ac am ba beth yr wylaf? Mae y dagrau hyn yn annheilwng o gariadferch Llewelyn! Estyn y delyn i mi.



Gwen yn estyn y delyn.

Elen
(Yn canu,—gyda'r delyn os dewisir.)
Os tywyll imi ydyw'r wybren,
Os gwgu arnaf y mae fiawd,
Daw eto'n well, fe wena'r heulwen
A chyfyd calon Elen dlawd.
Ni thal im' grio chwaith na becso,
Nac i wylo dagrau ffol,
Os byw yw ef, os rhwydd-deb gaffo
Fe ddaw Llewelyn eto'n ol.

Beth os lluosog ydyw'r Saeson
Ac os creulawn ydyw'r cleddf
Mi wn am un sy'n ddewr ei galon
Ac a fydd ffyddlon hyd ei fedd.
Ei fraich sydd gref, ei wên sydd lawen,
A llechu eto gaf yn ei gol,
Tra bydd hi byw, fe greda Elen
Y daw Llewelyn eto'n ol!



Tra y mae Elen yn canu yn yr ystafell, mae y ddau Gymro yn sefyll oddiallan, Llewelyn yn ymaflyd yn mraich Meredith, a'r ddau yn gwrando yn astud. Yna symudant yn ol ychydig gamrau.

Llewelyn

O fy Elen anwylaf! Adwaenwn ei llais yn mhlith mil! Yr oedd pob nodyn ganai yn taro tant atebol yn fy nghalon.

Meredith

Yn sicr yr oedd ganddi lais soniarus.

Llewelyn

Ni fu melusach tonc erioed gan eos. Ac a sylwaist ti, Meredith ar ei chyfeiriadau ataf fi, a'r ffydd oedd ganddi ynof?

Meredith

Do, a thybiwn dy fod wedi bod yn hynod ffodus yn dy ddewisiad. Mae cantores mor dda yn haeddu teyrnasu yn Ngwlad y Gân, ac wyryf mor ffyddlawn i'w chariad yn deilwng gydmares i Dywysog y Dewrion.

Llewelyn

Yr wyf yn rhwym o fyn'd ati. Ac eto mae arnaf ofn ei dychrynu wrth ymddangos yn rhy sydyn. Ni fynwn chwaeth iddi gredu fy mod wedi clywed ei chân. Gwn beth a wnaf. Cymeraf eto ffug-farf y crythwr, a chanaf dôn dan y ffenestr. Cawn weled sut y try pethau allan.



Llewelyn yn ffugio ei wynebpryd a ffug-farf, ac yn tynu ei het dros ei lygaid. Yna nesa at y ffenestr, gan ddechreu tiwnio'r crwth.

Elen

(Oddifewn yr ystafell.) Ust! Gwen! Tybiais y clywais swn cerddediad. A dyna grwth. Mae rhyw fardd am roi nosgan i ti.

Gwen

Na, f'arglwyddes. Ni chanmola neb oleuni bach y seren tra byddo'r lleuad dlos yn llawn yn y golwg.

Llewelyn
(Yn canu, gyda'r crwth os yn bosibl.)
Mae'n dda gan rai am wychder byd,
Anedd-dai clyd, a chysur:
Y marchog fyn rhyfelfarch chwim,
Ond rhoddwch i'm fy meinir.
Fe gara'r gwenyn flodau hardd,
Fe gara'r morwr tonog li',
Mi garaf finau—rhywun.

I glustiau'r bardd peroriaeth yw
Y miwsig gana Anian,
Telynau'r wig, yr awel gref,
Ac uchel lef y daran,
A churiad ysgain tòn ar dòn,
A chaniad llon aderyn;
Melusach, mwynach imi'n wir
Llais clir soniarus—rhywun.

Elen

(O'r neilldu wrth Gwen.) Gallwn gymeryd fy llw mai Llewelyn ydyw. Cawn weled yn y man.



Ellen yn agor y ffenestr ac yn canu.

Elen
Pwy yma sydd yn eofn ei lais
Pa gais sydd genyt grythwr,
Dy fod fel hyn, yn dod yn hyf
At gastell cryf boneddwr?

Llewelyn
(Yn canu fel o'r blaen.)
Os cryf yw'r castell, cryfach yw
Y cariad byw'n fy nghalon;
Os eiddo'r Iarll yw'r castell hwn
Mi wn pwy bia'r Fanon.


Yn tynu ymaith y ffug-farf.

Llewelyn
O tyred mwy yn eiddo i mi
Tydi yn wir rwy'n garu;
Cei goron Cymru ar dy ben
A Gwalia Wen i'th foli.

Elen
(Yn canu.)
Nis dof er mwyn coronau heirdd,
Na molawd beirdd yn gytun,
Nid ydyw gwychder imi'n swyn─


Esgusa droi ymaith wrth ganu yr uchod.
Erys enyd, yna try yn ol at Llewelyn gan ganu.

Elen
Ond dof er mwyn Llewelyn!


Y ddau yn cusanu ac yn cofleidio.

Llewelyn

Oh f'anwylyd, mor hyfryd yw cael bod gyda thi drachefn! Bum yn mron digaloni wrth weled y rhwystrau oedd ar fy ffordd, ond diolch fo i Dduw, y maent wedi diflanu.

Elen

Ie, diolch fo i Dduw am ganiatau symud ymaith y cymylau bygythiol. Pan glywais y newyddion am y trafferthion yn Nghymru, bum yn pryderu am danat, ond yn awr—

Llewelyn

Ond yn awr gallwn ganu ar ol cael heulwen glir uwchben.

Elen a Llewelyn
(Yn canu.)
Pob cwmwl ffodd, yr heulwen gâr
Dywynu ar y ddeuddyn,
Daw Gwalia hithau'n ddedwydd fel
Mae Elen a Llewelyn.
A rhoddwn mwy, fel mab a merch,
Ein serch ar Gwalia beunydd,
Rhydd Gwalia'i serch i ninau'n dau,
A charwn ninau'n gilydd.

Meredith

(Yn ceisio gosod ei law am ganol Gwen.) Gawn ninau wneyd yr un peth, Gwen.

Gwen

Beth? Canu? O gwnaf gyda phob pleser.

Meredith
Canu yn sicr! Nage, ond fel y gwna Llewelyn y fynyd yma,

"A charwn ninau'n gilydd."

Gwen

Peidiwch bod yn ffol, Meredith. Fe wel yr Arglwyddes Elen ni.

Meredith

Tut! Na! Mae ganddi ormod o waith gwrando ar ystori Llewelyn. Gad imi─ (Yn ceisio eto gosod ei lan am ei chanol, ond Llewelyn ac Elen yn troi atynt.)

Elen

Mae gan y tywysog newyddion da O Gymru, Gwen. Mae wedi gwneyd heddwch a'r brenin, ac wedi cael ei sicrhau yn ei Dywysogaeth.

Llewelyn

Ië, diolch i Dduw, gallwn obeithio bellach am flynyddau o heddwch; yna caf gyfle i ddwyn pethau i drefn yn Nghymru, a gall y wlad edrych am fwy o ddedwyddwch ynddynt nag a gawsom er's hir amser.

Meredith

Ië, ceir amser mwyach i gael gwasanaeth y crwth a'r delyn, a'r beirdd i blethu caneuon fel cynt.

Llewelyn

Cawn ddechreu yma ynte.

Oll
(Y pedwar yn canu.)
Tan fendith nef bydd Gwalia'n llon
A phob rhyw fron yn llawen,
A rhwymyn serch yn cloi'n gytun,
Llewelyn, Cymru, Elen!
Pob gelyn draw, a hedd trwy'r wlad
Heb fraw na brad i'w poeni;
Mor ddedwydd mwy fydd tri yn un
Llewelyn, Elen, Cymru!


Diwedd yr Act Gyntaf.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4