a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 3


Heol ger Castell Iarll Leicester.

Llewelyn a Meredith Delynor yn cydrodio.

Llewelyn

Dacw'r castell yn y golwg. Dacw ffenestr ystafell #Elen Braidd na thybiwn y gallwn oddiyma ganfod fy angyles ei hun.

Meredith

Ffolineb cariadlanc yw hyny i gyd. Yr wyf wedi dy rybuddio i beidio ymddiried gormod ynddi. Ni ryfeddwn fymryn pe caem ryw foneddwr arall yn cael ei wresawu ganddi.

Llewelyn

(Yn ffyrnig, gan ymaflyd yn ngholer Meredith.) Y dyn! Ystyria beth wyt yn ddweyd! Oni bae dy fod yn hen gyfaill profedig, torwn dy dafod di allan am y fath sarhad ar Elen.

Meredith

I ti fyddai'r golled fwyaf.

Llewelyn

I mi?

Meredith

Ie. Pwy gawsit i ganu gyda'r delyn yn dy ddawns priodas?

Llewelyn

Mae digon o delynorion yn Nghymru.

Meredith

Eithaf gwir, ond nid oes ond un Meredith Delynor. Llewelyn (Yn chwerthin.) Eithaf gwir. Ond cofia dithau nad oes ond un tafod gyda'r Meredith hwnw, a phaid a gadael iddo dy arwain dros y ffordd. Wel, o leiaf, gwna brawf arni. Gad i ni fyned yn ddystaw at ei ffenestr hi, ac os yn bosibl, cawn weled a chlywed rhywbeth arddengys beth yw ei theimlad gwirioneddol.

Llewelyn

Boddlon wyf i hyny, a gwystlaf fy mywyd ar ffyddlondeb Elen.



Ant allan.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4