a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 2


Heol ger Castell Llewelyn

Griffith ap Gwenwynwyn yn rhodio.

Griffith

Mae wedi myn'd yn amser rhyfedd iawn yn Nghymru pan droir ffwrdd fel cwn benaethiaid uchaf fedd y wlad o ddrws yr hwn a eilw'i hun yn Dywysog! Pa beth, ysywaeth, ydyw Llewelyn y rhaid iddo ddiystyru ei gydradd fel hyn? Ei gydradd? le, ei well yn wir! Mae llinach Griffith ap Gwenwynwyn yn bur heb yr un croes, tra nas gall y Llewelyn hwn fyned ddwy âch yn ol heb doriad anghyfreithlawn. Os gallaf fi caiff eto edifaru am wrthod derbyniad i un o brif benaethiad Cymru. Os gwrthyd ef, fe dderbyn Brenin LLoegr. Ust! Pwy yw hwn? Ai Dafydd ydyw? Nid yw'n bosibl! Eto efe ydyw.



Dafydd yn dynesu, a'i ben tua'r llawr.

Griffith

Holo! Y Tywysog Dafydd! Boreu da. Maen llon genyf eich cyfarfod a'ch llongyfarch ar eich rhyddhad o'r carchar.

Dafydd

Griffith ap Gwenwynwyn, onite? Maddeuwch os wyf yn camsynied, ond nid yw tywyllwch carchardy yn lle da i gyfaddasu llygaid dyn i adwaen hen gyfeillion yn y goleu.

Griffith

Ie. Griffith ydwyf. Da genyf weled fod y rhwyg rhyngoch a'r Tywysog wedi ei chyfanu. Cymerodd chwi i'w fynwes yn gynes fel brawd yn ddiamheu.

Dafydd

Naddo. Pe bawn yr estron pellaf nis gallai ymddwyn yn oerach tuag ataf.

Griffith

A yw yn bosibl?

Dafydd

Aethum ato gan benderfynu syrthio wrth ei draed am faddeuant, a chynyg fy mywyd i'w wasanaethu. Ond gyda'r gair cyntaf rhwystrodd fi, edliwiodd im' fy ffolineb gynt, a dangosodd im' nad oedd genyf hawl i'm galw'n Gymro chwaethach brawd!

Griffith

Mae'n anhawdd genyf gredu! A chwithau'n Dywysog nesaf ato ef ei hun mewn hawl, ac uwch nag ef yn serch y wlad! Mae hyn yn sarhad ar Gymru a'i phenaethiaid!

Dafydd

Nis gwn pa beth a wnaf. Mae cywilydd arnaf ddangos fy ngwyneb.

Griffith

Am ba achos tybed? Cywilydd! Iti y dewraf o feibion Cymru! Tyred gyda mi. Dyfeisiwn ffordd i ddial arno am y sarhad yma.

Dafydd

Na, na! fy mrawd yw ef—

Griffith

Brawd yn wir! Gelyn yn hytrach. Tebygol nad yw ond am gael cyfle i'th osod o'r neilldu yn ddirgel. Nis beiddiai dy ladd yn y carchar; daethai'r byd i wybod. Ond yn awr esgusa dy ryddhau, fel gallo o bosibl dy lofruddio yn ddirgel. Mae dy fywyd mewn perygl! Tyred gyda mi.



Ant allan.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4