Heol ger Castell Iarll Leicester. Llewelyn a Meredith Delynor yn cydrodio. |
|
Llewelyn |
Dacw'r castell yn y golwg. Dacw ffenestr ystafell #Elen Braidd na thybiwn y gallwn oddiyma ganfod fy angyles ei hun. |
Meredith |
Ffolineb cariadlanc yw hyny i gyd. Yr wyf wedi dy rybuddio i beidio ymddiried gormod ynddi. Ni ryfeddwn fymryn pe caem ryw foneddwr arall yn cael ei wresawu ganddi. |
Llewelyn |
(Yn ffyrnig, gan ymaflyd yn ngholer Meredith.) Y dyn! Ystyria beth wyt yn ddweyd! Oni bae dy fod yn hen gyfaill profedig, torwn dy dafod di allan am y fath sarhad ar Elen. |
Meredith |
I ti fyddai'r golled fwyaf. |
Llewelyn |
I mi? |
Meredith |
Ie. Pwy gawsit i ganu gyda'r delyn yn dy ddawns priodas? |
Llewelyn |
Mae digon o delynorion yn Nghymru. |
Meredith |
Eithaf gwir, ond nid oes ond un Meredith Delynor. Llewelyn (Yn chwerthin.) Eithaf gwir. Ond cofia dithau nad oes ond un tafod gyda'r Meredith hwnw, a phaid a gadael iddo dy arwain dros y ffordd. Wel, o leiaf, gwna brawf arni. Gad i ni fyned yn ddystaw at ei ffenestr hi, ac os yn bosibl, cawn weled a chlywed rhywbeth arddengys beth yw ei theimlad gwirioneddol. |
Llewelyn |
Boddlon wyf i hyny, a gwystlaf fy mywyd ar ffyddlondeb Elen. |
Ant allan. |