Fel sawl ffermdy mynyddig arall, penderfynodd yr un yn y ddrama hon gadw ymwelwyr er mwyn llenwi tipyn ar y pwrs. Gwelodd y ffermwr yn fuan bod hynny'n costio'n ddrud iddo mewn amynedd. Gwelodd yr ymwelwyr dinesig hefyd nad yw bywyd fferm mor ddelfrydol wedi'r cyfan...
Dychmygwch neuadd bentref yn dal rhyw bedwar cant a honno dan ei sang. Rhywun wedi nôl meinciau i'w gosod rownd yr ochrau ac yn y cefn hyd yn oed. Pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar am i'r llenni agor er mwyn cael gwylio criw ifanc o Dregaron yn perfformio drama. Ie, drama.
Rhywbryd cyn y rhyfel diwethaf, meddech chi? — yn ystod oes aur y ddrama bentref, efallai, cyn i adloniant o bell ddod yn nes atom. Fel mae'n digwydd, 1980 oedd hi, ac mewn nifer o bentrefi yng nghefn gwlad Ceredigion y bu'r olygfa uchod, a pherfformio'r ddrama hon oedd yr achlysur. Pan aeth hi yno, 'roedd Theatr .y Werin, Aberystwyth, yn llawn i'r ymylon, ac efallai fod y ffaith fod y noson yn gydnaws ag enw'r adeilad, am newid, yn gyfrifol am hyn...
Cwmni Clwb Ffermwyr Ieuainc, Tregaron oedd yn ei pherfformio, ac aelod o'r clwb hwnnw — Ifan, oedd y cynhyrchydd ar awdur. Enw dieithr y tu allan i'w ardal efallai, ond hon yw ei bumed drama, a dydi o ddim yn ddeg ar hugain oed eto.
Wrth edrych yn ôl, mae'n cydnabod dyled fawr i Ffederasiwn Clybiau'r Ffermwyr Ieuainc am drefnu'r cystadleuthau drama sydd dan eu haden, ac am annog clybiau i gymryd rhan gan sicrhau beirniadaeth drwyadl ac adeiladol i bob ymdrech. Dan law Ifan, daeth Clwb Tregaron yn fuddugol yng nghystadleuaeth y clybiau sawl gwaith ar lefel sirol a chenedlaethol.
O ble daeth y wreichionen yma? Nid drwy astudio awduron na dramâu llyfr, ond drwy astudio cynulleidfa, medd Ifan. Dysgu ar y llwyfan a wnaeth, a sgwennu gyda'r bwriad o ennyn ymateb ei wrandawyr yw ei nod. Hon, y ddiweddaraf o'i ddramau, yw'r fwyaf poblogaidd hyd yn hyn. Mae'n dda calon nodi fod un arall ar y gweill.
Rhoi mwynhad, yn syml, yw ei fwriad. A'r arswyd, does dim yn syml yn hynny. 'Tydi cael cynulleidfa i ddal eu hochrau am hanner awr ddim yn beth hawdd o bell ffordd. Ond wrth sylwi beth sy'n taro ar y llwyfan. mae Ifan yn graddol ddod i nabod ei bobl.
Un peth sy'n siwr. mae o'n nabod cymeriadau ei ddrama yn saff ddigon. Cig a gwaed coch sydd i'r rhain a digon o wres yn eu calonnau nhw i siarad yn blaen a ffraeth efo'i gilydd. Ia, mewn cegin fferm yr ydan ni eto. ond waeth befo'r croen — yr hyn sydd o dan hwnnw sydd yn bwysig.
Fel y dywed Tom, y trwbwl efo ni yn yr oes hon yw'n bod ni'n dechrau'n rhy uchel. Dwy fuwch, beic a chaseg oedd ganddo ef a Marged pan briodon nhw. Heddiw, mae popeth yn ymddangos mor hawdd i'w gael. Ydi, mae'n lles garw dod â'r fuwch a'r beic a'r gaseg yn ôl i'r llwyfan.
Newidiwyd iaith Jeremy a Patsy Bull yn ôl i'r Saesneg gwreiddiol ar gyfer yr argraffiad hwn. Wedi gweld y ddrama ar lwyfan, nid oes amheuaeth bod hyn yn cyfleu'r chwithdod ieithyddol a ddaw yn sgîl cael ymwelwyr ar aelwyd Gymreig yn llawer gwell na'r addasiad blaenorol.
Perfformiwyd y ddrama hon am y tro cyntaf yn Theatr Felinfach, Ceredigion yn Chwefror 1980 gan yr aelodau canlynol o Glwb Ffermwyr Ieuainc Tregaron:
Tom | Ifan Jones |
Marged | Catherine Hughes |
Wil | Jeffrey Hughes |
John | Dewi Morris |
Jeremy Bull | David Harries |
Patsy Bull | Eleri Lewis |
Mari | Jane Harries |
Dafydd | David Jones |
Cynhyrchydd | Ifan Gruffydd Jones |