Epa yn y Parlwr Cefn, gan Siôn Eirian.
All rights strictly reserved.
Comisiynwyd ac fe berfformiwyd y ddrama hon gyntaf gan gwmni Dalier Sylw yn Theatr Gwynedd, Bangor ar 13 Hydref, 1994.
MR SCOOT | Steffan Rhodri |
BETH | Medi Evans |
MARY | Sian Rivers |
LINDA: | Maria Pride |
Cyfarwyddwr | Eryl Phillips |
Cynllunydd | John Thompson |
Cynllunydd Goleuo | Nick McLiammoir |
Rheolwyr Llwyfan | Ceri James |
Geinor Jones | |
Adeiladwr Set | Peter Stewart |
Mewn ambell i wareiddiad yn yr oesoedd gynt fe gyfrifid puteinio fel galwedigaeth, neu wasanaeth aruchel ag iddi statws arbennig. Eithriad yw’n cymdeithas ni ym Mhyrdain sy’n tueddu edrych ar buteiniaid fel rhan o wehil ein trefi a’n dinasoedd. Mae’n nhw bellach yn rhan o’r “underclass” mawr difreintiedig ar waelod pyramid ein cymdeithas anghyfartal. Fe allwn ni i gyd gytuno fod bywydau’r rhan fwya o buteiniaid heddiw yn ddiflas, yn beryglus ac yn adlewyrchu rhai o nodweddion tristaf cymdeithas. Ond mae hefyd yn anochel fod pobol yn mynd i werthu eu cyrff a’u ffafrau rhywiol – yr hyn sy’ lawn cyn dristed yn fy nhyb i yw fod amodau gwaith a statws cyfreithiol y bobol yma mor echrydus, a bod y ffenomenon ar gynnydd gyda mwy o mwy o ferched a bechgyn ifanc iawn yn cael eu dal yng nghylch abred puteindra. Nid drama “foesol” yw Epa. Ond beth sydd fwya’ anfoesol tybed – galwedigaeth Mary a Linda neu uchelgais unigolion dienaid sy’n meddu ar werhoedd barus ffasiynol tebyg i’r landlord Scoot? Ai’r blynyddoedd diwethaf, a niwroses rhywiol ein cymdeithas sy’n gyrfifol am gynnydd puteinio? Os felly, ble mae rhoi’r bai am yr amodau dinistriol sy’n creu sefyllfa o’r fath? Dyw’r ateb i’r cwestiynau yma ddim yn anodd i’w canfod. Dyna pam mai nad ceisio hoelio’r atebion y gwna Epa, ond bras ddarlunio pedwar cymeriad ar wythnos aeafol mewn un cornel bach o’r cynfas.
Siôn Eirian, 1994