GOLYGFA II.—WESTMINSTER: ystafell yn y Palas. Yn dyfod i fewn BRENIN HARRI IV, HARRI TYWYSOG CYMRU, ARGLWYDD GREY, ARGLWYDD KENDAL, SYR CLARENCE CLIFFORD, ac ereill, |
|
Brenin |
Wel f' Arglwydd Grey, pa fodd yr ydych chwi Yn teimlo fel mae'r amser yn nesau I chwi wynebu Owen de Glendore? |
Grey |
Fy Arglwydd Frenin! tawel ydwyf fi, A chryf yn nerth fy iawn a'th ffafr di. Fy iawn rydd imi fuddugoliaeth lwyr A'th ffafr di, O Frenin! rydd i mi Y nerth i sefyll ar fy hawl yn dyn. |
Brenin |
Ai nid wyt ti yn teimlo iasau oer O ddychryn erch yn rhedeg trwy dy waed, A pheri i'th wallt i sefyll ar dy ben, Wrth feddwl cael cyfarfod bwystfil gwyllt, Fel y darluniaist ti Glyndwr imi? |
Grey |
Raid i'r bytheuad ofni gwel'd y pryf? A raid i'r heliwr ofni ei ysglyfaeth? |
Tywysog |
Yn bwyllog Arglwydd Grey! Ni cha un dyn I chwareu'r ffyrnig gi, na'r heliwr chwaith, Ac yn ysglyfaeth dewrddyn fel Glyndwr, Tra bo gan Harri Mynwy law neu lais, I godi i'w amddiffyn. |
Brenin |
Beth fy mab! A feiddi godi dy blentynaidd lais Yn erbyn mawrion gwlad yn llys dy dad? |
Tywysog |
Fy Arglwydd Frenin! Pob dyledus barch A dala'th fab i ti, ac i dy lys; Ond ni wna parch i lys, nac arglwydd chwaith Ddileu y ddyled enfawr arnaf sydd I Owen o Glyndwr. |
Brenin |
Dy ddyled iddo? |
Tywysog |
Pan ydoedd haul dy lwyddiant di fy nhad, A'm llwyddiant i dan dywyll gwmwl erch; Tydi yn Ffraingc, yn alltud o dy wlad; A mi, a'm cefnder, Gloster, draw yn mhell, Yn Nghastell Trim yn garcharorion, heb Un cyfaill ini'n agos, nac un wên O obaith ini'n codi o un man: Ein rhwymau'n dyn, a'n bwyd yn hynod wael; Ein rhyddid ini mynodd y Glyndwr, A throsom ni yn feichiau aeth ei hun, Ei dy gymerodd le y dywell gell, A'i huliog fwrdd, ein gwrthwyneblyd fwyd. Ei garedigrwydd nid annghofiaf byth. |
Brenin |
Mae'n gofus genyf glywed genyt son Am hyn o'r blaen, a thalu iddo wnaf Ryw adeg eto. |
Grey |
Gall eich mawrhydi Anrhegu 'r gwylltddyn troednoeth, difoes hwn, A rhyw ychydig eifr. Ofni yr wyf, Fodd bynag, y bydd i'w amlwg ddiffyg moes, Ei anadl gan dawch cenin yn dromlwythog, A rhestr ei gyndeidiau cy'd a barf Ei wylltion eifr, wneyd i chwi deimlo 'n flin (Cyn darfod i'ch hynawsedd wneyd y rhodd) I chwi erioed fwriadu gwneyd y rhodd. A syn fydd genyf, os na ddengys ef Ei ddiffyg dysg a moes o fewn y llys. |
Kendal |
Fy Arglwydd Grey, eich amheu raid imi, Yr wyf yn cofio, flwyddi maith yn ol, Yr oedd Syr Owen de Glendore yn un O fargyfreithwyr dysgedica'r oes. |
Clifford |
Rhaid dweyd y gwir, 'rwyf finau'n cofio 'n dda Am dano yn y fyddin. Nid oedd neb Mwy hynaws, mwy caredig, na mwy dewr, Na mwy o wir foneddwr nag oedd ef. Fel byddai'r galw, calon dynes fwyn, Neu ddiofn galon llew oedd ganddo ef; A'i lygaid wylent,—neu a fflachient dân; Yn ol fel galwai amgylchiadau arno. |
Yn dyfod i fewn y Prif farnwr GASCOIGNE; IOAN TREFOR, Esgob Llanelwy; OWEN GLYNDWR, ac ereill. Y brenin yn esgyn yr Orsedd. |
|
Brenin |
Arglwyddi Lloegr! Y mae gwaith o'n blaen Sy'n galw am ddoethineb, ac am bwyll, Fel gellir gwneyd cyfiawnder a phob un O'n hufydd ddeiliaid, wrth gyfreithiau'n tir. Mae Arglwydd Grey, ac Owen de Glendore, Eill dau o'n blaen; ac hawlio maent, Pob un o'r ddau, neillduol ddarn o dir A elwir Croesau. Ein dyledswydd ni Yw gwrando hawl pob un o'r ddau ymgeisydd, A phenderfynu, fel bo iawn a theg, Cydrhwng y ddau yn ol cyfreithiau'n gwlad, Ac os y cyfyd unrhyw ddyrus bwnc O Gyfraith lythyrenol ger ein bron, Ein doeth Brif farnwr yma heddyw sydd, I'n harwain drwy y dyrus lwybrau hyn. Cyfiawnder! ei theg glorian ddaliwn ni. Y ddau ymgeisydd ddont a'u nwyddau'n mlaen; Gascoigne a farna a wna'r nwyddau'r tro: Cewch chwithau ddweyd pa fodd y try y glorian! Fy Arglwydd Grey o Ruthyn ddaw yn mlaen Yn gyntaf oll i nodi i'n ei hawl. |
Grey |
Fy Arglwydd Frenin! chwithau 'm cyd arglwyddi: Fy nghwyn yn fyr yw hyn,—Fy hawl i'r tir Dan sylw, brofwyd eisioes ddwywaith lawn Mewn llys cyfreithlawn, yn ol deddf y wlad. Y cyntaf dro, er profi 'm hawl yn glir, Fe ddallwyd llygaid tegwch, gwyrwyd barn, Gan law y teyrn ei hun.—Melldigaid fo Risiart Plantagenet, yr hwn o ffafr I'm gwrthwynebydd hwn, yn ddirym wnaeth Fy nghyfiawn hawl. Ond dan gyfreithiau teg Fy Arglwydd Frenin Harri y Pedwerydd, Fy hawl ge's 'nol. Ond darfu i Glyndwr (Pan y danfonais Swyddog dros y ffin, I hawlio tir y Croesau, fel y rho'dd Teg lys y Gyfraith imi berffaith hawl,) Nacau fy hawl, a gyru'm Swyddog 'nol, Dan fygwth erch, y gyrai ef a mi Fel cwn yn ol i'w ffau, os deuem byth Dros ffin y Croesau. Felly, deddf y wlad Ddirmygwyd, ac a wawdiwyd ganddo ef. A minau'n awr wyf yn apelio'n hy, At deyrn, a phenarglwyddi doeth y tir, Am anrhydeddu cyfraith deg y wlad, A rhoddi imi hawl i'r tir yn ol, |
Brenin |
Syr Owen de Glendore! beth ddwedwch chwi? |
Glyndwr |
Fy Arglwydd Frenin! a chwi arglwyddi oll! Mae'r gwir a'r anwir yn anerchiad Grey, Fel gwenith da yn gymysg gydâg us; A rhaid eu nithio'n llwyr cyn gellir cael Y llafur pur,—A cheisiaf finau'n fyr Eu dethol:—Gwir ddywedodd ddarfod i Gyfreithiol lys sicrhau imi fy hawl, Dan deg deyrnasiad Risiart, frenin da. Ond anwir noeth oedd d'weyd y gwyrwyd barn. Gwir ddarfod imi fygwth un o'i gwn, Ar agwedd dyn, er's 'chydig amser 'nol, Am geisio treisio merch i un o'm deiliaid. Pob ci a'm cyfarth, fe ga driniaeth ci; Pob dyn a'm parcha, parchaf finau ef. Dewised Reginald Grey pa un o'r ddau, A'i ci, a'i dyn anfona ataf fi, A phrofed felly p'run a'i ci a'i dyn Fydd yntau. Treftadaeth teulu, er's canrifoedd maith, Yw tir y Croesau, ddaliwyd genyf fi, A chan fy nhad, a'm taid, a'm teidiau gynt. A byth nis gellir, ond trwy drais ei ddwyn Oddi arnaf. |
Grey |
Fy Arglwydd Frenin: Tybiais i nad oedd un dyn yn bod A feiddiai yn y presenoldeb hwn Ddyrchafu mawl a chlod Plantagenet. Ond aros, mae teyrnfradwr fu yn Flint, Yn ysgwyd cledd o blaid y trawsfeddianwr, A daw yn hyf i ysgwyd yma 'i dafod. |
Brenin |
Ha! fuost ti Glyndwr a'th gledd o'r wain, O blaid y bradwr yn ein herbyn ni? |
Glyndwr |
Fy nghledd o'r wain a dynais lawer tro O blaid Plantagenet. |
Brenin |
A wyddost ti Dy fod drwy hyn yn gosod 'n awr dy ben Mewn perygl. |
Glyndwr |
Fy Arglwydd Frenin; Nid oes arnaf gywilydd arddel yma Yr unrhyw weithred wneuthum yn fy oes! Ond gwir fy mod er hyn yn ddyogel. |
Brenin |
Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, a yw hyn Yn dal o'i bwyso mewn clorianau deddf? |
Gascoigne |
Fy Arglwydd Frenin! mae y proclamasiwn Gyhoeddwyd genych, pan y daethoch chwi I'r orsedd hon, yn llwyr ryddhau pob un Ganlynodd Risiart. |
Grey |
Felly, 'n eofn mae Y bradwr hwn yn beiddio codi ei lais Yn ngwydd ei well. |
Glyndwr |
Mae genyf eto'i wel'd Neb gwell o waed, na bôn, na'r un a all Ei linach olrhain i Dywysogion Cymru! |
Grey |
(Yn wawdlyd.) Tywysogion geifr! |
Glyndwr |
Myn bedd fy nhad, Cei lyncu 'th air, neu lyncu'm miniog gledd! Rhof her i ti! a dyna'm maneg lawr! |
Yn taflu ei faneg i lawr. |
|
Brenin |
A wyt ti'n meiddio roddi her i neb, Yn mhresenoldeb brenin ar ei sedd? |
Glyndwr |
Mi welais un a elwid y Duc Henffordd, Yn herio Norfolk gynt yn ngwydd ei deyrn! |
Brenin |
A wyt ti yn ein barfu ni fel hyn! Cei fyn'd yn rhwym, nes oero'th ysbryd poeth! |
Glyndwr |
Nid oes un rhwym a rwym fy ysbryd i. |
Y brenin yn gosod ei law ar ei gledd yn ffyrnig. |
|
Esgob |
(Gan ymaflyd yn mraich Owen, a dweyd o'r neilldu wrtho.) Fy nghyfaill anwyl, O! bydd dawel 'nawr! |
Tywysog |
(Gan ymaflyd yn mraich ei dad, a dweyd o'r neilldu wrtho.) Fy anwyl dad, er mwyn eich anwyl fab, Gwnewch gofio 'i gymwynaswr! |
Brenin |
(O'r neilldu wrth y Tywysog.) Gwnaf ar dy air, ond caled goddef hyn. (Yn codi.) Urddasol bendefigion, rhaid'i ni Arfogi ein brenhinol urddas 'n awr. Ac yn fwy felly, gan fod ereill yn Annghofio rhoi i'r llys ddyledus barch. 'Nawr aed y prawf yn mlaen. |
Grey |
Urddasol deyrn: Deisyfaf genad i ofyn cwestiwn teg I'm gwrthwynebydd. |
Brenin |
Cenad wyf yn ro'i. |
Grey |
Syr Owen do Glendore, A wnei di ddweyd Pa un a'i Cymro, ynte Sais wyt ti? |
Glyndwr |
'Rwyf eisioes wedi dyweyd fy mod yn disgyn O uchel fon Tywysogion Gwalia wen, Nid yw etifedd dewr Llewelyn Lyw Yn myn'd i wadu ei wlad! Ie, Cymro wyf! |
Grey |
D'wed eto, Wyt ti'n hawlio bod yn Sais? |
Glyndwr |
A'i Sais wyt ti? |
Grey |
Ie, Sais o waed wyf fi. |
Glyndwr |
Tra bo ti'n Sais, ni fyddaf byth yn Sais! |
Grey |
Os felly, mae y prawf yn wir ar ben. Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, wnewch chwi Hysbysu'r llys, a ellir derbyn llw Un Cymro i orbwyso llw un Sais, 'Nol ysbryd a llythyren deddf y wlad. |
Gascoigne |
Rhaid i'm gydnabod, er cywilydd, fod Ar lyfrau cyfraith Lloegr heddyw un Sy'n dweyd nas gellir derbyn llw un Cymro O fewn llys barn, os cyfyd yno Sais, I wrthwynebu ei hawl. |
Grey |
Mae de Glendore Yn hawlio'n hyf mai Cymro ydyw ef: 'Rwyf fi'n ymfalchu yn yr enw Sais; Mae ef yn hawlio'r Croesau ar ei lw; 'Rwyf finau'n hawlio'r Croesau ar fy llw, Ac yn ol deddf y wlad, 'rwyf fi fel Sais Yn gwrthwynebu hawl Glyndwr, i ro'i Ei lw fel Cymro heddyw, ger eich bron. |
Gascoigne |
Mae eto gan Syr Owen de Glendore Ei lw, fel un o bendefigion Lloegr: Ac er nas gallwn heddyw dderbyn llw Un Cymro,—nis beiddiwn wrthod chwaith Lw un pendefig. |
Glyndwr |
Diolch ganwaith sydd, O eigion calon Owain Glyndowrdy, I'r doeth Brif Farnwr, am ei eiriau mwyn; Ond os na chaf gyfiawnder teg fel Cymro, Ni fyn etifedd Bleddyn Fawr o Powys, Ni fyn orwyr Llewelyn, Tywysog Cymru; Ni fyn olynydd union Arthur Frenin; Ni fyn y tri, yn Owain Glyndowrdy, Gyfiawnder fel pendefig Lloegr byth, Pe'r Groesau'n Gymru, a phe Cymru'n fyd! Ond gwae y wlad a wnelo gam mewn llys; A gwae y teyrn ar sedd. a wyro farn! |
Brenin |
Gwell f'ai it' ro'i dy ben yn safn y llew, Na chodi yma ger ein bron dy gloch. Pe na buasai'm mab yn eiriol drosot, Er mwyn y caredigrwydd wne'st ag ef. Anghofio eto wnaf dy eiriau llym. |
Grey |
Ond nid anghofiaf i! |
Glyndwr |
Fy maneg gwel, Mae eto ar y llawr o'th flaen: os wyt Yn meddu gradd o ysbryd dyn i'w chodi. (Yn myned allan.) |
Grey |
Fy Arglwydd Frenin doeth, apelio 'rwyf Am ddedryd i'w chyhoeddi o fy mhlaid. |
Esgob |
Fy Arglwydd Frenin, boed i minau'n awr Apelio atoch i gymeryd pwyll, A phwyso'n iawn holl hawliau teg Glyndwr. |
Brenin |
Yr hawl amlycaf a ddangosodd ef O'n blaen ni, ydoedd hawl i golli ei ben! Ond doed a ddel, gadawaf ef yn rhydd. Cyhoeddi raid im' 'nawr, nol deddf y wlad, Fod tir y Croesau'n eiddo Arglwydd Grey. |
Yn myned allan: de Grey yn myned dan ymddyddan gyda'r Brenin. |