Ystafell yn Nghastell yr Iarll. Gwen Rhydderch ym eistedd yno. Elen Montford yn dyfod fewn yn dal llythyr yn ei llaw. Tuallan gêr y ffenestr, heb. eu canfod gan y boneddesau, saif Llewelyn a Meredith. |
|
Elen |
O Gwen fach! Dyma newydd drwg. |
Gwen |
Beth sydd yn bod, fy arglwyddes î |
Elen |
Yr wyf newydd gael llythyr oddiwrth fy nhad, yn yr hwn y dywed fod pethau yn tywyllu eto yn Nghymru. Mae Dafydd, brawd y Tywysog, a phenaeth dylanwadol o'r enw Griffith ap Gwenwynwyn, wedi myned i lys brenin Lloegr, a bydd byddin gref o Saeson yn cychwyn yn fuan i'w cynorthwyo i ymosod ar y Tywysog. |
Gwen |
A'r gelyn oddiallan, a bradwriaeth oddifewn, Duw a helpo Cymru! Ond mae Llewelyn yn gryf yn y Gogledd, a'i gyfaill ffyddlonaf, Meredith ap Owen, yn cadw'r Deheudir iddo. |
Elen |
Ond mae Meredith ap Owen wedi marw, ac ofna fy nhad y try penaethiaid y Deheudir yn erbyn y Tywysog bellach. |
Llewelyn |
(O'r neilldu wrth Meredith.) Nid yw yn gwybod dim am y newyddion diweddaf, fy mod wedi arwyddo cytundeb heddwch a Harri brenin Lloegr, trwy yr hwn y mae ef yn ymrwymo fy nghydnabod dros ei oes yn Dywysog Cymru; ac am ymyriad caredig Obollonus a rwymodd y Saeson i heddwch hollol a'r Cymry dros deyrnasiad Harri. |
Meredith |
Na ŵyr, debyg iawn. Ond gad i ni weled sut y deil hi newydd drwg. |
Gwen |
Druan o Llewelyn! Onid ydych yn gofidio bellach na dderbyniasoch gynyg Iarll Northumberland am eich llaw? |
Elen |
Taw! Tydi yn Gymraes yn son am i mi fod yn anffyddlawn i Llewelyn! |
Llewelyn |
(O'r neilldu.) Dyna i ti, Meredith! |
Meredith |
Ust! |
Gwen |
Ond, fy arglwyddes, yr oeddech yn dysgwyl Llewelyn yma cyn hyn. Beth os yw ef wedi gweled rhyw feinwen arall i ddenu ei galon oddiwrthych? Neu ystyriwch y peryglon y mae ynddynt oddiwrth y Saeson. |
Elen |
(Yn wylo.) Pe credwn ei fod ef yn anffyddlon, torai fy nghalon! Ond na! Chredaf fi byth y fath beth am dano—y ffyddlonaf, y dewraf o ddynion! Ac am ba beth yr wylaf? Mae y dagrau hyn yn annheilwng o gariadferch Llewelyn! Estyn y delyn i mi. |
Gwen yn estyn y delyn. |
|
Elen |
(Yn canu,—gyda'r delyn os dewisir.) Os tywyll imi ydyw'r wybren, Os gwgu arnaf y mae fiawd, Daw eto'n well, fe wena'r heulwen A chyfyd calon Elen dlawd. Ni thal im' grio chwaith na becso, Nac i wylo dagrau ffol, Os byw yw ef, os rhwydd-deb gaffo Fe ddaw Llewelyn eto'n ol. Beth os lluosog ydyw'r Saeson Ac os creulawn ydyw'r cleddf Mi wn am un sy'n ddewr ei galon Ac a fydd ffyddlon hyd ei fedd. Ei fraich sydd gref, ei wên sydd lawen, A llechu eto gaf yn ei gol, Tra bydd hi byw, fe greda Elen Y daw Llewelyn eto'n ol! |
Tra y mae Elen yn canu yn yr ystafell, mae y ddau Gymro yn sefyll oddiallan, Llewelyn yn ymaflyd yn mraich Meredith, a'r ddau yn gwrando yn astud. Yna symudant yn ol ychydig gamrau. |
|
Llewelyn |
O fy Elen anwylaf! Adwaenwn ei llais yn mhlith mil! Yr oedd pob nodyn ganai yn taro tant atebol yn fy nghalon. |
Meredith |
Yn sicr yr oedd ganddi lais soniarus. |
Llewelyn |
Ni fu melusach tonc erioed gan eos. Ac a sylwaist ti, Meredith ar ei chyfeiriadau ataf fi, a'r ffydd oedd ganddi ynof? |
Meredith |
Do, a thybiwn dy fod wedi bod yn hynod ffodus yn dy ddewisiad. Mae cantores mor dda yn haeddu teyrnasu yn Ngwlad y Gân, ac wyryf mor ffyddlawn i'w chariad yn deilwng gydmares i Dywysog y Dewrion. |
Llewelyn |
Yr wyf yn rhwym o fyn'd ati. Ac eto mae arnaf ofn ei dychrynu wrth ymddangos yn rhy sydyn. Ni fynwn chwaeth iddi gredu fy mod wedi clywed ei chân. Gwn beth a wnaf. Cymeraf eto ffug-farf y crythwr, a chanaf dôn dan y ffenestr. Cawn weled sut y try pethau allan. |
Llewelyn yn ffugio ei wynebpryd a ffug-farf, ac yn tynu ei het dros ei lygaid. Yna nesa at y ffenestr, gan ddechreu tiwnio'r crwth. |
|
Elen |
(Oddifewn yr ystafell.) Ust! Gwen! Tybiais y clywais swn cerddediad. A dyna grwth. Mae rhyw fardd am roi nosgan i ti. |
Gwen |
Na, f'arglwyddes. Ni chanmola neb oleuni bach y seren tra byddo'r lleuad dlos yn llawn yn y golwg. |
Llewelyn |
(Yn canu, gyda'r crwth os yn bosibl.) Mae'n dda gan rai am wychder byd, Anedd-dai clyd, a chysur: Y marchog fyn rhyfelfarch chwim, Ond rhoddwch i'm fy meinir. Fe gara'r gwenyn flodau hardd, Fe gara'r morwr tonog li', Mi garaf finau—rhywun. I glustiau'r bardd peroriaeth yw Y miwsig gana Anian, Telynau'r wig, yr awel gref, Ac uchel lef y daran, A churiad ysgain tòn ar dòn, A chaniad llon aderyn; Melusach, mwynach imi'n wir Llais clir soniarus—rhywun. |
Elen |
(O'r neilldu wrth Gwen.) Gallwn gymeryd fy llw mai Llewelyn ydyw. Cawn weled yn y man. |
Ellen yn agor y ffenestr ac yn canu. |
|
Elen |
Pwy yma sydd yn eofn ei lais Pa gais sydd genyt grythwr, Dy fod fel hyn, yn dod yn hyf At gastell cryf boneddwr? |
Llewelyn |
(Yn canu fel o'r blaen.) Os cryf yw'r castell, cryfach yw Y cariad byw'n fy nghalon; Os eiddo'r Iarll yw'r castell hwn Mi wn pwy bia'r Fanon. |
Yn tynu ymaith y ffug-farf. |
|
Llewelyn |
O tyred mwy yn eiddo i mi Tydi yn wir rwy'n garu; Cei goron Cymru ar dy ben A Gwalia Wen i'th foli. |
Elen |
(Yn canu.) Nis dof er mwyn coronau heirdd, Na molawd beirdd yn gytun, Nid ydyw gwychder imi'n swyn─ |
Esgusa droi ymaith wrth ganu yr uchod. Erys enyd, yna try yn ol at Llewelyn gan ganu. |
|
Elen |
Ond dof er mwyn Llewelyn! |
Y ddau yn cusanu ac yn cofleidio. |
|
Llewelyn |
Oh f'anwylyd, mor hyfryd yw cael bod gyda thi drachefn! Bum yn mron digaloni wrth weled y rhwystrau oedd ar fy ffordd, ond diolch fo i Dduw, y maent wedi diflanu. |
Elen |
Ie, diolch fo i Dduw am ganiatau symud ymaith y cymylau bygythiol. Pan glywais y newyddion am y trafferthion yn Nghymru, bum yn pryderu am danat, ond yn awr— |
Llewelyn |
Ond yn awr gallwn ganu ar ol cael heulwen glir uwchben. |
Elen a Llewelyn |
(Yn canu.) Pob cwmwl ffodd, yr heulwen gâr Dywynu ar y ddeuddyn, Daw Gwalia hithau'n ddedwydd fel Mae Elen a Llewelyn. A rhoddwn mwy, fel mab a merch, Ein serch ar Gwalia beunydd, Rhydd Gwalia'i serch i ninau'n dau, A charwn ninau'n gilydd. |
Meredith |
(Yn ceisio gosod ei law am ganol Gwen.) Gawn ninau wneyd yr un peth, Gwen. |
Gwen |
Beth? Canu? O gwnaf gyda phob pleser. |
Meredith |
Canu yn sicr! Nage, ond fel y gwna Llewelyn y fynyd yma, "A charwn ninau'n gilydd." |
Gwen |
Peidiwch bod yn ffol, Meredith. Fe wel yr Arglwyddes Elen ni. |
Meredith |
Tut! Na! Mae ganddi ormod o waith gwrando ar ystori Llewelyn. Gad imi─ (Yn ceisio eto gosod ei lan am ei chanol, ond Llewelyn ac Elen yn troi atynt.) |
Elen |
Mae gan y tywysog newyddion da O Gymru, Gwen. Mae wedi gwneyd heddwch a'r brenin, ac wedi cael ei sicrhau yn ei Dywysogaeth. |
Llewelyn |
Ië, diolch i Dduw, gallwn obeithio bellach am flynyddau o heddwch; yna caf gyfle i ddwyn pethau i drefn yn Nghymru, a gall y wlad edrych am fwy o ddedwyddwch ynddynt nag a gawsom er's hir amser. |
Meredith |
Ië, ceir amser mwyach i gael gwasanaeth y crwth a'r delyn, a'r beirdd i blethu caneuon fel cynt. |
Llewelyn |
Cawn ddechreu yma ynte. |
Oll |
(Y pedwar yn canu.) Tan fendith nef bydd Gwalia'n llon A phob rhyw fron yn llawen, A rhwymyn serch yn cloi'n gytun, Llewelyn, Cymru, Elen! Pob gelyn draw, a hedd trwy'r wlad Heb fraw na brad i'w poeni; Mor ddedwydd mwy fydd tri yn un Llewelyn, Elen, Cymru! |
Diwedd yr Act Gyntaf. |