Drama arobryn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958
All the world's a stage
And all the men and women merely players
They have their exits and their entrances.
Shakespeare, As You Like It
Act I: Rhyw gyda'r nos
Act II:
Golygfa 1: Rhai munudau, neu fis yn ddiweddarach.
Golygfa 2: Ymhen ychydig, neu ymhen mis arall.
Act III: Ymhen wythnos, neu chwarter awr efallai.
O safbwynt yr actorion y defnyddir y termau chwith a de yn y nodiadau.
Un olygfa sydd drwy gydol y ddrama, sef Stydi'r Awdur. Gris llydan yn esgyn i fynedfa yn y tu ôl o'r canol i'r chwith. Drws yn y mur ar y dde wrth ymyl ffrynt y llwyfan, a ffenestr Ffrengig gyferbyn ag ef yn y mur ar y chwith. Platfform bychan o flaen y ffenestr hon, a desg yr Awdur arno. Cwpwrdd cabinet yn y gornel ar y chwith y tu ôl, a silff-lyfrau yn y gornel gyferbyniol. Tân trydan rhwng y silff-lyfrau a'r drws ar y dde.
Glwth, cadeiriau a bwrdd bach achlysurol yw'r gweddill o'r dodrefn.
Mae peiriant-teipio ar ddesg yr Awdur.
Am resymau a amlygir yn y ddrama, mae'n angenrheidiol i'r ystafell a'r dodrefn fod yn hollol fodern.
"Drama foesol yw Cyfyng-Gyngor, math o alegori fodern : drama teulu dyn o Eden hyd y Groes, ac fe ddigwydd y cwbl yn hanes un teulu. Nid wyf yn sicr na ellir dweud ei bod yn sylfaenedig ar Athrawiaeth yr Iawn. Yn yr act olaf, ceir cysgod o'r Eiriolwr, ac yn y cleimaes hwn y rhoddir goleuni ar holl gwrs y ddrama astrus hon, drama'r hil ddynol."
Mathonwy Hughes (Y Faner)
Perfformiwyd y ddrama hon y tro cyntaf gan Gwmni Garthewin (Cynhyrchydd, Morus Jones) yng Ngŵyl Genedlaethol Garthewin, 1958.