Ar Ddu a Gwyn (1963)

Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1963 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.


Testun agoriadol Ar Ddu a Gwyn



Cymeriadau


Jan Botha, seneddwr a pherchen mwynglawdd-aur y Rand (65-70)
Helga, ei ferch (25)
Karl Hendricks, prif-beiriannydd yn y Gwaith (30-35)
Dr Hoffman, meddyg (60-65)
Amos, gwas yn nhŷ BOTHA (40-50)


Manylion

GOLYGFA

Stydi yn nhŷ BOTHA. Ffenestr ffrengig ar y chwith yn arwain i'r balcon a'r ardd. Drws y tu ôl ychydig i'r dde o'r canol: dealler fod hwnnw'n arwain i'r gweddill o'r tŷ ac allan. Mae'r ystafell wedi ei dodrefnu'n chwaethus a dylid cael awgrym neu ddau mai yn Ne Affrig y mae: e.e. tarian o groen a dwy waywffon, a chroen llewpart ar y mur. Rhaid wrth ddesg, ychydig i'r chwith o ganol y llwyfan. Ar y ddesg mae teliffôn, dogfennau, llyfrau, a Beibl mawr teuluol.

AMSER: Y presennol.

Act I. Rhyw brynhawn.

Act II. Golygfa I—Gyda'r nos drannoeth.

Act II. Golygfa II—Ychydig funudau yn ddiweddarach.

Act III. Rhyw chwarter awr yn ddiweddarach.