Ⓗ 1952 Gwilym T Hughes
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.


Testun llawn Ei Seren Tan Gwmwl



Cymeriadau

(Yn ôl eu trefn yn dod i'r llwyfan.)

Rolant Huw, ffermwr ychydig yn fwy cefnog na'r cyffredin
Sara, ei wraig
Ifor, eu mab
Parch. Hugh Foster, offeiriad y plwyf
Jac Glan-y-Gors
Janet, merch yr offeiriad
Capten Rogers, swyddog ym Milishia Sir Ddinbych

Digwydd y chwarae yng nghegin orau Rolant Huw, mewn pentref yn Sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1796.


Llwyfannu'r Ddrama

Amser a Lle

Y mae traddodiad yn dweud i Jac Glan-y-Gors orfod dianc am ei fywyd o Lundain wedi iddo ysgrifennu Seren Tan Gwmwl, yn ymosod ar y Llywodraeth. Ond nid oes sicrwydd i ble yn union yr aeth, nac at bwy.

Drama fer yn ymwneud â'r traddodiad hwnnw yw Ei Seren Tan Gwmwl.

Digwydd yr holl chwarae yng nghegin orau Rolant Huw mewn pentref yn Sir Ddinbych oddeutu 1796, blwyddyn ar ôl ymddangosiad Seren Tan Gwmwl ac ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel yn erbyn gweriniaeth Ffrainc.

Ffermwr ychydig yn fwy cefnog na'r cyffredin yw Rolant Huw, mewn cyfnod o dlodi ac angen mawr ymhlith gwerin Cymru ... cyfnod, medd Syr O. M. Edwards, pryd yr oedd "y gweithiwr bron â mynd yn gaethwas, a phan nad oedd yr Eglwys yn llais yr Efengyl."

Dodrefn

Cegin wedi ei dodrefnu'n syml sy'n gweddu i'r cyfnod. Y mae dau ddrws, un yn y canol (y brif |entry|) yn arwain i gyntedd bach a drws y ffrynt, a'r llall ar y dde yn arwain i'r gegin gefn, etc.

Lle tân ar y chwith a setl wrtho. Dwy gannwyll ar y silff-bentân. Nid oedd lampau yn ffermdai Cymru yn y 18fed ganrif.

Bwrdd cegin ac amryw gadeiriau. Cannwyll ar y bwrdd. Ffenestr yn y mur yng nghefn y llwyfan. Llenni arni i'w tynnu at ei gilydd pan ddaw'r galw am hynny.

Dresel hen ffasiwn â chypyrddau neu droriau iddi. Silff lyfrau fechan.

Dyna'r anhepgorion. Gadewir y gweddill o'r trefnu i'r cynhyrchydd.

Gwisgoedd

Gwisgoedd cyfnod ola'r 18fed ganrif. Y mae dillad Janet, Ifor a Jac yn fwy "ffasiynol" na'r gweddill.

Cymeriadau'r ddrama

Rolant Huw Yn fwy diwylliedig na'r cyffredin. Cyflwr truenus y werin yn mynd yn syth at ei galon. Dyna'i hoff bwnc, ac y mae'n barod i ddadlau arno unrhyw amser. Byr ei amynedd. Tua 6o oed.

Sara Yn fwy crefyddol, yn ystyr gyfyng y gair, na'i gŵr. Nid oes ganddi lawer o wynt i syniadau newydd Jac a Rolant. Yn rhy fodlon i blygu i'r "Drefn". Cartrefol a gwerinol ei gwedd a'i siarad.

Ifor 20-25. Ffefryn ei fam, honno wedi ei lwyr ddifetha. Wedi cael ychydig o addysg ond heb fanteisio rhyw lawer ar hynny. Cymeriad gwan, ofnus, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, yn nerfau i gyd. Yn caru Janet.

Hugh Foster Tua 55-60. Offeiriad y Plwyf, a dyn "i'w ofni", chwedl Rolant. Caled, oer, di-hiwmor, di-gyffro, sarcastig. Sieryd Gymraeg da heb lediaith na rhodres. Cadarn a di-gyfaddawd ar a gwestiwn Eglwys a Gwladwriaeth. Cred yn sancteiddrwydd y rhyfel yn erbyn Ffrainc. Condemnia'r syniadau newydd i'r eithaf, fel yn perthyn i'r Anghrist a'r Diafol. Gofaler peidio â'i chwarae fel "caricature" o berson plwyf y 18fed ganrif, fel y'i ceir yng ngwaith Jac Glan-y-Gors a Thwm o'r Nant.

Janet Tua 21. Siriol bob amser, cymeriad hoffus dros ben a chymeriad cryf. Yr unig un a all daflu Jac Glan-y-Gors a Hugh Foster dros eu hechel. Y mae iddi gryn dipyn o synnwyr digrifwch.

Jac Glan-y-Gors 30 oed yr adeg yma. Ffraeth, bywiog, llawen, yn egni i gyd. Yn cario'r ddrama gydag ef ac yn cellwair ei ffordd drwyddi. Byddai arafwch a chloffni yma yn anfaddeuol. Bob amser yn sicr ohono'i hun ond rhyw unwaith neu ddwy yng ngŵydd Janet. Hollol ddi-gyffro fel rheol.


Perfformiadau

Perfformiwyd y ddrama hon am y tro cyntaf Nos Lun, Awst 4ydd, 1952, yn Neuadd y Brenin, Aberystwyth, yng Nghystadleuaeth Gyfansoddi Drama Un Act yr Eisteddfod Genedlaethol, gan Gwmni Tal-y-Bont, Ceredigion gyda'r cast a ganlyn:

Rolant Huw Ithel Jones
Sara Ruffina Owen
Ifor Aneurin Jenkins-Jones
Parch. Hugh Foster Mostyn Drummer
Jac Glan-y-Gors E. D. Jones
Janet Foster Valma Jones
Capten Rogers Gwilym Hughes
   
Cynhyrchydd Ithel Jones