Act I: Festri plwyf Llansilio.
Act II: Yn yr Esgerwen. Yr Hen Deiliwr wrth ei alwedigaeth.
Act III: Ysgol Gân, a chanu llawen yn yr Esgerwen.
LLEOLIAD :— Ystafell Festri Plwyf Llansilio. Ar esgynlawr dynodir hen ystafell blaen, tebyg i hen ysgoldy â gwelydd gwyngalchog, a ffenestri eglwys. Bwrdd hir plaen, a chadeiriau, ac unrhyw angenrheidiau i ddynodi y fath ystafell. Y CLOCHYDD yn nillad treuliedig y FFEIRAD, a'r lleill yng ngwisg ffermwyr cyfrifol (brethyn llwyd a britis penlin).