Golygfa—Festri Plwyf Llansilio. Sŵn y CLOCHYDD yn paratoi yr ystafell erbyn y Festri, ac yn siarad yn synfyfyriol. |
|
Sioni |
Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un. Y mae gwaith clochydd yn eitha diddorol, ac mi ga i dipyn o hyfrydwch wrth wylio'r hen elyn yn agoshau. Rwy'n gwybod yn eitha da pwy fydd y nesa' i fynd. Yr hen Wil y Carter. 'Roedd golwg angeu yn 'i wyneb e' dydd Sul, a mi dowles i olwg drosto er mwyn bod yn barod. Mi alla neud hyn o ymffrost 'mod i yn gwbod maint y bedd fydd yn eisie arnyn' nhw i gyd. Un olwg i Sioni, 'does eisie na phlan na mesur wedyn. Mi greda i mai'r lle gore i gladdu yr hen Wil fydd o dan yr hen goeden dderw wrth ochor Parc y Ficer. Mi leicie'r hen "foy" orwedd fan hynny, mi wn. |
Y FFEIRAD yn dod i mewn â llyfr mawr dan ei gesail. |
|
Ffeirad |
Heb gynnu'r canwylle wyt ti, Sioni? Mae'n well i ti neud brys, mae'n amser dachre'r festri. Pendrymu fel arfer, â'th feddwl yn y yr hen fynwent. D'wed am faint ma'r angladd 'fori, a chofia 'ngalw i mewn amser. |
Sioni |
Am ddeg, syr; mi ofala eich galw mewn amser. Yr ydych chi a finne wedi rhoi cannoedd dan y dywarchen lâs erbyn hyn, syr, a dyna'r hen Fari Gingerbread wedi mynd ar ei thaith ola' o'r diwedd, er mor wddyn oedd yr hen greadur. 'Does ganddi na châr na chyfaill i wylo deigryn ar ei hol. Druan o'r hen Fari. |
Ffeirad |
Yr wyf wedi clywed digon o dy fyfyrdodau di, Sioni, ar einioes ac angeu erbyn hyn. Yr un hen stori ar dy dafod, a'r un hen wep ar dy wyneb. Cer, nawr, adre at Pegi, mae'r Festri yn dechreu crynhoi. |
Aelodau o'r Festri yn dod i mewn, ac yn eistedd, y SCWEIER yn ola, a'r ffermwyr yn codi i ddangos parch iddo. DAFI'R TEILIWR yn parhau i eistedd. |
|
Ffeirad |
Mi wela fod y Festri yn llawn ag eithrio Siaci'r Felin. Mi ddaw Siaci heb fod yn hir. Mae hi dipyn yn dywyll i drafaelu drwy Allt y Cadno. Mae'n well i fi ddarllen cofnodion y Festri ddiwedda, ac yna mi awn ymlaen â'r fusnes. (Yn darllen o lyfr y Festri.) "Cofnodion Festri Plwyf Llansilio, a gadwyd nos Lun, Rhagfyr yr ail, 1842. Yn bresennol: Y Parch. Sinett Jenkins yn y gadair, Mr. Lloyd Williams, John Jones, Dafydd Ifans, Daniel Lewis, Siaci'r Felin, a Dafi'r Teiliwr. Yn gyntaf pasiwyd fod y biliau canlynol i'w talu:─ I John Richards y Preintar am Gomon Prayer: 2s 0d I Pegi'r Clochydd am olchi'r wisg wen: 1s 0d I Sion y Gô am allwedd newydd - 0s 6d I Twm Sâr am goffin Sian Pwllybroga: - 2s 0d I William 'Ralltfowr am gadw Jane Owen am gwarter, ac am bâr o glocs i Jane: 15s 6d I Wil y Crydd fel help at gwiro'i ddillad: 0s 3d I Sian Pantywhiaid am olchi crys Jac yr Hatter: 0s 4d I wraig Twm bach tra'r oedd Twm yn y jâl: 2s 6d I Leisa Dafi'r Wper am dorri cerrig: 0s 8½ I'r Cwnstebliaid am dendo'r Sessiwn: 7s 6d Y Cyfanswm yn: £1 15s 3½d" |
John |
Dyna fel ma'r arian yn mynd, coste, coste, o hyd. |
Scweier |
Llai o sŵn, John; ma tafod ti rhy hir. Cerwch mlân, Jenkins. |
Ffeirad |
"Penderfynwyd rhoi to newydd ar yr Eglwys o lechau Carnarfon, ac fod Mr. Jenkins i gâl yr hen rai am y drwbwl o'u cywain i ffwrdd. Penderfynwyd nad yw y plwy' yn mynd i gadw Beca'r Wyau yn rhagor, am ei bod wedi ennill 'i phlwy' yn Llanaber. Penderfynwyd fod John Jones a Dafydd Ifans i surveyo y ffordd o Maeslan i'r Felinganol, a'u bod i ddod â'r cownt i'r Festri heno. Penderfynwyd fod Nansi Jac Potcher i ddod o flaen y Festri heno." |
Scweier |
Very good, very good. A fi'n cynnyg 'nawr, Mr. Chairman, fod ni'n câl report John a Dafi am y ffordd. Well i ti, Dafi, siarad, mi fydd John ding-dong, ding-dong drw'r nos yn gweyd 'i stori, a ma ladi yn disgwyl fi catre i cinio. |
Ffeirad |
Eitha reit, Mr. Williams. Dewch Dafydd Ifans â'ch report am y ffordd. |
Dafydd |
Wel, gyfeillion, i fod yn fyr, rhaid gweyd y gwir, mae'r ffordd o Maeslan i'r Felinganol mewn cyflwr ofnadw. Mi gym'rith tuag ugen llwyth o gerrig i lanw'r twlle ar ol y llif diwedda, heblaw pethau er'ill. Mae John a finne wedi cytuno mai y peth gore i neud ydyw gofyn i ffermwyr y plwy am roi talcweth neu ddou i gywain cerrig yn ystod y rhew, a gadael i'r mynwod 'ma sy' ag eisie gwaith i dorri'r cerrig, ac i dalu Twm Crwca whech cheiniog y dydd am edrych ar 'u hole nhw, ac wrth gwrs i neud ei shâr o'r gwaith. A'r ffermwyr na allant roi talcweth, rhaid codi tôll arnyn nhw yn ol 'i hamgylchiadau: cwded o flawd, neu sached o dato, neu fasned o fenyn, a dyna gyflog y mynwod i chi. Ma John a finne o'r farn unfrydol mai dyna'r ffordd rata, a dyna'r prif beth wedi'r cwbwl. |
Scweier |
Very good, Dafydd, a chi'n gweyd y gwir bob gair. Rown i ar cefen y cel glâs mas yn hela, ac wrth croesi yr hen ffordd y jafol 'na mi a'th troed y cel bach i hen twll, a finne tros i ben e' i'r mwt, nes o'dd cot fi'n plastar, ac wedi spwylo altogether. |
SIACI'R FELIN yn rhuthro i mewn, mor wyn a'r galchen ac yn crynu. |
|
Scweier |
Helo, Siaci Felin, be sy arnat ti, gwêd? |
Siaci |
O, mishtir bach, rwy' wedi gweld pethe rhyfedd heno. Pan o'wn i'n dod fyny drwy Allt y Cadno 'roedd mor dywyll a'r fagddu, ac ofan yn y nghalon i y cwrddwn â'r Ladi Wen, neu'r Crach y Rhibyn fu ar ol Twm Sâr pan oedd yn dod nol o garu. Ar ac unwaith dyma fi'n clywed sŵn screchain, rhyw leisiau oerion, yn ddigon i hala iasau drwy gorff dyn, a dyma fi'n dechre' gwanddi hi fel milgi, ond dilyn oedd y sŵn, ac yn dod yn nês o hyd, ac, o'r arswyd fawr, dyma rwbeth wrth y nhraed i o'r diwedd, a dyma finne yn dechre iwso'r bastwn. Ond er fy nychryn 'doedd yna ddim sylwedd i ddala ergyd o dan y bastwn. Ac mi nabyddes y fileiniaid. Haid o gŵn bendith y mamau ar eu ffordd i rwle. Ta Sioni'r Clochydd 'ma mi alle Sioni ddweyd i ble oedden nhw yn mynd, a phwy sydd i fadel nesa. Ond mae un cysur gen i, yr oeddynt yr ochor 'ma i'r afon. Alle nhw ddim bod yn mynd i'r Felin, waeth chroesa nhw ddim dŵr, fel y gwyddoch. |
Scweier |
A fi'n synnu atat ti, Siaci, yn dod 'ma i weyd hen stori baganaidd fel 'na. Pam na chi, Jenkins, Ffeirad, peidio pregethu yn erbyn hen trash fel'na? Cŵn bendith y mamau, wir, digon tebyg mai haid o llygod ffrenig welest ti, ar 'i ffordd i whilio ydlan newy'. Os o'nhw'n mynd i'r Plâs, mi ro'i y cipar, a'r fferets, a'r tarriers ar 'u hol nhw, a mi 'na i short work o'r scamps. |
Ffeirad |
You must understand, Mr. Williams, that these country people live very close to nature and its mysteries, which are closely allied to the supernatural. Remember the words of our famous English poet: "There are more things in heaven and earth, Horatio, Than are dreamt of in your philosophy." |
Scweier |
Jolly rot, I say. You are paid to knock this nonsense out of them, and see that you do it. |
Ffeirad |
Rhaid mynd ymlaen â'r fusnes ar ol y digression yna. Rwy'n credu fod Nansi Jac Potcher wrth y drws; mae'n well ei chael i mewn yn awr. Nansi, dere i mewn. |
NANSI a'r plant yn dod y mewn ac yn rhoi cwtch i'r SCWEIER â'r FFEIRAD. |
|
Ffeirad |
Wel, Nansi, dyma ni wedi dy alw di o flaen y Festri, er mwyn setlo y peth gore i neud â thi a'r plant tra bo Jac yn jâl. Ac er mwyn i'r Festri i gael gwybod dy amgylchiadau, dwed faint o blant sydd gyda thi. |
Nansi |
O, syr, mae gyda fi lond y tŷ o blant. Dyma John Thomas Henry, mae e'n naw; dyma Evan Jenkin Thomas, mae e'n wyth; a Mary Jane, yn saith; a Sarah Ellen, yn whech; a dyma'r un bach 'ma, Lloyd Williams—{yn troi at y SCWEIER gan wenu a rhoi cwtch)—mae e' wedi câl ych enw chi, syr, a dyma'r babi yn y nghôl i, mae e'n wyth mis. |
Ffeirad |
Dyna hi, llon'd tŷ o blant, a'r tad yn y jâl am botchan. |
Nansi |
'Dyw Jac ddim yn botcher, syr, nag yw, wirione fach annwl. Yr hen gymdogion 'ma sy wedi gweyd celwy. Ma' pawb lawr ar bobol dlawd, a ma' nhw lawr ar Jac a finne am yn bod ni'n dlawd. O, Jac bach, dyna ti yn yr hen jâl heb neud un drwg, a finne a'r plant bach yn starvo. Beth ddaw o hono ni? (Yn crio.) |
Ffeirad |
'Nawr, Nansi, rhaid i ti fod yn dawel, ac edrych ar bethau fel y maent. Y mae Jac wedi torri'r gyfreth drwy botchan, ac y mae'r gyfreth wedi cymeryd gafael arno a'i roi yn y jâl. |
Nansi |
Ond 'dyw Jac ddim wedi bod yn potchan eriod, nag yw, wirione i. |
Scweier |
O'dd Jac ddim yn potcher, Nansi, a'r bobol yn gweyd celwy ie. Wen i wedi specto 'rhen Jac os llawer dy' a fi a'r cipar yn 'i watcho fe, y scamp, a d'odd dim ishe gwell evidens na ges i. A fi yn paso tŷ ti, Nansi, un diwarnod, a 'ma fi yn dachre smelo, smelo. Ma cawl gweningen yn tŷ Nansi, medde fi. |
Nansi |
Cawl gweningen, syr, phrofes i ddim cawl gweningen yn 'y mywyd. Dodd dim bwyd yn y tŷ, a mi gês asgwrn gyda Roli'r bwtchwr, i neud cawl i'r plant, a mi roes pun bach o deim a phersli o'r ardd yndo fe i neud blâs arno, a dyna beth wech chi'n smelo, syr. Ie, wirione fach annwl. |
Scweier |
Paid ti bod mor smart, Nansi. Ro'dd Carlo bach gyda fi, a ma' Carlo bach yn dachre smelo, a 'ma fe yn mynd miwn i gardd ti, Nansi, a 'ma fe'n dod 'nol â asgwrn gweningen yn 'i ben e'. A ma fe'n sefyll o mlan i ac yn edrych arna i, ac fel yn gweyd, Mistir, ma' fi wedi dala Jac Potcher o'r diwedd. Ie, Nansi, hen dyn drwg yw Jac, a hen potcher mowr hefyd, a fi'n falch fod e' yn y jâl. |
Nansi |
O, syr, peidiwch bod mor galon galed; ma'r plant a finne heb fwyd yn y tŷ, ac heb dân ar y tywydd oer 'ma. O beth ddaw ohono ni? (Yn crio.) |
Dafi |
Na chei di, Nansi, na'r plant ddim starvo tra bo Dafi'r Teiliwr yn gallu iwso nodwydd. Ar dy ffordd adre galw yn ein tŷ ni, a gwêd wrth Marged am roi cwded o flawd i ti, a phishyn o ham y mochyn coch. |
Nansi |
Diolch yn fowr, Dafi; diolch yn fowr. (Yn mynd allan.) |
Dafi |
Mae 'ngwâd i'n berwi wrth ych clwed chi, Mr. Williams, yn siarad fel 'na. Mi allem feddwl fod lladd gwningen yn fwy o bechod na lladd dyn neu blentyn. Mae'r ffermwyrs 'ma ag ofan siarad o'ch blaen chi. Mi wyddan mai notis ga nhw, ond diolch i'r nefoedd, 'rwyf i yn byw ar dir fy hunan, a does ofan na sgweier nac arglwydd arna i. Odi chi'n meddwl fod y Bod mowr wedi trefnu yr hen fyd 'ma i'r cyfoethog yn unig? Na, na, mi wela i bethe gwell yn dod; fe fydd y gweithiwr a'r tlawd, fel y gwna addysg ledaenu, yn dechreu gweld mai caethion ydynt, yn rhwym, gorff ac enaid, dan law dynion fel chi, a Duw'ch helpo chi a'ch sort y dyddiau hynny. Mi ellwch ddychrynu Nansi Jac Potcher a ffermwyrs Llansilio, ond mae Dafi'r teiliwr yn golygu bod yn ddyn rhydd, ac yn golygu pregethu rhyddid hefyd. |
Scweier |
Dyma hi o'r diwedd. A fi a nhad a nhacu wedi tendo Festri Llansilio am ugeine o flynydde, a dyma fi, Scweier y plwy, yn gorffod grondo ar insults fel hyn 'da hen teilwr. Dyma be sy'n bod, Jenkins, Ffeirad, o câl hen deilwr i ddod i cymysgu â ffarmwyrs respectablyn y Festri. A fi dim yn aros rhagor, a fi'n mynd catre at y ladi, a cofia di, Dafi teilwr, cei di dim gwinio stitch mwy i'r Plâs, a ma ishe dillad newy' ar y cotchman a'r bwtler 'nawr. A fi'n mynd. |
Ffeirad |
Dear me, Mr. Williams, rhaid i chi basio heibio i Dafi. Mae e'n darllen yr hen bapyre 'ma am y Siartiaid, ac yn drysu ei ben gyda'r athrawiaethau newy' 'ma. Come, come, Mr. Williams, it is beneath your dignity to take notice of such words, especially coming from an ordinary tailor. Remember your high descent, and the noble traditions of your family. The patrician blood of the Lloyd Williams family is surely proof against these things. Come, Mr. Williams, sit down. |
Scweier |
Na, na, 'ma fi'n mynd. (Yn gadael 'yr ystafell.) |
Ffeirad |
'Rwyt ti, Dafi, wedi rhoi dy droed yndi o'r diwedd. Beth na i os na ddaw y Scweier i'r Eglwys, a beth ddaw o'r casgliad amser y Nadolig a'r Pasg? Mi wela i amser gofidus o mlaen i, i dreio gneud heddwch rhyngot ti, Dafi, a'r Scweier a'r ladi. Ond ar ol y gofid a'r trwbwl i gyd rhaid mynd ymlaen â'r fusnes. Beth i ni'n mynd i neud â Nansi a'r plant? |
Dafydd |
Wel, gyfeillion, mi greda i mai y peth gore i neud gyda Nansi a'r plant ydi hyn. Ma' un yn whech, un yn saith, un yn wyth, ac un yn naw, a ma' ganddi ddou un bach wedyn. Rwy' wedi siarad â'r ffermwyrs 'ma, ac yr ydym yn foddlon cymryd y pedwar hena. Un i Bantmoch, un i Bensingrug, un i Blaencaron, ac un i'r Esgerwen. Mi rown i fwyd iddyn nhw, ac ambell i hen bilyn fel bo ishe. Mi fyddan o ryw dipyn bach o help i hela ofan ar y brain, i mofyn y gwartheg, i fugeilio defaid, neu i dwtian gyda'r mynwod. Mi all Nansi dorri cerrig, mae hi'n fenyw gref, a naiff tipyn o waith caled ddim drwg iddi. Mi shifftith â'r ddou leia wedyn gyda thipyn o help cymdogion. |
Sŵn mawr wrlh y drws, a'r SCWEIER yn rhuthro i mewn yn wyllt, a TOMOS Y COTCHMAN yn ei ddilvn. |
|
Scweier |
Dyma hi o'r diwedd. Mae'r byd ar ben; mae'r byd ar ben! Twm Cotchman, dere mlaen, tyn dy hat lawr, a gwêd wrth y Festri be' sy wedi hapno mewn plwy respectabl fel Llansilio. Tyn dy hat lawr a paid sefyll fel post fan 'na. Gwêd dy stori. |
Tomos |
Ma'r si ar lêd, syr, fod Beca a'i merched ar garlam wyllt drwy y gymdogaeth. |
Dafi |
Hwre, bendigedig! |
Scweier |
Dyna result dy hen tafod ti, Dafi teilwr, a fi'n gweyd yn blaen os clywa i fod un o tenants y Plâs yn y busnes hyn, "Notis to quit" fydd hi at once. Cer ymlaen â dy stori, Twm, yn lle sefyll fel mwlsin fan 'na. |
Tomos |
'Rodd y cipar a finne yn câl bob o beint yn Tafarn Spite heno, pan ddaeth gwas Hafod Isa miwn gan waeddi yn wyllt tros y lle fod Beca a'i merched ar gefen ceffyle ar garlam wyllt drwy y lle, eu bod nhw wedi torri gât New Inn, ac eu bod ar eu ffordd i dorri gât Drefach; eu bod wedi gyrru i dŷ Salmon y Cybydd a'i dynnu o'i wely, a bwgwth llosgi ei helem wenith os na addewai roi help i bobol dlawd y plwy. Eu bod wedi cario plentyn Sian Pantfoel i dŷ Twm Sâr, a bwgwth towlu Twm i Bwll y Dibyn yn afon Teifi, os na wnai addaw priodi Sian. Yr oedd y ddau frawd gan fawr eu dychryn yn barod i addaw unrhyw beth. Yna fe aethant— |
TOMOS Y COTCHMAN am fynd ymlaen â'i stori, â'r SCWEIER am siarad. |
|
Scweier |
Dyna ddigon, dyna ddigon, mae'r byd ar ben. Mi fyddan yn dod i'r Plas nesa a hala ofn ar ladi, a llosgi y tai, a lladd y pheasants a'r gweningod, ond mi hala i yn straight at y Government i gal y soldiers lawr, a mi nawn cwnstebli newy'. A cofia di, Dafi teilwr, os clwa i dy fod ti yn torri y cyfreth mi cei di summons yn y fan. Mi dy ddysga i di i weyd hwre am fod Beca a'r set 'na yn gneud drwg. Ac os cei di dau neu dri diwarnod yn y stocs, falle na fydd dy hen dafod ti mor hir. Dere, Twm, rhaid i fi alw y justices at i gily' i neud cwnstebli. |
Y SCWEIER yn llawn sŵn yn mynd allan, a'r COTCHMAN ar ei ol. |
|
Ffeirad |
Wel, gyfeillion, Festri ryfedd gawsom ni heno. Gobeithio y gwnewch i gyd dreio cadw heddwch yn y plwy, a mi ddylet ti, Dafi, i gofio fod gwarogaeth i'w dalu i waedoliaeth a chyfoeth. Y mae graddau mewn cymdeithas i fod ac wedi bod erioed. "Y gweision, ufuddhewch i'ch meistriaid," medd yr Hen Air, a rheol dda i'w chadw yw hi hefyd. Rhaid cadw pobol dlawd yn eu lle, neu mi â'r byd yn bendramwnwgl. Gobeithio erbyn y Festri nesa y bydd pethau wedi tawelu, ac y bydd heddwch yn teyrnasu fel yr afon, ac y cawn ninnau gwrdd gyda'n gilydd fel cyfeillion. |
Y Festri yn codi a'r llen yn disgyn. |