CHWARYDDIAETH I. GOLYGFA I. Elsinore. Esgynlawr o flaen y Castell. FRANCISCO ar ei wyliadwriaeth. BERNARDO yn dyfod ato. |
|
Bernardo |
Pwy sydd yna? |
Francisco |
Nage, ateb fi; Saf, a dangosa di dy hun yn llawn. |
Bernardo |
Byw fyddo 'r brenin! |
Francisco |
Ai Bernardo? |
Bernardo |
Ië. |
Francisco |
Chwi ddeuwch yn ofalus at eich hawr. |
Bernardo |
Mae wedi taro haner nos yn awr, A thi, Francisco, 'n awr i'th wely dos. |
Francisco |
Am y gollyngdod hwn rho'f ddiolch mawr, Mae'n erwin oer, a minau 'n galon glaf. |
Bernardo |
Gawd gwyliadwriaeth dawel gênych chwi? |
Francisco |
Do, nid ysgogodd un llygoden fach. |
Bernardo |
Wel, noswaith dda; os gwnewch gyfarfod â Horatio a Marcellus, y rhai ynt Fy nghymdaith-wylwyr, erchwch arnynt frys. |
HORATIO a MARCELLUS yn dyfod. |
|
Francisco |
'R wy 'n tybied clywaf hwynt.—Gwnewch sefyll, ho! Pwy yna sydd? |
Horatio |
Cyfeillion i'r tir hwn. |
Marcellus |
A gweision ufudd i y Daniad y'm. |
Francisco |
Nos dda i chwi. |
Marcellus |
O, ffarwel, filwyr gonest. Pwy yw yr un a ddarfu dy ryddâu? |
Francisco |
Bernardo yw yr un a leinw 'm lle. Nos dda i chwi. |
FRANCISCO yn ymadael. |
|
Marcellus |
Holo! Bernardo! |
Bernardo |
D'wed. Beth, aì Horatio yw? |
Horatio |
O hono ddarn. |
Bernardo |
Henffych, Horatio; croesaw, Marcellus dda. |
Horatio |
A ymddangosodd heno eto 'r peth? |
Bernardo |
Ni welais ddim. |
Marcellus |
Horatio dd'wed mai ein dychymyg yw; Ac ni cha 'r gred afaelyd ynddo ef Yn nghylch yr olwg erchyll hon, a ga'dd Ei gweled ddwywaith bellach genym ni; Am hyny mi erfyniais arno i Gydwylied trwy fynudau 'r noson hon; Fel, os daw y drychiolaeth eto, y gwna Ein llygaid goelio, a siarad gydag ef. |
Horatio |
Ust! ust! nid ymddangosa. |
Bernardo |
Eisteddwch beth; A phrofwn unwaith eto, ein clustiau sydd Mor gryf yn erbyn yr ystori hon, A welsom y ddwy noswaith hyn ill dau. |
Horatio |
Wel, eistedd wnawn i lawr, a chlywn pa beth Sydd gan Bernardo i'w ddyweyd am hyn. |
Bernardo |
Neithiwyr olaf oll, pan yn y nen Gorphenai 'r seren aew—yr hon sydd Yn orllewinol oddiwrth y pegwn—ei Chwrs, i oleuo y rhan acw o'r nef Lle llosga 'n awr, Marcellus a myfi, Y gloch yn taro un,— |
Marcellus |
Ust! taw yn awr; gwel p'le mae eto 'n d'od. |
Yr YSBRYD yn dyfod. |
|
Bernardo |
Yn yr un wedd a'r brenin sydd yn farw. |
Marcellus |
Tydi wyt ysgolaig, Horatio, Ymddyddan gydag ef. |
Bernardo |
Ai onid yw Yn debyg i y brenin? sylwa'n dda, Horatio arno ef. |
Horatio |
Yn debyg iawn:— Fy llenwi mae â braw a syndod erch. |
Bernardo |
Dymunai i ni siarad gydag ef. |
Marcellus |
Ymddyddan, da Horatio. |
Horatio |
Beth ydwyt ti Ormesa ar yr amser hwn o'r nos Ac hefyd wisga 'r deg ryfelgar ffurf A wisgid gan Fawrhydi Denmarc gynt? Trwy nef tyngedaf di, ymddyddan gwna. |
Marcellus |
Mae wedi'i ddigio. |
Bernardo |
Gwel, mae'n cilioi ffordd. |
Horatio |
Arosa, siarad: siarad, 'r wyf yn awr Yn dy dyngedu eto i siarad, gwna.. |
Yr YSBRYD yn ymadael. |
|
Marcellus |
Mae wedi myn'd, ac nis gwna ateb ddim. |
Bernardo |
Pa fodd yn awr, Horatio? Diau 'r y'ch Yn crynu, ac yn welw iawn: ai nid Yw hyn yn rhywbeth mwy na gwag ddychymyg; Beth am dano yw dy dyb? |
Horatio |
Ger bron fy Nuw, nis gall'swn gredu hyn, Cyn i mi dderbyn y dystiolaeth wir, Deimladwy, gan fy llygad i fy hun. |
Marcellus |
Onid yw yn debyg i y brenin? |
Horatio |
Y mae gan Debyced ag y ti, iti dy hun; Y cyfryw oedd yr arfau wisgai pan Ymladdai â'r ymgeisiol Norway gynt; 'R un fath y gwgai, pan mewn rhysedd dig Ac gmledd dewr, y darfu daraw y Carllusgaidd Polack ar y rhew ys talm. Mae 'n rhyfedd. |
Marcellus |
Felly, llawn ddwy waith o'r blaen, A thua yr awr ordrymaidd hon, aeth â Milwraidd rodiad, heibio 'n gwylfa ni. |
Horatio |
Pa fodd i feddwl am y peth, nis gwn; Ond fel tuedda 'm barn fy hun, mae hyn Yn rhagargoeli rhyw drychineb mawr. |
Marcellus |
Mae'n debyg iawn, eisteddwn yma i lawr, Myneger i ni gan ryw un a ŵyr, Paham mae 'r wyliadwriaeth ddyfal hon, Yn cael ei chadw yn nosol yn ein tir; A pha'am y llunir bob ryw ddydd, y fath Gyflegrau pres, a marchnadyddiaeth o Dramoraidd offerynau rhyfel; pa'm Mae'r cyfryw ddirgymhelliad tuag at Gael seiri llongau, llafur mawr y rhai, Ni âd o ddyddiau wythnos un dydd Sul; Pa beth all fod yn darllaw, pan y mae 'r Fath chwyslyd frys, fel ag i beri fod Y nos yn gydlafurwr gyda'r dydd; Pwy all dd'weud imi? |
Horatio |
Hyn a allaf fi; O leiaf, felly dywed siffrwd. Ein Diwedda frenin, delw 'r hwn a ddaeth O fewn y fynud hon i'n gwydd, oedd, fel Y gwyddoch, wedi ei symbylu gan Y balch Fortinbras, o dir Norway draw— Yr hwn i frwydr roddes iddo her; Pan ddarfu Hamlet ddewr (canys felly gwneir, Yr ochr hon i'n byd, ei gyfrif ef,) Ladd Fortinbras, a hwnw, hefyd, trwy Seliedig amod. cadarnâol gan Ddeddf a herodraeth, a fforffediodd gyd- A'i fywyd, ei holl diroedd y rhai oedd Yn d'od yn feddiant i'r gorchfygwr dewr: Ar gyfer hyn, gosodwyd haner llawn Gan ein mwyn frenin; yr hwn haner i I etifeddiaeth Fortinbras, pe buasai ef Orchfygwr; fel wrth yr un amod a. Chytundeb i ei chadarnâu, y daeth Ei gyfran ef, i ddwylaw Hamlet; ac Yn awr, wych syr, mae yn ymddangos fod Yr ieuanc Fortinbras, yr hwn y sydd O ddewrder heb ei brofi, yn llawn o dân o fewn cyffiniau Norway, yma a thraw, ' Yn codi rhestrau o wrolion heb « Berch'nogi tir, am fwyd a diod, äi Ryw ymgyrch benderfynol: yr hon sydd (Fel yr ymddengys i ein teyrnas ni,) I ddim ond adfeddianu, â llaw gref, A rhyw orfodaeth anorchfygol fawr Y tiroedd hyny gollwyd gau ei dad: A hyn, fel yr wyf fi yn tybied, yw Y prif resymau dros y cwbl oll, O'n darpariadau ni; a'r achos o Ein dyfal wyliadwriaeth; a phrif bwnc Y dirfawr frys, a'r cynwrf sy'n y tir. |
Bernardo |
'R wy'n tybied nas gall fod ddim arall, ond Os felly, fe arwydda 'n dda, fod y Drychiolaeth tra-arwyddol hwn, yn d'od Yn arfog trwy ein gwylfa; ac mae mor Dra thebyg i'r hen frenin oedd, ac sydd, Ei hunan yn brif bwnc y brwydrau hyn. |
Horatio |
Brycheuyn yw, i gyffro ein meddwl ni. Yn nghyflwr uchaf, mwyaf pâlmaidd yr Hen Rufain, rywfaint cyn y cwympodd y Galluog Julius yr oedd beddau oll Yn prysur ymwagâu, a'r meirw geid Yn ysgrech ac oernadu 'n erch, o fewn Heolydd Rhufain, mewn amdoau oll, Fel rhagarwyddion o'r hyn oedd i dd'od. Pan yr oedd ser gyda llosgyrnau tân, A gwlith o waed, yn duo gwedd yr haul; A'r seren laith, ar bwys yr hon y saif Holl ymherodraeth Neifion ar ei hynt, Yn glaf fel pe buasai'n ddiwedd byd. Ac felly tebyg ragarwyddion o Erch ddygwyddiadau,—fel blaenredwyr yn Rhagflaenu tynged, ac yn hyfion dd'od Fel dechreu 'r ffawd ofnadwy sydd i fod, A ydyw'r nef a'r ddaear yn cyd-ddweud Wrth yr hinsoddau, a'n cydwladwyr ni.— |
Yr YSBRYD jn ail-ymddangos. |
|
Horatio |
Yn araf; gwelwch! eto mae yn d'od! Af draws ei lwybr, pe dinystriai fi,— Saf, ti ddrychiolaeth! os oes genyt lais, Neu lafar oll, ymddyddan â myfi: Os oes rhyw beth fo da, ag eisieu ei wneud Rydd it esmwythder, ac i minau hedd, Ymddyddan â mi: Os wyt yn gwybod tynged fawr dy wlad, Yr hyn, trwy ei ragwybod, elli ei Ragatal, O! ymddyddau di â mi. Neu, os wyt wedi claddu yn dy oes Ryw drysor yspeiliedig o fewn croth Y ddaear, am yr hyn y d'wedant hwy Y crwydrwch chwi ysbrydion wedi tranc, |
Y ceiliog yn canu. |
|
Horatio |
Mynega yn ei gylch:—gwna aros a Siarada.—Atal ef, Marcellus. |
Marcellus |
A gaf ei daro gyda 'r miniog arf? |
Horatio |
Gwna, os na erys. |
Bernardo |
Mae yma! |
Horatio |
Mae yma! |
Marcellus |
Mae wedi myn'd! |
Yr YSBRYD yn ymadael. |
|
Marcellus |
Ni wnaethom gam, tra'r ymddangosai ef A golwg mor fawreddig, i gynyg dim O wrthwynebiad iddo ef, can's mae, Fel awyr, yn annhreiddiol, tra y mae 'n Dyrnodion ni fel gwatwar gwag. |
Bernardo |
Pan ganai'r ceiliog, ar lefaru 'r oedd. |
Horatio |
Ac yna hedodd, fel rhyw euog beth Ar wys ddychrynllyd. Mi a glywais fod Y ceiliog, yr hwn sydd yn udgorn gwawr A'i uchel wddf a'i gân hirseiniog yn Deffroi duw 'r dydd, ac ar ei rybudd ef, Pa un ai yn y môr neu ynte'r tân, Neu 'r ddaear, neu yr awyr, cyfyd pob Rhyw ysbryd crwydrol a didrefn ì fyn'd I'w le ei hun: ac o wirionedd hyn Mae 'r gwrthddrych yma wedi rhoddi prawf. |
Marcellus |
Diflanodd pan y canai'r ceiliog cu. Fe ddywed rhai, pan ddaw yr adeg wiw Y cedwir cof, am eni 'n Ceidwad ni, Y cana 'r wawr-aderyn hwn drwy 'r nos: Ac yna, meddant hwy, ni faidd un math O ysbryd grwydro; a'r pryd hwn mae 'r nos Yn iachus; yna nid effeithia o'r Planedau un, ni fedd y tylwyth teg, Nac un ddewines allu mwy i drin Swynyddiaeth, gan mor hynod sanctaidd a Grasusol ydyw pobpeth ar y pryd. |
Horatio |
Mi glywais felly; coeliaf ef mewn rhan. Ond gwel, mae 'r bore yn ei ruddgoch wisg Yn rhodio dros y gwlith sydd ar y bryn I'r dwyrain draw: ein gwylfa torwn; ac, Yn ol fy nghyngor i, mynegwn beth A welsom ni y nos nodedig hon. I Hamlet ieuanc; canys mentrwn roi Fy mywyd, y gwna'r ysbryd hwn ag sydd Fud wrthym ni, lefaru wrtho ef: A ydych chwi 'n cydsynio î mi dd'weud Y cyfan wrtho, fel peth iawn i'n swydd, Ac angenrheidiol gan ein cariad ni? |
Marcellus |
Atolwg, gwnawn; a minau beddyw wn Pa le cawn afael arno yno yn gyfleus. |
Oll yn ymadael. |