GOLYGFA III. Ystafell yn Nhŷ Polonius. LAERTES ac OPHELIA yn myned i fewn. |
|
Laertes |
Mae pob peth angenrheidiol yn y llong; Yn iach. Fy chwaer, gan fod y gwynt yn deg, A bod nawddlongau wrth ein galwad ni, Na huna ddim. Rho air yn fynych im'. |
Ophelia |
A ydwyt ti yn anmheu yn nghylch hyn? |
Laertes |
Am Hamlet, ac y modd dangosa 'i ffafr, Cyfrifa 'r cwbl yn arfer, tegan mewn Gwaedoliaeth; a millynen dlos o fewn Ieuenctyd, natur yn ei blodau yw, Awyddus, nid safadwy; mwyn, nid yn Barhâus; arogledd, a chyflenwad am Un funyd; ond dim mwy. |
Ophelia |
Dim mwy na hyn? |
Laertes |
Na wna ei dybied ef yn fwy, can's pan Gynyddo natur, ni thyf yn unig mewn Cyhyrau, ac mewn maint; ond fel y gwna Y deml hon fyn'd ar gynydd, yna bydd Gwasanaeth mewnol meddwl, enaid, yn Cynyddu 'n fawr. Fe allai y câr ef chwi Yn awr; ac weithiau nid oes unrhyw laid, Na thwyll, yn aflunieiddio rhinwedd ei Ewyllys; ond mae 'n gweddu i chwi ofni, Pan ddwys ystyriwn, yna diau ceir Nad yw'r ewyllys ddim yn eiddo'i hun; Can's rhwym i'w enedigaeth ydyw ef: Nas gall, fel dynion o iselach radd, Ddim dewis drosto 'i hun; can's ar ei ddoeth Ddewisiad y dibyna iechyd a Diogelwch yr holl deyrnas; felly rhaid I'w ddewis ynte'n ddarostyngol fod I lais a thuedd teulu i yr hwn Y mae yn ben; am hyny, os dywed ei Fod yn eich caru chwi, mae 'n gweddu i'ch Doethineb beidio 'i gredu, ond mor bell Ag y gall ef o ran ei uchel le, Wneud gair yn weithred, ond yn hyn nid aiff Ddim pellach nag yr ä llais Denmarc. Ystyriwch hyn, y golled fawr a fydd I'ch urddas teg, os a hygoelus glust, Gwrandewch ei gân, ac wed'yn golli eich Holl galon; neu eich diwair drysor roi 'n Agored i'w aflywodraethus nwyd. Ophelia, ofnwch—ofnwch, f' anwyl chwaer, Ymgedwch chwi tu cefn i'ch cynes serch O olwg holl beryglon nwyd a'i saeth, Mae 'r wyryf fwya' gwilgar yn dra ffol, Os dadorchuddia ei thegwch ger y lloer; Ni ddianc rhinwedd deg ei hunan rhag Ymosodiadau enllib: y cancr wna Ddirboeni 'n fynych, ieuanc blant y fron, Cyn bod, yn aml, fotwm ar eu gwisg; Ac yn moreuddydd, ac yn nhyner wlith Ieuenctyd, mae deifiadau llygrus yn Fygythiol i'r gradd eithaf. Yna bydd Ochelgar: mae y diogelwch mawr Mewn ofn yn gorwedd; canys mynych mae Yr ieuanc yn milwrio âg ef ei hun, Pryd na ddygwyddo arall fod gerllaw. |
Ophelia |
Myfi a gadwaf effaith dda dy wers, Fel gwyliwr ar fy nghalon: ond, frawd da, Na fydd fel rhai bugeiliad llwyr di-ras, Yn dangos im' yr erwin, ddreiniog ffordd I'r nefoedd; tra'n anlladwr gwag ei hun, Y rhodia ar friallaidd lwybr gwyn, Heb ddysgu gair o'i foesol wers ei hun. |
Laertes |
Nac ofna ddim. 'R wy 'n aros yn rhy hir;— Ond wele yma mae fy nhad yn d'od. |
Polonius yn dyfod i fewn. |
|
Laertes |
Mae bendith ddyblyg, yn ddauddyblyg ras; Achosa wenau wrth ro'i ail ffarwel. |
Polonius |
Ai yma fyth, Laertes? Dos i'r llong, I'r llong, rhag c'wilydd; canys mae y gwynt Yn eistedd ar ysgwyddau 'ch hwyl, a gwneir Am danat aros; bendith gyda thi; (Yn gosod ei law ar ben LAERTES.) A'r 'chydig eiriau hyn gwna yn dy gof Eu hysgrifenu. I'th feddyliau di Na ddyro iaith, ac hefyd paid a throi Un meddwl cas i fod yn weithred byth. Bydd yn gyfeillgar, nid yn isel chwaith. Cyfeillion fyddo genyt, ag y gwneist Eu cariad brofi, ymafael ynddyut wrth Dy enaid gyda bachau dur, ond na Ddiwyna'th law trwy roddi croesaw i Bob 'deryn newydd-ddeor a di-blyf. Ymochel rhag myn'd i ymryson; ond, Os byddi mewn un, ymddwyn fel y bo Dy wrthwynebydd yn dy ofni di. Rho i bob un dy glust, dy lais i neb, Derbynia gerydd pawb, ond cadw 'th farn. Boed gwerth dy wisg, yn ol a bryno 'th bwrs, Ond nid yn ol dychymyg; gwerthfawr, nid Yn goeg; can's mynych dengys gwisg y dyn; A hwy yn Ffrainc, o oreu ystad a gradd, Ynt dra dewisol a godidog—yn Hynyma, maent yn wir yn benaf dim. Nac arfer echwyn, na ddod fenthyg chwaith; Gwna'r benthyg [7] fynych golli ei hun a'r ffrynd,. Ac echwyn byla fin cynildeb doeth. Uwchlaw pob dim,—bydd ffyddlawn it' dy hun, Dilynir hyn, fel nos yn dilyn dydd, Nas gelli fod yn ffals i unrhyw ddyn. Ffarwel! fy mendith wreiddio hyn o'th fewn. |
Laertes |
Tra gostyngedig y cymeraf fi; Fy nghenad, f' arglwydd. |
Polonius |
Yr amser eilw, dos. Mae 'th weision bellach yn dy ddysgwyl di. |
Laertes |
Ffarwel, Ophelia; cofiwch hyny 'n dda A ddywedais gyneu. |
Ophelia |
Mae 'n glöedig yn fy nghof, A chwi eich hun gaiff gadw ei allwedd ef. |
Laertes |
Ffarwel. |
LAERTES yn ymadael. |
|
Polonius |
Pa beth, Ophelia, a ddwedodd wrthych chwi? |
Ophelia |
Os boddlawn genych, rhywbeth yn ynghylch Fy arglwydd Hamlet. |
Polonius |
Pur feddylgar yw Y peth, yn wir: dywedwyd wrthyf fi Ei fod ef yn ddiweddar yn bur aml Yn treulio amser gyda chwi; a'ch bod O'ch clustwrandawiad yn dra rhydd a hael: Os felly, (fel y d'wedir wrthyf fi, Mewn ffordd o rybudd,) rhaid im' ddweud nad y'ch Yn deall mo eich hunan yn rhy glir, Fel gweddai i fy merch, a'ch henw da: Pa beth sydd rhyngoch? rho'wch i mi y gwir. |
Ophelia |
Fe roes i mi, fy arglwydd, amryw o Gynygion yn ddiweddar o ei serch. |
Polonius |
Serch? pw! siaradwch fel genethig ffol, Ddibrofiad yn y fath amgylchiad dwys: A y'ch chwi yn credu ei gynygion ef, Fel gelwch hwynt? |
Ophelia |
Nis gwn, fy arglwydd, beth I'w feddwl. |
Polonius |
Ha! felly 'n siwr! mi'ch dysgaf chwi: Meddyliwch mai rhyw faban ydych, am Ich' dderbyn y cynygion fel aur da, A hwythau ddim yn fathol.. Wele gwnewch Gynygiaw eich hunan dipyn yn fwy drud; Ac onidê (heb dori gwynt 'r hen air, Trwy im' ei gamddefnyddio ef fel hyn), Chwychwi a wnewch gynygiaw, i mi ffŵl. |
Ophelia |
Fy arglwydd, fe ymbiliodd â myfi Mewn cariad pur, ac anrhydeddus ddull. |
Polonius |
A "dull" y gelwch ef, i ffordd, i ffordd. |
Ophelia |
Fy arglwydd, rho'dd i'w eiriau gadarnâd, A holl santeiddiaf addunedau 'r nef. |
Polonius |
O ïe, maglau i ddal ceiliogod coed. Gwn, pan fo'r gwaed yn boeth, mor barod yw Yr enaid i roi addunedau i Y tafod: am y ffaglau hyn, fy merch, Sy 'n rhoddi mwy o oleu, nag o wres,— Ac a ddiffoddant hyd yn nod yn yr Addewid, cystal ag mewn gweithred,—ni Wna 'r tro i chwi eu derbyn yn lle tân. O'r adeg yma byddwch yn fwy prin O'ch presenoldeb gwiw-wyryfaidd, a Rho'wch bris fo uwch ar eich cwmnïaeth na Dymuniad i ymgomio gyda'r gŵr. Am f' arglwydd Hamlet, credwch yn ei gylch, Hynyma, sel, Ei fod yn ieuanc, ac Y gall ef rodio gyda thenyn hŵy Nag â gewch chwi; yn fyn Ophelia, na Ro'wch gred i un o'i addewidion ef: Llateïon ydynt hwy, heb fod o'r fath. Ddangosir gan eu gwisgiad, dim ond rhyw Ymbilwyr drygiawn, am anniwair gais, Anadlant ffug-adduned santaidd a Duwiolaidd, fel y gallont dwyllo yn well. Hynyma am y cwbl,—Ni fynwn i, Mewn geiriau plaen, i chwi o'r amser hwn, Warthruddo un hamddenol foment i Roi un ymddyddan na chael geiriau â Fy arglwydd Hamlet; gofalwch chwi am hyn, 'R wyf fi yn eich tyngedu; de'wch i ffordd. |
Ophelia |
Myfi a wnaf, fy arglwydd, ufuddâu. |
Ill dau yn ymadael. |