CHWARYDDIAETH II GOLYGFA I Ystafell yn Nhŷ Polonius. POLONIUS a REYNALDO yn myned i fewn. |
|
Polonius |
Rho'wch iddo 'r arian a'r llythyrau hyn, Reynaldo. |
Reynaldo |
Mi wnaf, fy arglwydd. |
Polonius |
Chwi wnaech Yn hynod ddoeth, Reynaldo, cyn ei wel'd, I holi am ei ddull. |
Reynaldo |
F' arglwydd, mi Fwriedais hyny. |
Polonius |
Yn wir, da yr y'ch Yn d'wedyd: pur dda dywedwch chwi. Edrychwch, syr, ymholwch gyntaf oll Pa Ddaniaid sydd yn Paris; a pha ddull A phwy, pa foddion, p' le y maent yn byw, Pa gwmni, a pheth yw eu treulion; a Chan gael, trwy 'r pethau amgylchynog hyn, Eu bod mewn cydnabyddiaeth â fy mab,— De'wch felly yn agosach nag y gwna Eich neges benaf oddef, i chwi dd'od. Gwnewch ffugio, megys, ryw wybodaeth bell Am dano, megys, |Adwaen i ei dad, Ei berthynasau, ac ei hun mewn rhan|;— A ydych chwi, Reynaldo, 'n gweled hyn? |
Reynaldo |
Pur dda, fy arglwydd, ac efelly gwnaf. |
Polonius |
"Ac ef mewn rhan;"— ond, chwi a ellwch ddweud, Ond os yw ef yr un a dybiaf fi, Mae'n hynod wyllt, a gwna fel hyn a'r llall;— A rhoddwch arno y fath ffugion ag A fynoch, ond er hyny, dim mor ddrwg Ac i'w anmharchu;—hyn gochelwch chwi; Awgrymwch, syr, y fath lithriadau ffol, Masweddol, ac arferol i ieuenctyd a Phenrhyddid. |
Reynaldo |
Fel hapchwareu, f' arglwydd? |
Polonius |
Ië, Neu yfed, ymgleddyfu, tyngu, neu Gweryla, neu ymlochi â phuteiniaid, hyd Hynyna gellwch fyn'd. |
Reynaldo |
Fy arglwydd, gwnai Hyn ei ddianrhydeddu. |
Polonius |
Na wnai'n wir: Chwi ellwch ei dymheru pan yn gwneud Y cyhuddiadau. Ni raid i chwi ro'i Difrïad arall arno, nac ei fod Yn arfer anniweirdeb; hyn nid yw Fr meddwl: ond anedlwch chwi ei fai Mor goeg, ag yr ymddengys pob rhyw beth Yn fwy fel rhyddid gwyllt, ac megys fflam Neu doriad allan meddwl llawn o dân; Gwylltineb gwaed heb gael ei ddofi âg Ymruthrad cyffredinol. |
Reynaldo |
Ond, arglwydd da,— |
Polonius |
Paham y gwnelech hyn? |
Reynaldo |
Ië, f' arglwydd, mi Ddymunwn wybod hyny. |
Polonius |
Yn wir, syr, Dyma 'm hamcan; a gwir gredu 'r wyf ei fod Yn dwyll a gyfiawneir; chwychwi yn rho'i Y brychau ysgeifn hyny ar fy mab, Fel peth a fo'n llychwino yn eí waith. Ac hefyd manwl sylwch ar y gŵr Yr hwn a fynech blymio, welodd ef Y llanc a nodwch yn y beiau hyn? Ac os yn euog, sicr y gellwch fod Y cewch eich hanerch yn y geiriau hyn, — Wych syr, neu gyfaill, neu foneddwr gwiw, Fd yr arferir d'weud nen odid â Gŵr da, neu ynte, fy nghydwladwr gwych. |
Reynaldo |
Pur dda, fy arglwydd. |
Polonius |
Ac yna, syr, efe a wna hyn,— Efe a wna.— Beth yr oeddwn yn myned i'w ddweud? Myn yr offeren, yr oeddwn yn myned i ddweud rhywbeth. Ymha le y gadewais? |
Reynaldo |
Yn Eich hanerch yn y geiriau hyn. |
Polonius |
Eich hanerch yn y geiriau hyn,—Ië 'n siŵr; Anercha chwi fel hyn ,— Mi adwaen y Boneddwr, doe neu echdoe gwelais ef, Neu'r pryd a'r pryd, neu'r amser hwn neu'r llall, A chyda hwn a hwn a'r lle a'r lle; Hapchwareu 'r oedd; neu yn y fan a'r fan Yn feddw fawr; neu yn ymgecru yn nghylch Y tennis; neu, fel dichon fod, myfi A'i gwelais ef yn myn'd i dŷ amheus (Hyn ydyw putein-dŷ), neu felly ymlaen. A welwch chwi yn awr; mae 'ch abwyd ffug Yn gwisgo nodwedd yr abwydyn gwir. Fel hyn trwy gynllwyn a doethineb dwfn, A dyrwynlathau, [14] ac â phrofion [15] gŵyr, Unochrog, trwy anuniongyrchedd cawn Yr uniongyrchol allan; felly, trwy Fy araeth i a'm cyngor hwn a gewch Fy mab i'r goleu: 'n awr yr ydych yn Fy neall, onid ydych? |
Reynaldo |
Yr wyf, fy arglwydd. |
Polonius |
Duw fyddo gyda chwi, a byddwch wych. |
Reynaldo |
Da, fy arglwydd. |
Polonius |
A chofiwch sylwi ar Ei dueddiadau drosoch chwi eich hun. |
Reynaldo |
Mi wnaf, fy arglwydd. |
Polonius |
A bydded iddo ef ei hun I ffurfio 'r miwsic [16] gyda geiriau 'r gân. |
Reynaldo |
O'r goreu, f' arglwydd. |
Yn ymadael. OPHELIA yn dyfod i fewn. |
|
Polonius |
Dydd da!—pa fodd y mae Opheli»? beth Yw 'r mater? |
Ophelia |
O, fy arglwydd, f' arglwydd, mi A ge's fy nychrynu 'n fawr. |
Polonius |
A pha beth, Yn enw'r nef? |
Ophelia |
Fy arglwydd, pan yr o'wn Yn pwytho yn f' ystafell i fy hun, F' arglwydd Hamlet, gyda'i wasgawd oll Heb gael ei chau; heb het i guddio 'i ben; Hosanau 'n fudron, heb ardysau, ac Yn hongian fel cadwyni hyd ei ffêr; Yn welw fel ei grys; ei liniau ef Yn crynu yn nghyd; a chyda golwg mor Druenus yn ei ystyr, a phe b'ai Ef newydd d'od o uffern drist ei hun, I ddweud ei dychrynfeydd, fe ddaeth o'm blaen. |
Polonius |
Yn ynfyd am dy serch? |
Ophelia |
Fy arglwydd, nis gwn i; ond wele, yn wir, Yr wyf yn ofni hyn. |
Polonius |
Pa beth a dd'wedodd ef? |
Ophelia |
Gafaelodd yn fy ngarddwrn; daliodd fi Yn galed; yna tynodd hŷd ei fraich Yn ôl, a chyda ei law arall ef Fel hyn uwchlaw ei ael, edrychai â Y fath fanylrwydd i fy wyneb, fel Pe buasai 'n meddwl ei arlunio. Hir Arosodd felly; ac o'r diwedd âg Ysgydwad ysgafn ar fy mraich, yn nghyd A theirgwaith chwyfio i fyny ac i lawr Ei ben,—fe ro'dd ochenaid oedd mor ddofn A thruan, ag yr ymddangosai fel Yn barod i deilchioni ei holl gorff, A gorphen ei fodolaeth; wedi hyn Gollyngodd fi; ac â'i ben wedi ei droi Ar ei naill ysgwydd, ymddangosai fel Yn gallu heb ei lygaid fyn'd i'w ffordd; Aeth heb ddim cymhorth ganddynt drwy y drws, Ac, hyd y diwedd, syllai arnaf fi. |
Polonius |
Tyrd gyda mi; myfi a geisiaf wel'd Y brenin; dyma wir berlewyg serch; Yr hwn y mae ei duedd ffyrnig ef Yn llwyr ddyfetha ei hun; gan arwain yr Ewyllys i'r eithafion mwyaf erch, Mor fynych ag un nwyd o dan y nef, A flina 'n natur ni. Drwg genyf hyn,— Pa beth, a roisoch iddo eiriau cas, Ei fod yn ymddwyn atoch chwi fel hyn? |
Ophelia |
Na ddo, fy arglwydd da, ond fel y gwnaech Orchymyn, felly y gwrthodais ei Lythyrau, gyda pheidio 'i dderbyn ef. |
Polonius |
Hynyna a'r gwnaeth yn ynfyd. Drwg yn wir Yw genyf fi, na wnaethom â gwell pwyll A barn, ei ddeall ef, ond ofni wnes Nad oodd ond chwareu, ac yn meddwl dy Andwyo; ond, rheg i'm drwgdybiaeth! mae 'n Ymddangos ei fod mor dueddol i'm hoed ni, I fyned yn ein tybiau yn rhy bell, Ag yw 'n gyffredin i ieuengaidd rai I fod heb bwyll. Tyr'd, ni a gerddwn at Y brenin, rhaid hysbysu hyn; can's os Ei gelu wnawn, gall beri mwy o ddrwg Nac yw y casedd o amlygu serch. Tyred. |
Ill dau yn ymadael. |