Adra (2019)

Llŷr Titus

Ⓗ 2019 Llŷr Titus
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.


Testun llawn Adra



Cymeriadau

(A’u perthynas hefo’r ymadawedig)

Lisa, ffrind prifysgol, ugeiniau cynnar.
Aaron, cyn-bartner, cyfreithiwr, tridegau cynnar.
Arwel, ffrind ers plentyndod, saer, ugeiniau canol.
Ywain, cefnder, ffermwr, ugeiniau cynnar.
Megan, ffrind o’r gwaith, cyfieithydd, ugeiniau hwyr,


Manylion


Prynu'r testun (llyfr)

Celf y clawr: Paul Eastwood.



Rhagair


Wedi iddyn nhw weld rhyw ddrama neu ddarlleniad o rywbeth od gen i mi ddudodd rhywun y mae gen i ddipyn o barch tuag atyn nhw y bydda nhw’n lecio fy ngweld i’n sgwennu drama naturiolaidd rhyw dro. A dyma finnau’n meddwl bod hwnnw’n syniad bach reit handi. Dyna yn rhannol oedd y sbardun i ddechrau arni hefo Adra sbel yn ôl bellach. Roedd mynd ati yn ddipyn o newid ond yn llawn fwy o hwyl o achos hynny.

Rhyw feddwl am y pethau oedd a sydd yn fy mhoeni i oeddwn i wrth roi Adra at ei gilydd. Natur cyfeillgarwch, y pwysau i adael milltir sgwâr ac i aros, pwy neu be ydi pobl go iawn a pha mor rhyfedd gall galar fod a mor wahanol ydi o i bawb. Dwi’m yn siŵr pam mai’r sefyllfa benodol yma ddaeth a chriw at ei gilydd yn y ddrama, na pam mai nhw ddaeth. Dwi chwaith ddim yn siŵr os y byddwn i’n ymdrin â phob dim sydd ynddi hi yn yr un modd erbyn heddiw. Mae Adra yn gignoeth ac yn arw mewn mannau ond mae hi’n driw i gyfnod penodol, mi fyddai ei newid hi fel trio newid hwnnw fuodd wrthi’n ei sgwennu hi’r adeg honno. Cafodd pob dim lonydd felly.

Mae fy niolch i’n fawr i griw Cymdeithas John Gwilym Jones am fynd ati i berfformio. Braint eithriadol ydi gweld y Gymdeithas Ddrama y bues i wrthi’n gweithio hefo hi yn parhau i ffynnu ar ei newydd wedd a braint fwy ydi eu cael nhw’n perfformio gwaith gen i. Diolch i’r holl gast a phawb a fu’n gweithio’n galed i gael Adra i’r byd yn y brifysgol ac yn Pontio. Diolch hefyd i Gyhoeddiadau’r Stamp am fynd ati i gyhoeddi’r sgript heb ddima o bres cyhoeddus mewn oes lle mae sgriptiau Cymraeg yn brin rhyfeddol a diolch yn arbennig i Carwyn ac Elen am eu brwdfrydedd.

Llŷr Titus, Brynmawr, Tachwedd 2019





Perfformiadau

Cafodd y ddrama hon ei chynhyrchu a’i pherfformio gyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor gan Gymdeithas John Gwilym Jones, Prifysgol Bangor ar y nawfed ar hugain o Dachwedd 2019.

Lisa Elen Wyn
Aaron Huw Geraint Jones
Arwel Joseff Owen
Ywain Aled Jones
Megan Lowri Cêt
   
Cyfarwyddwr Carwyn Jones