| |
---|
Presenter
|
Studies have shown that the morality of breeding racially mixed offspring is to be questioned. Such mating is against the will of nature for a higher breeding of all life, the stronger must dominate and not blend with the weaker, thus sacrificing his greatness. This means the offspring will probably stand higher than the actual lower parent but not as high as the racially higher one. Consequently, it will struggle against the higher level.
|
Gwawr
|
Wnest ti recordio'r documentary na ddoe i fi? O'n i'n meddwl am falle gwylio fe heno?
|
Mam
|
Swnio'n diddorol, ond dwi'n cael noson cynnar heno.
|
Gwawr
|
Ma fe am pobl mixed race fel fi.
|
Mam
|
Oh ydi e, wel falle rhyw bryd arall, dwi'n shattered.
|
Gwawr
|
Fine.
|
Mam
|
Gwawr, paid pwdi.
|
Gwawr
|
O ni ddim yn pwdi, on i'n meddwl bo' ti eisie deall.
|
Mam
|
Dwi yn deall, ond dw i di bod yn gweithio trwy'r dydd.
|
Gwawr
|
Falle bo' ti yn deall, ond dyw hwna ddim yn meddwl bod unconscious bias ddim gyda ti.
|
Mam
|
(Trying to make a joke.) Unconscious be-ys?
|
Gwawr
|
Whatever, beth am jesd gwylio teledu.
|
|
We hear the beginning jingle as the news plays on the TV. This news segment will play as if it is on in the background, the audience hear important snippets throughout the dialogue that follows this section.
|
News Reader
|
Tonight, on BBC Wales news, it's Saturday the 25th of July 2020 and protesters gather outside the Civic offices in Barry after the naming of one of the roads on the Barry Waterfront Development. The protestors claim the road was named after Richard Pennant the Welsh sugar plantation owner who owned nearly 1000 slaves on his plantation in Jamaica.
|
Civilian
|
These protesters have a lack of basic respect for the Welsh language and don't understand that it is obviously named after the Welsh word peninsula not Lord Pennant owner of the Penrhyn estate on the outskirts of Bangor.
|
Gwawr
|
Ti'n meddwl dylse Cymru fod yn annibynol?
|
Mam
|
For God's sake, Gwawr, o ni'n meddwl bo' tisie gwylio teledu. Ond ydw, wrth gwrs.
|
Gwawr
|
Beth mae hwna'n edrych fel i ti?
|
Mam
|
Wel, neud penderfyniadau ein hunan, rhoi arian nol mewn i Cymru, cefnogi pobl ein hunan, ti'n gwybod …
|
Gwawr
|
Pwy yw pobl ein hunan?
|
Mam
|
Wel, pobl fel fi a ti, ti'n gwybod Cymry, Cymry Cymraeg.
|
Gwawr
|
Beth am pobol sy'n symud fan hyn?
|
Mam
|
Wel, ond bod nhw'n barod i … ti'n gwybod … intergrato … dangos parch i'r diwylliant … yr iaith, sai'n gweld pam byse hwna'n broblem.
|
Gwawr
|
Ma' rhywbeth eitha Brexity amdano fe yn does 'na.
|
Mam
|
Brexity? Beth ti'n meddwl gan Brexity?
|
|
(They both chuckle.)
|
Gwawr
|
Sai'n gwybod, just eitha nationalist, sai'n gwybod, eitha fel, get the foreigners out fel, ti 'mo.
|
Mam
|
Gwawr, dyw popeth ddim i neud am hil.
|
Gwawr
|
Wel i fi ma' fe.
|
Mam
|
Falle i ti, ond cofia mae'r Cymry Cymraeg wedi cael eu shar nhw o gael eu trin fel cach.
|
Gwawr
|
Yeah, on ti methu cymharu/
|
Mam
|
/Ni wedi cael eu'n coloneiddio hefyd, back in the day, gyda'r Welsh Not, ac tan heddi mae'r Saeson yn rheoli popeth ni'n neud, yn yfed ein dwr ni heb tal, yn chwerthin ar ein pennau ni.
|
Gwawr
|
Ond dyw hwna ddim yn meddwl bod ni'n exempt, oedden ni'n rhan o goloneiddio, o gaethwasiaeth.
|
Mam
|
Paid fod mor sili ─ y Saeson 'nath hwna.
|
Gwawr
|
Na Mam, ni hefyd.
|
|
(Pause.)
|
Mam
|
O ni ddim… yn sylweddoli
|
|
Television turned off/News theme tune play out. (Sharp cut to next scene.)
|