g1g2g3g4g5g6g7g8

Bratiaith (2021)

Mali Ann Rees

Ⓗ 2021 Mali Ann Rees
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 8


Gwawr opens the door and walks through her house.

Gwawr

Mam...?

Mam

Sut ath e?

Gwawr

Um… yeah… odd e'n iawn… ges i lot o… wybodaeth.

Mam

Odd e'n iawn?

Gwawr

Yeah fine.

Mam

Ti mynd i weld e eto?

Gwawr

Na.

Mam

Pam?

Gwawr

Yr unig peth fi angen yw ti.

Mam

Gwawr (touched).

Gwawr

Be bynnag fi'n edrych am, dyw e ddim fyna.

Mam

Fi'n falch ti wedi sylweddoli… ond odd rhaid i ti ddod i'r canlyniad 'na ar ben dy hunan.

Gwawr

Yn union. A fi wedi bod yn treial dysgu ti yn y ffor wrong.

Mam

Dysgu fi?

Gwawr

Ie am hiliaeth, a activism a unconscious bias ─ fi di bod yn treial rhoi yr atebion i ti ond ti angen gweithio nhw mas dy hunan.

Mam

Beth?

Gwawr

Fi just yn teimlo fel dyw fod yn Mam i fi ddim yn digon, ti methu fod yn erbyn hiliaeth rhagor, ti angen fod gwrth-hiliaeth… fel actively.

Mam

A sut dwi fod neud 'na?

Gwawr

Wel... ma pobl yn gweud pethau hiliol o dy flaen di achos… ti'n wyn, allet ti fel cywiro nhw neu rhywbeth?

Mam

Ie, fi fel arfer yn.

Gwawr

A falle darllen cwpl o lyfrau am systemic racism.

Mam

Iawn, cer ar Amazon a ordro beth bynnag dwi angen darllen.

Gwawr

Na Mam, fi methu, fi'n meddwl mae rhaid i ti neud e.



Beat

Mam

Iawn… ok… ok.

g1g2g3g4g5g6g7g8