g1g2g3g4g5g6g7g8

Bratiaith (2021)

Mali Ann Rees

Ⓗ 2021 Mali Ann Rees
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 6


We hear the TV get switched off.

Mam

Reit … come on, helpu fi 'da'r ddillad.



We hear Mam heave herself off the sofa reluctantly. Gwawr ignores her mother sat on her phone, we hear notifications popping up and tapping to signify this.

Gwawr

Mam, ti di clywed am Breonna Taylor?

Mam

Na, pwy yw hi? (Still sorting clothes.)

Gwawr

Odd y heddlu wedi mynd mewn i'w thy hi yn nghanol y nos a saethu hi.

Mam

O, na ma hwna'n awful, o ti mewn ysgol da hi!?

Gwawr

Na, yn America.

Mam

Oh reit, allet ti just dal hwn i fi.

Gwawr

Odd e just achos bod hi'n ddu bod nhw wedi lladd hi, odd hi heb neud unrhywbeth yn wrong, a ma nhw heb hyd yn oed wedi cael ei arestio, does dim cyfiawnder.

Mam

Do, clywes i ti mae hwna'n dreadful, ond fi nol mewn gwaith fory, do's gen i ddim byd glan i wisgo, ti di gweld crys gwyn fi/

Gwawr

/Ond ti'n gweithio o adre?

Mam

/sai di cwblhau unrhyw prosiectau am fory, so fi di dechrau paratoi'r spag bol 'to, a ti ar dy blydi ffon yn neud fuck all/

Gwawr

Mam, iaith. Beth yw'r pwynt os mae'r byd ar ei ddiwedd ta beth?

Mam

Wel, ma fy myd i dal i droi, felly allet ti plis jesd helpu fi?



Gwawr reluctantly gets off her phone and helps. Slight pause.

Gwawr

Ti'n caro am bywydau pobol du?

Mam

Gwawr!

Gwawr

Wel ti'n dod drosodd fel bod ti ddim.

Mam

Gwawr, blydi hell wrth gwrs bo' fi, os odd rhywbeth yn digwydd i ti/

Gwawr

/Wel ma pethe wedi digwydd i fi.

Mam

(Sincere, concerned.) Be?

Gwawr

Obviously dim fel beth sy'n digwydd yn America, dim byd fel hwna, ond ma' fe'n wahanol fan hyn nagywe/

Mam

/Wrth gwrs, so ni'n lladd pobol fan hyn.

Gwawr

Ddim yn uniongyrchol, na/

Mam

/A ti heb cael hiliaeth, fel hiliaeth cas na dim byd.

Gwawr

Fi di cael fy ngalw y n-word.

Mam

(Gasp.) Beth?

Gwawr

Sawl gwaith, yn pel droed, cerdded lawr y stryd, ysgol/

Mam

Pam wedes ti ddim wrthai?

Gwawr

On i wedi arfer da fe. Odd pobol ddim yn gwybod pa mor wrong odd e. On i jesd yn chwerthin e off.



Silence

Gwawr

Dydd Gwener dere gyda fi, i'r protest.

Mam

Gwawr, fi reli sori on i methu bod na i ti... fi'n cefnogi ti cant y cant... ond does dim synnwyr mynd i protest yng nghanol pandemic.

Gwawr

Fi'n 21, Mam, ti actually methu gweud wrthai beth i neud.

Mam

Gwawr/

Gwawr

/os ti wir eisie deall, os ti wir yn fy ngharu i dylse ti ddod.

Mam

Dwi'n caru ti digon i wybod bod mynd mas i brotestio gyda grwp mawr o bobl yn ystod pandemic ddim yn syniad da.

Gwawr

Mae hiliaeth yn bandemic!

Mam

Paid fod mor ddramatic.

Gwawr

Dwi ddim yn fod yn dramatic, mae'r pandemic yma dim ond yn un o'r pethau sy'n lladd pobol du.

Mam

Reit, felly, tisie fi, yn 50 flwydd oed, mynd mas dal corona a marw.

Gwawr

Wel, dwi'n ddu, felly dwi dwy waith mwy debygol o farw o Corona nagwyt ti.

Mam

Ti ddim yn ddu, ti'n Gymraes.

Gwawr

Actually Mam, fi'n y ddau peth.



Pause.

Gwawr

For God's sake, ti ddim jesd ddim yn deall, ti ddim eisie deall. Ti di meddwl o gwbl am y ffaith bod ti wedi dod a rhywun 'brown', neu beth bynnag ti eisie galw fi, mewn i'r byd? Ti di meddwl am hwna o gwbl?

Mam

Sai'n meddwl amdanat ti fel 'na.

Gwawr

Fel be' Mam? Paid fod mor fucking ridiculous.

Mam

Gwawr, iaith. Sai gallu siarad i ti pan ti'n fod fel hyn.

Gwawr

Beth, yn grac? Yn aggressive?

Mam

Yeah, yn union. Pam allet ti ddim siarad da fi mewn ffordd tawel a barchus?

Gwawr

Achos dwi yn grac a dwi eisie fod yn aggressive. Dwi'n grac bod pobl fel fi yn marw, dwi'n grac bod dim ots da neb, dwi'n grac bod ti ddim yn fodlon deall a fi di blino o esgus fel bod ni'r un peth pan da ni ddim.

Mam

Sai'n meddwl dwi erioed wedi trin ti'n wahanol.

Gwawr

Wel, falle dylse ti wedi. O ti ddim yn meddwl bod en bwysig i fi ddysgu am fy hanes i? Fy nghefndir i? Did that not even cross your mind?

Mam

Oh, mae'n flin gen i, o'n i'n ceisio cadw bwyd ar y bwrdd a to ar dy ben. Ti mor anniolchgar ar ol popeth fi'n neud i ti.

Gwawr

Dim fy mai i yw e bod ti di penderfynu cadw fi … (beat) … Mam ble ti'n mynd?



We hear Gwawr and Mam move through the house and Mam starts rustling through a bookshelf in another room

Mam

Co' dyna ti, llyfr nath dy Dad rhoi i fi pan oeddet ti'n babi, dyna bach o dy hanes…



Gwawr is choked up. Pause.

Mam

… ti'n hapus nawr?

Gwawr

A ti … ti dim ond yn rhoi hwn i fi nawr.

Mam

For God's sake, sai gallu neud dim byd yn iawn.

Gwawr

Wel, byse hwn wedi bod yn bloody defnyddiol pan on i'n/

Mam

/Wel, o ni'n brysur, o ni di anghofio.

Gwawr

O ti di anghofio, reit, gret!

Mam

O ni ddim eisie i ti teimlo'n wahanol.

Gwawr

Ond Mam, fi yn wahanol, sai gallu cuddio fe, sneb yn edrych ar fi fel fy mod i'r un peth.

Mam

Dwi yn/



Silence

Gwawr

Fi'n meddwl cwrdd lan 'da Tony.



Beat.

Mam

Beth? Pam?

Gwawr

Achos falle bydd en deall mwy 'na ti.



Beat.

Mam

(Voice breaks, getting emotional.) Ok … wel … os dyna ti eisie neud … pob lwc.

Gwawr

Mam?

Mam

Cer di os ti'n meddwl bydd e'n helpu.

Gwawr

Wel, ie, dyna beth oeddwn i'n gobeithio.

Mam

Dwi jesd ddim eisie fe siomi ti 'na gyd.

Gwawr

Dwi'n digon hen i wybod fod hwnna'n debygol.



Documentary crackling.

Presenter

Mulatto children do not grow up with any kind of recognised home life. Worse still, after they have done the round of homes and institutions, they gradually realise that they are nothing. The negroes will not accept them as Blacks and the Whites just assume they are coloured.

g1g2g3g4g5g6g7g8