g1g2g3g4g5g6g7g8

Bratiaith (2021)

Mali Ann Rees

Ⓗ 2021 Mali Ann Rees
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2


The TV is blaring, Eisteddfod 2019 is playing on repeat.

Presenter

Ac ar ol y feirniadaeth arbennig yna, a mi oedd hi'n feirniadaeth arbennig... (The audience applaud.) .. diolch yn fawr i chi Ceri am y traddodi yna...



(We hear Gwawr enter the room and slump down on the sofa.)

Presenter

…arbennig iawn. A dyna falch ydyn ni o ddallt seremoni olaf Eisteddfod Caerdydd fod yna gymaint o deilyngdod (more applause) ar ganiad y cyrn gwlad mi fyddai'n gofyn i Hal Robson Canoe ac fe'i cyrchu i'r llwyfan gan yr arwyddfa a'i orsgodd.



We hear the corn gwlad and Gwawr speaks over it.

Gwawr

Mam allen ni rhoi rhywbeth arall arno plis/

Mam

Shhhh…



We hear applause begin as the winner of the chair stands.

Gwawr

Ti'n nabod e?

Mam

Nadw, Gwawr, cywilydd, yn ystod y Seremoni Cadeirio.

Gwawr

Yeah, ond repeat yw hwn o dau blwyddyn yn ol, so ti 'di gweld e o'r bla'n.



The applause and music from the television play under the following text.

Gwawr

Ti'n talu am 1000 o sianeli, Netflix, Amazon Prime, Disney Plus a'r unig peth ti'n gwylio yw S4C.

Mam

Na'th Gwynfor Evan's starfo'i hun am y fraint o gael sianel Cymraeg, sai'n cofio unrhyw un yn starfo'i hun am Disney Plus.



Gwawr stifles a snort of laughter

Mam

Be ti eisie gwylio de?

Gwawr

Sai'n gwybod ─ just flicka trw'r channels.



Beat.

Mam

(Embarrassed.) Sai'n gwybod sut.

Gwawr

Tafla fe 'ma de.



We hear Gwawr switch from channel to channel.

Gwawr

Strictly.

Mam

Ok, Strictly.



More silence as we hear them eat crisps.

Mam

Repeat yw hwn hefyd.

Gwawr

Yeah, wel, sdim byd newydd achos ma' popeth wedi dod i stop. (Gives in.) Allen ni droi e nol i'r 'steddfod os ma' rhaid/

Mam

/Na, na.



More silence.

Strictly

The scores are in, will the judges please reveal their scores. Craig Revel Horwood… 10, Motsi Mabuse… 10, Shirley Ballas… 10, Bruno Tonioli… 10… WELL DONE!

Mam

Fi'n meddwl bod e'n anheg, ma fe'n amlwg yn gwybod sut i ddawnsio achos ma fe'n gymnast, sut ma nhw gallu cymharu e a Anneka Rice sydd yn amlwg heb sefyll ar dance floor yn ei bywyd hi i gyd.

Gwawr

(Blunt.) Yeah.

Mam

Dwi'n meddwl byse fi'n dda ar Strictly.

Gwawr

Wyt ti nawr?



Beat.

Mam

Gwawr, ti'n ok?

Gwawr

Ydw.

Mam

Fi mynd i golli ti.

Gwawr

Byddai nol o hyd ─ ma angen ti golchi dillad i fi ta beth (cheeky).

Mam

Oh yeah, ond bydd en wahanol mond... fi … ar ol.

Gwawr

Sai'n symud i ochr arall y byd ─ fi just yn mynd i Cathays.

Mam

Falle bydde nhw ddim yn gadael i ti fynd, a bydd rhaid i ti aros 'ma 'da fi a cael darlithion ar-lein.

Gwawr

Dim diolch.



They both laugh.

Mam

(Sigh.) 'Na flwyddyn ─ dim gwaith, dim cymdeithasu, dim Eisteddfod.

Gwawr

Wedes i allet ti switcho fe nol os ti moen. God ti'n obsessed 'da'r Eisteddfod

Mam

Fi'n gwybod so ti'n meddwl bod e'n 'hip', ond mae e'n rhan enfawr o ddiwylliant Cymraeg, ac wedi bod yn rhan enfawr o dy fywyd di ers oeddet ti'n fach

Gwawr

(Under her breath.) Wel falle o ni ddim eisie fe fod yn rhan o fy mywyd i.

Mam

BETH!?

Gwawr

Falle fi ddim yn mwynhau mynd a cael fy nhrin fel rhyw alien sy'n siarad Cymraeg.

Mam

Gwawr beth ti'n siarad am?

Gwawr

Sdim ots.

Mam

Na, Gwawr, mae amlwg rhywbeth da ti i weud.

Gwawr

Mae rhaid bod ti'n gwybod bod pobl yn edrych arno fi'n weird 'na.

Mam

Paid fod mor sili, Gwawr, wrth gwrs bod nhw ddim.

Gwawr

O ti'n amau fi nawr, fi'n gweud celwydd!

Mam

Na fi jesd yn meddwl bo' ti'n poeni gormod, 'na gyd.

Gwawr

Ti jesd ddim mynd i ddeall.

Mam

Fi eisie deall.

Gwawr

Wyt ti?



We return to the documentary world

Presenter

We are looking to gain a deeper understanding of the psyche of these women who choose to engage in relations with Negroid Men, so we spoke to Gwenith Carlisle, a wife of one of them. How could you have brought yourself to marry a black man?

Cardiffian Woman

They make good husbands these men. They are so thankful to us women for marrying them that they treat us like queens, they give us plenty of money, they don't drink, they are good to the children, the pay is regular while they are away, and they always come back to us. There's so many a woman with a white husband worse off.

Presenter

How about the children, are they sane?

Cardiffian Woman

The children? Well there are such a lot of them now that nobody seems to think much about it, they don't mind them in school. They won't hurt.

Presenter

Would you say that's the prevailing attitude in these Welsh ports?

Cardiffian Woman

Well, the only wreck I see in our neighbourhood are white men.

g1g2g3g4g5g6g7g8