GOLYGFA IV Yr Esgynlawr. HAMLET, HORATIO, a MARCELLUS, yn myned yno. |
|
Hamlet |
Yr awyr fratha 'n dost; mae 'n erwin oer. |
Horatio |
Y mae y gwynt yn ddeifiol a thra llym. |
Hamlet |
Pa awr yw hi? |
Horatio |
Meddyliwyf fi; Ei bod yn fyr o haner nos. |
Marcellus |
Na, mae wedi taro 'r awr. |
Horatio |
Yn wir? ni chlywais i, mae'n tynu at Yr amser pan y gwna yr ysbryd dd'od I rodio 'n ol ei arfer yn y lle. |
Canu udgyrn a saethu magnelau oddifewn. |
|
Horatio |
Pa beth, fy arglwydd, ydyw ystyr hyn? |
Hamlet |
Mae'r brenin heno'n effro, ac y mae'n Cymeryd llymaid llawen; meddw yw, Y corach rhwysgfawr, ac yn dawnsio mae; A phan yr yf ei lwnc o win y Rhine, Mae 'r tabwrdd pres a'r udgorn croch fel hyn Yn brefu allan werth ei yfair ef. |
Horatio |
A ydyw yn arferiad. |
Hamlet |
Yn wir, y mae: Ond i fy meddwl i—er i mi fod Yn enedigol yma, ac felly yn Anedig i'r arferiad—arfer i A berchir wrth ei thori 'n llawer mwy Nag wrth ei chadw. Mae y gloddest tra Pendrymaidd hwn yn dwyn i ni sarâd A drygedliwiad gan genedloedd sydd I'r dwyrain a'r gorllewin: galwant ni Yn feddwon, ac âg ymadroddion tra Mochynaidd gwnant, ddirmygu 'n cynydd ni; A hyn yn ddïau a isela ein Holl orchfygiadau, er mor uchel y'nt, A grym a mêr ein priodoledd ni. Efelly dygwydd gydag aml ddyn, Rhai am ryw ddiffyg gafwyd yn y tro Na all'sant wrtho (am nad oes gan ddyn Un llais yn ffurfiad cynta 'i natur wan) Trwy dyfiant math o duedd, dora 'n aml Amgaerau a chastellydd rheswm pur.— Trwy ryw arferiad, orlefeinia ffurf Defodau mwyaf teg—y dynion hyn,— Gan gario arnynt, meddaf, argraff rhyw Un diffyg—nodwisg natur, seren ffawd,— Eu holl rinweddau eraill yn mhob peth (Boent hwy mor bur a gras, a'u meddu mewn Cyflawnder mor ddiderfyn ag all gael), A lygrir, gan y farn gyffredin, am Yr un bai hwnw; gwna un gronyn o Ddrygioni 'n fynych, weithio allan y Rhagoraf nodwedd, er difrïad dyn. |
Yr YSBRYD yn dyfod. |
|
Horatio |
Fy arglwydd, gwelwch, y mae ef yn d'od. |
Hamlet |
Angelion a holl weinidogion gras A'n cadwo ni!—ai ysbryd iechyd wyt Neu ellyll damniol? a wyt ti yn dwyn I'th ganlyn rai o fwyn awelon nef Neu ryw fflachiadau o'r diwaelod bwll, A yw dy amcan yn ddrygionus ai Carnaidd? ti a ddeui mewn fath ddull Ymgomgar, [8] fel gwnaf siarad gyda thi; Mi'th alwaf di yn Hamlet, brenin, tad, Breninol Ddaniad. O! ateba fi: Na âd i mi, ymdori ar fy nhraws Mewn anwybodaeth! ond mynega im' Paham mae 'th esgyrn cysegredig di, A rwymwyd mewn marwolaeth, erbyn hyn Yn tori 'u cŵyr-lïeiniau! A phaham Mae 'r beddrod yn yr hwn y gwelsom di Yn cael dy roi yn dawel yn dy fedd, Yn agor ei rwth fynor-enau i - Dy fwrw allan! Beth arwydda hyn, Tydi, gorff marw, eto 'n arfog oll, Yn ail ymweled â th'wyniadau 'r lloer, Gan wneud y nos yn echrys; a nyni, Ynfydion natur, gawn ein dychryn i'r Fath raddau nes cael llwyr wanychu 'n ffydd, A'n llenwi â dychmygion uwch ein bryd? D'wed, p'odd mae hyn? paham? beth ddylem wneud? |
Horatio |
Amneidia i chwi fyned gydag ef, Fel pe b'ai ganddo ryw ddadguddiad i'w Fynegu ichwi, ar eich pen eich hun. |
Marcellus |
Edrychwch, â'r fath weithred foesog mae Yn ceisio 'ch gwahodd i ryw arall le Mwy neillduedig: nac ewch gydag ef. |
Horatio |
Na, peidiwch myn'd, ar gyfrif yn y byd. |
Hamlet |
Ni sieryd; felly gwnaf ei ddilyn ef, |
Horatio |
Na, peidiwch, arglwydd. |
Hamlet |
Pa'm, pa beth a raid Ei ofni? nid wyf fi yn gosod pris Fy mywyd, mwy na phin; am f' enaid, beth A all ef wneud i hwnw ag sydd yn Anfarwol fel ei hunan? y mae yn Fy ngalw eto;—âf, dilynaf ef. |
Horatio |
Beth os arweinia chwi tuag at y llif, Fy arglwydd, ynte i echryslawn ben Y clogwyn â fargoda at y môr? Ac yno wisgo rhyw ofnadwy ffurf, A'ch difeddiano o lywodraeth ar Eich reswm, nes eich hyrddio 'n gwbl i Orphwyllder. F' arglwydd, O! ystyriwch hyn. Mae 'r lle ei hun, yn rho'i dych'mygion o Anobaith yn mhob menydd, heb ddim mwy, Tra 'n edrych o'r fath uchder ar y môr, A chlywed ei ruadau yn mhell i lawr. |
Hamlet |
Mae'n galw eto:— dos, dilynaf di. |
Marcellus |
Ni chewch fyn'd, f arglwydd.. |
Hamlet |
Hwnt â'ch dwylaw oll. |
Horatio |
Cyngorer chwi, nis cewch ddim myn'd yn wir. |
Hamlet |
Mae'm tynged i yn galw i mi fyn'd, Nes gwneud pob mânwythïen yn fy nghorff Mor gryfion a gewynau dur y llew. |
Yr YSBRYD yn galw. |
|
Hamlet |
Fe 'm gelwir eto; foneddigion, gwnewch Fy ngollwng i:— (Yn tori oddiwrthynt.) Myn nef, gwnaf ysbryd o'r Hwn wna fy rhwystro:—meddaf, ewch i ffordd:— Yn mlaen yn awr, mi a'th ddilynaf di. |
Yr YSBRYD a HAMLET yn ymadael. |
|
Horatio |
Mae 'n myn'd yn ffyrnyg, trwy ddychymyg certh. |
Marcellus |
Dilynwn; nid yw 'n weddus i ni 'n awr Fel hyn i'w archiad ufuddâu. |
Horatio |
Canlynwn:—i ba ddiwedd y daw hyn? |
Marcellus |
Rhyw beth yn nheyrnas Denmarc, sydd yn bwdr. |
Horatio |
Y Nefoedd fawr a'i gesyd oll yn iawn. |
Marcellus |
Na, na, dilynwn ef. |
Ill dau yn ymadael. |