GOLYGFA: Yr un ystafell, bore canlynol. Yn lân a thaclus. Charles yn eistedd wrth y bwrdd yn bwyta ei frecwast ─ ŵy wedi ei ferwi. Charles yn canu cloch ar y bwrdd unwaith. Daw Doris i mewn wedi ei gwisgo yn ddestlus fel morwyn. Ei hwyneb heb ei goluro. |
|
Doris |
Ia? |
Charles |
Ia, be? |
Doris |
(Ochenaid.) Ia, meistr? |
Charles |
Dyna welliant. |
Doris |
Be dach chi isio? |
Charles |
Am bedwar munud union oeddet ti fod i ferwi'r ŵy 'ma. |
Doris |
Dyna wnes i. |
Charles |
Paid â deud celwydd. Mae'n amlwg i mi bod yr ŵy yma wedi bod yn y dŵr am beth bynnag bedwar munud a hanner. Dos â fo o 'ma a gwna un arall! |
Doris |
O-ce. (Yn mynd allan gyda'r ŵy.) |
Charles yn canu y gloch ddwywaith. Daw Beti i mewn. Dillad du llaes ganddi, gwallt mewn 'bun'. Dim coluro) |
|
Beti |
(Yn wylaidd.) Be ga' i 'neud i chi, Charles? |
Charles |
Mae yna ormod o lwch yn yr ystafell yma ac mae'r ffenestri angen eu glanhau. Chi sydd yn gyfrifol fod y gweision yn gwneud eu gwaith yn iawn a dach chi ddim yn gwneud eich job. |
Beti |
Ond Charles... |
Charles |
Dwi ddim isio esgusion. Gewch chi fynd rŵan. |
Beti yn mynd allan, Charles yn canu'r gloch unwaith. Daw Doris i mewn. |
|
Doris |
Dim ond dwy funud mae o wedi bod! |
Charles |
Mae'r te yma yn oer. Cer i wneud peth ffres! |
Doris |
Ar y ffordd allan gyda'r tebot a'i chefn at Charles.} 'Di hwn byth yn fodlon. |
Charles 'yn canu'r gloch deirgwaith. Daw Ben i mewn. Symud fel milwr. Wedi ei wisgo fel chauffer. |
|
Ben |
Ia, syr? |
Charles |
Mi fydda i isio'r car mewn hanner awr. |
Ben |
Syr! (Yn mynd allan.) |
Y ffôn yn canu. Daw Beti i mewn yn gyflym. Mynd at y ffôn a dod â fo i Charles. Charles yn ei dderbyn heb edrych arni. Beti yn mynd allan. |
|
Charles |
Helo David, sut ydach chi? (Saib.) Wrth gwrs mi wna' i ei ddarllen o'n syth. Wnewch chi anfon o yma? (Saib.) Diolch yn fawr. Hwyl. |
Charles yn canu y gloch ddwywaith a daw Beti i mewn a chymryd y ffôn oddi wrth Charles a'i roi yn ei le. Wedyn mynd allan. Charles yn canu'r gloch deirgwaith a daw Ben i mewn. |
|
Ben |
Syr! |
Charles |
Mae yna adroddiad pwysig ar y ffordd. Tyrd â fo i mi yn syth pan y daw o. Mi ddyle fod yma mewn tua dau funud. |
Ben |
Wrth gwrs, syr. |
Mynd allan. Daw Doris i mewn gyda the ffres ac ŵy arall. Mae hi'n sefyll i edrych ar Charles yn torri'r ŵy a dechrau bwyta. |
|
Doris |
Ydi hwnna'n well! |
Charles |
Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro. |
Doris yn troi a mynd allan. Siarad 'yn uchel wrthi ei hun. |
|
Doris |
Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn. |
Daw Ben i mewn gydag amlen a'i roi i Charles. |
|
Ben |
Newydd gyrraedd, meistr. |
Charles yn ei gipio heb ddiolch. Ben yn mynd allan. Charles yn agor cynnwys yr amlen a darllen. |
|
Charles |
Rargian fawr! (Mae yn canu'r gloch deirgwaith a daw Ben i mewn.) Car mewn pum munud. |
Ben |
Syr! (Ben yn mynd allan.) |
Charles yn canu'r gloch unwaith a daw Doris i mewn. |
|
Charles |
'Rydw i ar frys. Tyrd â fy sgidie du newydd i mi. |
Doris |
Iawn. (Yn mynd allan.) |
Charles yn canu'r gloch ddwywaith a daw Beti i mewn. |
|
Charles |
Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd. |
Beti |
Wrth gwrs, Charles. |
Beti yn mynd allan. Daw Doris yn ôl i mewn gyda'r esgidiau. |
|
Charles |
Rho nhw ar fy nhraed i. Rydw isio cario ymlaen i ddarllen. |
Doris |
Be nesa! (Rhoi yr esgidiau am ei draed.) |
Charles yn darllen. Daw Beti i mewn gyda'r gôt a'r tei. |
|
Charles |
Rhowch y tei ymlaen. |
Beti yn ufuddhau. Beti gyda'r tei, Doris gyda'r esgidiau a Charles yn darllen yr un pryd. |
|
Charles |
Dwi ddim yn gallu darllen, Beti. Mae'ch breichiau chi ymhob man. |
Beti |
Sori, Charles. |
Y ddwy yn gorffen. Charles yn codi. Y ddwy yn ei helpu gyda'i gôt. Charles yn dal i ddarllen. |
|
Doris |
'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr. |
Charles |
Tyrd a fo yma 'ta. |
Doris yn cynnig y blât a'r ŵy arno iddo. |
|
Charles |
(Dal i ddarllen.) Fedri di ddim gweld, mae 'nwylo i yn llawn! Bwyda fi! |
Doris |
Wel, agorwch eich ceg 'ta. |
Charles yn agor ei geg a darllen. Doris yn ei fwydo. Beti yn brwsio ei gôt. |
|
Charles |
(Dal i ddarllen.) Bowler! |
Beti |
Pardwn. |
Charles |
Yr het bowler. Estynnwch hi! (Beti yn estyn yr het.) (Dal i ddarllen.) Rhowch hi ar fy mhen. |
Beti yn gwneud hynny. Daw Ben i mewn. |
|
Ben |
Car yn barod syr! |
Charles yn rhoi'r gorau i ddarllen a cerdded allan. Ben yn ei ganlyn. |
|
Beti |
Welwn ni mono fo am rai oriau gobeithio. Ti'n cofio ein bod ni wedi gwadd mam a'i chwaer drosodd am baned a sgwrs. |
Doris |
Cofio? Wrth gwrs. A finnau wedi gwneud tarten afalau yn arbennig iddyn nhw. |
Beti |
Well i ti osod y bwrdd yn barod. |
Doris |
Iawn. |
Y ddwy yn mynd allan i'r gegin. Daw Doris yn ôl yn syth gyda llestri. Rhoi nhw ar y bwrdd a throi yn ôl at y gegin. Ar y ffordd 'yn ôl mae hi'n pasio Beti sydd wedi dod i mewn gyda thebot) |
|
Doris |
Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw? |
Doris yn mynd allan. Dod yn ôl yn syth gyda theisen. Beti yn ei phasio ar y ffordd allan. |
|
Beti |
Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud. |
Beti yn mynd allan. Dod yn ôl yn syth gyda rhywbeth arall i'w roi ar y bwrdd. Doris ar ei ffordd allan yn ei phasio eto. |
|
Doris |
Sut maen nhw'n dod? |
Doris yn mynd allan a dod yn ôl yn syth gyda rhywbeth arall. Beti yn ei phasio. |
|
Beti |
Mae 'mrawd, Dei, yn dod â nhw yn ei gar ─ ond dydi o ddim yn aros. |
(Cloch y drws yn canu.) |
|
Beti |
(Ar ei ffordd yn ôl at y bwrdd.) Dyma nhw! |
Doris |
Mi a' i i'w ateb o. |
Yn mynd allan. Beti yn gorffen gosod y bwrdd. Clywir lleisiau yn y cefndir. |
|
Doris |
Na, peidiwch â phoeni. Dydi o ddim yma. |
Daw dwy ddynes i mewn. Doris tu ôl iddynt. |
|
Doris |
Hei, beth am eich cotiau chi. Dowch â nhw i mi. |
Y ddwy yn diosg eu cotiau. |
|
Beti |
Sut 'dach chi mam? Hylo, Anti Jên. |
Rhoi cusan i'r ddwy. Doris yn mynd â'r cotiau allan. |
|
Beti |
Dewch at y bwrdd. Mae'n siŵr bod chi isio paned. |
Mam |
A thamaid o darten afalau, Doris. |
Jên |
Ia wir, rydan ni ein dwy wedi mynd heb frecwast i fwynhau honno. |
Beti yn tywallt te a thorri'r darten. |
|
Beti |
Does 'na neb i guro Doris am darten 'fala. |
Mam |
Rydw i jest â chlemio. |
Daw Doris i mewn. |
|
Doris |
Sut mae'r darten yn plesio? |
Jên |
Dy ora di eto 'mach i. |
Daw Ben i mewn. |
|
Ben |
Well i chi glirio o'r ystafell yma. |
Doris |
Pam? |
Ben |
Mae o yn ei ôl. |
Beti |
Yn barod? |
Ben |
Ia, mae o wedi trefnu i ddau ffrind ddod i'r tŷ. |
Beti |
Wel, mi gaiff o fynd i'r rŵm ffrynt. Dan ni ddim yn symud. |
Doris |
Da iawn, meistres. Mae'n bryd i rywun ddal ei dir yn ei erbyn. |
Ben |
Wel, rydw i wedi'ch wamio chi. (Yn edrych trwy'r drws.) Mae o'n dŵad. Rydw i'n mynd. (Yn mynd allan.) |
Daw Charles i mewn. Beti yn sgwario a mynd ato. |
|
Beti |
Gwrandwch arna' i, Charles. |
Charles |
Allan! |
Beti |
Ond... |
Charles |
Allan ddeudais i. Doris cliria'r bwrdd. |
Doris 'yn ufuddhau. |
|
Doris |
(Wrthi ei hun.) Oedd Hitler yn waeth na hyn deudwch? (Yn mynd allan.) |
Charles |
(Yn helpu Mam ac Anti Jên i godi.) Reit, cym on ferchaid. Mae yna ddigon o ystafelloedd eraill yn y tŷ. (Rhoi eu paneidiau yn eu dwylo a'u hebrwng at y drws. Beti yn dilyn) (Wrth Beti.) Rydw i yn disgwyl dau ffrind. Dwedwch wrth Doris am ddod â nhw i mewn yma yn syth. |
Beti |
Wrth gwrs, Charles. Yn mynd allan.} |
Cloch y drws yn canu. Lleisiau yn y cefndir. Daw Doris i mewn gyda dau ddyn, Seimon Pyrs ac Emlyn Prydderch. |
|
Charles |
Hylo, Seimon. Hylo, Emlyn. Dowch i eistedd. |
Y ddau yn tynnu eu cotiau a'u rhoi i Doris. |
|
Charles |
(Yn gwenu.) Diolch Doris. |
Doris yn cychwyn allan. |
|
Charles |
Rydan ni yn lwcus iawn o gael Doris. Halen y ddaear wyddoch chi. |
Doris |
(Wrthi ei hun.) 'Welodd rywun un mor ddau wynebog â hwn. (Yn mynd allan.) |
Charles |
Eisteddwch, gyfeillion. |
Y ddau yn eistedd. |
|
Emlyn |
Diolch C.J. Wel, mae golwg iach arnoch chi, ond does, Seimon. |
Seimon |
Mi fuasech chi'n meddwl 'i fod o ddeg mlynedd yn iau. |
Charles |
(Ffug wyleidd-dra.) Diolch, gyfeillion. |
Emlyn |
Be' ydi'r gyfrinach G.J.? |
Charles |
O, mi fuaswn i yn deud ─ bod yn garedig wrth bobol. |
Seimon |
Mae hynny yn siŵr o fod yn wir. |
Charles |
Reit gyfeillion, beth am drafod busnes. |
Emlyn |
Rydan ni yn gwrando C.J. |
Charles |
(Papur yn ei law.) Dyma blan o'r gwesty newydd, Bryn Awelon, fydd yn cael ei adeiladu y flwyddyn nesaf ar gyrion y dref. |
Seimon |
Mae o'n edrych yn broject go fawr C.J. |
Charles |
Tua miliwn a hanner. |
Emlyn |
'Rargian fawr! Mi fydd eich ffî chi am y cynllun yma yn un sylweddol. |
Charles |
Wel, mae'n rhaid iddyn nhw dalu am y gorau. |
Seimon |
Rhaid yn wir. |
Emlyn |
Fedrwn ni gyfrannu i lwyddiant y fenter C.J.? |
Charles |
Wrth gwrs, wrth gwrs. Dyna pam fy mod i wedi eich gwadd chi yma heddiw. Dach chi'n gwerthu dodrefn da, Emlyn, a chitha garpedi gwych, Seimon. |
Seimon |
Oes posib rhoi gair i mewn drosom ni? |
Charles |
Wrth gwrs, ond mae yna un broblem bach. |
Emlyn |
Be ydi honno C.J.? |
Charles |
Meddwl bod hi'n bryd i ni feddwl am newid y dodrefn a'r carpedi yn yr hen dŷ yma. |
Seimon |
Say no more C.J. |
Emlyn |
Ie, wir. |
Charles |
Rydw i'n falch ein bod yn deall ein gilydd ffrindiau. Rŵan, rwy'n cynnig ein bod yn cael ychydig o fy ngwin cartref i ddathlu, (Yn gafael mewn gwydrau a photel o win ac arllwys.) Rydw i wedi cael hwyl ar wneud hwn. Fy un gorau i ers talwm. |
Pawb yn cyffwrdd gwydrau. |
|
Pawb |
I Bryn Awelon. |
Charles |
'Dych chi ddim wedi cyfarfod y wraig yn naddo? Mi af i'w nôl hi, mi fydd wrth ei bodd eich cyfarfod chi. (Yn mynd allan.) |
Seimon |
Ew, mae'r gwin 'ma yn ofnadwy. |
Emlyn |
Sôn am wenwyn. |
Seimon |
Lle gawn ni wared â fo dŵad? |
Emlyn |
Beth am y pot blodau? |
Seimon |
Syniad da. |
Y ddau yn arllwys eu gwin i'r pot blodau. Daw Charles i mewn gyda Beti a'i fraich rownd ei chanol. |
|
Charles |
Rwyf am i chi gyfarfod dau gyfaill i mi, cariad. Gyfeillion, dyma fy annwyl wraig, Beti. Beti, dyma Emlyn Prytherch a Seimon Pyrs. |
Beti |
(Yn ddi-wên.) Falch o'ch cyfarfod chi. |
Charles |
Mae Beti a fi wedi bod yn briod ers ugain mlynedd. Pob un ohonyn nhw y tu hwnt o hapus. Yntê, cariad? |
Beti |
(Heb wenu.) Ia, Charles. |
Charles |
Gyfeillion, mae'ch gwydrau chi'n wag. Rhaid i chi gael mwy. |
Emlyn |
Na, dim diolch C.J. |
Seimon |
Rhaid ini fynd. |
Charles |
Twt lol, mae gennych chi ddigon o amser am wydriad bach arall. (Yn arllwys mwy o win iddynt.) |
Emlyn |
Rwy'n siŵr bod pob munud yn fêl gyda C.J., Beti? |
Beti |
(Yn sych.) Dach chi'n meddwl? |
Charles |
Wel, lawr â fo gyfeillion. Fe awn ni rŵan i weld perchennog y gwesty. |
Emlyn |
Iawn C.J. |
Y ddau yn rhoi y gwydrau ar y bwrdd a throi at y drws. |
|
Charles |
Gyfeillion, rwy'n synnu atoch chi. Mae yna lot o win ar ôl yn eich gwydrau. Dewch rŵan, dach chi ddim yn mynd i wastraffu gwin da! |
Seimon |
Wel mi rydan ni ar fai C.J. |
Emlyn |
Ia wir, a'r gwin mor dda hefyd. |
Seimon |
Campus ydi'r unig air amdano fo. |
Y ddau yn yfed. Y gynulleidfa yn unig yn gweld y diflastod ar eu hwynebau. |
|
Charles |
Dewch gyfeillion. (Rhoi cusan i Beit ar ei boch.) Gwelaf chi yn hwyrach, siwgwr. |
Y tri yn mynd allan. Daw Doris i mewn. |
|
Doris |
Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei. |
Beti |
Wyddost ti beth nath y cena? Fy nghusanu i o flaen y dynion 'na. |
Doris |
Dach chi wedi cael eich siâr am y flwyddyn yma felly. |
Daw Ben i mewn. |
|
Ben |
Wel, myn dian i. Sefyll fel ffŵl wrth ymyl y car yn disgwyl amdano fo ac yntau yn cerdded heibio i mi heb ddeud dim a mynd yng nghar ei ffrindiau. |
Doris |
(Yn edrych ar y bwrdd.) Mae o wedi gadael ei blan ar ôl. |
Beti |
Pa blan? |
Doris |
Hwn fan hyn. |
Ben |
Edrych yn debyg i'r gwesty newydd maen nhw yn mynd i'w adeiladu ger y traeth. Bryn Awelon. |
Doris |
Sut wyt ti'n gwybod am hwnnw? |
Ben |
Mae 'mrawd wedi rhoi cais i mewn i fod yn bensaer. |
Beti |
'Chaiff o mohoni mae'n debyg. Os nad ydi o yn nabod y bobol iawn. |
Ben |
Dyna'r gwir amdani. (Saib.) Hei, hold on, mae hwn yn debyg iawn i'r plan wnaeth fy mrawd. |
Doris |
Sut wyt ti'n gallu deud? |
Ben |
Wel, weli di y ffigwr 81 yn fan'na? |
Doris |
Ia. |
Ben |
'Rydw i bron yn sicr mai dyna'r union ffigwr oedd ar blan fy mrawd ac mae o'n anghywir. 'Ron i yno pan welodd o y mistêc ar ei gopi o. |
Beti |
Be ddylai o fod? |
Ben |
18. Ac mi aeth fy mrawd i'r swyddfa i nôl y plan i'w gywiro fo ar ôl sylweddoli hynny. |
Beti |
Ac mi roedd rhywun wedi copio y plan pan oedd o yn y swyddfa? |
Ben |
Oedd, ac wedi copio y mistêc hefyd. |
Doris |
Wel, y coblyn tywyllodrus. |
Ben |
'Rydw i am fynd â hwn at fy mrawd i jecio. (Mynd allan gyda'r cynllun.) |
Doris |
Reit ─ dyma'n cyfle ni. |
Beti |
Be wyt ti'n feddwl? |
Doris |
Ein cyfle ni i dalu'n ôl. |
Beti |
I Charles? |
Doris |
Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni. |
Beti |
Ond does 'na ddim wedi'i brofi. |
Doris |
Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser. |
Beti |
Ond dial wnaiff o ─ ti'n gwybod amdano fo. |
Doris |
Ddim ar ôl i mi orffen hefo fo. Reit meistres, beth am bractis bach. |
Beti |
Practeisio be? |
Doris |
Beth i'w ddweud wrth y meistr. |
Beti |
Well gen i beidio. |
Yn cychwyn allan. Doris yn sefyll yn ei ffordd. |
|
Doris |
'Rydw i wedi fy siomi ynoch chi meistres. Wyddwn i ddim eich bod chi mor ofnus. |
Beti yn meddwl. |
|
Beti |
Reit, be wyt ti isio imi ei wneud? |
Doris |
Gwych, meistres. Reit, deudwch ar fy ôl i ─ Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi. |
Beti |
(Heb hunan hyder.) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi. |
Doris |
Twt, twt, meistres. Fuasech chi ddim yn dychryn robin goch fel yna. Brest allan, ysgwyddau'n ôl. Triwch eto. Codwch eich llais. |
Beti |
(Yn ufuddhau, ond yn gweiddi gormod.) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi. |
Doris |
Peidiwch â gweiddi gormod. Unwaith eto. |
Beti |
(Llais yn is.) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi. |
Doris |
Da iawn. |
Daw Ben yn ôl i mewn. |
|
Ben |
Mae 'mrawd wedi cadarnhau'r peth. Ei gynllun o ydi o heb os nac onibai. A pheth arall, ar ôl iddo fo ei anfon o i mewn yr ail dro, mi aeth ar goll. |
Doris |
Yn y swyddfa? |
Ben |
Ia, mae'n debyg bod rhywun wedi'i golli o yn fwriadol. |
Doris |
Dyna fo wedi'i brofi. Mi fedrwn ni gario ymlaen rŵan. |
Ben |
Be' 'dach chi yn mynd i'w wneud? |
Doris |
Ei gyhuddo fo o dwyll. Ac os nad ydi o yn newid ei ffordd, mi rydan ni am ei riportio fo. |
Ben |
Sŵn car! Mae o wedi cyrraedd yn ôl. |
Doris |
Reit, pawb allan. Ar ôl iddo fo setlo, mi gaiff meistres ddod i mewn ato fo. |
Y tri yn mynd allan. Daw Charles i mewn. Mae yn cicio cadair o'r neilltu. Yn taflu ei gôt a'i het ar gadair arall ac yn canu y gloch. Neb yn ateb. |
|
Charles |
Lle gebyst mae pawb? (Yn cerdded i fyny ac i lawr yr ystafell.) Lle mae'r merchaid 'ma? |
Yn mynd allan i chwilio. Daw Beit i mewn ar frys. |
|
Beti |
Charles, rydan ni... |
Stopio mewn syndod pan wêl neb yno. Daw Doris imewn. |
|
Doris |
Lle mae o? |
Beti |
Wn i ddim. Ella ei fod o wedi mynd i'r ystafell ffrynt. |
Doris |
Ar ei ôl o meistres. |
Beti |
Rydw i yn dechrau cael traed oer wsti. |
Doris |
(Yn ei thywys yn araf at y drws.) Nac ydych, siŵr. Mi wnewch chi'n iawn. Pob lwc. |
Beti yn mynd allan. Doris yn gwneud ychydig o dacluso. Daw Ben i mewn. Pan wêl Doris sydd â'i chefn ato mae yn mynd ati ar flaenau ei draed ac yn rhoi ei freichiau o'i chwmpas. |
|
Doris |
(Gwaedd.) Pwy sydd 'na? |
Ben |
Tarsan. |
Doris |
(Tynnu ei hun yn rhydd.) Be sydd arnat ti dwad? Mae yna amser a lle i bopeth. Be wyt ti isio? |
Ben |
Dim ond un gusan fach. |
Doris |
Ddim yn fan hyn gwboi. (Daw Beti i mewn mewn dagrau.) Ew, dach chi yn ôl yn sydyn meistres. |
Beti |
Ydw. Mi wrthododd o wrando, a'n anfon i oddi yna bron yn syth. |
Ben |
Be ddeudodd o am y plan? |
Beti |
Deud mai ei blan o ydi o, a neb arall. |
Doris |
Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo. |
Beti |
Be fedar o'i wneud? |
Doris |
Wel mae o'n ddyn mawr ac mi rydw i wedi cael yr argraff erioed fod gan y meistr dipyn o'i ofn o. Ac ar ben hynny, mae o'n ddyn papur newydd. |
Ben |
Ia, meistres ─ ewch. Dim ond drws nesa ond un mae o'n byw. |
Beti |
Iawn. |
Yn mynd allan. Ben yn ceisio rhoi ei fraich rownd Doris. |
|
Doris |
Paid. Mae rhywun yn dod. |
Daw Charles i mewn. |
|
Charles |
A dyma be mae fy ngweision i yn wneud pan rydw i'n troi fy nghefn. Talu cyflogau uchel iddyn nhw gael chwarae mig. |
Doris |
Hy, be ydi cyflog? |
Charles |
Paid ti â meiddio fy ateb i yn ôl. |
Ben |
Sori syr. Wnawn ni byth eto. |
Charles |
A lle mae fy ngwraig i wedi mynd? Rydw i isio gair ymhellach gyda hi. Mae isio dysgu gwers iddi. |
Ben |
Newydd fynd allan meistr. |
Charles |
Pan ddaw hi'n ôl, dwedwch wrthi fy mod isio ei gweld hi yn syth. |
Ben |
Gwnawn wrth gwrs, syr. |
Charles yn mynd allan. Daw Beti i mewn gydag Oscar ─ dyn mawr yn edrych yn fygythiol. |
|
Doris |
Mae o newydd fod yma yn gofyn amdanoch chi meistres. |
Ben |
Ia, ac mewn coblyn o dymer. |
Oscar |
Lle mae o! Fydda i ddim yn hir yn ei setlo fo! |
Doris |
Ffordd hyn. |
Doris yn mynd allan gyda Oscar ─ y ffôn yn canu. Beti yn ateb. |
|
Beti |
Snwcer? Na, mae'n rhaid eich bod chi wedi gwneud camgymeriad ─ dydi Charles ddim yn chwarae snwcer. (Saib.) O, sori. Ben 'dach chi isio. Pwy sy'n siarad. (Saib.) Sion Powys, ia. Sut ydach chi, Mr Powys. Daliwch y lein, mi a'i i'w nôl o i chi rŵan. (Sibrwd.) Sion Powys sydd yna isio trefnu gem snwcer. |
Ben |
Ew, dw i heb gael cyfle i bracteisio. Dywedwch wrtho fo y gwna i ei ffonio fo'n ôl. |
Beti |
Gaiff o ffonio chi'n ôl Mr Powys? Diolch yn fawr. (Ffôn i lawr.) |
Ben |
(Chwerthin.) Powys ydi enw ei dy o! (Cloch y drws yn canu.) Mi a'i. |
Yn mynd allan. Daw Doris yn ôl i mewn. |
|
Doris |
(Chwerthin.) Mae yna leisiau uchel yn dod o'r ystafell ffrynt 'na. |
Beti |
O diar, gobeithio na fydd yna ymladd. |
Doris |
Fasa'r meistr ddim yn meiddio codi dwrn at Oscar. (Daw Ben yn ôl i mewn.) |
Ben |
Mrs. Pryce-Smith sydd yna. |
Beti |
Be mae hi isio? |
Ben |
Dw i ddim yn siŵr ─ rhywbeth am Tenerife. |
Beti |
O! Tenerife. |
Doris |
Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr. |
Beti |
O, fedra i 'mo'i gweld hi. Be wna' i Doris? |
Doris |
Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni. |
Beti |
O Doris, rwyt ti'n werth y byd. |
Doris yn mynd allan. Daw Oscar yn ôl i mewn. |
|
Oscar |
Chewch chi ddim mwy o drwbwl hefo fo. Dydd da. |
Oscar allan. Doris i mewn. |
|
Doris |
'Dach chi'n lwcus meistres. |
Beti |
Lwcus? |
Doris |
(Yn chwerthin.) Ia, mae hi isio canslo y gwyliau. Gofyn os dach chi'n meindio. |
Beti |
(Yn chwerthin.) Dim o gwbwl. |
Doris |
Mae hi am ddod yn ôl 'fory i egluro. |
Ben |
Sh... rydw i'n meddwl ei fod o yn dŵad. |
Daw Charles i mewn yn cario côt ffyr, amlen a watsh aur. |
|
Charles |
(Gwên gyfeillgar.) Beti, Doris, Ben. Sut ydych chi erbyn hyn? |
Doris |
(Wrth Beti a Ben.) Fasach chi'n meddwl nad ydi o ddim wedi'n gweld ni ers chwe mis. |
Charles |
Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i'n teimlo mewn mwd caredig iawn heddiw. |
Doris |
Tro cynta ers naintin-sicsti! |
Charles |
Er fy mod i yn cael fy ngadael i lawr gennych mor aml, dw i ddim yn un am ddal dig am amser hir. Na, fel mae Mr Davies y Gweinidog yn ei ddweud, rhaid maddau yn yr hen fyd 'ma. Felly dyma anrhegion i chi'ch tri. I chi, Beti ─ côt ffyr. I ti, Doris ─ cyflog tri mis a bonws o gan punt. Ac i tithau, Ben ─ bonws o gan punt a watsh aur. |
Doris |
Ew, dw i ddim wedi cael gymaint o arian ers talwm. |
Ben |
Na finnau. |
Doris |
Beth am i ni gyd fynd allan i ginio. |
Beti |
Syniad gwych. Well ini fynd i newid yn sydyn. |
Charles |
Ardderchog. Mi ddo' i gyda chi. |
Beti |
(Yn ei wthio yn ôl.) Gewch chi aros adref Charles. Mae yna ddigon o fwyd yn y gegin. |
Doris |
Ac os ydach chi isio ŵy wedi'i ferwi, cofiwch adael o yn y dŵr am bedwar munud union. |
Ben |
(Yn rhoi ei watsh aur ar y bwrdd.) A dyma chi fenthyg watsh i'w amseru o'n iawn. |
Beti |
Hwyl, Charles. |
Y tri yn mynd allan. Charles yn sefyll yn geg-agored mewn syndod. Y DIWEDD |