g1g2g3g4a1, g1

Y Llyffantod (1973)

Aristoffanes [Ἀριστοφάνης]
add. Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1973 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 4


Golygfa 4
Daw Dionysos a Nicias i'r golwg ar eu ffordd i'r afon Stycs.

Dionysos

Seibiant, Nicias. Eistedd yma am funud.



Eisteddant ar rostrwm isel yn weddol agos i ffrynt y llwyfan.

Nicias

Beth am Cerberws? Ydan ni'n weddol agos i'w diriogaeth o rwan?

Dionysos

Rydyn ni yn ei "diriogaeth" o fel rwyt ti'n dweud. Dyna pam mae'n rhaid inni benderfynu ar dacteg.

Nicias

Deudwch wrtha i, Syr, tae o'n digwydd cael gafael arna ì, be fydda fo'n 'i wneud imi?

Dionysos

Gwell peidio â meddwl am hynny. Rhaid inni ganolbwyntio rwan ar sut i'w sgoi o eto. Rydan ni'n siwr o'i gyfarfod o. Felly gwranda'n astud. Pan glywn ni o'n dwad, dos di o'r golwg y tu ôl i hwnna. (Mae'n pwyntio at rostrwm arall.) Wedyn mi geisia i ddal ei sylw am ychydig mewn sgwrs. Dyna dy gyfle di i sleifio i'r cyfeiriad acw ar flaena dy draed. Rhaid iti fod yn ddistaw fel llygoden. Mae o'n llygadog fel barcut fel y gwyddost ti. Os gwêl o di, gwadna hi am dy hoedl at y Stycs.

Nicias

Ond beth am Charon?

Dionysos

Popeth wedi'i drefnu. Weli di mono fo o gwbwl. Ond mi fydd cwch wedi cael ei adael yn barod iti yno. Neidia iddo fo, a fedr Cerberws wneud dim oll iti.

Nicias

Wedyn?

Dionysos

Wedyn, pwnia'r cwch dros y Stycs i'r ochor arall, i'th fyd a'th ddimensiwn di dy hun. Popeth yn glir?

Nicias

Ydy. Mi wna i unrhyw beth i gael mynd yn ôl i'r hen Athen annwyl efo'i holl ffaeledda!

Dionysos

Gan obeithio na fydd y rheiny ddim yn ei thynnu i'r llwch!

Nicias

Ia, mae hynna y tu hwnt i greadur dibwys fel fi, Syr.

Dionysos

Does yna run creadur dibwys, Nicias. Mae dyfodol Athen yn nwylo miloedd o'th debyg — y mwyafrif cib-ddall mud, difater.

Nicias

(Yn awyddus i newid testun sy'n ddiflas iddo.) Wyddoch chi be sy'n fy mhoeni fi rwan yn fwy na dim? Be sydd wedi digwydd i Iris druan. Rhaid ein bod ni yma ers hydoedd bellach.

Dionysos

Dydy Amser ddim yn bod yma, Nicias.

Nicias

Sut felly? Dydw i ddim yn deall —!

Dionysos

Yn nhermau tragwyddoldeb beth yw modfedd, neu funud, neu filltir neu ganrif? Dydyn nhw ddim yn bod.

Nicias

Hanner munud rwan, mae rheswm yn dweud ─

Dionysos

All dy reswm di wneud dim oll ond mesur a phwyso a chymharu, Nicias. Mae hynny'n angenrheidiol, wrth gwrs, o fewn terfynau bodolaeth faterol. Ond paid â meddwl y gall rheswm egluro popeth. Does yna ddim rheswm, fel y cyfryw, i dosturi na hunan-aberth na dyhead anniwall enaid dyn am brydferthwch a chelfyddyd.

Nicias

(Mae ar goll ers meitin.) Ar eich traws chi, Syr ─ maddeuwch imi ddweud hyn ─ ond mi fydda i'n teimlo mod i, greadur o ddyn, ar brydia yn dwad yn bur agos i'ch stâd chi, y duwia! Peth mawr i' ddweud, rwy'n gwybod, ond mae o'n wir.

Dionysos

O? Ar ba achlysur?

Nicias

Rydach chi yn y gwely yn nistawrwydd y bore bach. Troi'n gysglyd at y wraig. Anwes dioglyd yn mynd yn goflaid ffyrnig. Wedyn rhyferthwy tymestl corff ac enaid o dan y blancedi. A minna, fel duw, yn marchogaeth yn fuddugoliaethus. Ac yn creu!... A rwan — gyda pharch, Syr — wrth sôn am Amser ac ati, fedra i feddwl am ddim ond am groeso cynnes bronnau Iris, a chryndod parod ei llwynau.

Dionysos

Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau!



Clywir dwndwr draw.

Nicias

Cerberws!

Dionysos

(Pwyntio at rostrwm cyfagos.) Brysia — y tu ôl i hwnna. Gwylia fi'n fanwl, a phan roi'r arwydd iti, hegla hi ar flaena dy draed. A phaid â cymryd dy wynt, bron, nes y doi di at y Stycs.

Nicias

Reit, Syr. (Mae'n troi i fynd)

Dionysos

O, a Nicias?

Nicias

Ia?

Dionysos

Pob lwc iti... a diolch. Dos, brysia!



Rhed Nicias ac ymguddio y tu ôl i'r rostrwm. Daw Cerberws i'r golwg. Mae Dionysos yn mynd i'w gyfarfod.

Dionysos

Hoi Cerberws! Hanner munud os gweli'n dda.

Cerberws

(Edrych ar ei oriawr.) Wel rwy i'n brysur ofnadwy, Dionysos. Official duties. Dim amser i ddal pen rheswm na malu awyr.

Dionysos

Wna i ddim dy gadw di'n hir. Ond mae arna i eisio dy help di os oes modd. Mater pwysig tu hwnt.

Cerberws

Edrych yma Dionysos, rwyt ti wedi achosi digon o drafferth a helbul imi'n barod. Ti a'r tipyn gwas yna oedd gen' ti o'r Byd Arall. Mi leciwn i gael gafael arno fo!

Dionysos

Hwnnw oedd gen' i dan sylw. Welaist ti o yn rhywle?

Cerberws

Dim golwg, y bwbach beiddgar! Rhaid ei fod o wedi sleifio heibio y tu ôl imi pan oeddwn i'n sgwrsio efo ti wrth y Porth. Y llabwst anghwrtais! Ond aros imi gael fy nwylo arno fo. Mi fydd yn difaru hyd at ei flewyn olaf!

Dionysos

Mi ydw i'n meddwl mai anelu at y Stycs mae o, y munud yma!

Cerberws

Dim o gwbwl. Rhy amlwg. Dyna mae o'n 'i ddisgwyl inni gredu. O na, mae gen i syniad go lew ble mae o. O oes!

Dionysos

O?

Cerberws

Y lle mwya annhebygol inni fynd i chwilio amdano fo.

Dionysos

A hwnnw?

Cerberws

Yn ymyl Tartarws. Ar fy ffordd yno roeddwn i rwan. Ddoi di efo fi?

Dionysos

 chroeso... Gad inni fynd. Mae gen i bob cyd-ymdeimlad â thi, Cerberws. Mae'r creadur yna'n beryg bywyd.



Try Cerberws ei gefn a rhydd Dionysos yr arwydd i Nicias ddianc, a gwelir hwnnw'n mynd ar flaenau ei draed. Yn anffodus mae'n baglu a syrthio ar ei hyd ar lawr. Try Cerberws a'i weld.

Cerberws

Dyna fo'r llaprwth powld! Hei, ti yna, aros!



Neidia Nicias ar ei draed a dechrau rhedeg.

Cerberws

Wyt ti'n clywed, y cnaf digywilydd! Yr adyn haerllug! Tyrd yma imi gael gafael ar dy wegil di!



Rhed Cerberws ar ei ôl dan chwythu ei bib. Wrth iddynt groesi'n ôl a blaen ar draws y llwyfan, fflachier y goleuadau.

Miwsig cyflym.

Wedi iddynt redeg droeon ar draws y llwyfan fel hyn, a neidio ambell waith i fyny ac i lawr y rostra, gostynger y goleuadau i dywyllwch. Mae sŵn llais a phib Cerberws yn pellhau; felly hefyd y miwsig, ond pery o hyd yn y cefndir.

Ar ôl ychydig eiliadau, cryfhaer y goleuadau, gyda llewych gwyrdd, a dealler mai'r afon Stycs yw'r llwyfan yn awr. Clywir eco pell o bib Cerberws, drwy'r miwsig; yna daw Nicias i'r golwg gan bwnio'r cwch yn ffyrnig ymlaen. O'r diwedd mae'n cyrraedd y lan — a'r byd hwn! Neidia allan a disgyn yn flinedig a swrth ar yr union rostrwm lle y cysgai ar ddechrau'r ddrama. Mewn dim mae mewn trwmgwsg.

Gwelir y cwch yn mynd yn ôl ac o'r golwg ohono'i hun.

Mae'r goleuadau'n melynu, a chlywir yr un miwsig ag a gafwyd ar y dechrau yn ogystal â chrawcian y Llyffantod.

Ar ôl ennyd neu ddau, daw Iris a Harmonia i'r golwg. Maer miwsig yn distewi.

Iris

Mae o'n dal i gysgu!

Harmonia

Fel mochyn mewn twlc.

Iris

Rhaid ei fod o wedi blino.

Harmonia

Heb wneud dim?

Iris

Does yna ddim mwy blinedig na segura.

Harmonia

Hy!

Iris

Yn erbyn eich ewyllys o'n i'n ei feddwl.

Harmonia

Hy!



Mae Iris yn mynd at Nicias a rhoi ei llaw ar ei ysgwydd.

Iris

Nic!

Nicias

(Deffro.) Iris! (Neidio i fyny.) Iris, 'nghariad annwyl i! (Mae'n ei chofleidio.) O Iris, Iris!

Harmonia

Mae o'n sâl!

Nicias

Does gen ti ddim syniad mor falch ydw i! Dy weld unwaith eto! O Iris! (Ei chofleidio unwaith eto.)

Harmonia

Mae o'n sâl iawn!

Iris

Be sy'n bod arnat ti?

Nicias

Wyt ti ddim yn sylweddoli? Rwy i wedi bod ar siwrna ofnadwy. Yng nghrombil Hades ei hun! Ar drothwy dychrynllyd Tartarws du!

Iris

Be!

Nicias

Mae Cerberws wedi bod ar fy ngwartha gan sgyrnygu dannedd. A Charon wedi fy mygwth ar ddyfroedd enbyd y Stycs!

Iris

Am beth wyt ti'n siarad?

Nicias

O, mae o'n hanes fydd yn codi gwallt dy ben di, Iris annwyl! Does arna i ddim eisio d'adael di eto, byth. (Wrth Harmonia) Na chitha, 'rhen wraig garedig! Rydach chi'n cyfarth digon, ond rywle yn yr hen frest gwynfannus yna, mae yna galon fel pwced!

Harmonia

Mi ydw i'n gwybod rwan ei fod o'n drysu!

Iris

Wel, dywed yr hanes hynod yna i gyd.

Nicias

(Tynnu'r botel o'i boced.) Aros am funud imi gael dracht o hwn. I iro tipyn ar fy nghorn-gwddw a chynhesu 'nghalon i. (Cymer ddracht hir o'r botel.) Ben-di-ged-ig!

Iris

Wel?

Nicias

'Wel', be?

Iris

Beth am y siwrna erchyll yna gest ti?

Nicias

(Yn syn.) Siwrna? Pa siwrna? Am be rwyt ti'n siarad?

Harmonia

Rwyt ti newydd fod yn preblian rhywbeth am siwrna erchrydus yn Hades a... a... be-wyt-ti'n-alw... Tartarws.

Iris

Ac am Cerberws a Charon ac Afon Stycs. A does yna ddim dwy awr er pan aethon ni oddma a'th adael di yma yn yfed gwin. Rhaid ei fod o wedi mynd i dy ben di.

Harmonia

Breuddwyd meddwyn os wyt ti'n gofyn i mi.

Nicias

Does yna neb yn gofyn ichi, yr hen glep-melin be-ydach-chi'n alw... gecrus!

Harmonia

Digon hawdd gweld ei fod o'n dwad ato'i hun, Iris. Dwed y newyddion da wrtho fo!

Iris

O ia, Nic, wyddost ti'r hen wraig drws-nesa-ond-tri?

Nicias

Gwn. Bydwraig wedi ymddeol.

Iris

Dyna ti. Wel, rydan ni newydd fod yn siarad efo hi. A wyddost ti be mae hi'n i ddweud...?

Nicias

Ust! Glywch chi rywbeth?



Clywir crawcian y Llyffantod a sibrwd fel lleisiau ar yr awel yn dweud geiriau olaf y gwrol-rai yn Hades.

Lleisiau

(Sibrwd drwy'r corn-siarad.) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun."



Clywir y geiriau hyn deirgwaith.

Iris

Chlywa i ddim ond crawcian y llyffantod.

Nicias

Ro'n i'n meddwl 'mod i'n clywed rhywbeth arall hefyd.

Iris

Dim ond sŵn yr awel yn yr hesg.

Harmonia

Paid â dweud dy fod ti'n dechra clywed petha rwan! Yr arwydd cynta meddan nhw!

Iris

Gad imi orffen dweud wrthyt ti.

Nicias

Dweud be?

Iris

Wel, be ddwedodd yr hen fydwraig.

Nicias

Mi ydw i'n glustia i gyd!

Iris

Mae hi'n meddwl 'mod i am gael efeilliaid!

Nicias

Nefoedd yr adar!

Iris

A mae hi'n gwybod be ydy be, on'd ydy mam?

Harmonia

Byth yn methu.

Iris

Blynyddoedd o brofiad.

Harmonia

Neb craffach.

Iris

Gwell na doctor, meddan nhw, on'de mam?

Harmonia

Ia, ganwaith. Wedi dwad â byddinoedd o fabis i'r hen fyd yma.

Nicias

Ond sut ar y ddaear fedar hi wybod?

Iris

Rhoi ei chlust ar fy mol i wnaeth hi. A dyna hi'n dweud, "Un ai rwyt ti am gael efeilliaid, merch chi, ne mae gan dy fabi ddwy galon". Dyna ddwedodd hi, on'de mam?

Harmonia

Yr union eiria. Rhaid iti wynebu ffeithia, 'machgen i. Os ydy'r hen fydwraig yn dweud, felly y bydd hi.

Nicias

Efeilliaid! A finna allan o waith!

Iris

Arnat ti roedd y bai — mynd ar streic.

Harmonia

Rhy hwyr codi pais ar ôl be-wyt-ti'n-alw, fel y bydden nhw'n dweud... Dwed y newydd da arall hwnnw wrtho fo, Iris.

Nicias

Un gwell na'r dwetha, gobeithio!... Wel?

Iris

Mae yna siawns y cei di waith — dros dro beth bynnag.

Nicias

Beth ydy o — fel 'tae gen i unrhyw ddewis!

Iris

Mae yna ryw ddyn cefnog newydd ddwad i'r ddinas yma. O Gorinth ne rywle. Trafaeliwr ne fasnachwr gwin, mi ydw i'n meddwl.

Nicias

Ia?

Iris

Mae o eisio rhywun i fynd â fo o gwmpas Athen, i weld y llefydd diddorol a ballu.

Harmonia

A chario'i fag o. (Yn ymhyfrydu.) Bag mawr trwm. Mi wneith les iti, rhag dy fod yn magu bol wrth ddiogi! Chwysu tipyn!

Nicias

O wel, mi fedrwn i feddwl am betha gwaeth! Cyfle i ennill ceiniog ne ddwy. A chil-dwrn efalla, os ydy o'n ddyn cefnog... Oes yna ryw newydd arall?

Iris

Dim ond bod mam am ddwad acw i aros efo ni rwan. I helpu tipyn arna i nes daw f'amser.

Nicias

Dyna'r newydd gwaetha un!



Mae Harmonia yn chwerthin a throi i fynd oddi ar y llwyfan.

Iris

Wyt ti'n dwad rwan, Nic?

Nicias

Mewn eiliad. Waeth imi orffen y botel yma ddim. Cha i run arall am hir, mae'n siwr! Dos di efo dy fam. Mi ddo i ar eich ôl chi.

Iris

Wel, paid â bod yn hir. Rwyt ti wedi clertian digon.



Exit Iris ar ôl et mam.

Unwaith eto clywir crawcian y Llyffantod ac ar eu traws y sibrwd fel o'r blaen.

Lleisiau

(Sibrwd drwy'r corn-siarad.) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun."



Gwrendy Nicias am ennyd neu ddau fel petai'n ceisio penderfynu pa sŵn i'w ddewis a'i dderbyn. Yna cymer ddracht o'r botel a'i thaflu ymaith.

Nicias

Blydi llyffantod!



Try ar ei sawdl a mynd oddi ar y llwyfan. Mae'r crawcian a'r sibrwd yn toddi i'w gilydd fel y gostyngir y goleuadau'n raddol. Daw miwsig i fyny.

Tywyllwch

g1g2g3g4a1, g1