g1g2g3g4a1, g1

Y Llyffantod (1973)

Aristoffanes [Ἀριστοφάνης]
add. Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1973 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2

Golygfa 2
Gwelir Nicias yn dal i eistedd yn fyfyrgar fel o'r blaen.
Daw un o'r dynion a oedd yn chwarae cardiau ato.

Dyn 1

Hei! (Nid yw Nicias yn ateb) Hei, meddaf i. (Dim ateb) Pam na wnei di ateb, carmon?

Nicias

Pa ateb sydd yna i " Hei"?

Dyn 1

O, clyfar rydw i'n gweld! Paid â thrio'r gêm yna efo fi, boi bach!

Nicias

Pa gêm?

Dyn 1

Taflu dy bwysa o gwmpas ac ati.... Dal i ddisgwyl wyt ti?

Nicias

Ia.

Dyn 1

I ble mae o wedi mynd?

Nicias

Pwy?

Dyn 1

Dy giaffar di. Y dyn rwyt ti'n gweithio iddo fo.

Nicias

Pwy ddwedodd mod i'n gweithio iddo fo?

Dyn 1

Wel, wyt ti ddim?

Nicias

Mi ydw i'n cario'i fag o.

Dyn 1

Nid am ddim mi wranta!

Nicias

Dydw i ddim wedi cael tâl hyd yma.

Dyn 1

(Rhydd bwniad bryfoclyd iddo) Clyfar eto!... Pam nad wyt ti yn y rhyfel?

Nicias

Ga i ofyn yr un peth i ti?

Dyn 1

Mae gen i reswm da. Fi a'r hogia acw. Gwaith angenrheidiol carmon. Gwneud arfau. Fedar y sowldiwrs ddim lladd Sbartiaid heb i ni wneud digon o'r rheiny... Rwan, beth amdanat ti?

Nicias

Hwyrach 'mod i wedi colli bawd fy nhroed. Ne fod fy mrest i'n wan. Ne fod gen i stumog wael.

Dyn 1

Ne dy fod ti'n gachgi wedi gweld ffordd i' sgoi hi! Dyna wyt ti, te? Bron iawn na waeddwn i ar yr hogia yma. Buan iawn y bydden nhw'n dy setlo di, mêt.... I ble ddwedaist ti roedd dy giaffar di wedi mynd?

Nicias

Wnes i ddim dweud. (Mae'r llall yn gwneud symudiad bygythiol.) Ond os oes rhaid iti gael gwybod, wedi mynd i newid 'i ddillad mae o.

Dyn 1

I be?

Nicias

Am 'i fod o'n mynd ar siwrna.

Dyn 1

Wyt ti'n mynd efo fo?

Nicias

Mae o wedi gofyn imi.

Dyn 1

Wel?

Nicias

Dwy' i ddim wedi penderfynu eto.

Dyn 1

Pam?

Nicias

Wel, mae'n anodd.

Dyn 1

Beth wyt ti'n 'i feddwl?

Nicias

Nid siwrna gyffredin ydy hi.

Dyn 1

I ble mae o'n mynd?

Nicias

Choeli di ddim tawn i'n dweud wrtha ti.

Dyn 1

Tria fi.

Nicias

I Hades.

Dyn 1

O, Hades! (Mae'n gafael yng ngholer Nicias.) Yli, mêt, mi ydw i wedi dweud wrtha ti o'r blaen, paid â thrio bod yn glyfar efo fi. Pan fydda i'n gofyn cwestiwn rhesymol, mi fydda i'n disgwyl ateb rhesymol. Reit? Rwan, i ble mae o wedi mynd?

Nicias

Ro'n i'n gwybod na fyddet ti ddim yn coelio. Ond mi ydw i'n dweud y gwir. I Hades mae o'n mynd.

Dyn 1

(Ei ollwng) Myn diawl, rwyt ti ne fi, ne fo yn drysu! (Codi ei lais) Hei hogia! Dowch yma, brysiwch!



Mae'r gweddill o'r grŵp yn gadael eu chwarae cardiau, a dod atynt.

Dyn 2

Be sy'n bod?

Dyn 1

Mae hwn yn dweud bod 'i giaffar o'n mynd ar siwrna. I ble meddech chi?

Dyn 2

Wel, i ble?

Dyn 1

I Hades.

Dyn 2

(Sychlyd) Diddorol iawn.

Dyn 3

Wyt ti'n galw hynna'n jôc? Difetha'n gêm gardia ni i affliw o ddim.

Dyn 1

Ond dyna mae hwn yn 'i ddweud. A rhywfodd neu 'i gilydd rwy' i'n 'i goelio fo... Be ydy d'enw di?

Nicias

Nicias.

Dyn 3

Be sydd yn y cas yna?

Nicias

Dwy' i ddim yn gwybod.

Dyn 2

Ne wnei di ddim dweud!



Daw y ferch ifanc heibio.

Merch

Be sy'n bod hogia?

Dyn 1

Weli di'r cymeriad doniol yma? Wyddost ti i ble mae o'n mynd, medda fo?

Merch

Dim syniad.

Dyn 1

I Hades!

Merch

Hades! (Wrth Nicias) I be yr ei di yno, cariad? Tyrd efo fi, a mi gei di awr yn y nefoedd!



Pawb yn chwerthin. Daw'r hen wraig fyddar heibio.

Dyn 3

Hei, rhen wraig, hoffech chi drip i Hades?

Hen Wraig

(Nid yw wedi clywed) Dyn y Llywodraeth ydy o, deudwch? Digon hawdd iddo fo dorsythu a swagro o gwmpas fel congrinero! Mae o'n cael llond 'i fol o fwyd yn amlwg! Nid run fath â ni, yr hen bobol, sy'n gorfod byw ar wellt ein gwely bron. Pensiwn wir! Edrychwch arna i — mi fydda i mor dena â weiran-gaws gyda hyn. (Mynd) Mae'r hen wlad yma'n mynd â'i phen iddi. Dyna'r gwir i chi... âi phen iddi...

Dyn 1

Hogia, mi ydw i'n cynnig ein bod ni'n mynnu cael gweld be sydd yn y bag yna.

Dyn 2

Eilio!

Nicias

Chewch chi ddim rhoi'ch bys arno fo!

Dyn 3

(Yn fygythiol) Wyt ti am drio'n nadu ni, y ceiliog dandi!



Wrth weld y lleill yn dechrau symud tuag ato yn fygythiol, saif Nicias ar ei draed i'w amddiffyn ei hun, a'r cas. Mae'n sgarmes mewn dim, a phery hyn am ennyd, nes yr ymddengys Dionysos. Y foment honno, mae ei ymosodwyr yn cilio'n ôl oddi wrth Nicias. Erbyn hyn, gwelir bod Dionysos wedi newid i ddillad ffurfiol, fel dyn busnes llewyrchus ar ei ffordd i'r swyddfa — siaced ddu, trowsus streip, het-galed ac ymbarel.

Dionysos

(Yn dawel) Cael tipyn o hwyl?



Try'r bechgyn yn llechwraidd a mynd ymaith.

Dionysos

Wel, Nicias, dyma fi wedi dwad yn f'ôl. Wyt ti wedi penderfynu?

Nicias

Do, syr. Mi ydw i wedi bod yn ystyried y mater yn ofalus iawn hefyd. Ac ar ôl pwyso a mesur, rwy i'n ofni na fedra i ddim dwad. Fel y gwyddoch chi, mae gan ddyn ei ddyletswyddau teuluol a'i ofalon ac ati. A pheth arall, dydy Hades ddim yn lle i fagu gwaed ynddo fo, fel y byddwn ni'n dweud. Nid bod arna i ofn cofiwch — dim o'r fath beth. Ond dyna fel y mae petha. Mae'n bur ddrwg gen i.

Dionysos

Mae'n bur ddrwg gen innau hefyd, Nicias. Wyt ti'n siwr nad oes arnat ti ddim ofn? Mi allaf dy sicrhau di —

Nicias

Ofn? Fi? Na, mi ydw i newydd ddweud wrthych chi. (Yn gyfrinachol) Rhyngoch chi a fi a'r wal, Syr, onibai am Iris —

Dionysos

Iris?

Nicias

Y wraig.

Dionysos

O!

Nicias

Onibai amdani hi, mi fuaswn efo chi fel saeth. Ond mae hi'n bryderus iawn ynghylch fy iechyd. Cha i ddim symud oddi cartre ganddi byth. Wedi cael cynnig swyddi da o dro i dro, w'chi. Ond yn gorfod eu gwrthod. Does dim troi arni. Mi wyddoch fel mae'r merched yma.



Daw Iris i'r golwg

Dionysos

Hon ydy hi?

Nicias

Iris!

Iris

Yma rwyt ti o hyd felly! Oes yna ddim siâp symud arnat ti?

Nicias

Mi ydw i wedi symud i'r fan yma, beth wyt ti'n 'i siarad?

Iris

Mi wyddost be rydw i'n 'i feddwl. Dim symudiad i chwilio am waith i ennill cyflog i fwydo dy blant di.

Dionysos

Esgusodwch fi, rwy' i wedi cynnig gwaith i'ch gŵr. Ond chwarae teg iddo, mae ei ofal o gymaint amdanoch chi. Ac mor awyddus i osgoi pryder ichi —

Iris

Pryder i mi? Sut felly?

Dionysos

Wel roeddwn i am ei gyflogi fel gwas imi ar fy siwrna. Ond wrth gwrs os ydych chi'n gwrthwynebu —

Iris

Mae'n dda gen i glywed, Syr! (Wrth Nicias) Rwyt ti'n lwcus. Mi ddylet fod yn ddiolchgar.

Nicias

Ia, ond wyddost ti i ble mae o'n mynd? I Hades!

Iris

Dim gwahaniaeth, ond iti ddwad yn d'ôl rywdro. A chyflog efo ti!

Nicias

Does yna ddim sicrwydd y bydda i'n dwad yn ôl.

Dionysos

O, oes, rwy'n gwarantu hynny. Yn berffaith ddiogel.

Iris

Dyna fo felly! (Mynd) Mi ydw i'n mynd i brynu sgidia i'r hogyn hyna acw rwan. Rhaid eu cael nhw ar lab, nes y doi di yn ôl efo cyflog. Felly paid â bod yn rhy hir... Dydd da ichi, Syr.



Exit Iris

Dionysos

Mae gen ti wraig dda yn honna, Nicias. Rwy'n siwr dy fod yn falch iddi dy berswadio i ddod efo fi!... Barod? Gora po gynta inni gychwyn... Tyrd ar f'ôl i. A chymer ofal o'r cas yna.



Exit Dionysos. Cwyd Nicias ei ysgwyddau wrth dderbyn yr anochel. Yna cymer y cas a dilyn Dionysos oddi ar y llwyfan. Gostynger y goleuadau. Pan ddônt i fyny drachefn nid oes neb ar y llwyfan ond ar ôl ennyd neu ddau, daw Dionysos a Nicias i'r golwg, yn edrych braidd yn flinedig, fel petaent wedi bod yn teithio am hir. Dealler eu bod wedi cyrraedd glan yr afon Stycs.

Nicias

(Saif yn flinedig.) Llawer o ffordd eto, Syr?

Dionysos

Dim llathen, Nicias. Rydan ni wedi cyrraedd. (Pwyntio gyda'i ymbarel.) Weli di? Hon ydy'r Afon Stycs. (Mae'n edrych i lawr arni.)

Nicias

Afon Stycs? Andros o afon hefyd! Y dŵr yn ddu, ac yn llifo'n gyflym ac yn dawel. Mae o fel melfed gwibiog. Mae hi'n llydan hefyd. Wela i mo'r ochor draw iddi.

Dionysos

Fe'i gweli hi, toc.

Nicias

Sut felly?

Dionysos

Ar ôl inni ei chroesi hi.

Nicias

Dwy' i ddim yn deall.

Dionysos

Twt, twt, paid â dweud nad wyt ti'n gwybod am chwedloniaeth dy genedl dy hun! Hon ydy'r Afon Stycs — reit?

Nicias

Reit.

Dionysos

Ac y mae Hades yr ochr arall, reit?

Nicias

Reit.

Dionysos

Felly, mae'n rhaid ei chroesi — reit?

Nicias

Reit.

Dionysos

Ond cyn y medrwn ni wneud hynny —

Nicias

Mae'n rhaid inni alw ar Charon a'i gwch.

Dionysos

Rwyt ti yn gwybod felly!

Nicias

Ydw, ydw. Ond hyn oedd gen i Syr — chaf i ddim mynd drosodd yn y cwch. Dydw i ddim wedi — wel dydy'r cymwysterau angenrheidiol ddim gen i, fel tae. A fedra i ddim nofio.

Dionysos

Gad ti hynna i mi. Rwy'n credu y medra i berswadio'r hen gyfaill i gau ei lygaid am y tro. Ei gael o yma fydd y broblem fwya. (Mae'n edrych ar yr amser.) Mae o'n bur gysact ynglŷn â'r amser. A mae hi wedi mynd braidd yn hwyr. Yr unig ffordd fydd gwneud galwad arbennig. Fydd yna ddim tymer rhy dda arno fo am inni wneud. Ond rhaid inni wynebu hynny... Wyt ti'n chwibannwr go lew?

Nicias

Wedi chwibannu llawer ar ôl y gennod yn fy nydd, Syr!

Dionysos

Wel chwibanna rwan er mwyn Athen. Un hir a dwy fer... rwan!

Nicias

Reit. (Mae'n chwibannu'n ôl y cyfarwyddyd.)

Dionysos

Eto!



Mae Nicias yn ufuddhau.

Dionysos

Unwaith eto. Yn gryfach os medri di. Yn uwch!



Mae Nicias yn ymdrechu'n lew, yna clywir llais Charon o'r pellter.}

Charon

(Draw) O'r gora, o'r gora! Be ydach chi'n 'i feddwl ydw i — ci defaid?

Dionysos

Dyma fo'n dwad.



Daw Charon i'r golwg yn ei gwch — hwnnw'n symud, mae'n debyg, ar olwynion anweledig — a gwthir ef ymlaen drwy gymorth polyn. Mae gan Charon gap pig-gloyw, siersi-longwr las ac esgidiau bysgota.

Charon

(A'i dymer yn fyr) Be gythgam sy'n bod arnoch chi? Ydach chi ddim yn sylweddoli bod gen i f'oriau gwaith?

Dionysos

Amgylchiadau arbennig, Charon.

Charon

(Ei adnabod.) O, chi sydd yna, Syr (Cyffwrdd pîg ei gap.) Mae'n ddrwg gen' i, doeddwn i ddim wedi'ch nabod.

Dionysos

Popeth yn iawn. Prysur?

Charon

Arhoswch am funud, i mi gael gwneud hwn yn saff. (Gwna ystum i awgrymu rhwymo'r cwch, ond nid yw'n dod allan ohono.) Dyna fo! Prysur, ddwedsoch chi? Welais i erioed dim tebyg. Rhwng yr helfa ar y ffyrdd a'r rhyfel, mi ydw i'n methu'n lân â dwad i ben.

Dionysos

Felly wir!

Charon

Amgylchiadau arbennig ddwedsoch chi?

Dionysos

Argyfwng Charon. Creisis. Mae Athen yn mynd â'i phen iddi.

Charon

O? Ia wel, dyna fo. Wna i ddim busnesu. (Pwyntio at Nicias) Pwy ydy hwn?

Dionysos

Nicias. Mae o yn yr argyfwng efo fi. Cymorth fel tae.

Charon

Felly! (Saib) Edrychwch yma, Syr, gadewch inni ddeall ein gilydd. Yn gyntaf, rydach chi am imi fynd â chi dros yr Afon. Mae hynna'n amlwg, ne fasach chi ddim wedi galw arna i.

Dionysos

Cywir.

Charon

Yn ail, mae hwn yn yr argyfwng efo chi?

Dionysos

Cywir.

Charon

Ac os nad ydw i'n camsynied, rydach chi am i mi fynd ag ynta drosodd hefyd?

Dionysos

Cywir.

Charon

Anghywir!

Dionysos

Beth?

Charon

Mae'n ddrwg gen i.

Dionysos

Tybed?

Charon

Amhosib, Syr. Mi wyddoch y Rheolau cystal â minnau. Fedra i mo'u hystumio nhw.

Dionysos

Aros funud.

Charon

Na, maddeuwch imi am ddweud ond ddylech chi ddim gofyn imi. Does dim ffafriaeth ar y Stycs fel y gwyddoch chi. Yn enwedig i un run fath â hwn. (Wrth Nicias.) Be ddwedaist ti oedd d'enw?

Nicias

Nicias. Nic i'm ffrindia.

Charon

Dydw i ddim yn un o'r rheiny. (Wrth Dionysos) Y gwir plaen ydy, Syr, dyw'r cymwysterau ddim ganddo fo — ar hyn o bryd, beth bynnag! Wrth gwrs petai modd newid ei statws o — neu ei stâd o yn hytrach —

Nicias

(Ofnus) Be ydach chi'n 'i feddwl?

Dionysos

Na, mae hynny'n amhosib.

Charon

Pam?

Dionysos

Am ei fod o'n dwad yn ôl.

Charon

O, dowch, Syr, mae hynna'n mynd dros ben llestri! Dwad yn ôl wir! Tynnu 'nghoes i rydach chi rwan!

Dionysos

Rwy' i o ddifri calon. Mae'n rhaid inni'n dau fynd drosodd, Charon.

Charon

(Tynnu ei gap a chrafu ei ben.) Mae hon yn andros o broblem. Hynny ydy, chewch chi mo'i rwyfo fo drosodd. A wna inna ddim... (Mae'n cael syniad.) Yr unig ffordd felly ydy iddo fo rwyfo. Does yna ddim yn y Rheolau am hynny, oes yna?

Dionysos

Dim o gwbwl. Rwyt ti wedi 'i gweld hi, Charon!

Charon

Reit, dyna hynna wedi 'i setlo... Dowch chi'n gynta, Syr. (Mae Dionysos yn camu i mewn i'r cwch.) Steddwch yn y fan yma. (Dionysos yn eistedd.) Dyna chi. (Wrth Nicias.) Reit, tyrd ti, rwan... Beth ydy d'enw di, hefyd?

Nicias

(Wrth gamu i'r cwch.) Nicias. (Mae'n cario'r cas yn ofalus gydag ef)

Charon

Gafael yn y polyn yna. A chymer ofal. Os ei di dros yr ochor mi fydd wedi canu arnat ti!

Nicias

Be, oes yna beryg?

Charon

"Oes yna beryg?", medda'r creadur gwirion! Llai o beryg efalla, nag ar Lethe lonydd neu Acheron drist, neu Phlegethon fflamllyd ffrwd. O holl afonydd Hades, mae'n well gen' i'r Stycs. Ond peryg? Oes, peryg marwol i un fel ti! (Charon yn meimio datgysylltu'r cwch.) Iawn?

Dionysos

lawn.



Mae Nicias yn cymryd y polyn a sefyll yn simsan yn y cwch. Eistedd Charon o flaen Dionysos.

Charon

Tawn i yn eich lle chi, Syr, mi fyddwn i'n agor yr ymbarel yna. Does yna ddim llawer o siâp ar hwn.

Dionysos

(Yn agor ei ymbarel.) Syniad da. Diolch iti, Charon.

Charon

Reit, i ffwrdd â ni!



Mae Nicias yn meimio pwnio'r cwch ymlaen. Gostynger y goleuadau yn araf.

Dionysos

Mae hi'n tywyllu'n fuan iawn, Charon!

Charon

Tarth Stycs, w'chi. Yn dew iawn weithia. Mynd fel bol buwch. (Wrth Nicias.) Dal trwyn y cwch i'r un cyfeiriad beth bynnag. Siawns na phery'r tarth ddim yn hir.



Tywyller y llwyfan yn llwyr. Clywir eu lleisiau ohono.

Nicias

Dwy' i'n gweld affliw o ddim!

Charon

Hidia befo. Dal i bwnio ymlaen.... Ydach chi'n iawn, Syr?

Dionysos

Ydw, diolch.

Nicias

Mae'n oer drybeilig. Mi ydw i bron â fferu!

Charon

Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi!



Clywir sŵn Nicias yn tuchan wrth ymdrechu'n galed

Dionysos

Mae hi'n dechra golueo ychydig draw acw rwy'n credu.

Charon

Ydy, rydach chi'n iawn... (Wrth Nicias.) Gofal rwan, beth bynnag ydy d'enw di hefyd!



Daw goleuadau i fyny ychydig gyda llewyrch gwyrdd a gwelir cysgodion y llyffantod ar y rostra sydd y tro hwn yn cynrychioli creigiau a cherrig yng nghanol yr Afon Stycs. Clywir miwsig "Llyffantaidd" yn y cefndir, ynghŷd â chrawcian.

Nicias

Be ydi'r sŵn yna, d'wedwch?

Charon

(Yn sydyn.) Aros! Rydan ni ynghanol yr Afon, rwan. Yn y fan yma mae'r llyffantod. Amynedd! Chawn ni ddim mynd ymlaen ganddyn nhw am dipyn.



Cryfhaer y goleuadau a'r miwsig. A gwelir y llyffantod yn dawnsio. Ar ddiwedd y ddawns, mae Nicias ar fin ail-ddechrau pwnio'r cwch ymlaen

Charon

Paid!

Nicias

Ond maen nhw wedi gorffen dawnsio!

Charon

Dydyn nhw ddim wedi dechra ar eu Corws. Clywch!

Côr y Llyffantod
C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
Mor hyfryd yw anthem y Broga!
A dyma ni'n glyd,
Yn hapus ein byd,
Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.

Pa ddiben pryderu
Am helbul yfory,
A mwydro eich pennau
 dyrys broblemau?
Rhyfygu penwynni
Yw mynych ymboeni
A gwahodd y rhychau
Ar draws eich talcennau.
Os ydych am heddwch,
A hyfryd lonyddwch,
Fe'u cewch os dewiswch
Ddi-hîd ddifaterwch.

C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
Mor hyfryd yw anthem y Broga!
A dyma ni'n glyd
Yn hapus ein byd,
Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.

Ystyriwch am funud
Mor fregus yw bywyd,
Mor fyr ac adeiniog
Mor gwta a gwibiog.
Gan hynny, doethineb
Yn sicr yw'r wireb:
Mwynhewch yn frwdfrydig
Y wledd ddiflanedig.
Os bydd unrhyw ddanod
Am hyn, neu anghydfod,
Ein dull ni, Lyffantod,
Yw boddi'r Gydwybod!

C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
Mor hyfryd yw anthem y Broga!
A dyma ni'n glyd
Yn hapus ein byd,
Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.

Ein gofal ni beunydd —
Ein hunig ddyletswydd —
Yw gweld bod ein ffosydd
A'n llynnoedd yn llonydd;
Dim rhaid bod yn effro —
Ond gochel rhag cyffro —
Cawn gwsg mewn seguryd
A nefol esmwythyd.
Mor ddibwys i Lyffant
Yw iaith a diwylliant,
A chenedlaetholdeb
Yn ddim ond ffolineb!

C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
Mor hyfryd yw anthem y Broga!
A dyma ni'n glyd
Yn hapus ein byd
Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.

Ym mhob oes ceir ffyliaid
Ac amryw benboethiaid,
Sy'n teimlo rhyw ysfa
I wella'r sefyllfa!
Mae rhai'n ddigon eiddgar
I fyned i garchar;
Ac eraill yn barod
I ddiodde merthyrdod!
Rôl meddwl yn sobor
Am hyn, dyma'n cyngor:
Os baich yw Egwyddor,
Peth doeth yw ei hepgor!

C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
Mor hyfryd yw anthem y Broga!
A dyma ni'n glyd,
Yn hapus ein byd,
Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.



Ar ôl y corawd hwn, gostynger y goleuadau ychydig, tra bo'r llyffantod yn dawnsio o'r golwg

Nicias

Mae hi'n dechrau twyllu eto!

Charon

Y tarth sy'n dwad yn ôl. Hidia di befo, pwnia ymlaen.



Mae Nicias yn meimio pwnio gyda'r polyn. Miwsig i fyny ychydig, yna cryfhaer y goleuadau unwaith eto, y tro hwn gyda llewyrch melyn

Charon

Gofal rwan, rydan ni bron wedi cyrraedd. Paid â gwneud niwed i'r cwch ar boen dy fywyd... Dyma ni!... Reit, rho'r polyn i mi.



Rhydd Nicias y polyn i Charon, a gesyd hwnnw ef yn ofalus yn y cwch. Yna mae'n neidio i'r lan, a meimio rhwymo'r cwch yn ddiogel

Charon

Rwan, y cas yna, gynta. (Mae Nicias yn rhoi'r cas iddo.) Reit neidia di rwan. (Mae Nicias yn neidio i'r lan.) Chi, rwan, Syr. Dowch, gafaelwch yn fy llaw i. (Mae Dionysos yn ufuddhau ac yn camu ar y lan.)

Dionysos

Diolch iti, Charon... Gair bach yn dy glust.



Gwelir Dionysos yn sibrwd yng nghlust Charon. Ar y cyntaf, mae hwnnw'n ysgwyd ei ben yn bendant fel petai'n anghytuno'n llwyr â chais Dionysos. Yna, dan berswâd, ymddengys, toc, ychydig yn fwy bodlon.

Charon

Ia, wel, os ydach chi'n dweud, Syr. Mi gewch chi wneud y trefniada. Ond fydd yna ddim bai arna i, cofiwch!

Dionysos

Na fydd siwr.

Charon

Reit... O, gyda llaw —

Dionysos

Ia?

Charon

Dim ond eich atgoffa chi.

Dionysos

O beth?

Charon

Chewch chi ddim symud cam o'r fan yna heb ganiatâd Cerberws.

Dionysos

Doeddwn i ddim wedi anghofio, Charon.

Charon

O'r gora. Rhaid imi fynd a'ch gadael chi, rwan. Dim diwedd ar waith, w'chi. (Wrth Nicias.) Aros am funud imi gael edrach arnat ti unwaith eto. (Mae'n craffu'n fanwl ar Nicias.) Reit, rwy'n credu y bydda i'n dy gofio di — pan ddaw d'amser! Beth ydy d'enw di hefyd?

Nicias

Nicias, ond Nic i —

Charon

(Troi a mynd i'r cwch.) Dyna ni felly. (Mae'n gafael yn y polyn a gwthio'r cwch ymlaen.)

Dionysos

Hwyl iti, Charon. A diolch!

Charon

(Mynd.) Croeso. (Mae cwch Charon yn mynd o'r golwg.)

Dionysos

Wel, dyma ni. Ydy'r cas yna'n ddiogel?

Nicias

Ydy... (Saib) Syr?

Dionysos

Ia?

Nicias

Roedd o'n sôn am Cerberws.

Dionysos

Ceidwad Porth Hades. Rhaid inni ei ddisgwyl yma. Fydd o ddim yn hir. Ond cystal inni eistedd nes y daw o.



Mae Dionysos yn eistedd ar rostrwm isel ond saif Nicias yn ofnus ar ei draed.

Dionysos

Ofn?

Nicias

Mae 'nghalon i yn fy mhen ôl i.

Dionysos

Paid â chywilyddio, dydw inna fawr gwell.

Nicias

Ond rydach chi'n wahanol i mi!

Dionysos

Wn i ddim faint o sylw a rydd o i hynny! Tyrd â'r cas yna i mi.



Rhydd Nicias y cas iddo, ac ar ôl ei agor mae Dionysos yn tynnu dwy botel allan. Rhydd un i Nicias.

Nicias

I mi? I'w yfed?

Dionysos

Mi wnaiff les iti. Rhoi tipyn o ddewrder inni'n dau. Eistedd.



Eistedd Nicias. Mae Dionysos yn agor ei botel a chymryd dracht ohoni, ond saif Nicias fel petai'n ansicr beth i'w wneud.

Dionysos

Be sy'n bod? Y gwin gorau yn y byd, mi alla i dy sicrhau di o hynny.

Nicias

(Yn agor ei botel) Nid dyna ydy o, Syr. Ond nid bob dydd mae dyn yn cael profiad fel hyn.

Dionysos

Beth wyt ti'n 'i feddwl?

Nicias

Yfed potel o win efo, wel un fel chi. Ac yn Hades o bob man.

Dionysos

Porth Hades ydy hwn, Nicias. Mae Hades 'i hun draw i'r cyfeiriad yna. (Pwyntia gyda'i ymbarel.) A chyn y byddwn ni'n cyrraedd Pencadlys Plwton —

Nicias

Pwy?

Dionysos

(Yn amyneddgar.) Plwton, pennaeth Hades.

Nicias

O ia, wrth gwrs, Plwton, ia.

Dionysos

Fel roeddwn i'n dweud, cyn y byddwn ni'n cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd heibio i gyrion Tartarws.

Nicias

Tartarws?

Dionysos

Ia, mi ddweda i am y lle ofnadwy hwnnw wrthyt ti eto.

Nicias

O'r gora. (Cymer ddracht o'r gwin.) Mae hwn yn dda, hefyd! Blas mwy arno fo!

Dionysos

Ond paid â chymryd mwy. Mae yna gic fel mul ynddo fo... Teimlo'n well?

Nicias

Ydw, dipyn bach. Ond mae ofn Cerberws yn dal i barlysu f'aelodau i. Ydy o mor ddychrynllyd ag y maen nhw'n 'i ddweud?

Dionysos

Be'n hollol wyt ti wedi 'i glywed?

Nicias

Ei fod o'n anferth o fawr. Efo tri o benna. Llais fel taran a llygaid yn melltennu tân. Fod ganddo fo gynffon draig. A mwclis o nadrodd gwenwynig am 'i wddw.

Dionysos

Wn i ddim beth am dri phen, na chynffon draig a'r nadrodd. Ond llais fel taran yn sicr. A llygaid yn melltennu tân.

Nicias

Mi ydach chi wedi 'i gyfarfod o o'r blaen, decini?

Dionysos

Do.

Nicias

Ydy o mor ofnadwy ag y maen nhw'n 'i haeru?

Dionysos

Ydy. Gwaeth os rhywbeth.

Nicias

Arswyd y byd!

Dionysos

Ond rwy'n credu y medrwn ni ddelio ag o. Dim ond inni gadw'n pennau. Na, paid ag yfed dim mwy. A chofia, pan ddaw o, paid ti â dweud dim nes bydd rhaid iti. Wyt ti'n deall?

Nicias

Ydw. Reit. (Edrych o'i amgylch.) Welais i erioed le mor unig. Mor anial. Mor wag. Mor ddi-ystyr. Mae yma rywfaint o wellt melyn crin. Mae o wedi marw — ac eto'n tyfu! Peth dychrynllyd i ddyn rhesymol ydy rhywbeth di-sens. Mi fasa tragwyddoldeb o hyn yn rhy ofnadwy i feddwl amdano hyd yn oed... Rwy'n gobeithio y ca' i fynd odd'ma rywdro, Syr?

Dionysos

Mi gei di fynd. Rwy'n addo hynny iti. O leia, mi wnaf fy ngorau i sicrhau hynny.

Nicias

Peidiwch â cham-ddeall, ond dydw i ddim yn edrach ymlaen i ddwad yma eto — hyd yn oed pan ddaw f'amser.

Dionysos

Siawns na fydd o'n ymddangos yn wahanol iti bryd hynny, wyddost ti... Ust!



Clywir sŵn fel drwm draw.

Nicias

Yr arswyd!

Dionysos

Gofal rwan. A chofia beth ddwedais i — dim gair nes bydd rhaid iti!



Mae'r sŵn yn cynyddu a daw Cerberws i'r golwg. Plisman yw ar gefn beic. Ar ôl rhoi'r beic o'r neilltu a thynnu'r clipiau oddi ar odrau ei drowsus, daw atynt yn awdurdodol. Try Nicias ei ben y ffordd arall.

Cerberws

Wel, beth ydy peth fel hyn?

Dionysos

Cyfarchion, Cerberws.

Cerberws

(Ei adnabod.) Dionysos! Rhyfedd iawn dy weld di yma!

Dionysos

Ymweliad arbennig.

Cerberws

Felly? Wel, mi gawn y manylion i gyd yn y man. (Gwthia'i helm yn ôl a sychu'r chwys oddi ar ei dalcen.) Poeth. Chwys diferol. Prysur w'chi. Trio'i dal hi ymhobman ar unwaith.

Dionysos

Diferyn o win i oeri dipyn?

Cerberws

Fi? Yfed ar ddyletswydd? Hollol groes i'r Rheolau. Ddylwn i ddim. (Saib) Ond gan mai ti sy'n 'i gynnig o, wel, mi gymera i ryw lymaid. (Cymer y botel gan Dionysos.) Llawer o gic ynddo fo?

Dionysos

(Yn ddiniwed.) Gwan fel dŵr.

Cerberws

(Cymer ddracht.) Ond dipyn mwy blasus! (Rhy'r botel i lawr wrth ei ochr, ond bydd yn cymryd dracht ohoni o bryd i'w gilydd yn ystod y sgwrs a ganlyn.) O, ymweliad arbennig, ddwedaist ti?

Dionysos

Ia.

Cerberws

Rhaid cael y ffurflen briodol felly. Aros di! (Mynd i'w boced a dod â ffurflen allan.) Ia, dyma hi. "Special Visits. To be filled in triplicate". Rwan, enw?

Dionysos

Ond rwyt ti'n 'i wybod yn barod!

Cerberws

Nid dyna'r pwynt. Rhaid imi ofyn yn ffurfiol i ti. A rhaid i titha, yr un mor ffurfiol, roi'r ateb.

Dionysos

Ond pam?

Cerberws

Nid fy lle i ydy gofyn pam. Dyna'r Rheol. Rwan, unwaith eto — enw?

Dionysos

(Yn boenus o amyneddgar.) Dionysos.

Cerberws

"Occupation and/or Profession." Be rown ni fel galwedigaeth?

Dionysos

O, wel, Aelod o'r Sefydliad Nefol, am wn i.

Cerberws

(Sgrifennu.) Categori? Dionysos Trydydd. (Braidd yn ddirmygus.) "Godling". Dironysos Beth? "Godling" — duwcyn bach yn nhafodiaeth Athen. Un o'r mân-dduwiau, i fod yn fanwl, fel tae.

Dionysos

O, rwy'n gweld.

Cerberws

"Reason for and motive or purpose of visit"?

Dionysos

Ymweld â Phlwton.

Cerberws

"Nature of business or matter to be discussed"?

Dionysos

Achub Athen.

Cerberws

Beth! Achub Athen? Chlywais i erioed y fath beth!

Dionysos

Dyna'r ateb i'r cwestiwn. Rho fo i lawr. (Cerberws yn sgrifennu.)

Cerberws

"Approximate duration of visit"?

Dionysos

Amhenodol.

Cerberws

Thâl hynny ddim. Hynny ydy, rhaid iti fod yn fwy penodol nag amhenodol, mewn ffordd o siarad. Mewn geiria eraill rhaid iti roi rhyw syniad i mi... Wel?

Dionysos

Cyfnod gweddol fyr, ynte.

Cerberws

(Cadw'r ffurflen.) Reit, dyna'r cyfan am wn i. Mi fedra i lenwi'r gweddill fy hun, rhag gwastraffu amser... Rwan, beth am dy gydymaith? (Troi at Nicias.)

Dionysos

(Yn frysiog.) Ia, mi ddylwn i egluro, Cerberws —

Cerberws

Hanner munud! (Mae'n mynd at Nicias a chraffu'n fanwl ar ei wyneb.) Beth ydy peth fel hyn?

Dionysos

Os goddefi imi egluro —

Cerberws

Rwy'n synnu atat ti, Dionysos. "Blatant breach of the Regulations and Contravention of the Law". Dyna be ydy hyn!

Dionysos

Ond fel dywedais i eisoes, mae yna amgylchiadau arbennig.

Cerberws

Nid i mi. Waeth heb na hel dail. Mae'r peth yn drosedd anfaddeuol. (Mae ei dafod yn dechrau tewhau ychydig o dan ddylanwad y gwin.) Yn ôl "Regulation 7 Sub-Section 2B" mae hwn yn "Prohibited Immigrant".

Dionysos

Mi fydda i'n warantydd drosto fo.

Cerberws

Amhosib!

Dionysos

Dim os ystumi di rywfaint bach ar y Gyfraith.

Cerberws

Ystumio'r Gyfraith? I mi mae'r Gyfraith yn gysegredig, pob llythyren ohoni. Ewch i unman heb Gyfraith. Wnewch chi affliw o ddim heb Gyfraith. A gwas y Gyfraith ydw i. Nid y fi sy'n gwneud y Gyfraith. Ond fy nyletswydd i ydy gofalu bod y Gyfraith yn cael ei chadw. Pob Cyfraith. Nid fy lle i ydy gofyn prun ai Cyfraith Dda ynte Cyfraith Ddrwg ydy hi. Mater i eraill ydy dehongli'r Gyfraith. Fel y dwedais i, gweinyddu'r Gyfraith yn unig ydy fy ngorchwyl i. Ac felly cheith hwn, pwy bynnag ydy o, ddim mynd cam ymlaen. Hyd yn oed yn dy gwmni di. Hynny ydy, nes daw 'i amser o fel pawb arall. Mi gaf olwg ar ei gymwysterau o bryd hynny. (Mae'r gwin yn cael mwy o effaith arno, ac eistedd yn ôl iw ganmol ei hun.) Does yna neb erioed o deip hwn (cyfeirio at Nicias) wedi mynd heibio i mi, wyddost ti. Dim un copa gwalltog!

Dionysos

Dim un?

Cerberws

Dim un. Record go dda, 'te?

Dionysos

Ond roeddwn i'n meddwl —!

Cerberws

O mi wn i be rwyt ti'n mynd i ddweud. Bod yna un wedi mynd. Mae hynny oes y cogau yn ôl. A dim ond trwy dwyll y llwyddodd o, deall di! Felly dydw i ddim yn ei gyfri o... Am hwnnw roeddet ti'n meddwl, ynte? Y canwr-pop gwallt hir hwnnw, beth bynnag oedd ei enw fo.

Dionysos

Orffiws.

Cerberws

la, rhywbeth felly. A wyddost ti be, fedra i ddim diodde 'i deip o byth er hynny. Codi 'ngwrychyn i bob amser. Meddwl am ddim ond am ferchaid a chyffuriau, a sothach o'r fath.

Dionysos

Tybed?

Cerberws

Dim amheuaeth! Beth oedd o'n i wneud yn Hades, meddet ti? Cymowta ar ôl y ferch honno, dyna iti be.

Dionysos

Ewridice.

Cerberws

Beth?

Dionysos

Ewridice — dyna oedd ei henw hi.

Cerberws

Ia, mae o'i lawr gen i yn rhywle. Doeddwn i ddim yn 'i ddisgwyl o. Fe ddaeth o yma, chwap, fel huddyg i botes. A mi ddweda i sut y twyllodd o fi. (Mae'n dechrau meddwi.) Ro'n i'n gofyn cwestiynau iddo fo. Yn union fel ro'wn i'n dy holi di rwan. Ac yn sydyn, dyna fo'n gofyn imi gâi o fwyta brechdanau a oedd ganddo fo mewn papur. "Dim gwrthwynebiad", medda fi, "yn ôl y Rheolau", medda fi.... Ydy'r gwin yma braidd yn gry dwedwch?... Ple roeddwn i hefyd?

Dionysos

Pecyn brechdanau.

Cerberws

O ia, brechdanau. Wel yn sydyn, dyma fo'n tynnu teisen allan. "Dyma ichi gacen werth chweil", medda fo. "Yn llawn o gyrans gora Corinth", medda fo. "Ac wedi ei thylino gan nwydus lodesau, llygatddu lluniaidd", medda fo... Merched eto, sylwch!... "A'u crasu, medda fo wedyn, 'a'u crasu ar gerrig cysegredig, euraid-Ynys Samos... Gymerwch chi damaid?", medda fo wedyn. Wel ar ôl y fath ganmol, sut oedd modd imi wrthod? Hynny ydy, heb ymddangos... (mae Cerberws yn ymladd yn erbyn cwsg)... heb ymddangos yn be-ydach-chi'n-'i-alw... be-ydach-chi'n-'i-alw...!

Dionysos

Anghwrtais.

Cerberws

Dyna fo'r gair... Anghwrtais... "Tamaid bach", medda fo. "Lleia erioed", medda fi. "Dim ond mymryn i brofi dan fy naint", medda fi wedyn. "Dydw i ddim i fod i fwyta ar ddyletswydd." "Dyma chi", medda ynta wedyn, a rhoi andros o sleisen imi... Wel, i lawr â hi. Blasus tu hwnt! Erioed wedi profi gwell... Ond nid cyrans Corinth yn unig oedd yn y gacen honno. O na! Roedd y cnaf strywgar wedi rhoi rhyw gyffur felltith ynddi... (Mae cwsg yn ei orchfygu.) Cyffuria... Finna, wedyn yn dechra teimlo... dechra teimlo'n gysglyd... hynny ydy... ia... cysglyd... cysglyd... c... y... s... g... l... y... d...!



Mae pen Cerberws yn disgyn ac yntau'n cysgu â'i geg yn llydan agored.

Dionysos

Dyna ni, rwy'n credu, Nicias! (Siaradant yn isel.)

Nicias

Ia... Fedra i ddim peidio ag amau, Syr.

Dionysos

Amau?

Nicias

Eich bod chi'n gwybod y bydda fo'n mynd i gysgu!

Dionysos

Bobol annwyl, rwyt ti'n hynod o ddrwg-dybus!

Nicias

Oes yna beryg iddo fo ddeffro?

Dionysos

Dim os byddwn ni'n ofalus. Tyrd ar flaenau dy draed rwan... Mae gennym siwrna go faith o'n blaenau eto. Oofia am y cas, beth bynnag.

Nicias

Reit.



Maent yn mynd heibio i Cerberws ar flaenau eu traed.

Dionysos

Y ffordd yma. Ac ar boen dy fywyd paid â cholli golwg arna i.

Nicias

Dim peryg o hynny, Syr!

Dionysos

Ymlaen â ni felly.



Exit Dionysos a Nicias. Mae Cerberws yn dal i chwyrnu cysgu. Tywyller y llwyfan neu cauer y llenni

g1g2g3g4a1, g1