g1g2g3g4a1, g1

Y Llyffantod (1973)

Aristoffanes [Ἀριστοφάνης]
add. Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1973 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 3

Golygfa 3
Llwyfan gwag, a llewych coch ar y goleuadau, yna daw Dionysos a NIciAs i'r golwg, ac y mae'n amlwg iddyn nhw deithio'n hir

Dionysos

Wedi blino?

Nicias

Fawr lai.

Dionysos

Gorffwys yma am ychydig. Nicias (Yn eistedd ar y dde i'r llwyfan.) Dyna welliant! Oes yna lawer o ffordd eto? Na, dim llawer... (Saib) Nicias, pan welais i di gyntaf yn Athen, mi ofynnais iti beth a wyddet amdanaf.

Nicias

Do.

Dionysos

Ond os wy'n cofio, d'oedd d'ateb ddim yn rhyw foddhaol iawn.

Nicias

(Erbyn hyn mae wedi sicrhau'r ffeithiau.) Ond mi wn i rwan, Syr. Chi ydy duw llysieuaeth a thyfiant. Rydach chi'n cynrychioli natur yn ei holl ysblander a'i chyfoeth. Mae'r winwydden, yn arbennig, yn gysegredig i chi. A gwin yn rhan o'ch addoliad. Hefyd mi ydach chi'n ffafriol i heddwch a gwareiddiad!

Dionysos

Rwyt ti wedi gwneud dy waith-cartre yn amlwg! Dos ymlaen.

Nicias

O, ia, chi ydy nawdd-dduw y Ddrama, hefyd.

Dionysos

At hynna roedd arna i eisio dwad. Mi wyddost fod yna ddwy brif ffurf i'r Ddrama, Nicias, sef Comedi a Thrasiedi. Gan amlaf, Masg y Gomedi a roddir imi. Ac fe'm portreadir — nid heb achos, rwy'n cyfaddef — fel un pur ddoniol, gwamal a chellweirus.

Nicias

Dydw i ddim yn eich cymryd chi'n ysgafn, Syr!

Dionysos

Mae'n dda gen' i glywed! Y ffaith yw fod yna ochr arall i'm natur. Mi wn i beth yw hoen nwydwyllt ac asbri ysgafala bywyd. Mi wn i hefyd beth yw ei greulondeb, ei ing, a'i dristwch.... Mae'r amser wedi dwad imi wisgo Masg Trasiedi — dros dro, beth bynnag.

Nicias

Mae'n debyg mai fi sy'n dwp, ond dydw i ddim yn eich deall chi.

Dionysos

Rwyt ti'n cofio imi sôn am bwll Tartarws. Wel rhaid inni fynd heibio'i ymyl o rwan.

Nicias

Mi ydw i wedi clywed llawer o sôn amdano fo, droeon. Ond does yna neb yn gwybod yn iawn be ydy o, w'chi.

Dionysos

Dydy Tartarws yn ddim ond adlewyrchiad o hanfod pob ing a galar a thristwch dynolryw yn ei thrueni eitha, Nicias. Mi welwn beth ohono gyda hyn. Fe glywaist Cerberws yn sôn mewn cyswllt hanner-digri am effaith cyffuriau. Edrych — dyma realaeth y felltith arbennig honno ar ei gwaethaf:



Daw nifer o bobl ar draws y llwyfan yn dioddef pangau eithaf cyffuriau. Ânt o'r golwg yr ochr arall.

Nicias

Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi!

Dionysos

Aros, dwyt ti ddim wedi gweld y cyfan eto.... Dyma iti felltith sydd mor hen â'r ddynoliaeth ei hun:



Clywir sŵn rhyfel — er enghraifft ffrwydradau, ergydion magnelau ac yn y blaen. Ar yr un pryd, gwelir fflachiadau ar y seiclorama i awgrymu tân, ac amrywiol oleuadau ynglŷn â brwydr. Yna tawelwch.

Lliw coch ar y seiclorama, miwsig yn y cefndir — awgrymaf Adagio yn G (Trefniant Giazotto) gan Tomas Albinoni

Yna daw côr o ferched ymlaen yn araf, gydag ystum trallod Groegaidd. Safant yn grŵp fel silŵet yn erbyn cochni'r cefndir. Ennyd o ddistawrwydd ac eithrio'r miwsig isel yn y cefndir. Mae Dionysos yn tynnu ei het, a Nicias ei gap.

Côr
Mae tawelwch yn ein pentre ni heddiw,
Mudandod galar rhy ddwfn i ddagrau;
Nid oes, bellach, ochenaid i liniaru gwewyr y galon.
Ai breuddwyd echrydus a gawsom ni neithiwr
Pan ddaeth y belen dân o'r nef
Ynghanol rhuo gwyllt y dreigiau du
A wibiodd drosom drwy gymylau'r nos?
A gawn ni ddeffro yn y man i'n gweld ein hunain
Yn eistedd ar farwydos ein haelwydydd oer,
A chofleidio'r plant i wneud yn siwr
Eu bod yn gynnes a dianaf, iach?
Na, na, ofer yw'r gobaith gwan y mynnem gydio ynddo
Fel y cydia un ar foddi, laswelltyn.
Gwyddom, pe codem ein llygaid,
Y gwelem y lliain llonydd yn y gornel,
A'r llaw fach, ddisymud, yn ymestyn oddi tano.
Eisteddwn, felly, gan syllu'n hurt i'r lludw llwyd,
I ail-fyw yr arswyd ddaeth i'r pentre neithiwr
Ar fachlud haul. Clywn eto sŵn y traed
A llais y swyddog swta yn y stryd.
Clywn chwerthiniad iach plentyndod
Yn fferru'n sydyn yn riddfaniad hir.
Gwelwn fflach y bidog gwaedlyd yn y fflam
A'r milwyr yn symud o dŷ i dŷ
Mor hamddenol â phladurwyr yn y meysydd ŷd.
Yna, y distawrwydd syfrdan, a chlindarddach
Y cerbydau dur yn toddi draw i'r tarth.
Clywn eto sgrech y fam
Uwchben y corffyn bychan yn y llwch
Sy'n llwtra gwlyb o gnawd a gwaed,
A hithau'n darnio'i dillad yn ei hing.
Wylo chwerw fu yma drwy oriau'r tywyllwch.
Udodd y cŵn, hwythau eu galarnad trist
O stomp a drewdod yr adfeilion.
Ond heddiw mae'n pentre ni'n dawel, dawel.
Torrodd y wawr, ond ni welsom olau dydd;
Dringodd yr haul dros ysgwydd y grib,
Ond ni threiddiodd ei belydrau
I lymder oer ein calonnau clwyfedig.
Bellach, nid oes gennym ddim ar ôl
Ond diymadferthwch ac anobaith du.
Ac eto, rhywfodd rhaid stryffaglio ymlaen,
Heb wybod dim ond mai fel hyn
Mae pethau wedi bod erioed,
A bod ein gwaed yn staenio'r canrifoedd.



Cryfhaer y miwsig ychydig tra bo'r merched yn mynd oddi ar y llwyfan. Daw'r goleuadau i fyny.

Nicias

Wyddoch chi be, dwy' i ddim yn teimlo'n benisel yn amal. Ond mae'r lle yma'n llethu f'ysbryd i.

Dionysos

Pwll anobaith ydy Tartarws fel roeddwn i'n dweud wrthyt ti. A hyd yma, che'st ti ddim ond cipolwg ar ei ymylon.



Tywyller y tu ôl i'r llwyfan, neu tynner y llenni-canol yn araf er mwyn darparu ar gyfer yr olygfa nesaf ym mhencadlys Plwton.

Nicias

'Does arna i ddim eisio gweld mwy. Ne mi fydda i'n colli pob ffydd yn y natur-ddynol.

Dionysos

O, mae gobaith o hyd, Nicias.

Nicias

Ydach chi'n credu hynny o ddifri?

Dionysos

Ydw, debyg iawn. Onide, beth ydy diben ein hymweliad ni yma â Hades?

Nicias

Trio achub Athen medda chi.

Dionysos

Mae Athen yn rhan o ddynol-ryw.

Nicias

Ydy, wrth gwrs.... Maddeuwch imi am ddweud hyn, ond dydach chi ddim wedi egluro'n iawn imi, w'chi.

Dionysos

Egluro beth?

Nicias

Sut yn hollol ydach chi'n meddwl achub Athen — yma o bob man?

Dionysos

Mi gei di'r eglurhad cyn bo hir. Wrth gwrs, 'does dim sicrwydd.

Nicias

Sicrwydd?

Dionysos

Y bydd y cynllun yn gweithio.

Nicias

O!... Maddeuwch i mi eto, ond oni ddylai un fel chi wybod yn bendant ymlaen llaw? Fedrwch chi ddim darllen y dyfodol?

Dionysos

Mi glywaist ti gwestiwn Cerberws ynglŷn â'm categori?

Nicias

Do. Duw bach o'r trydydd dosbarth, medda fo.

Dionysos

Ia, wel, 'roedd o'n berffaith iawn. Duw bach cymharol ddi-nod ydw i. Ac fel y dywedais wrthyt o'r blaen, mae terfyn pendant ar fy ngallu. Na, Nicias, wn i ddim fydd fy nghynllun i'n llwyddo ai peidio. Ond mi gawn weld gyda hyn. Fyddwn ni ddim yn hir, rwan, yn cyrraedd Pencadlys Plwton... Tyrd!

Nicias

(Codi ar ei draed.) Ga i ofyn un peth arall?

Dionysos

Wel!

Nicias

Plwton — sut un ydy o?

Dionysos

Mi gei di weld hynny, hefyd, drosot dy hun. A hynny cyn bo hir... Rhaid inni fynd.... Dilyn fi, a chymer ofal.



Mae Nicias yn gafael yn y cas a dilyn Dionysos oddiar y llwyfan. Miwsig addas am ennyd, yna goleuer cefn y llwyfan — neu agorer y llenni canol — a gwelir Plwton fel dyn-busnes yn eistedd tu ôl i'w ddesg yn sgrifennu. Mae cloch y teliffôn yn canu.

Plwton

(i'r ffôn) Plwton yma, ia... Faint? Ugain mil?... Pa frwydr oedd hon?... O, rwy'n gweld... Wrth gwrs, rhaid eu derbyn rhag blaen... Mynd â nhw'n syth i'r Adran Ddarparu... Ia siwr. Mi wna i nodyn o hynny... Diolch.



Rhydd Plwton y ffôn i lawr a sgrifennu nodyn ar ei lyfr nodiadau. Daw ei ysgrifenyddes i mewn.

Plwton

la?

Ysgrifenyddes

Dionysos i'ch gweld chi, Plwton.

Plwton

Ia, wrth gwrs. Mae ganddo fo apwyntiad. Anfonwch o i mewn yn syth.

Ysgrifenyddes

(Petruso) Esgusodwch fi...

Plwton

Wel?

Ysgrifenyddes

Wn i ddim sut i ddweud hyn, Syr. Dydy o ddim wedi digwydd o'r blaen.... Ond mae yna Un o'r Byd Arall efo fo!

Plwton

Mae pawb yn Hades wedi dwad o'r byd arall rywbryd neu'i gilydd.

Ysgrifenyddes

Ond nid yn y stâd y mae hwn ynddi!

Plwton

Dwy i ddim yn eich deall chi.

Ysgrifenyddes

Dydy o ddim wedi... Hynny ydy, mae o'n FYW!

Plwton

Beth! Twt, twt, pa ofergoeledd yw hyn?

Ysgrifenyddes

Mae o'n wir, Plwton. Mi gewch weld drosoch eich hun.

Plwton

Mae'r peth yn anhygoel. Anfonwch nhw i mewn, rhag blaen.



Exit yr ysgrifenyddes a dod yn ôl yn syth gyda Dionysos a Nicias. Rhydd Dionysos amnaid i Nicias aros efo'r cas ar drothwy'r "swyddfa" fel tae, a mynd ei hun i fyny at Plwton. Mae hwnnw'n codi i'w gyfarch.

Plwton

Cyfarchion, Dionysos, a chroeso i Hades.

Dionysos

Diolch iti, Plwton.

Plwton

Ymweliad go annisgwyl!

Dionysos

Ac amcan arbennig.

Plwton

(Cyfeirio at Nicias.) Ac yn syfrdanol o anghyffredin, ddyliwn. Rwy'n gobeithio dy fod ti'n sylweddoli difrifoldeb cam fel hyn?

Dionysos

Yn llwyr. Fe gei'r eglurhad yn y man.

Plwton

Popeth yn iawn. Er bod yn rhaid imi ddweud 'mod i'n synnu na welaist yn dda rhoi unrhyw rybudd, ymlaen llaw, o fenter mor rhyfygus. Rhaid imi ddweud hynna'n blwmp ac yn blaen.

Dionysos

Rwy'n syrthio ar fy mai, Plwton. Ond teimlo roeddwn i y byddai hynny'n cymhlethu pethau'n ormodol a dianghenraid.

Plwton

Wel, mi gawn weld. Ond cyn iti wneud dy ddatganiad, rhaid imi alw fy Nghynghorwyr i mewn. Rhaid cael eu cytundeb a'u cydweithrediad nhw, beth bynnag yw dy gynllun.

Dionysos

Purion.



Cân Plwton gloch, a daw ei gynghorwyr i mewn a sefyll yn drefnus gerllaw. Hwy fydd y côr.

Plwton

Gynghorwyr, rwy i wedi eich galw yma i'ch cyflwyno i Dionysos. Does dim angen imi amlhau geiriau ond dweud ei fod yma ar berwyl pwysig iawn. Beth yw, wn i ddim fy hun eto. Ond dichon y cawn i gyd wybod ganddo yn y man. Ond cyn galw arno, mi hoffwn ddweud un peth; am reswm arbennig, mae o wedi dod â chydymaith anarferol — a dweud y lleiaf — gydag ef.



Mae'r côr yn troi fel un i edrych yn syn ar Nicias, sy'n sefyll yn unig, gyda'r cas bondigrybwyll, ar un ochr i'r llwyfan. Mae'n symud yn swil o un droed i'r llall wrth iddyn nhw syllu arno. Try'r côr yn ôl i wrando ar Plwton.

Plwton

Rwy'i am argymell, Gynghorwyr, ein bod yn rhoi clust i Dionysos. Ac ar ôl hynny, trafod ei ddatganiad yn ôl ein doethineb.

Blaenor y Côr
Geiriau doeth, Plwton, ac argymhelliad teg
Ar achlysur mor chwap annisgwyl,
Mor feiddgar, ac mor syfrdan anarferol.
Pa ddewis arall sydd? Ar dir cwrteisi, felly,
Synnwyr-cyffredin a chymhwyster diplomatig
Hyd yn oed, rhaid inni dderbyn dy gyngor.

Côr
Cytunwn yn llwyr.
Rhodded Dionysos ei adroddiad inni felly,
Ac esbonied pa sefyllfa enbyd
A pha achos dwys a barodd iddo ddod i Hades
Ar siwrna mor frawychus.
Siaraded yn rhwydd: fe gaiff wrandawiad astud;
Wedi'r cyfan nid bob dydd
Y'n gelwir yma ger dy fron
I drafod cais mor hynod!



Saif Dionysos ar un o'r rostra

Dionysos

Plwton a Chynghorwyr Hades. Diolch am eich derbyniad cwrtais, a'ch parodrwydd i wrando cais a fydd, rwŷn siwr, yn swnio'n haerllug neu yn wallgo ichi. Neu efallai'n gyfuniad o'r ddau! Gwyddoch, erbyn hyn mae'n debyg, imi — a'm cydymaith — ddwad yma'n syth o Athen. A sefyllfa'r hen Ddinas honno a barodd imi ymgymryd â'r fath siwrna anturus. Wna i mo'ch blino chi â'r manylion: digon yw dweud bod Athen mewn cyflwr pur ddifrifol. Dinas wedi'i rhwygo ydy hi. Mae ei harweinwyr yn styfnig benben. Rhai o'i dynion gorau yn y carchar. Delfrydau'r ifainc yn cael eu dirmygu. Y gymdeithas yn faterol a chystadleuol — farus. A'r bobol yn ymbalfalu mewn penbleth a difaterwch. Y gelyn oddi mewn sy'n bygwth fwya, nid y Sbartiaid oddi allan. Mewn gair, mae hi'n draed-moch yno. Ac oni wneir rhywbeth yn bur sydyn, mi fydd hi ar ben ar yr hen Ddinas annwyl.

Daw hyn â fi at gnewyllyn fy neges. Fel y gwyddoch mae cewri Athen yn y dyddiau gynt yma, yn Hades, mewn teilwng Stâd o Anrhydedd. Fy nghynllun, yn syml, ydy hyn: gwneud apêl i'r cyfryw arwyr fynd yn ôl i Athen, i adfer asgwrn-cefn a hunan-barch y genedl. Dyna'r unig obaith, bellach, hyd y gwelaf i. A dyna'n fyr, y cyfan sy gennyf i ddweud wrthych chi. Diolch eto am eich gwrandawiad astud.

Plwton

Wel, fe glywsoch gais Dionysos. Dichon fod y cynllun yn swnio'n herfeiddiol a rhyfygus, ond eich dyletswydd chi yw ei drafod. Y cynnig ydy: gwneud apêl i gewri'r dyddiau gynt fynd yn ôl i Athen i adfer ei hasgwrn-cefn a'i hunan-barch... Dowch yn ddiymdroi, os gwelwch yn dda.

Blaenor y Côr
Plwton, rwyt ti'n gofyn rhywbeth anodd iawn;
Wedi'r cyfan nid ar chwarae bach
Y gallwn ni, Barchus Gynghorwyr Hades,
Ystumio'r Tragwyddol Ddilys Ddeddfau —
Hyd yn oed ar daer ymbiliad Dionysos —
Ac argymell cam mor syfrdan chwyldroadol.
Oni fyddai hyn yn agor drws?
Oni fyddai'n gynsail i bob math o flin helbulon?
Mae'r ddau ddimensiwn mor gyfan-gwbwl ar wahân
A'r agendor rhyngddyn nhw mor fawr,
Ni allaf ddirnad sut mae modd ei bontio.

Côr A
Wedi'r cyfan, beth sydd a wnelom ni ag Athen?
Paham y dylem yma yn ein bythol hedd
Roi heibio ein hysbrydol ddiddordebau;
Ein breiniol, ddyrchafedig fyfyrdodau
Er mwyn ymboeni â bawaidd hynt a helynt
Y truan hwn a'i debyg?



Mae Nicias yn adweithio'n swil wrth i'r côr gyfeirio a phwyntio ato.

Côr B
Na, na!
Dyw hynna ddim yn hollol wir;
Nid dyna ble Dionysos.
Y cyfan a ofynnodd inni'n gwrtais oedd
Ystyried pa mor ymarferol fyddai gofyn ffafr
Gan wrol arwyr ac arweinwyr Athen gynt,
Sy bellach yma gyda ni yn Hades,
Mewn anrhydeddus a breintiedig stâd.
Ni ofynnir inni wneud dim oll ond hyn.

Plwton

Gwahaniaeth barn yn amlwg. A oes yna rywun am wneud cynnig pendant? Yn ddiymdroi, os gwelwch yn dda.

Blaenor y Côr
O'r gorau, Plwton, rhag gwastraffu dim
O'n hamser ar ryw gant-a-mil o fân betheuach
A malu awyr hyd at syrffed
Am fanylion dibwys pitw, di-ben-draw:
Cynigiaf yma'n ffurfiol ein bod ni,
Bwyllog Gynghorwyr Hades,
Yn anfon cynrychiolaeth gref, rhag blaen
At y cyfryw wrol arwyr — cewri Athen
Yn y dyddiau gynt — a rhoi yn syml ger eu bron
Gynllun a chais Dionysos.

Plwton

Fe glywaist y cynnig, Dionysos. Dyna'r cyfan a allwn ni ei wneud.

Dionysos

Rwy'n cytuno'n llwyr. Diolch yn fawr am dy gydweithrediad.

Plwton

Wn i ddim beth fydd ateb yr arwyr. Ond mae hyn yn sicr: fe fydd yn rhaid iti ei dderbyn a gweithredu arno. Gobeithio dy fod yn deall hynny?

Dionysos

Rwy'n deall yn berffaith.

Plwton

O'r gorau. (Wrth y cynghorwyr.) Gynghorwyr, prysured rhai ohonoch i'r Cyntedd Anrhydedd. Rhowch eich cenadwri yn ôl cais Dionysos, i'r Gwrol Arwyr, a dowch yn ôl yn ddiymdroi gyda'r ateb a gewch chi ganddyn nhw.



Exit Côr A.

Plwton

Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol.



Mae pawb ond Nicias yn fferu'n hollol ddisymud mewn dwysfyfyrdod. Gwelir Nicias yn crafu ei ben mewn penbleth. Distawrwydd llethol am ennyd.

Nicias

Wel, myn uffern!



Gostynger y goleuadau i dywyllwch llwyr. Clywir llais Nicias o'r tywyllwch.

Nicias

Dwy' i'n gweld affliw o ddim. Sôn am fol buwch!... (Saib) Maen nhw'n dweud bod yma lygod mawr fel sgwarnogod. A phryfed-cop fel crancod blewog... Yr arswyd mae hi'n ddistaw yma! Fel tae pawb wedi marw. (Sylweddoli) Ond wrth gwrs maen nhw... Hynny ydy, pawb ond yfi!... Ond hwyrach mod inna wedi marw hefyd, ond mod i heb sylweddoli. Ac Iris druan yn weddw. A llond tŷ o blant. A'r rheiny'n llwgu a ballu... Fûm i ddim yn ŵr da iawn iddi. Diogi a hel diod a gamblo ac ati. Tawn i'n cael ail-gynnig, mi wnawn i well siâp ar betha... (Saib) Pa mor hir eto sgwn i? Mae wedi bod fel oes yn barod. Ond dydy amser ddim yn cyfri yn y lle yma!



Daw'r goleuadau i fyny'n raddol.

Nicias

Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan!



Daw Plwton a'r lleill allan o'r myfyrdod a gwelir Côr A yn dychwelyd.

Plwton

Croeso'n ôl, Gynghorwyr. Rwy'n gweld ichi gael derbyniad gan y Gwroniaid. Ac iddyn nhw wrando'n astud ar eich neges. Beth oedd eu hadwaith? Pa ateb a gawsoch ganddyn nhw?

Côr A
Fel y dywedaist, Plwton, cawsom gan y Gwrol Rai
Dderbyniad rhwydd a phob cwrteisi;
Cyn rhoi yn gryno ger eu bron
Ddiffuant gais Dionysos.
Yna rôl iddynt ymneilltuo dro
I ymgynghori'n ddwys a phwyllog drin a thrafod,
Fe gawsom ganddynt, toc, ddatganiad fel a ganlyn:
"Gwerthfawrogwn daerni ple Dionysos,
Anrhydedd inni oedd ei dderbyn.
Eto i gyd, nid yw ein gallu, gwaetha'r modd
Yn llawn gymhesur â'i fawr hyder ynom.
Ond gwyddom a deallwn yn rhy dda
Pa bryder a'i cymhellodd.
Mae cyflwr Athen a'i hargyfwng trist
Yn loes i ninnau hefyd.
Ond ofer fyddai inni fynd yn ôl
I geisio'i hysbrydoli. Ni allem ychwanegu dim
Nas argymhellwyd gennym eisoes yn y dyddiau gynt.
A hyd yn oed petaem dros dro'n dychwelyd,
Yn y carchar fyddem ninnau hefyd cyn pen dim,
Fel llawer gwron arall sydd y funud hon
Mewn cyffion, am iddynt wrthod plygu glin
I ormes, ac am feiddio codi llais
Yn erbyn cydymffurfio gwasaidd eu cyd-wladwyr.
Pa angen ysbrydoliaeth arall sydd?
Mae i bob oes ei harwyr.
Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi ei hun."



Saif Dionysos am ennyd fel petai'n ystyried y geriau a glywodd, yna daw yn araf i ffrynt y llwyfan. Daw Plwton ato. Tywyller y cefndir — neu tynner y llenni-traws gan adael pelydryn ar y ddau. Gwelir Nicias hefyd yn y cysgod.

Plwton

Wel, dyna ni. Gobeithio nad wyt ti'n teimlo'n rhy siomedig.

Dionysos

(Codi ei esgwyddau.) Pa ddiben? Hyd yn oed yn Hades, rhaid gweithredu'n ddemocrataidd. Rhaid derbyn eu penderfyniad. "Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi eu hun!" Mae hynna'n hollol wir, wrth gwrs. I fod yn onest, roeddwn i'n ei sylweddoli cyn cychwyn yma, ond fy mod i'n ofni.

Plwton

Ofni?

Dionysos

Na fyddai Athen ddim yn fodlon — neu ddim yn abl i'w wynebu.

Plwton

(Nodio at Nicias.) Be sy'n mynd i ddigwydd i'r truan yna?

Dionysos

Fy mwriad oedd iddo fo fynd â'r cewri yn ôl i Athen — petaen nhw wedi cytuno.

Plwton

Ond rwan?

Dionysos

Rhaid iddo fo fynd yn ôl ei hun. 'Alla i ddim mynd efo fo. Dyletswydd bwysig arall.

Plwton

Hanner munud, mi wyddost fod hynna'n amhosibl, Dionysos. Rwy'i wedi ystumio'r Rheolau yn fwy na ddyliwn yn barod. Ond fedra i ddim caniatâu i feidrolyn fel hwn fynd yn ôl i Fyd y Byw.

Dionysos

Beth petawn i'n dweud na fyddai'n cofio dim oll o'i ymweliad â Hades?

Plwton

Sut fedri di sicrhau hynny?

Dionysos

Rwy' i wedi cymryd yr hyfdra i ystumio un arall o'r mân-reolau.

Plwton

Beth? P'run?

Dionysos

Mi ydw i wedi rhoi diferyn o ddŵr Afon Lethe yn y botel win sy ganddo yn ei boced. Un dracht, fel y gwyddost, a mi fydd y cyfan yn angof iddo fo. Yn ebargofiant llwyr.

Plwton

Dionysos, rwyt ti'n gastiog i'w ryfeddu! Ond trosedd cymharol ddibwys ydy hynna, dan yr amgylchiadau... Ond mi fyddi di'n ei hebrwng rhan o'r ffordd?

Dionysos

Byddaf, wrth gwrs. Rhaid iddo osgoi Cerberws ar bob cyfri!

Plwton

Ond beth am y Stycs?

Dionysos

Popeth yn iawn, rwy'n credu. Mi wnes i drefniant amodol efo Charon ar y ffordd yma.

Plwton

Dim ond amodol? Dydy hynna ddim yn ddigon. Tyrd, rhaid inni wneud trefniadau pendant rhag blaen.



Mae Plwton yn mynd â Dionysos o'r neilltu. Cryfhaer y pelydryn ar Nicias.

Nicias

Siawns na cha i fynd yn ôl yn o fuan rwan. Wn i ddim yn iawn be sydd wedi digwydd. Roedd yr holl brygawthan yna y tu hwnt i mi. Ond mae'n amlwg nad ydy petha ddim wedi llwyddo'n ôl y disgwyliad. Wel, fedra i ddim mynd odd'ma yn ddigon buan. Mae'r lle yma'n codi'r felan arna i. Run fath â hunlle, wyddoch chi, a chitha'n methu'n lân â deffro... Hwyrach mai dyna ydy o. Mai breuddwydio'r cwbwl rydw i. Wel, os felly, mi ddaw hi'n fore gyda hyn, gobeithio. A finna'n cil-agor fy llygad i wneud yn siwr. A gweld Iris wrth f'ochor yn y gwely, yn gwenu fel y bydd hi yn 'i chwsg. A'r plant yn y llofft nesa yn dechra cadw reiat. A'r hen Harmonia'n clebran... Ond dyma Fo'n dwad yn 'i ôl!



Daw Dionysos ato.

Dionysos

Wel Nicias, mae'r amser wedi dwad.

Nicias

(Gobeithiol) Inni fynd yn ôl?

Dionysos

I ti fynd yn ôl. Fydda i ddim yn dwad efot ti.

Nicias

Be? Pam?

Dionysos

Fedra i ddim egluro pam. Dyletswydd bwysig arall. Fydda i ddim angen dy gymorth di i honno.

Nicias

Dydw i ddim wedi bod fawr o gymorth ichi yn hon, chwaith 'ddyliwn!

Dionysos

Nid dy fai di oedd hynny. 'Roedd y parodrwydd a'r bwriad yna.

Nicias

Fel rydach chi'n gwybod bellach, Syr, rhyw greadur digon twp ydw i. A dydw i ddim wedi deall yn hollol glir-gola-dydd fel tae beth oedd amcan y busnas yma i gyd. Ond mi ydw i'n rhyw ama, rhyngon ni'n dau, nad ydy o ddim wedi llwyddo fel y dymunech chi.

Dionysos

Rwyt ti'n iawn, Nicias. Ond fel y dywedais wrthyt fwy nag unwaith, doedd yna ddim sicrwydd y byddai'r cynllun yn llwyddo. Ac y mae hyd yn oed un fel fi yn gorfod sylweddoli ffolineb cymhlethu cymhellion yn ddianghenraid.

Nicias

(Nid yw'n deall.) Esgusodwch fi — llond ceg braidd —

Dionysos

Beth wy'n 'i feddwl ydy fod y Gwirionedd weithiau o flaen ein trwynau. Yn rhy agos inni 'i weld.

Nicias

O? Mae yna un gwirionedd o flaen fy nhrwyn i rwan. A minna yn 'i weld yn blaen.

Dionysos

A hwnnw?

Nicias

Mod i'n gorfod mynd yn ôl fy hun. A mae arna i ofn nes mod i bron â... wel dydw... i... ddim-yn-lecio-dweud-wrthych-chi-be! Wel, fedrwch chi weld bai arna i? Mae meddwl am Cerberws yn codi pwys arna i. Heb sôn am Tartarws. A Charon. A'r Stycs!

Dionysos

Nicias, mi addewais iti y byddet yn mynd yn ôl at Iris dy wraig yn ddiogel a dianaf. Ac os gwrandewi ar fy nghyngor, fe lwyddi. Ond rhaid bod yn ofalus tu hwnt... Tyrd, mi egluraf y cynllun wrthyt wrth inni fynd... Gyda llaw, mi gei gadw'r cas mawr yma... Rwy i wedi rhoi un o'r poteli-gwin yn dy boced di.



Mae Nicias yn teimlo yn ei boced a thynnu'r botel allan, edrych arni a'i rhoi yn ôl.

Nicias

Diolch yn fawr, Syr.

Dionysos

Ond rwy i am iti addo peidio ag yfed ohoni nes byddi wedi croesi'r Stycs. Wyt ti'n addo?

Nicias

Ar fy llw! Dim ond imi gael mynd yn ôl i Athen... At Iris.

Dionysos

Gorau po gynta inni gychwyn felly... Tyrd.



Exit Dionysos a Nicias. Pelydryn ar y cas am ennyd, yna tywyllwch.

Miwsig.

g1g2g3g4a1, g1