a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 4, Golygfa 1

ACT IV

YN BIRMINGHAM

Golygfa 1
—Ar yr heol.
—Lle mae RHYS LEWIS ar ymweliad a'r Carchar.
—Yn clywed yr hen "Gaersalem" yn cael ei chanu ar yr heol.
—Yn cyfarfod WIL BRYAN, ac yn mynd gydag ef î weld 65 Gregg Streel.

Rhys

(wrtho ef ei hun) Dyna'r gorchwyl ene drosodd, ac mae'n dda gen i mod i wedi dwad yma. Waeth i mi droi i edrych am lety.—(Clywed chwibiannu.) Dyna'r hen "Gaersalem". Wyddwn i ddim fod y Saeson yn ei harfer o'r blaen. Mi gaf weld,—mae y chwibianwr yn dwad ffordd yma.



Cwrdd a'u gilydd yn y stryd.

Wil

Wel, yr hen ganfed! Ai ti wyt ti, dywed?

Rhys

(yn synn) Nid Wil Bryan?

Wil

Wil Bryan! At your service. Wyddost ti pwy weles i rwan just?

Rhys

Na wn i.

Wil

Wel, mi weles yr hen Niclas yn dwad allan o'r lle yna, a mi canlynais o, a mi weles 'i fod o yn byw ar hyn o bryd yn 65 Gregg Street, ac mi ddois yn ol yma i edrych welwn i chwaneg o'r breed, a strange to tell, dyma tithe. Ond be ydi'r row? O ble yn y byd mawr y doist ti? Wyst ti be, rydw i wedi meddwl am danat ti filoedd o weithie, ac wedi bod yn gofyn, tybed fase Rhagluniaeth yn ein tymblo ar draws ein gilydd rywdro. Ond tyrd adre hefo fi. Does gynnom ni fawr o ffordd i'r crib acw. Fyddwn ni 'run dau funud hwy yn mynd heibio'r ty, 65 Gregg Street. Mi danghosa i o i ti. Tyrd.



Exit o'r stryt. Enter y'r crib.

a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3