a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 2, Golygfa 1

ACT II

Y TWMPATH
—CARTREF TOMOS A BARBARA BARTLEY.

Pedair cadair a bord gron.
—Mainc grydd a man ddodrefn.

Golygfa 1
—Barbara yn y ty.
—Tomos yn sefyll wrth & fainc weiihao.

Tomos

Wyddost ti, Barbara, fod Rhys a Mari Lewis yn dod yma heno? Mae'n arw gen i o nghalon dros Mari Lewis,—wn i ddim ar affaeth hon y ddaear sut mae gwraig mor dda yn cael cymaint o drwbwl. Claddu Bob yn gap ar y cyfan! Faint ydi hi o'r gloch, Barbara?

Barbara

Saith, Tomos.

Tomos

Wel, mi ddôn gyda hyn. Dyma nhw ar y gair. Wel, dowch i mewn.



Enter MARI LEWIS a RHYS.

Tomos

Wel, dyma chi o'r diwedd. Tynnwch y'ch pethe, Mari, a mi neiff Barbara baned i ni yn union deg, yn newch chi, Barbara?

Barbara

(yn nodio) Gwnaf siwr, Tomos bach.

Tomos

Mari, ydach chi'n meddwl fod Bob erbyn hyn wedi deyd wrth Seth fod Barbara a finne wedi dwad i'r Seiat? Hynny ydi, os daru o drawo arno fo, achos mae yno gymin o honyn nhw i fyny ene, onid oes?



Barbara yn paratoi te.

Mari

Am wn i, hwyrach i fod o, Tomos.

Tomos

Wel, 'does bosib na thrawan nhw ar 'u gilydd ryw dro. Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd, mae nhw'n deyd (swn moch). Mari, dyma'r moch gore fu gen i 'rioed am ddwad yn 'u blaene.

Mari

Mae nhw yn edrach yn farus iawn, Tomos.

Tomos

Rown i 'run ffig am fochyn os na fydde fo yn farus. Mi fyte rhein y cafn bydae nhw ddim yn cael 'u pryd yn 'i amser. Hwn-ene heb yr un gynffon ydi mistar y cafn. Mi fydda i'n wastad yn magu dau, achos mae nhw yn dwad yn 'u blaene yn well o lawer. Fydda i byth yn rhoi India Mel iddyn nhw, welwch chi, achos mae'r bacyn pan rowch chi o o flaen y tân, yn mynd yn llymed cyn bod yn ddigon. Tatws a blawd haidd ydi'r stwff gore i besgi mochyn, os ydach chi am facyn da; a berwi dipyn o ddanal poethion weithie iddyn nhw. 'Does dim byd gwell i fochyn pan fydd o wedi colli 'i stumog na berwi penogyn coch yn 'i fwyd o. Pa faeth sydd mewn soeg i fochyn? Dim yt ol! Wyddoch chi be, Mari, fytwn i byth facyn bydae raid i mi brynnu bacyn y 'Merica ene.

Barbara

Ewch a bwyd i'r ieir, Tomos.



Ceiliog yn canu. Dynwareder ef.

Tomos

Hylo, cobyn! wyt ti ene? Dacw chi geiliog, Mari; bydase'r bluen wen acw heb fod yn 'i gynffon o, mi fydde yn pure giam! Mi weles yr amser cyn i mi ddwad i'r seiat, y baswn i'n torri'i grib o. Tydw i ddim yn ffeindio fod yr ieir giam yma yn rhyw helynt o ddydwrs, ond just bod 'u wye nhw'n fwy rich. Ydi'r bwyd yn barod, Barbara?

Barbara

Ydi, dowch at y bwrdd.

Tomos

(wedi eistedd wrth y bwrdd) Ho! pethe yn talu yn riol ydi fowls, Mari, os can nhw 'u ffidio yn dda. A welsoch chi 'rioed mor ffond yr ydach chi'n mynd o honyn nhw. Ma nhw yn edrach mor gysetlyd wrth droi 'u penne yn gam.

Mari

Mae'ch ffowls chi yn edrach yn dda, beth bynnag.

Barbara

Dowch, tipyn o'r ham a'r wye 'ma, Mari Lewis.

Tomos

Ia, wir! Wn i ddim sut yr ydach chi yn teimlo, ond rydw i'n teimlo y medrwn i fyta penne pryfed.

Mari

Mae'r ham yma yn dda iawn, Tomos.

Tomos

Bwyd cry' anwedd ydi ham a wye, os cewch chi'r quality. Wn i ddim sut y mae pobol y trefydd yma yn mentro byta wye. Wyddoch chi be glywes i Ned 'y nghefnder yn deyd, welodd o a'i lygaid 'i hun un tro mewn ty reit spectol yn Llundain?

Mari

Na wn i.

Tomos

Wel, ar amser brecwast, mi fydde'r forwyn yn dwad a chryn ddwsin o wye wedi 'u berwi ar ddesgil, ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd, a denne lle bydde'r teulu yn 'u torri nhw un ar ol y llall, ac yn 'u hogle nhw; a'r forwyn yn 'u cario nhw yn 'u hole ffastied y medre hi; ac o'r diwedd hwyrach y caen nhw ddau neu dri allan o'r dwsin yn ffit i'w byta. A dene oedd yn od, 'doeddan nhw'n meddwl dim byd at y peth,— roeddan nhw yn gneyd hynny bob dydd! Wel, wfft i'w c'lonne nhw, meddwn inne.



Ymgom gyffredin.

Mari

Bobol bach! mae hi yn amser y capel!

Tomos

Wel ydi, tawn i byth o'r fan yma. Rhaid i ni hastio; rhaid iti adel y llestri, Barbara.



Tomos yn codi.

CURTAIN

a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3