a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2

Hamlet, Tywysog Denmarc (1864)

William Shakespeare
cyf. David Griffiths

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 2

GOLYGFA II.
Yr un lle. Ystafell Freninol yn y fan.

Y BRENIN, Y FRENINES, HAMLET, POLONIUS, LAERTES, VOLTIMAND,. CORNELIUS, Arglwyddi, a Gweinyddion, yn dyfod i fewn.

Brenin
Er dylai eto farw Hamlet ein
Hanwylaf frawd, fod yn ei cof yn îr,
A bod yn weddus iawn i ninau ddwyn
Ein tristwch ni a thristwch mawr ein gwlad
Yn gydgasgledig mewn un ael o wae;
Er hyn i gyd, â natur brwydrodd pwyll,
Fel y gwnawn ddoeth dristâu am dano ef,
Yn nghyd a chofio am ein lles ein hun.
Am hyny gynt ein chwaer, yn awr ein hoff
Frenines, a chydgyfranogydd o'r
Filwraidd a rhyfelgar deyrnas hon,
A gymerasom, megys gyda rhyw
Lawenydd tra hanerog,—gydag un
Chwerthinus lygad, ac un llygad gwlyb;
A llon ddigrifwch yn yr arwyl, ac
A galar-gân yn y briodas, gan
Gydbwyso'u mwyniant gyda'r alaeth oll,—
Yn wraig; ac yn hyn oll nì wnaethom ni
Yn groes i'ch mawr ddoethineb, yr hwn aeth
Yn rhwydd o blaid y pethau hynod hyn.
Ac am hynyna oll, ein diolch mawr.
Yn awr y canlyn, fel y gŵyr pob un,
Fod Fortinbras ieuengaidd gyda rhyw
Syniadau gwagsaw am ein breiniol werth;
Neu ynte 'n tybied fod eìn teyrnas ni
Bron ag ymddatod, neu mewn cywair drwg,
O achos marw ein hanwylaf frawd,—
A chan freuddwydio am y fantais fêdd,
Ni pheidiodd â llythyrau ein blino ni,
Gan erfyn arnom ro'i i fyny yr
Holl diroedd hyny gollwyd gan ei dad,
Trwy bob rhwym cyfraith i law'n dewraf frawd;
Hynyna am dano ef. Am danom ni,
Ac am ein cyfarfyddiad y pryd hwn,
Hyn ydyw 'r pwnc: yggrifenasom ni.
Yn awr, at Norway, ewythr Fortinbras,—
'R hwn trwy anallu a gorweiddiog 'stâd,
Nis clyw ond prin beth yw bwriadau 'i nai,—
Fel gallom rwystro ei rodiad pellach ef;
Yn gymaint a bod yr holl drethi, a'r
Holl restrau, a'r llawn gyfraniadau 'n cael
Eu codi oll oddiar ei ddeiliaid ef:—
Ac yma gyrwn chwi, Cornelius dda,
A chwithau, Voltimand, i gludo ein
Hanerchiad hwn at Norway hen, heb ro'i
I chwi bersonol genad i wneud dim
Negesaeth gyda 'r brenin, pellach nag
A ganiateir gan yr erthyglau hyn:
Rhwydd hynt i chwi; a'ch brys ganmolo eich
Ffyddlondeb i'ch dyledswydd, yn y tro.

Cornelius, Voltimand
Yn hyn, fel pobpeth, ein dyledswydd wnawn.

Brenin
Ni anmeuwn ddim; o galon rho'wn ffarwel.


VOLTIMAND a CORNELIUS yn ymadael.

Brenin
Yn awr, Laertes, beth yw 'ch newydd chwi?
Soniasoch am ddymuniad; pa beth yw,
Laertes? Ni chei ymresymu gyda pen
Y Daniad byth, ac wed'yn golli 'th lais:
Pa beth, Laertes, a ddymunet gael;
Nas gwnawn ei gynyg, cyn it' ofyn dim?
Nid yw perthynas calon gyda 'r pen,
Na'r llaw 'n fwy ufudd i y safn,
Nag ydyw gorsedd Denmarc i dy dad.
Pa beth, Laertes, fynit ti ei cael?

Laertes
Fy arglwydd mawr, eich cenad ffafriol chwi,
I ddychwel eto yn fy ol i Ffrainc;
O'r hon i Denmarc daethum i o'm bodd
I roi gwarogaeth i'ch coroniad chwi;
Ond wedi ei roi, rhaid i mi addef fod
Fy meddwl a'm dymuniad eto 'n troi
I Ffrainc, ac eu cyflwyno wnaf yn awr
I'ch cenad graslawn a'ch maddeuant chwi.

Brenin
Ond a oes genych ganiatâd eich tad?
Beth dd'wed Polonius?

Polonius
Oes, fy arglwydd; gwnaeth
Ddirwasgu cenad o fy ngenau i
Trwy grefu caled; ac, o'r diwedd, rho'is
Ar ei ewyllys ef, fy sêl fy hun;
Anfoddog fu 'r cydsyniad, ond yn awr,
Atolwg wyf, rho'wch genad iddo i fyn'd.

Brenin
Laertes, dewis d' awr; dy amser da,
A'th gyfleusderau goren wrth dy fryd —
Yn awr, fy nghefnder Hamlet,—

Hamlet
(Wrtho ei hun.)
Ychydig mwy na châr, a llai na mab. [1]

Brenin
Paham y mae 'r cymylau eto yn
Ymhongian drosot ti?

Hamlet
Nid felly mae,
Fy Arglwydd, ond wyf ormod yn yr haul. [2]

Brenhines
Da Hamlet, dyro heibio 'th fantell nos,
A thro ar Denmarc, lygad megys ffrynd.
Na fydd â'th aeliau yn orchuddiol byth,
Yn ceisio 'th dad urddasol yn y llwch;
Ti wyddost mai cyffredin ydyw hyn;
Pob un sydd fyw raid farw, a myn'd trwy
Gylch natur hyd i'r tragwyddolfyd mawr.

Hamlet
Ië, 'mam, cyffredin yw.

Brenhines.
Os felly mae,
Pa'm mae'n ymddangos mor ddyeithrol it?

Hamlet
Ymddangos, 'mam! na, mae 'n rhy wir i mi.
Pa beth yw ymddangosiad, nis gwn ddim.
Ah! nid fy mantell ddu, sy' fel yr inc
Yn unig ydyw, fy naionus fam,
Y galarwisgoedd arferedig, na
Hir anadliadau wedi eu gwasgu o fewn—
Nagê, na chwaith yr afon ffrydlawn sy'n
Dylifo o'r llygaid—na, ac nid ychwaith,
Yr ymddangosiad tristlawn ar y rudd,
Yn nghyd a phob ffurf, modd, a dull a geir
O dristwch, a'm dynodant i yn iawn:
Ymddangos mae 'r rhai hyn, mae'n wir can's maent
Yn bethau y gall dyn eu ffugio hwy:
Ond mwy nag ymddangosiad sydd o'm mewn;
Nid ydyw y rhai hyn, ond treciau a
Gwisgiadau tristwch.

Brenin
Mae yn felus iawn,
A chanmoladwy yn dy natur di, Hamlet,
I roi y parch galarus hwn i'th dad;
Ond rhaid dy fod yn gwybod; wele 'th dad
A gollodd dad; a chollodd hwnw dad;
A'r un oedd fyw, yn gorfod, am ryw hyd,
Ymroi i alar fel y gweddai fab:
Ond mae parâu mewn annyddanwch yn
Gyndynrwydd tra annuwiol; gofid yw
Sydd yn annynol; ac arddangos wna
Ewyllys sydd anufudd iawn i'r Nef;
A chalon heb gael nefol nerth i'w rhan
A meddwl diamynedd; deall gwyrol,
Heb gael dysgyblaeth iawn: canys am
Yr hyn y gwyddom a raid ddygwydd, ac
Sydd mor gyffredin, ag yw unrhyw beth
I synwyr dyn, paham, gan hyny, y rho'wn
Mewn gwrthwynebrwydd croes, anniddig, hyn
At ein calonau? Ffei, mae hyn yn fai
Yn erbyn Nef, yn fai yn erbyn yr?
Un marw, yn fai yn erbyn natur, ac
I reswm, gwrthun yw; i'r hwn y mae
Marwolaeth tadau yn gyffredin beth.
A'r hwn sy 'n dweud o'r cyntaf un erioed,
I'r hwn fu farw heddyw, Hyn sydd raid.
Atolwg fab, gan hyny bwrw di
Y galar afraid hwn i'r ddaear laith,
A meddwl bellach ein bod ni fel tad:
Cân's sylwed byd, ti yw 'r agosaf un
I'n gorsedd, ac nid gronyn llai o serch
Nag a ddangosa 'r tad anwylaf at
Ei fab, ddangoswn ninau atat ti.
Yn wir, mae'th fwriad di o fyn'd yn ôl
I Wittenberg, i'r ysgol, yn dra chroes
I'n dymuniadau; ac atolwg 'rym
Ar i ti aros yma, yn holl wên
A chysur ein golygon, penaf gŵr,
O fewn ein llys, ein câr a'n hanwyl fab.

Brenhines
Gweddïau'th fam, na âd eu colli, Hamlet;
Atolwg 'rwyf, O! aros gyda ni,
Ac na ddos eto'n ôl ìi Wittenberg.

Hamlet
Gwnaf ufuddâu fy ngoreu i chwi, 'mam.

Brenin
Wel, mae hyn yn ateb serchog iawn a theg;
Bydd fel nyni yn Denmarc.—Meistres, de'wch;
Mae y cydsyniad mwynaidd, parod hwn,
Gan Hamlet, yn mawrloni 'm calon i:
Oherwydd hwn, ni chaiff un iechyd da
A yfa Denmarc heddyw, fod heb ei
Gyhoeddi i'r cymylau gyda thwrf
Magnelau; yna twrf y brenin a
Adseinia'r nef drachefn, nes bydd yn ail-
TIboefaru daear-daran. Dew'ch i ffordd.


Y BRENIN, y FRENINES, Arglwyddi, etc., POLONIUS a LAERTES yn ymadael.

Hamlet
O na wnai 'r cnawd rhy galed, caled hwn
Ymdoddi, dadmer, ac ymffurfio 'n wlith!
Neu, na pheidiasai y Tragwyddol Fôd
Yn erbyn hunan-laddiad, roi ei ddeddf!
O Dduw! O Dduw! mor flin, mor egraidd, mor
Ddi-flas, ac mor ddielw, ydyw 'r holl
Wag ddefnydd ellir wneud o bethau 'r byd!
Ffei arno! ffei! gardd hollol wyllt yw'r hon
A rêd i hâd, drygsawrus bethau, ac
O natur groes, sydd yn ei llenwi oll.
O ofid! fod i bethau dd'od i hyn!
Dau fis yn farw! na nid yw'n ddau fìs!
A'r fath ardderchog frenin ydoedd ef!
Hyperion [3] oedd, a hwn yn ellyll gwael.
Efe oedd mor gariadus wrth fy mam,
Fel na oddefai i awelon nef
Byth ddisgyn ar ei gwyneb yn rhy lym.
O nef a daear! a raid im' gofio hyn?
Hyhi a bwysai ar ei fynwes ef,
Fel pe buasai blys yn tyfu wrth
Ymborthi; ac er hyny, o fewn mis—
Na fydded i mi feddwl yn ei gylch:—
O! Anwadalwch; d' enw di yw—merch!
Bur fis! cyn baeddu yr esgidiau teg
A'r rhai canlynodd gorff fy anwyl dad,
Fel Niobê, yn ddagrau trosti oll,—
Ac wele hi, ïe, hyhi,—O nef!
Fe wnaethai bwystfil heb ddim rheswm oll,
Alaru 'n hŵy,—priododd fy ewythr,
Sef brawd fy nhad; ond dim mwy tebyg i
Fy nhad, nag ydwyf fì i Hercules:
O fewn un mis: a chyn ì helltni ei
Rhagrithiol ddagrau, roi i'r cochni fyn'd
O'i llygaid clwyfus, fe briododd hi!
O frys drygionus, yn ymruthro i
Gynfasau llosgach, â'r fath ddirfawr ffrwst.
Nid yw, ac nis gall, dd'od i ddiwedd da,—
Tor fy nghalon; tewi raid i mi.


HORATIO, BERNARDO, a MARCELLUS, yn dyfod i fewn.

Horatio
Henffych i'ch Arglwyddiaeth.

Hamlet
Tra llawen wyf
Dy weled di yn iach: Horatio,
Neu 'rwyf yn colli arnaf fi fy hun.

Horatio
Yr un, wyf fì
Fy arglwydd, ac am byth eich ufudd was.

Hamlet
Syr, a fy nghyfaill da: newidio wnaf
Yr enw yna gyda thi. Ond beth
A'ch dygodd chwi yn awr o Wittenberg,
Horatio?—Marcellus?

Marcellus
F' arglwydd da, —

Hamlet
Wyf hynod falch o'ch gwel'd; prydnawn da, syr.
Ond beth, a ddaeth a chwi o Wittenberg?

Horatio
Rhyw duedd grwydrol oedd, fy arglwydd da.

Hamlet
Ni wrand'wn ar eich gelyn yn dweud hyn;
Ac ni chewch chwithau dreisio ar fy nghlust,
Na'm dwyn i gredu un cyhuddiad fo'n
Milwrio yn eich erbyn chwi eich hun:
Gwn nad rhyw grwydriaid segur ydych chwi.
Ond beth yw 'ch neges yma'n Elsinore?
Wel, dysgwn chwi i yfed yn bur drwin
Cyn myn'd i ffordd.

Horatio
Fy arglwydd, daethum i wel'd claddu 'ch tad.

Hamlet
Atolwg iti, gydefrydydd, paid
A'm gwatwar; meddwl 'rwyf mai d'od a wneist
I wel'd priodi'm mam.

Horatio
Aiê, fy arglwydd, yna rhaid ei bod
Yn siŵr, yn dilyn gyda gradd o ffrwst.

Hamlet
Ffrwst, ffrwst, [4] Horatio! y bwyd pobedig at
Y claddedigaeth [5] lanwai mewn modd oer
Y neithior-fyrddau. O na chawswn i
Gyfarfod fy mhrif elyn yn y nef
Yn gynt, Horatio! na chael gwel'd y dydd!—
Fy nhad,—yr wyf yn tybio gwel'd fy nhad.

Horatio
Yn mha le, f" arglwydd?

Hamlet
Yn ngolygon fy
Meddylfryd dwfn, Horatio.

Horatio
Unwaith mi 'i gwelais— 'r oedd yn frenin da.

Hamlet
Dyn oedd,
Ag i ni ei gymeryd oll yn oll,
Na welwn byth ei debyg yma mwy.

Horatio
Fy arglwydd, yr wyf fi yn meddwl im'
Ei weled neithiwr.

Hamlet
Gweled, meddwch! pwy?

Horatio
Fy arglwydd, gwel'd y brenin eich tad chwi.

Hamlet
Y brenin fy nhad i!

Horatio
Eich syndod cymedrolwch, rhoddwch glust
Wrandawgar, nes im' ddweud yr oll i chwi
O'r mawr ddieithrwch hwn, o'r hyn y mae'r
Boneddwyr hyn yn llygaid dyst.

Hamlet
Er cariad Duw! gadewch ei glywed oll.

Horatio
Dwy nos ynghyd, y boneddigion hyn,
Marcellus a Bernardo, tra yr o'ent
Ar wyliadwriaeth, pan yn nhrymder, ac
Yn nghanol nos, a welsant yr un peth.
Rhyw wrthddrych fel eich tad, yn arfog oll,
O'r pen i'r traed, a ddenai ger eu bron,
Ac â difrifol rodiad, araf a
Breninol, elai heibio iddynt hwy;
O flaen eu llygaid dychrynedig a
Synedig-ofnus, cerddai ef dair gwaith,
O fewn i hŷd ei ddulffon; [6] hwythau yn
Ymdoddi bron i geulfa gan eu hofn,
Mud-safent, heb ymddyddan dim âg ef.
Hyn yma i mi, oedd yn ddieithrol iawn,
A mynegasant im'; a minau eis
Y drydedd nos, i wylio gyda hwynt.
Fel y dywedent am yr amser bu
A ffurf y peth, pob gair a ddaeth yn wir.
Yr yspryd ddaeth;—eich tad adwaenwn i,
Ac nid mwy tebyg yw y dwylaw hyn.

Hamlet
Ond yn mha le bu hyn?

Horatio
Fy arglwydd, draw
Ar yr esgynlawr, lle y gwyliem ni.

Hamlet
Ond ai ni siaradasoch gydag ef?

Horatio
Fy arglwydd, do; ond nid atebodd ddim;
Ond unwaith, tybiais iddo godi ei ben,
A pharotoi i symud, fel pe am
Ymddyddan; ond pryd hwnw 'r ceiliog a
Grochganodd; ar y sain ymgilio wnaeth
Ar frys ì ffordd, a llwyr ddiflanodd hwnt
O'n golwg ni.

Hamlet
Mae hyn yn hynod iawn.

Horatio
Fy anrhydeddus arglwydd, fel wy 'n fyw
Mae 'n wir; a meddyliasom ei bod yn
Ysgrifenedig yn ein dyled-swydd,
I adael i chwi wybod hyn.

Hamlet
Yn wir, yn wir, syrs, hyn a'm blina i,
A fyddwch chwi yn gwylio'r noson hon?

Oll
Fy arglwydd, byddwn.

Hamlet
Yn arfog, meddwch chwi?

Oll
Yn arfog, f' arglwydd,

Hamlet
O'r top i'r gwaelod oll?

Oll
Fy arglwydd, ïe, oll o'i ben i'w draed.

Hamlet
Nis gwelsoch chwi, gan hyny, ei wyneb ef?

Horatio
Fy arglwydd, do; ei het i fyny oedd.

Hamlet
Beth! a oedd ef yn edrych gyda gwg?

Horatio
Gwynebpryd mwy mewn gofid, nac mewn dig.

Hamlet
Ai gwelw a'i coch?

Horatio
Na, hynod welw oedd.

Hamlet
Ac a sefydlai 'i lygaid arnoch chwi?

Horatio
Gwnai yn ddidor.

Hamlet
O! na fuaswn yno gyda chwi.

Horatio
Synasai chwi yn fawr.

Hamlet
Pur debyg, tra thebygol, a wnaeth ef
Arosiad hir?

Horatio
Tra y gallasai un
A brys cymedrol gyfrif cant.

Marcellus, Bernardo
Yn hŵy, yn hŵy.

Horatio
Nid tra y gwelais i ef.

Hamlet
Oedd ei farf
Yn llwyd? Nac oedd?

Horatio
Yr oedd, fel gwelais i
Hi yn ei fywyd, yn arianaidd ddu.

Hamlet
Myfi a wyliaf heno; gallai daw
I rodio eto.

Horatio
Mi ro'wn fy ngair y gwna.

Hamlet
Os gwisga berson fy ardderchog dad,
Siaradaf gydag ef, pe uffern ddofn
Ymrythai a pheri i mi dewi a son.
Atolwg 'rwyf, os gwnaethoch guddio hyd
Yn awr yr ymddangosiad hwn, boed e
Yn eich dystawrwydd eto 'n para yn nghudd;
A pha beth bynag heno gymer le,
Deallwch ef, ond na fynegwch ddim;
Eich cymwynasau a wobrwyaf fì,
Am hyny'n awr, yniach i chwi: ar yr
Esgynlawr, rhwng un-ar-ddeg a haner nos,
Ymwelaf â chwychwi.

Oll
Ein dyled a
Gyflwynwn i'ch hanrhydedd, yr awr hon.

Hamlet
Eich cariad, fel myfi i chwi: yn iach.


HORATIO, MARCELLUS, a BERNARDO, yn ymadael.

Hamlet
Ysbryd fy nhad dan arfau! Yn wir nid yw
Pob peth yn dda. 'Rwy 'n anmheu rh ddrwg-waith:
O na ddoi 'r nos! Hyd hyny, f' enaid, gwna
Yn llonydd eistedd: daw gweithredoedd drwg
I fyny 'n hyf, ger bron i lygaid dyn,
Er i'r holl ddaear geisio 'u cuddio hwynt.


Yn ymadael.

Notes

1 Ystyr y llinell Seisonig, "A little more than kin, and less than kind," dybygid, yw ei fod beth yn fwy na châr, neu gefnder, ar gyfrif priodas ei fam ; ond yr oedd beth yn llai na mab, am nad oedd y berthynas wedi ei sylfaenu ar natur. Dewiswyd y gair mab yn y cyfieithiad am ei fod newydd gael ei awgrymu gan y brenin. replay
2 Yr oedd Hamlet o dueddfryd pur neillduedig, a thybia rhai ei fod yn cyfeirio yma at y chwithdod a deimlai, wrth gael ei gadw oddiwrth eì astudiaethau, i chwareu y prif ŵr llys yn y deyrnas. Yr oedd mewn gormod o lawenydd a gormod o rysedd. replay
3 Apollo. replay
4 Saes., "Thrift, thrift." Tybir fod Hamlet yn cymeryd yma eiriau diweddaf Horatio mewn ffurf arall, fel y mae diwydrwydd neu dyfalwch (un meddwl i thríft), yn arwyddo gweithrediad diyspeidiol, diorphwys. Mae yr ymadrodd yn wir yn un lled amwys, gan y gall olygu hefyd fod cynildeb (ystyr arall thrift) yn cael ei arfer, trwy ddefnyddio ymborth yr arwyl i gynal y neithior. Y syniad cyntaf a fabwysiadwyd uchod. replay
5 Arferid gynt barotoi bwydydd oerion ar gyfer claddedigaethau. replay
6 Truncheon. replay
a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2