GOLYGFA V Rhan fwy neillduedig o'r Esgynlawr. Yr YSBRYD a HAMLET yn ailfyned yno. |
|
Hamlet |
Pa le y myni di fy arwain i? Siarada; nid af fi yn mhellach gam. |
Ysbryd |
Clyw fi. |
Hamlet |
Mi wnaf. |
Ysbryd |
Fy awr sydd bron a d'od, Pan orfydd im' ddychwelyd eto i Yr ufel, a'r poenydiol fflamau tân. |
Hamlet |
O, druan ysbryd wyt! |
Ysbryd |
Na wag dosturia wrthyf, eithr rho Wrandawiad tra difrifol i'r hyn sydd I'w draethu genyf. |
Hamlet |
Siarad, ydwyf rwym O wrandaw. |
Ysbryd |
Felly wyt i ddial pan Y clywi. |
Hamlet |
Beth? |
Ysbryd |
Ysbryd dy dad wyf fi; Ddedfrydwyd dros ryw hyd, i rodio 'r nos, Ac, yn y dydd, rhwym i ymprydio wyf Mewn eirias dan, nes i'r beïau anfad a Gyflawnais i yn nyddiau 'm cnawd, oll gael Eu llosgi a'u glanâu. Gwaherddir fi ddadguddio pethau cudd Fy ngharchar caeth, ac onide mi ro'wn Fath hanes it, y gwnai'r ysgafnaf air Ddyrwygo 'th enaid; rhewi 'th ieuanc waed, A gwneud i'th lygaid neidio megys ser, Dy rwym gudynau i ymddatod, ac I bob gwalltflewyn sefyll ar dy en Fel pluen-fonion ar y draenog hyll; Ond ni cheir gwneud yr erch ddadguddiad hwn, O'r bythol fyd, i glustiau cig a gwaed:— Gwna wrando, gwrando, O gwrando! os erioed Y ceraist ti dy anwyl dad,— |
Hamlet |
O'r nefoedd fawr! |
Ysbryd |
Diala 'r mwrddrad annaturiol ac Erchyllaidd hwn. |
Hamlet |
Mwrddrad? |
Ysbryd |
Mwrddrad erchyll ar Y goreu; hwn yn fwy echryslon fyth, Dyeithrol, a thra annaturiol oedd. |
Hamlet |
Prysura, d'wed, fel gallwyf fyned ar Chwim edyn myfyr, neu feddyliau serch I ddial hyn. |
Ysbryd |
Mi wela 'th fod yn barod, ac yn wir Mwy llwrf y byddet nag yw 'r tewion chwyn Sy'n braenu 'n dawel ar lân Lethe draw Pe na wneit symud gyda hyn! Yn awr, Clyw, Hamlet; d'wedir, tra yr hunwn yn Fy mherllan, i sarph fy ngholynu 'n llym; Mae holl glust Denmarc felly yn cael cam, [9] Trwy hanes gau am fy marwolaeth i: Ond gwel! a gwybydd di, ardderchog lanc, Y sarph golynodd fywyd d' anwyl dad, A geir yn awr yn gwisgo 'i goron ef. |
Hamlet |
O fy mhrophwydol enaid! f' ewythr oedd? |
Ysbryd |
Ië, y bwystfil godinebus, ac Ymlosgol hwnw, âg arabaidd swyn, A rhoddion bradus (O arabedd tra Drygionus! ac O roddion! feddent y Galluoedd i hud-dwyllo i'r fath radd!) Enillodd i'w drachwantau ewyllys fy Mrenines dra rhinweddol, fel y gwnai Ymddangos i fy ngolwg i fy hun; O Hamlet, y fath godwm ydoedd hwn! Oddiwrthyf fi, yr hwn â'm cariad oedd O'r urddas hwnw, ag i fyn'd law yn llaw A'r addunedau wnes wrth uno â hi; A syrthio ar adyn gwael, nad ydoedd ei Naturiol ddoniau ond tlawd i'r eiddof fi! Ond rhinwedd, gan na fyn ei symud er Ei charu hi gan anniweirdeb mewn Ffurf nefol, felly chwant, er iddo gael, Ei rwymo gydag angel claer, a wna Foddloni 'i hunan mewn nefolaidd wely, A hir ymborthi ar ysgarthion gwael. Yn araf! tebyg ydyw hyn i sawr Y bore wynt, rhaid im' fod yn fyr:— Tra'n cysgu yn fy mherllan, f' arfer oedd Ar bob prydnawn, ar fy niogel awr Fe ddaeth dy ewythr mewn lladradaidd fodd, A sudd y melldigedig bela [10] mewn Costrelan fach, ac yna i ddorau 'm clust Tywalltodd y distylliad mallus; hwnw sydd A'i effaith mor elynol i waed dyn, Fel, â chyflymdra arian byw, rhed trwy Naturiol ddorau a rhodfeydd y corff; A chyda dirfawr frys yn ebrwydd y Posela ac y cawsia, fel y gwna Defnyna egr droi y llaeth, y teneu a'r Iachusol waed: efelly gwnaeth i mi, Ac yn y man daeth clafr i godi mewn Modd gwahanglwyfus, gyda drewllyd gên Tra ffiaidd, tros fy llyfnaidd gorff i gyd. Fel hyn bu i mi, yn cysgu, trwy law brawd, O fywyd, coron, a brenines gall, Ar unwaith fy nifuddio; a'm tori i lawr Yn mlodau 'm pechod, heb gymuno, heb Ymbarotoi, na derbyn cyn fy nhranc Eneiniad olaf, heb gael ystyried dim,— Fy ngyru ge's i'm cyfrif olaf â Fy holl anmherffeithderau ar fy mhen: O! erchyll! erchyll! tra erchyllaidd! Os Oes natur ynot ti, na oddefa hyn; Na oddef i deyrnwely Denmarc fod Yn lwth trythyllwch, gyda llosgach drwg. Ond pa fodd bynag äi trwy 'r weithred hon, Na lygra'th feddwl, na âd i'th enaid wneud Dim cynllun oll, yn erbyn dy hoff fam; Gad hi i'r nefoedd, ac i'r drain sydd yn Lletŷa yn ei bron, i'w phigo a'i Cholynu hi. Ffarwel ar unwaith it'! Mae 'r fagïen yn dangos nesrwydd gwawr, A llwydo mae ei aneffeithiol dân: Ffarwel, ffarwel, ffarwel! O cofia fi! (Yn ymadael.) |
Hamlet |
O chwi, holl luoedd nef! O ddaear! A Pheth arall? Gaf fi gyplu uffern ddofn?— O ffei!—Dal, dal, fy nghalon, a chywchwi, Fy holl ewynau, peidiwch myn'd yn hen Mewn munyd, deliwch fi i fyny 'n gryf! Dy gofio di? Gwnaf, ysbryd truan, tra Y dalio cof eisteddle oddifewn I'r belen wallgof hon. [11] Dy gofio di? Gwnaf; canys oddiar lech fy nghof yn awr Y sychaf ymaith bob cofnodion hoff, Pob llyfr-ymadrodd, pob rhyw ffurfiau, a Blaenorol argraffiadau gawsant eu Copïo yno; a'th orchymyn di Gaiff fyw o fewn i lyfr a chyfrol fy Ymenydd, heb gymysgu â gwaelach beth: Caiff, myn y Nef! O dra drygionus wraig! O ti ddyhiryn! O ddyhiryn! O! Tydi ddamniedig a gwenieithus ddyn! "Fy nghoflyfr,"— gweddus yw ei roi i lawr, Y gall un wenu, gwenu, a bod 'run pryd Yn ellyll llwyr, o leiaf, sicr wyf Y gall fod felly yn Denmarc. (Yn ysgrifenu.) Efelly, f' ewythr, dyna chwi. 'N awr at fy ngair; Hyn yw,—Ffarwel, ffarwel! O cofia fi! Myfi a'i tyngais. |
Horatio |
(Oddifewn.) Fy arglwydd, fy arglwydd,— |
Marcellus |
(Oddifewn.) Fy arglwydd Hamlet,— |
Horatio |
(Oddifewn.) Y Nef a'i amddiffyno! |
Marcellus |
(Oddifewn.) Felly bo! |
Horatio |
(Oddifewn.) Holo, ho, ho, fy arglwydd! |
Hamlet |
Holo, ho, Ho, lanc! de'wch, de'wch, aderyn, de'wch. [12] |
HORATIO a MARCELLUS yn dyfod ato. |
|
Marcellus |
Ardderchog arglwydd, sut yr ydych chwi? |
Horatio |
Pa newydd, f' arglwydd? |
Hamlet |
O rhyfeddol iawn! |
Horatio |
Fy arglwydd da, mynegwch ef. |
Hamlet |
Na, na; Chwi a'i dadguddiwch. |
Horatio |
Yn enw 'r Nef, ni wnaf. Fy arglwydd da. |
Marcellus |
Na minau, f' arglwydd, chwaith. |
Hamlet |
Pa fodd, atolwg, y dywedwch chwi? A goeliai calon dyn, y peth ofnadwy? Ond—mi gedwch oll yn gudd?— |
Horatio, Marcellus |
Gwnawn, f' arglwydd, myn y nef, mi wnawn. |
Hamlet |
Nid oes ddyhiryn o fewn Denmarc oll, Nad ydyw yn garn cnaf. |
Horatio |
Nid ydoedd raid. I ysbryd godi f' arglwydd, o ei fedd, I dd'wedyd hyn. |
Hamlet |
Pur iawn; yr y'ch yn iawn; Ac felly, heb amgylchu eto fwy, Yr wyf yn cyfrif mai peth gweddaidd yw I'n ysgwyd dwylaw, ac ymadael; chwi Fel y gwna eich gorchwylion, neu yntê Eich dymuniadau 'ch troi—mae gan bob dyn Ryw orchwyl a dymuniad, o'r fath yw,— Ac o fy rhan fy hunan, gwelwch, âf— Atolwg. |
Horatio |
Rhyw eiriau gwylltion digysylltiad yw Y rhai 'n, fy arglwydd. |
Hamlet |
Gofidus wyf O ddyfnder calon bur, eu bod yn dramgwydd; O'm calon gwir ofidus wyf. |
Horatio |
Nid oes, Fy arglwydd, ynddynt unrhyw dramgwydd. |
Hamlet |
Oes y mae, Myn Padrig Sant, Horatio, tramgwydd mawr. Yn nghylch y weledigaeth hon, y mae Yn ysbryd gonest iawn, gwybyddwch hyn; Am eich dymuniad i gael gwybod beth Fu rhyngom ni, meistrolwch hwnw, fel Y mynoch. Ac yn awr, gyfeillion da, Cyfeillion. ysgoleigion, milwyr y'ch, Ac fel y cyfryw caniatewch i mi Gael un dymuniad bach. |
Horatio |
Beth yw, Fy arglwydd, gwnawn. |
Hamlet |
Na wneloch byth Yn hysbys beth a welsoch y nos hon. |
Horatio, Marcellus |
Fy arglwydd, byth nis gwnawn. |
Hamlet |
Na; ond tyngwch hyn. |
Horatio |
Yn wir, fy arglwydd, nis Gwnaf fi. |
Marcellus |
Na minau, f' arglwydd, chwaith, yn wir. |
Hamlet |
Ar fy ngeledd. |
Marcellus |
'Tyngasom hyn, Fy arglwydd. |
Hamlet |
Yn wir, ac ar fy nghledd, Yn wir. |
Ysbryd |
(Odditanodd.) Tyngwch. |
Hamlet |
Ha, ha. 'rhen fachgen! a Ddywedi dithau felly? a wyt ti Fan yna, gywir un? De'wch, de'wch,—chwychwi A glywch hwnyna yn y seler,—de'wch Gydsyniwch dyngu. |
Horatio |
Cynygiwch ffurf y llw, Fy arglwydd. |
Hamlet |
Na wnewch byth son yn nghylch Yr hyn a welsoch, tyngwch wrth fy nghledd. |
Ysbryd |
(Odditanodd.) Tyngwch. |
Hamlet |
Hic et ubique? [13] — Am hyny, bydded i'n Yn wir, ac ar fy nghledd, I newid tir:—De'wch chwi yn mlaen hyd i'r Fan yma, foneddigion, a gwnewch ro'i Eich dwylaw wrth fy nghleddyf, tyngwch wrth Fy nghledd, na wneloch yngan gair yn nghylch Yr hyn a glywsoch yma, y pryd hwn. |
Ysbryd |
(Odditanodd.) Tyngwch wrth ei gledd. |
Hamlet |
Da d'wedaist ti, hen dwrch! A elli di Mor gyflym weithio yn y ddaear? Hen Ragredegydd teilwng yw! eto gwnawn Ymsymud unwaith, fy nghyfeillion da. |
Horatio |
O ddydd a nos! mae hyn yn ddyeithr iawn! |
Hamlet |
Ac felly fel dyeithrbeth dyro di Groesawiad iddo. Y mae, Horatio, fwy O bethau yn y nef a'r ddaear hon Nag a freuddwydiodd eich hathroniaeth chwi. Ond de'wch;— Ac eto yma, fel o'r blaen, byth, byth— Trugaredd rad a'ch cynorthwyo chwi! Pa mor ddyeithr ac ôd bynag yr Wyf fi yn ymddwyn, ac y gwelaf raid I mi ymddangos mewn munudiol fodd Rhyw amser pwysig eto sydd o'm blaen, Ar y fath amser, na foed i chwi byth, A breichiau llwythog wneud fel hyn, a'r llall, Neu benysgydwad doeth, o'r fath a'r fath, Neu trwy ro'i allan ymadroddion mwys— Fel hyn, Wel, wel, fe wyddom ni;—neu, Ni a allem, a phe mynem; Neu, Pe mynem ni siarad;—neu, Y mae, a phe gallent;— Neu siarad dwbl ystyr o'r fath hyn; I ddangos dim cy'byddiaeth â myfi:— Hyn dyngwch chwi! a boed i fythol ras A hael drugaredd, ro'i pob cymhorth i'ch. |
Ysbryd |
(Odditanodd.) Tyngwch! |
Hamlet |
Wel, gorphwys, gorphwys bellach O tydi, Derfysglyd ysbryd! Foneddigion, â'm Holl gariad y cyflwynaf fi fy hun; I chwi, a'r hyn all tlawd fel Hamlet, wneud I ddangos cariad a chyfeillach wir, Mewn dim ni phallaf, os fy Nuw a'i myn. Gadewch i ni gydfyn'd i fewn, a chwi A'ch bysedd ar eich gwefus, erfyn wyf. Y mae yr amser yn annhrefnus; O Ddygasedd melldigedig! I mi gael Fy ngeni 'rioed i ddwyn y peth i drefn! Na, deuwch, awn ein tri yn nghyd. |
Oll yn ymadael. |