1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400

Pleser a Gofid (1787)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant)

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 601-900
Rondol
Ac hyd y ffyrdd ynte mor gomfforddus,
Maent hwy'n ddialedig am eu Ladies;
Yn puteinio, ac yn meddwi, ac yn colli eu co',
A rhei'ny yn eu robio'n rheibus.

Ni bydd na play, na show, na lottery,
Na byddant hwy ynddi wedi meddwi;
Oes ryfedd wedi, mewn cyfri' cas,
I'r fath rai diras dori?

Sian
Wel, mae'n gofyn i borthmyn, 'rydwy'n coelio
Fod yn ofalus wrth drafaelio;
Nid puteinio, a meddwi, a rhyw lol fel hyn,
8y'n addas gyda chyment eiddo.

Rondol
Byw maent hwy yn y tafarne
Yn ddyddan, a'r wlad geiff ddyodde';
Ni cheiff llawer un ond chwerthin am ei ben,
Heb gael ar ddamwen ddime.

Sian
Dyna'r gofid mwyaf a all un ddisgwyl.
Ar ol magu lloie yn gu ac yn anwyl;
Eu gollwng hwy i ffordd dan ddwylaw porthmyn,
Heb gael dim daioni fyth am danyn'.

Rondol
Dyna ddysgu rai i goelio rogsiach digywilydd,
Pac o wag ladron yn twyllo'r gwledydd;
Ni feddant hwy ddim at fyn'd yn borthmyn,
Ond rhywfaint o Saesneg a thipyn am danyn'.
Os ceir botas a 'spardune, a cheffyl dano,
A chôb, a het, a bwcwl, dyna'r porthmon yn picio;
Ac yn cletsian ei chwip i fynu ac i lawr,
Fe wneiff ystwr mawr nes toro.

Sian
Wel, 'rydwy'n gweled y porthmyn creulon,
A'r jockeys ceffyle yn gwneud yn ffolion,
Yn trin eu trics a'u frolics ffraeth
Twyllodrus yn waeth na lladron.

Ond pe clywsech y dyn oedd acw'n llefaru,
Fe fuase'ch calon yn rhyfeddu,
Gyment o dwyll sydd yn nghalon dyn,
Gwenwyn a phob drygioni.

Rondol
Wrth gofio, Sian, ni feddylies unweth
Ofyn i chwi yn mh'le 'roedd text y bregeth.

Sian
'Roedd e' yn y fan mae son yn ffri
Am gariad yn ddiragorieth.

Rondol
'Rwy'n leicio'r fan yn eglur,
Mae'n peri i ni garu'r brodyr;
Ond caru pob siabas, diflas dôn,
Annethe yw son am wneuthur.

Ni charwn i yn fy nghalon
Yn fy myw mo'r bobl dlodion,
Nac un o'r rhai gwanllyd, haerllug hil,
Annghynil sydd mewn anghenion.

Sian
'Does ryfedd fod cyment mewn angen a phrinder,
Gan mor gyffredin ydyw balchder;
Mae ffasiwne newydd trwy'r wlad hon,
Yn anafu dynion ofer.

O! pan fu'm i yn y dref ddiwetha,
Ni weles i erioed y fath ffieidd-dra,
Rhwng tîne a phene merched ffol,
Rhyfeddol ddigywilydd-dra.

'Roedd eu pene nhw'n ddigon melldigedig,
Y capie wire, a'r torche cythreulig;
Ac mae 'rwan glustoge fel 'strodur car
Gwmpas tîne'r war buteinig.

Rondol
A ddarfu i chwi farcio, Sian, nos Wener,
Y bwcle mawr oedd gan Sion y Sadler?
Ac y mae rhai cyment gan swags y dre'
Ag aerwyon lloie llawer.

Sian
Does ryfedd fod cyment erlid,
Yn mhob gafel oherwydd Gofid;
Balchder ac oferedd ydyw'r brad,
Fe blygodd y wlad o'i blegyd.

Rondol
Fe blygi rhagor eto,
Mewn gofid bydd amryw'n gwyfo;
A phan ddel yr amser i'w dwyn o'r byd,
Aiff Gofid a nhwy gydag efo.

Sian
Diolchwn i ni'n hunen
Fod genym ni eiddo i'n perchen;
Ni gadwn i ffwrdd bob Gofid ffol,
Ac ymd'rawed y bobl druen.

Brysiwch bellach adre heb oedi,
Fe ddylid, chwi wyddoch, fyn'd bawb i weddi.


Exit.

Rondol
Gâd ollwng y wêdd sy'n aredig yr âr,
Mae hi eto'n rhy gynar geny'.

Wel, ni welodd neb â'i lyged,
Fath wraig a Sian ar les ei hened;
Hi ddeil i ddarllen ac i ganu,
Oni bydda' i'n cael gwaith a pheidio a chysgu.

Ac yr ydwy' i'n gweled yn rhyfeddol
Y darllen a'r canu bydd rhai pobol;
'Rwy'n leicio crefydd fy hun yn odieth,
Ond nid da genyf gym'ryd dim llawer o drafïerth.

Peth da ydyw peidio tyngu a rhegi,
A pheth pur anfuddiol y gwela'i feddwi;
Bod yn sad a lled onest, a siarad yn dyner,
Fe geiff dyn ei goelio'n well o lawer.

Mae rhyw enw o grefydd yn sefyll yn gryfach,
Tra fo'r wlad yma'n ole, ac yn llawer manylach;
Arferyd dweyd "Dear," "O! 'ranwyl," ac "Felly,"
Pe baid heb ddim crefydd yn y byd ond hyny.

Mi a glywn ar fy nghalon ganu 'rwan,
Mae'n gerdd hynod o'm crefydd fy hunan,
A chystal a salm yn ddigon siwr,
At gyflwr gwr ag arian.

Cân
(Cân ar "Godiad Yr Ehedydd Bach".)
On'd dedwydd a godidog
Yw gweithred gwr cywaethog '
Cysgod crefydd, gwisgiad cry',
Sy'n hardd fantellu'r tyllog.
Peth dawnus yn mhlith dynion,
Yw enw crefydd union,
Ac anrhydeddus barchus bur,
Wrth agwedd gwyr cwaethogion;
Nid yw'r tlodedd daeredd dôn
Ond gwirion a digariad;
Yr iawn arianog enwog wr,
Gaiff wrando'n siwr ei siarad,
Dyna'r dyn trwy honour da,
Mae'r mawredd a'r cymeriad;
Mewn society a phob swydd,
Mae'n ddedwydd a ddywedo,
Ac yn y purdan gan y Pab
Fe guddir mab ag eiddo;
Yr arian s'yn goreuro swydd,
Gwna i gelwydd gael ei goelio.

Nid buddiol cydnabyddiaeth
A'r gweiniaid yn eu gweniaeth,
Os can' nhwy'i cynwys, a'n o'u co'
I ffals ymrwbio am rywbeth,
Mae'n rhaid i ddyn pwerus
Fyw'n filain a gofalus,
A rheswm short, a golwg sur,
Yn nghanol gwyr anghenus.
Mae'n calonau ni'n yn mhob man
Yn c'ledu o ran ein clydwch,
Talcen putain i ni sydd
Heb arwydd c'wilydd, coeliwch,
A wyneb pres rhag anhap bri,
Yw'n hurddas ni a'n harddwch,
Tebyg ydym ni wrth ein chwant
Heb fethiant i'r lefiathan,
Fe 'sgydwa'i ben, fe chwardd yn bur,
Ar bicell ddur neu darian,
Ac felly ninau, swyddau serth,
Oherwydd nerth ein harian.

Rondol
Mi a dawaf a chrychnadu,
Bellach, mae fy llais yn pallu,
Ond mi wn i mi ddweyd y gwir yn ddilai,
Heddyw, mae rhai yn ei haeddu,


Enter Madam Rhagluniaeth yn canu "Gorddigan y Pibydd Coch."

Rhagluniaeth
Gwrandewch yn awr fawr a mân gân glân Ragluniaeth,
I mi mor deg, yma ar dwyn, mae'r olwyn reolaeth;
Pura sail pob rhyw swydd, hwynt arwydd naturiaeth;
Pob cwymp a dyrchafiaeth sydd a'u lluniaeth i'm llaw;
Doethineb Ior wnaeth y byd, a'r hyn sydd gyd ynddo,
A'i air ef sydd o'i ras yn addas ddefnyddio,
Rhagluniaeth rad, glanwaith rodd, a ryngo fodd iddo;
Pob gwedd a ddigwyddo o'm dwylaw a ddaw,
Mae pob dyn yn llaw Duw yn cynwys i'w amcanion,
Fel clai rhwydd yn llaw rydd crochenydd awch union;
Ef oll wneiff, o'i allu 'nawr, rai'n fawr, a rhai'n fyrion.
A pha'm na bydd dynion mwy boddlon yn byw?
Creaduriaid glân, mân a mawr, ag aflan yn gyfled,
Carnolion byd, fryd ddi-freg, a hoywdeg ehediaid;
Lluoedd llawn, ddawn diddysg, pysg ac ymlusgiaid;
Rhagluniaeth ganlyniad sy'n rhediad phob rhyw.

Rhagluniaeth nawf, glanwaith nod, i'r pysgod fel pesgon,
Y mawr eu nherth mewn môr a nant lyncant y gwaelion,
Byw wna'r dewr ar ben y dwl, a'u meddwl a'u moddion,
Doethineb y cyfion, llaw roddion, llwyr yw,
Yn ei law anwyl e' mae calonau pelynion;
Darostwng beilch drwst, a bar, a chodi'r gwar gwirion,
Mwynaidd yw 'mynedd dda, dilidia wrth dylodion;
Fe dderbyn dylodion i foddion ail fyw,
Enfyn ef iawn farn i'r goludog i'w g'ledi,
Newynog noeth llenwi wna o'i anwyl ddaioni,
Nerth a dawn wrth y dydd, radd enwog, rydd ini;
Os trown o'n trueni ei gwmni ef gawn.
O! am nerth yma'n Nuw i fyw ac i farw,
Hwn yw'r sail unig sydd pan dderfydd pob twrw;
Un yw ef yn ei air pan fo'r byd yn bair berw,
Gwynfyd fo'r dydd hwnw yn ei enw fe'n iawn.


Enter Mr. Rheswm Natur.

Rheswm Natur
Chwenycha' i'n 'nawr, a mawr yw 'mwriad,
Gael deall cyneddf dull eich caniad.

Rhagluniaeth
Pwy ydych chwi, a pheth yw'ch henw?

Rheswm Natur
Rheswm natur maent yn fy ngalw.

Dyn wyf a gafodd a dawn gyfan
Fy nwyn i fynu'n ol fy anian,
Yn mhob iaith a dysg oruchel,
Fel hwnw gynt wrth draed Gamaliel.

Ac er hyn, 'rwy'n ffaelu'n lanweth
Ddeall goleuni o ddull Rhaglunieth;
Mae'r droell hono'n chwyldroi'n brysur,
Ddamweinie croes i Reswm Natur.

Rhagluniaeth
Nid Rheswm Natur, ystyr, clyw,
All union farnu pethe Duw;
Nicodemus yw cydymeth
Plant y byd a'u hanwybodeth.

Mae'n rhaid cael dyn yn hollol allan
O syniad cnawd a balchder hunan,
A marw i'r cnawd a byw i Dduw,
Cyn perffeth ddirnad pa beth yw.

Rheswm Natur
Mae hyn 'rwy'n gweled galed gwlwm,
Tu hwnt i ddeall cnawdol Reswm,
Peth dirgel iawn yn gweithio'n groes,
Yw rhagluniaethe yn mhob oes.

Rhagluniaeth
Rhaglunieth iachus y Gorucha',
Ro'i Lot ymwared o Gomora;
A Noa wneud arch i'w gadw o'r dystryw,
Chwech ugen mlynedd cyn y diluw.

Rhaglunieth ddirgel fu'r athrylith,
Yn dysgu Jacob gael y fendith;
A gwerthu Joseph i law'r Aiphtwyr,
I gadw'i fywyd ef a'i frodyr.

Rhagluniaethe diamgyffred,
Fu i Moses gyda'r Israelied;
Josua, Dafydd, a Hezecia,
A'r wraig weddw o Sarepta.

Fe gadwodd llaw Rhaglunieth lân,
Trwy ffau'r llewod a ffwrn dân;
Trwy ene'r morfil yn y mawrfor,
Trwy fywyd Job, ac amryw'n rhagor.

Pob peth sy'n llaw yr Hwn a all
Ddarostwng un a chodi'r llall;
Ni ddichon un dyn, gwnaed ei egni,
'Chwanegu cyfudd at ei faintioli.

Rheswm Natur
Rhyfedd! rhyfedd yw rheoleth,
A llwyr ganlyniad llaw Rhaglunieth;
Rhai'n cael pleser ac esmwythfyd,
A'r lleill yn gyfan dan wall gofid.

Gofid natur sydd yn greulon,
Yn gwasgu beunydd yn mhob dybenion,
Mae genyf ganiad oernad arno,
Gan mor aflonydd mae'n ymflino,

Cân
(Cân ar "Ruabon Bells".)
Tosturus ydyw ystyried,
Wrth weled anferth wall;
A'r gofid byd sy'n gwasgu,
'Mron llethu hwn a'r llall,
I b'le troir, na b'o bloedd trwst;
Ac anian ffrwst, rhyw gwynion ffraeth,
A dynol blant yn dynn eu bloedd,
Eu bod yn g'oedd a'u byd yn gaeth,
Prudd, prudd, gwae anfon swn gofidiau sydd,
Yn gas o ran, gwir eisiau 'mroi;
Am rym i ffoi dan rwymau ffydd,
P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'?
Cheir odid beth, o ryddid byd,
Heb gadwyn gofid gyda e'.

Gofidus byw dan rwymau,
Gofidus bod yn rhydd,
Gofidus nos mewn gwely,
Gofidus ganol ddydd,
Mae gofid blin yn gafod bleth,
Wrth dalu treth neu ddilyn trâd,
I dori dyn ar dir a dwr,
Mae mawr ystwr ymhob rhyw stâd.
Blin, blin, gofidiau traws, gwael fod eu trin,
Eu pwyth sy'n bwys 'mhob peth sy'n bod,
Trwy riwl y rhod, trwy'r haul a'r hin,
P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'?
Cheir odid beth o ryddid byd,
Heb gadwyn gofid gydag e'.

Mae gofid yn y plentyn,
Mae gofid yn y fam,
Mae gofid mewn rhieni,
Mae cyni lawer cam.
Gofidiau'r byd, anfeidrol bwys,
Raid ddiodde'n ddwys o ddydd i ddydd,
Gofidiau maith yw'n iaith a'n tôn,
A gresyn son am groesau sydd—
Briw, briw sy'n dynn ar elfen dynolryw,
Gofidiau crych trwy'r cnawd a'r croen,
Mewn amryw boen 'ry'm ni yma'n byw,
P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'i
Cheir odid beth o ryddid byd,
Heb gadwyn gofid gydag e'.

Heblaw'r allanol ofid,

1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400