1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400

Pleser a Gofid (1787)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant)

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 301-600
Pleser
Mi eis gyda nghâr Tubal, ni fu erioed mo'n tebyg;
Wrth glywed gôf yn dulio haiarn a dur,
I ddyfeisio mesur miwsig.

Ac felly 'rwy'n Bleser eto,
Trwy natur yn crychneidio,
Am rai fo a ffidl wrth eu clun,
Neu delyn yn eu dwylo.

Gofid
Felly 'roedd Saul yn Israel,
Yn cael heddwch gan y cythrel;
Ond pan ddystawo pob ystwr,
Mae Gofid yn siwr mewn gafel.

Gwreiddyn euogrwydd, cydwybod effro,
Gofid a melldith wnaeth.i Gain ymwylltio;
A chalon g'ledwch fel Pharo ddiglod,
I'w ddirnad, oedd y nod oedd arno.

Felly pan gollo rhai'r gwirionedd,
Hwy gym'rant eu pleser yn mhob agwedd,
Pe gwelit heddyw, mae ef fel o'r blaen,
Yma blant i Gain ddigonedd.

Pleser
Ni waeth i ti p'un, mae rhei'ny weithie,
Yn caru pleser yn eu calone;
Eu dull a'u cerddediad ar bob cam,
Ydyw siarad am blesere.

Gofid
Wel, os ceir Pleser dipyn heno,
Bydd Gofid, cyn y fory, yn dechre cyfeirio;
Ni cheir Pleser cnawdol am fawr hyd,
Na fo Gofid gydag efo.

Pleser
Wel, edrych di ar foddion,
Ac ymddygiad y boneddigion;
Ond ydyw rhei'ny'n cael o hyd,
Yn fwynedd y byd a fynon'

Gofid
Ond ydyw'r boneddigion o'u mawrhydi,
Yn gwerthu tiroedd, ac yn tori,
Ac yn gadel eu gwlad o fan i fan,
Mae Gofid yn rhan i'r rhei'ni.

Pleser
Ni chymer boneddigion fawr o ofidi,
Oni thorant eu gyddfe neu eu perfeddi;
Am eu bolie a'u chwante tra bo ynddynt chwyth,
Mae'u naturieth nhw byth yn tori.

Gofid
Pan darffo'r hen anian, mae natur yn oeri,
Mae'r balchder a ffrwgwd, a'r sibrwd yn sobri,
Dyna ddaeth a'r afradlon gynt
Am ei helynt i ymholi.

Pleser
Peth caled ydyw barnu
Pa fodd mae'r doethineb mawr yn trefnu;
Os ychydig fon'ddigion alwyd o'u bai,
Mewn rhinwedd mae rhai er hyny.

Gofid
Digon gwir fod rhai'n cael eu gwared
Trwy ofid, ac erlid, a chaethiwed;
Gwasgfeuon y byd a th'lodi yn nglyn
Sy'n dwyn llawer dyn i deimlad,

Pleser
Tu hwnt i bob teimlad na chyfiawnder,
Y gwyr o gyfraith sy'n mynu eu Pleser;
Nid ydynt hwy'n hidio dyn na Duw,
Ond myn'd yn un byw o bwer.

Mae'u rhwyde hwy'n cyrhedd fel gwe'r coryn,
A'u rhwysg a'u mawr osgo trwy'r byd yn goresgyn;
Gellir gweled cleisie ar Ddyffryn Clwyd,
Ac yn mache Llwyd Pen Mechyn.

Gofid
Wel chwi glywsoch fel ca'dd yr Aiphtied,
Ddyodde llawn gystudd rhwng llau a locustied;
Ond mae pla'r cyfreithwyr yn fwy o frad,
I wneud dyben y wlad 'rwy'n tybied.

Wrth ddilyn y gyfreth areth erwin,
Llaweroedd aeth heddyw heb na thy na thyddyn;
Rhyfedd os nad oes dial a braw,
Rhyw ddiwrnod a ddaw arnyn'.

Pleser
Wel, llawer gwell a fyddwn ni er hyny,
Fod cyfreithwyr ffoglud yn uffern yn ffaglu;
Os byddwn nine'r boblach ga'dd flinder y byd,
O genfigen yn cydfygu.

Gofid
Cyn barn mae dadlu, dyma'r bywyd
Y dyle'r annuwiol gael ei newid;
'Does ragor i'r cyfoethog na'r tylawd
A rodio'n ol y cnawd a'i ryddid.

Pleser
Gâd heibio'r cyfreithwyr, a thro tuag adre',
At y bobl gyffredin a'r offeiriade;
'Rwy'n gweled rhai canolig rhwng gwych a gwael,
Yn siwrach o gael plesere,

Gofid
Plesere diawledig sydd i rai tylodion,
Yfed a gwario, dyna fyd gwirion;
A'r gwpan yn sêl, heb gael prin fara sych,
A'r Gofid crych yn y crochon.

Pleser
Wel, y ffermwyr i'w hateb a'i pia hi eto,
Maent hwy'n byw'n weddus ar ben eu heidde.

Gofid
Rhwng trethi ac ardrethion, a balchder serth,
Mae Gofid anferth yno.

A'r bon'ddigion geirwon sydd ar eu gore,
Am eu troi nhw'n ddinerth o'u tir a'u meddiane;
A hwythe'r offeiried yn gollwng i'r diawl,
Mor nodawl yr eneidie.

Rhwng y cythrel a'r bon'ddigion,
Mae hi'n helynt lidiog ar dylodion,
'Does dim esmwythder i'w gael o hyd,
Yn un o'r ddau fyd i ynfydion.

Pleser
Nis gwn i ai celwydd ai gwir yw coelion,
Fod rhai wedi'u genii Ofid ac i gwynion;.
Ac mai 'chydig yn'y byd a gânt
O fwyniant, gwnant a fynon'.

Gofid
O, siarad annghall yw son am dynged,
On'd oes gras i ragflaenu pob rhyw blaened?
Onide ni waeth i ddynion ddilyn eu chwant,
'Run foliant a'r anifeilied.

Beth ydyw'r darllen a'r holl bregethu?
Ond galw dynion i gael daioni;
O ran mae'n rhaid i bob un ymroi,
Droi wyneb o'i drueni.

Pleser
Wel, ymro di'n fynych, mi dd'wedaf ine,
Fod rhai'n byw'n siriol yn eu Plesere;
Wrth ganu a dawnsio, a ffwndro'n ffol,
Gytunol efo'r tane.

Gofid
O, dynion gonest sy'n dawnsio ac yn canu,
Angylion i'w gweled, ond diawlied i'w teulu;
Pleser naturiol yw clywed swn tant,
A'r wraig a'r plant yn nadu.

Pleser
Peth hawddgar yw dynes wenlan groen dene,
Wedi ymwisgo â dull odieth, yn hardd ei dillade.

Gofid
Wel, os bydd iddi hithe ddilyn ei chwant,
Aiff ei dillad yn gant o dylle.

Pleser
Wel, wfft i ti Gofid, on'd wyt yn mhob gafel,
Yn dyfod yn o ryfedd, nod y dafarn a'r efel.

Gofid
Ffarwel i ti rwan, mi âf ar fy rhod,
Ond na feddwl fy mod yn ymadel.


Exit.

Pleser
'Rwy'n meddwl ac yn ofni
Nad hawdd ymado â thi;
'Ran y peth a hauo ni yn ein blys,
Raid ini'n ofidus fedi.

Mae'n gorfod i lawer am fyw'n rhy lawen,
Gario eu gofid ar eu cefen;
Nid oes am boeni mawr a bach
Mo'i ddewrach ar y ddae'ren.

Mae'n rhaid i'r hen wrachod, lle codo fe'i wrychyn,
Nid gwiw gwneud cuchie, rhy hwyr fydd cychwyn;
Gan gario'u cyde, a'u codie, a'u cêr,
Rhag ofn ei wedd egr ddygyn.

Fe fedr ystwytho'n enbyd,
A digloi cymale dioglyd,
A gwneud i bawb fo'n chwenych byw
Feddwl am ryw gelfyddyd.

Gwneiff i rai rhag newyn ysgubo simneue,
Carthu tai bach, a chario carpie;
Rhai'n nadu ac yn crefu, yn llymion eu crwyn,
Rhai a ballads er mwyn eu bolie.

Felly mae Gofid, os ceiff rai mewn gefyn,
Yn burion scoolmeistar, fe wneiff iddynt ymestyn;
Os byddant i onestrwydd yn rhy stiff neu'n rhy falch,
Fe'i tyniff y gwalch nhw i'r tenyn.

Gan hyny'n bwyllus, dymunwn bellach,
Gael myn'd â rhyw fusness drwy'r byd a'i fasnach,
Heb ormod Gofid na Phleser chwaith,
Mae hono'n daith fwy doethach.


Exit.

Enter Rondol Roundun, y Cybydd.

Rondol
Wel, y mae hyn yn aflwydd gerwin,
Ni alla'i ddangos fy wyneb na fo i mi wenwyn;
Rhyw garpiach fawiach yn gwaeddi ar f'ol,
A'm galw i Rondol Roundun.

Ond mi ddweda' i'r hanes fel 'rwy' heno
Yn Rondol Roundun, os gwnewch chwi wrando;
Chwi glywsoch am y Roundied fu ar hynt,
Presbyterians oedd gynt yn 'styrio.

Ac wrth y rhai'n o'r dechre
Fe lynodd fy mhobline,
A'u dilyn hwy'n glir mewn tref a gwlad
Y bydde 'nhad a 'nheidie.

Ni fynent hwy o hyd eu hamser
Ddim son am grefydd Eglwys Loegr;
Ond y Presbyterians yn mhob rhyw,
'Rwyf fine'n byw 'run faner.

Mi briodes wraig dda iawn ei theimlad,
Ni fu 'rioed un dostach am y Methodistied,
Ac yn wir mae hi am y byd gerbron,
Ac yn ddigon calon galed.

Mae hi'n wraig arafedd, addfwyn, rywiog,
Ac yn edrych yn llonydd, ond hi gogiff y llwynog;
Os caiff hi ymgais ar fantais fwyn,
Hi a ddirwyn yn gynddeiriog.

'Rydwy' i'n lew erwin am hel arian,
Ond mae hi'n well o'r haner am dynu ati'i hunan;
O rhyfedd mor gyfrwys y bydd hi'n gwneud gwên,
Wrth fachu rhyw fargen fechan.

Hi ddywed cyn deced, os bydd un ffordd a dycia,
Ac a ddeniff i'w gwinedd y cryf fel y gwana';
O, mor wyliadwrus y bydd hi o hyd,
A'i gofal am y byd yn gyfa'.

Hi a hidla wybedyn, mae'n rhy onest i beidio,
Ac a lynca gamel 'run pryd dan ymgomio;
Ni choelie neb wrth weled ei ffull,
Ei bod hi gystal ei dull am dwyllo.

Hi aeth heddyw i'r capel i wrando rhyw berson,
'Rwy'n disgwyl y bydd hi yma'n union;
Dyma hi'n dwad, os ydw' i'n fyw,
Caf yn addas ryw newyddion.


Enter Sian Ddefosionol.

Sian
Wel, yma'r ydych chwi'n ymrodio?

Rondol
Ie, Sian druan, na chym'rwch gyffro;
Rhowch glun i lawr am dipyn bach,
Mae pobpeth yn iach, gobeithio.

Sian
'Roedd y gwydde'n pori'n ddyfal,
Yn y cwitie, yn mhorfa'r catal;
A'r gwas yn y ty, yn eiste' wrth y tân,
Efo Susan acw'n sisial.

Rondol
Mae hyn yn helynt erwin,
Ni wnes ond troi 'nghefn oddiwrthyn',
I fyn'd i'r llofft i roi pwys o wlan
I'r fwdach gan Sian Ddolfadun.

Sian
Ar ol i chwi ei bwyso fe iddi,
A gawsoch chwi arian ganddi?

Rondol
Haro, do, doedd fawr yn fy mryd
Goelio un mynud mo'ni.
Ond a wyddoch chwi pwy fu'n ceisio
Phioled o yd, a'i choelio?

Sian
Pwy bynag oedd hi, 'roeddych yn ffol
Os darfu i chwi, Rondol, wrando.

Rondol
Ni wrandewes i mo'r pethe,
Ni cha'dd hi damed, na gwerth dime;
Mi a'i pecles i'w ffordd, ni bu'm i dro,
'Rhen garen, dan grio'i gore.

Sian
Wel, pwy oedd y Lady, nis gwn i amcan?

Rondol
Gwraig eich Mr. Hughes, o'r Hendre Lydan.

Sian
Go chwith i hono fyn'd hyd y byd,
I ymorol yd heb arian.

Rondol
Wel, beth a wnewch i ddiawlied meddalion,
Oni all'sent hwy edrych yn well at eu moddion?
'Does fater fod rhaid i rai fyw'n fain,
Mae gofid i'r rhai'n yn gyfion.

Sian
Os awn ni i ranu'n pethe,
Fe ddaw gofid arnom nine;
'Ran bod yn rhy hael sy'n peri o hyd
Rai'n isel eu byd mewn eisie.

Rondol
Mi weles i lawer o ffermwyr cryfion,
Wrth fyw'n uchel ac yn wychion,
Wedi myn'd trwy'r cwbl drwbl dro,
Heb ddim golud yn bur ddigalon.

Sian
Roedd rhywun wrthyf heddyw'n traethu,
Fod eich ffrynd o Gaerfawnog yn mron tori i fynu.

Rondol
'Rwy'n amhe'n wir fod y gwalch yn wan,
Mi greda fy hunan hyny.

O ran fe fu'n ceisio prynu dau eidion
Geny' am ddegpunt onid coron;
Ac yn crefu arna'i yn nghysgod perth,
Am ei goelio fe nerth ei galon.

Sian
Ie, eu coelio'n nhw'n siwr 'rwy'n gweled,
Nid oes i fawr ymddiried;
Mae'r ffermwyr a'r porthmyn yr un peth,
Yn ddidoreth am gastie diried.

Rondol
Y porthmyn, mae'r diawl yn rhei'ny,
Ni byddant hwy dro'n gwneud mil gwerth eu crogi;
Wrth goelio'u celwydd hwy a'u brad,
O! faint ga'dd y wlad ei thlodi.

'Fe dora chwilgi o borthmon diffeth
Am dair neu beder mil ar unweth;
'Nol hyny'n pwnio am wneud compound,
A dyna i chwi sound farsiandieth.

Os can' hwy'r plate arian, ni wiw cadw twrw,
Hwy fyddant yn fancrups digon hoyw;
A da os cyrhaeddant goron y bunt,
'Nol tori, mae'n helynt arw.

Sian
Wel, dywedwch i mi eto, Rondol,
Pa fodd mae'n nhw'n tori mor annaturiol;
Ac yn colli cyment mewn cyn lleied amser?
A glywch chwi, mae rhyw ddrwg yn Lloegr.

Rondol
Oes, mae yn Lloegr laweroedd o ddryge,
Ond ni fydde ddim cyment pe 'rosent hwy gartre';
Na chyment chware lottery noeth,
Na phuteinied mor uchel eu pene.

Mae porthmyn Cymru pan elont yno
'Run fath a phethe wedi gwylltio;
O! fel y gwelir hwy yn eu gwanc
Tua'r Irish Bank yn 'sboncio.


1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400