1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400

Pleser a Gofid (1787)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant)

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 2101-2400
Gofid
Os oes cynwr' neu ffwndwr yn eu ffydd,
Llawenydd a'i ddeunydd ynddynt.

Beth? a raid i wyr uffern gael eu rhaffe,
Ar y pit ceiliogod, ac yn y tafarne?
Ac ni all pechaduried roi dim clod,
Os teimlan' hwy nod eu heneidie,

Beth pe b'ai rhyw un o'r cwmpeini,
Yma, wedi ei fwrw i'w grogi,
Ac i air ddyfod y cai fod yn rhydd,
Oni fydde llawenydd yn ei lenwi?

Felly'r un modd yn eglur,
Ydyw'r chwedel mewn pechadur:
Ni all ef pan brofo fe beth o'r braint,
Ddim gosod pa faint ei gysur.

Pleser
Wel, on'd oes rhai'n cerdded hyd y cwrdde,
Ac f'alle'n hwrio cyn dwad adre?
Ychydig o sadrwydd felly sy'
Wedi glynu yn eu calone.

Gofid
Nid y tro cyntaf wrth redeg,
Mae dwfr yr afon yn llyfnhau'r gareg;
Ni chwympodd mur Jerico ddim wrth un llef;
Fe edwyn y nef ei hadeg.

Gadewch i'r cwn, trwy'ch cenad,
Gyfarth y ser a siarad;
Ni wyr twrch daear ddim am yr haul,
Na llawer am draul y lleuad.

Ni wyr asyn gwyllt neu eidion
Ddim byd am gyflwr Cristion,
Ni wyr dyn cnawdol ddim am ras,
Mae'n g'wilydd ac yn gas gan ei galon.

Pleser
Wel, un o'r Cyriadogs wyt ti, 'rwy'n credu,
Ond ffydd eglwys Loegr ydwy'i'n garu.

Gofid
Nid mynych y gwelir di (goelia i)
Yn un o eglwysi Cymru.

Pleser
Wel, 'rydwy'i'r un ffydd a'r person a'r clochydd
Sy'n byw yn y llane mewn llawenydd;
A'r un ffydd a'r hen bobl, y llancie a'r plant,
A glosiant i'r eglwysydd.

Gofid
Y rhan fwyaf o ffydd y rhei'ny
Yw dyfod i'r llan i siarad ac ymholi,
Ac ysbio dillade'r naill a'r llall,
Ac ystyried pob gwall history.

Fe fydd rhai yn y llan yn pendwpian yn fusgrell,
A'r lleill yn chwerthin tan eu 'sgafell,
Heb wrando darlleniad mwy na brefiad bran,
Na theimlo'n lân un linell.

Ac wrth ddwad adre hwy fyddant yn dwndro,
Pawb wrth eu natur a'i chwedl ganddo:
Ni fydd am y bregeth odieth wawr,
Na gwasaneth, fawr yn synio.

Pleser
Os bydd rhai ieuenc yn rhuo ryw afieth,
Bydd yr hen rai brigwyn yn son am y bregeth.

Gofid
Byddant yn son, fe alle'n siwr,
Yn ddigynwr' o ran gwenieth.

Hwy ddywedant, O! pe gwnaem ni'n loyw
Gyment yn gyhoeddus ag a glywsom ni heddyw,
Ni fydde raid ddim cerdded o fan i fan,
I gocian yma ac acw.

Pleser
Mae hyny'n wir diwahanieth,
Fod yn Eglwys Loegr ddifai athrawieth.

Gofid
Fe fydde'n iachus ar les y plwyf,
Pe bydde halen yn fwy heleth.

Ond lle diflasodd halen cydwybod,
A pha beth yr helltir? Dyna lle mae'r hylldod,
Can's yn y tir yn wir ni wna,
Na'r domen un da amod.

Athrawieth lygoer, chwydlyd, lygredd,
Ddifraw, digariad, heb fod na brwd nac oeredd,
Mae melldith ar y grefydd hon
Fel Meros a'i thrigolion marwedd,

Pleser
Son am Meros, a rhyw groes gyfeirio,
Son am ryw Bleser a f'o'r bobl yn blysio:
'Rwyt ti'n son am bethe ar draws ac ar hyd,
Na wyr dynion ddim byd am dano.

Gofid
Mae llawer o ddynion yn llwyr ddiddaioni,
Fel tyrchod daear yn gwrando ac yn tewi;
Ac ni agorant mo'u llyged nes meirw'n llwyr
Ar wyneb rhy hwyr drueni.

Pleser
Ni waeth i ti dewi, mae'r bobl yn dechre,
Myn'd bawb at eu Pleser, i ffwrdd yn gwplyse:
Er gwaethaf Gofid a'i holl gwyn,
Ymeth yn fwyn yr âf fine.


Exit.

Gofid
Nid ydyw Gofid ond ail i gafod,
Lle toro cwmwl mae'n rhaid ci ddigymod:
Ni fydd ar neb â chalon iach
Ond Gofid bach am bechod.

Mae diwedd pob trwst yn dwad,
Y Pleser a'r Gofid anfad:
Peth gore i ddyn sy'n briddyn brau,
Yw cyrhedd effeithie cariad.

Mae'n bryd i ni dewi, a rhoi ymadawiad,
Cofiwch mae diwedd ar bob peth yn dwad;
Ni ail Gofid na Phleser, drawster dro,
Ddim cyrhedd lle gwreiddio cariad.

Chwi wyddoch bawb yn weddedd,
Fel y galwyd pob peth yn wagedd:
Mae pob rhyw gnawdol raddol rym,
Yn dwad i ddim yn y diwedd.


Exit


Y Diweddglo


Cân
(Cân ar "If Love's a Sweet Passion".)
Dyn anwyd i flinder dan boender dibaid',
Fel yr 'heda'r wreichionen i'r nen ar ei naid:
Gwagedd o wagedd, a llygredd sy'n llym,
A'r byd a'i holl dreigliad yn dwad i'r dim.

O'r pedair elfenau fe greai Dduw'n grych,
Fyd, a phob creadur a welir yn wych;
Felly mae diwedd holl agwedd byd llym,
Yn rhedeg i'w elfen, a'i ddyben i ddim.

O! fel mae troell natur tra eglur yn troi,
Damweiniau trwy arfaeth rhagluniaeth'n ymgloi;
Fel olwyn mewn olwyn manylaidd ei grym,
A'u troion oyfanedd yn diwedd i'r dim.

Mae son am hen dadau fel blodau fu o'r blaen,
Yn gefnog ardderchog, wyr enwog o raen;
Y rhei'ny trwy rinwedd oedd ryfedd o rym,
Er maint eu gogoniant hwy ddaethant i'r dim.

Bu'n hynod frenhinoedd â'u bloedd yn dra blin,
Trwy rwysg a grymusder mewn trawsder yn trin
Yn filain ryfelwyr trallodwyr tra llym,
A'u rhyfyg a'u mawredd yn diwedd i'r dim.

Er cryfder a balchder hoff wychder byd ffol,
Ni welir fawr elw'r dydd heddyw ar eu hol:
Monachlogydd a chestyll gorchestol eu grym,
Er cymaint y gorchwyl hwy gyrchwyd i ddim.

Nid oes i ddyn yma un rhodfa barhaus,
Ond poen a gofidiau trwy foddau trofaus:
Rhaid i ni gael cryfdwr Cregwdwr teg rym,
A greodd y cyfan yn ddoethlan o ddim.

Rhaid felly'n cael ninau â'n c'lonau'n un clais,
'N afluniaidd wael anian wag druan rwyg drais;
Ar dyfroedd diafraid o'n llygaid yn llym,
Cawn Ysbryd Duw'n gweithio pan ddelom i ddim.

Tra f'o dyn yn gweled ei weithred yn wych,
A'i serch arno'i hunan mewn anian ddinych,
Ni ddichon gael bywyd o'r Ysbryd a'i rym,
Nes byddo i'w ddyn pechod ef ddarfod i ddim.

I'r dim fel plant bychain, heb bechod na chas,
Yn dlodion drylliedig, sychedig am ras,
I adnabod a chredu gair Iesu'n gu rym,
Amen yn dragywydd, ni dderfydd ef ddim.

1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400